- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2000 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Fynwy. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(a)at ddibenion achosion sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003; ac
(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Fynwy fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy1994(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Sir Fynwy (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3).
2.—(1) Mae adrannau etholiadol presennol Sir Fynwy a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy 1994 wedi'u diddymu.
(2) At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Fynwy, rhennir y Sir honno yn 42 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.
(3) Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
3. Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau
6 Rhagyfr 2002
Erthygl 2
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y Nifer o Gynghorwyr |
Caer-went | Cymuned Caer-went | 1 |
Castell Caldicot | Ward Castell Caldicot yng Nghymuned Caldicot | 1 |
Cantref | Ward Cantref yng Nghymuned y Fenni | 1 |
Y Castell | Ward Castell y Fenni | 1 |
Croesonnen | Wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau | 1 |
Crucornau Fawr | Cymunedau Crucornau Fawr a'r Grysmwnt | 1 |
Devauden | Cymunedau Devauden a Llan-gwm | 1 |
Llanddewi | Ward Llanddewi yng Nghymuned Caldicot | 1 |
Dixton gydag Osbaston | Ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy | 1 |
Drybridge | Ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy | 1 |
Goetre Fawr | Cymuned Goetre Fawr | 1 |
Green Lane | Ward Green Lane yng Nghymuned Caldicot | 1 |
Grofield | Ward Grofield yng Nghymuned y Fenni | 1 |
Lansdown | Ward Lansdown Yng Nghymuned y Fenni | 1 |
Larkfield | Ward Larkfield yng Nghymuned Cas-gwent | 1 |
Llanbadog | Cymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog | 1 |
Bryn Llanelli | Cymuned Llanelli | 2 |
Llan-ffwyst Fawr | Wardiau Llanelen, Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr | 1 |
Llangybi Fawr | Cymunedau Llangybi, Llanhenwg a Llantrisaint Fawr | 1 |
Llanofer | Cymunedau Llan-arth a Llanofer | 1 |
Llandeilo Gresynni | Cymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni | 1 |
Llanwenarth Tu Draw | Ward Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr | 1 |
Y Maerdy | Wardiau'r Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau | 1 |
Mill | Wardiau The Mill, Denny a Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy | 1 |
Llanfihangel Troddi | Cymuned Llanfihangel Troddi | 1 |
Overmonnow | Ward Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy | 1 |
Porth Sgiwed | Cymuned Porth Sgiwed | 1 |
Y Priordy | Ward y Priordy yng Nghymuned y Fenni | 1 |
Rhaglan | Cymuned Rhaglan | 1 |
Rogiet | Cymuned Rogiet | 1 |
Hafren | Ward Hafren yng Nghymuned Caldicot | 1 |
Drenewydd Gelli-farch | Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch | 1 |
St. Arvans | Cymunedau St. Arvans a Thyndyrn | 1 |
St. Christopher's | Ward St. Christopher’s yng Nghymuned Cas-gwent | 1 |
St. Kingsmark | Ward St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent | 1 |
St. Mary's | Ward St. Mary’s yng Nghymuned Cas-gwent | 1 |
The Elms | Ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy | 1 |
Thornwell | Ward Thornwell yng Cymuned Cas-gwent | 1 |
Tryleg Unedig | Cymuned Tryleg Unedig | 1 |
Brynbuga | Cymuned Brynbuga | 1 |
West End | Ward West End yng Nghymuned Caldicot | 1 |
Wyesham | Ward Wyesham yng Cymuned Trefynwy | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2000 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Fynwy.
Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath.
Nid oes unrhyw newid i adrannau:
Croesonnen, Crucornau Fawr, Goetre Fawr, Larkfield, Llanbadog, Bryn Llanelli, Llan-ffwyst Fawr, Llangybi Fawr, Llanofer, Llandeilo Gresynni, Llanwenarth Tu Draw, Y Maerdy, Llanfihangel Troddi, Overmonnow, Porth Sgiwed, Rhaglan, Rogiet, St. Arvans, St. Christopher's, St. Kingsmark, St. Mary's, Thornwell, Tryleg Unedig, Brynbuga, Wyesham.
Mae cymuned bresennol y Fenni i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:
Cantref, Y Castell, Grofield, Lansdown, Y Priordy.
Mae cymuned bresennol Caldicot i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:
Castell Caldicot, Dewstow, Green Lane, Hafren, West End.
Ar hyn o bryd mae adran bresennol Caer-went yn cynnwys Cymunedau Caer-went a Matharn. O dan y trefniadau newydd bydd adran etholiadol Caer-went yn cynnwys Cymuned Caer-went. Bydd yr adran yn ethol un cynghorydd.
Ar hyn o bryd mae adran bresennol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Devauden, Llan-gwm a Drenewydd Gelli-farch. O dan y trefniadau newydd mae Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch ac yn ethol un cynghorydd.
Mae adrannau etholiadol newydd yn cael eu creu ar gyfer:
Devauden, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys cymunedau Devauden a Llan-gwm.
Mae Dixton gydag Osbaston i ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy.
Drybridge, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy.
Mill, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys wardiau The Mill, Denny and Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy.
The Elms, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r Adran i gynnwys ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy.
Mae ardaloedd yr adrannau newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2, ac y gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Cyngor Sir ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: