Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)y bwriedir iddo ddiogelu plant sy'n cael eu lletya yn y cartref rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

(2Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sydd, neu a allai fod, yn gwneud ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

(b)cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant at yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal;

(c)rhoi gwybod (yn unol â rheoliad 29) i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac i awdurdod lleoli'r plentyn fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau;

(ch)cadw cofnodion ysgrifenedig (yn unol â rheoliad 28(1)) o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo;

(d)rhoi ystyriaeth i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y cartref plant yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

(dd)gofyniad (yn unol â rheoliad 27) fod personau sy'n gweithio yn y cartref yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn sy'n cael ei letya yno i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o'r Ddeddf;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(e)gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r personau sy'n gweithio yn y cartref a'r plant sy'n cael eu lletya yno gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(3Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu—

(a)polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y cartref plant, sef polisi y mae'n rhaid iddo gynnwys gweithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio; a

(b)gweithdrefn i'w dilyn pan fydd unrhyw blentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn absennol heb ganiatâd.