Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) a (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3189 (Cy.305)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) a (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

18 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

1 Ionawr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, (1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) a (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2003.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol” (“the Pharmaceutical Services Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(2);

ystyr “Rheoliadau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 1992” (“the General Medical Services Regulations 1992” ) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(3).

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio o Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992

2.—(1Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992 fel a ganlyn.

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)

yn y diffiniad o “dispensing doctor list”, yn lle “regulation 11” rhodder “regulation 21B”(4);

(b)

hepgorwch y diffiniad o “listed drugs”(5));

(c)

yn lle'r diffiniad o “nurse prescriber”(6) rhowch—

“ nurse prescriber” means a person who is registered in Parts 1, 3, 5, 8, 10, 11, 12, 13, 14 or 15 of the register maintained by the Nursing and Midwifery Council pursuant to paragraph 10 of Schedule 2 to the Nursing and Midwifery Order 2001(7) and against whose name is recorded in that register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances for patients; ; a

(ch)

ar ôl y diffiniad o “Remission of Charges Regulations” mewnosodwch—

“ restricted availability appliance” means an appliance which is approved for particular categories of persons or particular purposes only;.

(3Hepgorwch baragraffau (1A)(8) ac (1C)(9) o reoliad 2.

(4Yn rheoliad 18(1) (safonau cyffuriau ac offer a thalu amdanynt), yn is-baragraff (a), ar y diwedd, mewnosodwch “and, in the case of a restricted availability appliance, the categories of persons for whom or purposes for which the appliance is approved”.

(5Yn rheoliad 19 (darparu gwasanaethau fferyllol ar gyfer triniaeth ar unwaith neu weinyddu'n bersonol)(10), ar y diwedd ychwanegwch “ but shall, in either case, provide a restricted availability appliance only if it is for a person or a purpose specified in the Drug Tariff.”.

(6Yn Rhan II of Atodlen 2 (telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr)—

(a)ym mharagraff (3)(1)(11))—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “or appliances,” mewnosodwch “not being restricted availability appliances,”;

(ii)ar ôl is-baragraff (b), mewnosodwch—

(bb)an order for a restricted availability appliance, signed by and endorsed on its face with the reference “SLS” by a doctor; or;

(iii)yn lle is-baragraff (d), rhowch—

(d)an order for drugs or medicines, or listed appliances, not being restricted availability appliances, signed by a nurse prescriber; a

(iv)ar ôl is-baragraff (d), mewnosodwch—

or

(e)an order for a restricted availability appliance, signed by and endorsed on its face with the reference “SLS” by a nurse prescriber,;

(b)ym mharagraff (11)(12)

(i)yn is-baragraff (b), dilewch “and”;

(ii)yn is-baragraff (c), ar y diwedd, mewnosodwch “; and”; a

(iii)ar ôl is-baragraff (c), ychwanegwch—

(d)he shall provide the for patient a restricted availability appliance only if the patient is a person, or it is for a purpose, specified in the Drug Tariff.;

(c)ym mharagraff 11A(13)

(i)yn lle is-baragraff (2), rhowch—

(2) Where a patient presents an order on a prescription form for drugs or medicines or listed appliances signed by a nurse prescriber, or an order for a restricted availability appliance signed by and endorsed on its face with the reference “SLS” by a nurse prescriber, to a doctor who is authorised or required by regulation 20 to provide drugs or appliances to that patient, the doctor may provide to the patient such of the drugs, medicines or appliances so ordered as he supplies in the normal course of his practice.; a

(ii)yn is-baragraff (3), hepgorwch y gair “listed” y tro cyntaf y mae'n digwydd;

(ch)ym mharagraff 11B(14), hepgorwch y gair “listed” pan ddigwydd yr ail waith;

(d)ym mharagraff 12(2), ar ôl “in this paragraph”, mewnosodwch “or paragraph 11” ac ar ôl “a scheduled drug”, mewnosodwch “or a restricted availability appliance”.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 1992

3.—(1Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 1992 fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 i Reoliadau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon)—

(a)ym mharagraff 1 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “prescription form” mewnosodwch—

“restricted availability appliance” means an appliance which is approved for particular categories of persons or particular purposes only;;

(b)yn is-baragraff (5) o baragraff 43 (rhagnodi)—

(i)hepgorwch y geiriau “or an appliance”;

(ii)ar ôl is-baragraff (5) o baragraff 43 ychwanegwch—

(6) In a case of urgency a doctor may request a chemist to dispense an appliance before a prescription form is issued only if—

(a)that appliance does not contain a Scheduled drug or a controlled drug within the meaning of the Misuse of Drugs Act 1971(15), other than a drug which is for the time being specified in Schedule 5 to the Misuse of Drugs Regulations 2001(16));

(b)in the case of a restricted availability appliance, the patient is a person, or it is for a purpose, specified in the Drug Tariff; and

(c)he undertakes to furnish the chemist, within 72 hours, with a prescription form completed in accordance with sub-paragraph (2)..

(c)Ym mharagraff 44, ar ôl is-baragraff (2), ychwanegwch—

(3) In the course of treating such a patient a doctor shall not order on a prescription form a restricted availability appliance unless—

(a)the patient is a person, or it is for a purpose, specified in the Drug Tariff; and

(b)the doctor endorses the face of the form with the reference “SLS”,

but may otherwise prescribe such an appliance for that patient in the course of that treatment..

(3Yn Atodlen 11 (cyffuriau i'w rhagnodi o dan wasanaethau fferyllol ond mewn amgylchiadau penodol yn unig), ar ôl “Sildenafil (Viagra)” yng ngholofnau 1 a 2 yn eu trefn, mewnosodwch “, Apomorphine Hydrochloride (Uprima)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Rhagfyr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (“Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol”) sy'n llywodraethu'r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“Rheoliadau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol”) sy'n rheoleiddio'r telerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 3(3) o'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Apomorphine Hydrochloride (Uprima) at Atodlen 11 i'r Rheoliadau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill y gellir eu rhagnodi ond yn unig mewn amgylchiadau penodol yng nghwrs gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae'r diwygiadau a gynhwysir yn rheoliad 2 a 3(1) a (2) yn diwygio'r ddwy set o Reoliadau i gymryd ystyriaeth o'r ffaith y gall fod offer penoddol ar gael drwy ragnodi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ond yn unig mewn amgylchiadau a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Tariff Cyffuriau.

Mae Rheoliad 2(c) o'r Rheoliadau hyn yn estyn y diffiniad o “nurse prescriber” yn Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol i adlewyrchu'r cyfrifoldebau estynedig a roddir i nyrsys penodol. Nodir dyfarniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y cyffuriau, y meddyginiaethau a'r offer rhestredig y gellir eu rhagnodi gan nyrs ragnodi yn Rhan XVIIB o'r Tariff Cyffuriau, y gellir cael copïau ohono oddi wrth y Llyfrfa, PO Box 29, Norwich NR3 1GN.

Mae Rheoliad 2(2)(b), (3) a (6) hefyd yn gwneud newidiadau i Reoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol o ganlyniad i gychwyn adran 42 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001, a ddisodlodd adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2(2)(a) yn cywiro gwall Rhif o yn Rheoliadau'r Gwasanaethau Fferyllol.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Estynwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (c. 49) (“Deddf 1988”), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (c. 53) (“Deddf 1980”), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46) (“Deddf 1997”), Atodlen 2, paragraff 8.

Cafodd adran 41 ei diwygio gan Ddeddf 1980, adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7; gan O.S.1985/39, erthygl 7(13); a chan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; a chan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc. 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 29 a chan Ddeddf 1997, Atodlen 2, paragraff 13.

Diwygiwyd adran 42 Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan O.S. 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.

Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31 a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).

(2)

O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1994/2402, 1995/644, 1996/698, 1998/681 a 2224, 1999/696 a 2001/1396.

(3)

O.S.1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 1999/1627 a 2000/1887.

(4)

Mewnosodwyd Rheoliad 21B gan O.S. 1998/681.

(5)

Mewnosodwyd y diffiniad o “listed drugs” gan O.S. 1994/2402.

(6)

Mewnosodwyd y diffiniad o “nurse prescriber” gan O.S. 1994/2402.

(8)

Mewnosodwyd paragraff (1A) gan O.S. 1994/2402.

(9)

Mewnosodwyd paragraff (1C) gan O.S. 1998/2224.

(10)

Diwygiwyd Rheoliad 19 gan O.S. 1998/681.

(11)

Diwygiwyd paragraff 3(1) gan O.S. 1994/2402.

(12)

Diwygiwyd paragraff 11 gan O.S. 1994/2402.

(13)

Mewnosodwyd paragraff 11A gan O.S. 1994/2402 a'i ddiwygio gan O.S. 1995/644.

(14)

Mewnosodwyd paragraff 11B gan O.S. 1999/696 a fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1396.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources