Cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu
15.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), hybu cysylltiadau pob plentyn â'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion yn unol â'r trefniadau sydd wedi'u nodi yn ei gynllun lleoliad; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), sicrhau bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu yn y cartref plant i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno gyfarfod yn breifat ar unrhyw adeg resymol â'i rieni, ei gyfeillion, ei berthnasau, a'r personau a restrir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r personau—
(a)unrhyw gyfreithiwr neu gynghorydd neu eiriolydd arall y mae'r plentyn wedi'i gyfarwyddo neu'n dymuno ei gyfarwyddo;
(b)unrhyw swyddog i Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Llysoedd Plant a Theuluoedd a benodir ar gyfer y plentyn(1);
(c)unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y plentyn am y tro gan ei awdurdod lleoli;
(ch)unrhyw berson sydd wedi'i benodi mewn perthynas ag unrhyw un o ofynion y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(2);
(d)unrhyw berson sydd wedi'i benodi fel ymwelydd â'r plentyn o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989;
(dd)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 31 o'r Ddeddf i arolygu ymgymeriadau a reoleiddir dan Ran II o'r Ddeddf;
(e)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi;
(f)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn unol ag adran 80(2) o Ddeddf 1989 gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad o'r cartref plant ac o'r plant sydd yno.
(3) Yn achos cartref y mae tystysgrif o dan adran 51 o Ddeddf 1989 mewn grym mewn perthynas ag ef, gall y cyfleusterau fod mewn cyfeiriad sy'n wahanol i gyfeiriad y cartref.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio'r canlynol, ar bob adeg resymol, heb gyfeirio at bersonau sy'n gweithio yn y cartref—
(a)ffôn i wneud a derbyn galwadau ffôn arno yn breifat; a
(b)cyfleusterau i anfon a derbyn post yn breifat ac, os yw'r cyfleusterau angenrheidiol yn cael eu darparu i'w defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, bost electronig yn breifat.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio unrhyw gynorthwyon ac offer y gall fod arno eu hangen oherwydd ei anabledd er mwyn ei hwyluso i gyfathrebu ag eraill.
(6) Caiff y person cofrestredig (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)) osod cyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau ar gysylltiadau plentyn ag unrhyw berson o dan baragraff (1)(a), neu ar gyfarfodydd preifat y plentyn yn y cartref â'r personau hynny, neu ar ei gyfle i gyfathrebu o dan baragraff (4), os yw o'r farn resymol ei bod yn angenrheidiol eu gosod er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn o dan sylw.
(7) Ni all unrhyw fesur gael ei osod gan y person cofrestredig yn unol â pharagraff (6) oni bai—
(i)bod awdurdod lleoli'r plentyn yn cydsynio â gosod y mesur; neu
(ii)bod y mesur yn cael ei osod mewn argyfwng a bod y manylion llawn yn cael eu rhoi i'r awdurdod lleoli o fewn 24 awr o osod y mesur.
(8) Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson.
(9) Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraffau (6) ac (8), os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.
Sefydlwyd Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Llysoedd Plant a Theuluoedd gan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43. Mae swyddogion y Gwasanaeth yn cael eu penodi ar gyfer plant mewn achosion penodedig (adran 41).
O.S. 1991/894 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033 ac O.S. 1993/3069.