- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi unrhyw feddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref plant, eu trafod, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi'n ddiogel a'u gwaredu.
(2) Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a)bod unrhyw feddyginiaeth a gedwir mewn cartref plant yn cael ei storio mewn lle diogel er mwyn atal unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno rhag cael gafael arni heb oruchwyliaeth;
(b)bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodir ar gyfer plentyn yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodir, i'r plentyn y'i rhagnodwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac
(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i unrhyw blentyn.
(3) Nid yw paragraff (2) yn atal meddyginiaeth—
(a)rhag cael ei storio gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,
(b)rhag cael ei hunan-roi gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,
os yw gwneud hynny yn ddiogel i'r plentyn ac i eraill.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhagnodi” yw—
(a)archebu ar gyfer claf i gael ei ddarparu ar ei gyfer—
(i)o dan adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 neu'n unol â hi; neu
(ii)fel rhan o gyflawni gwasnaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasnaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997; neu
(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(1).
1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: