- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau naill ai —
(a)bod clefyd dynodedig yn bodoli neu wedi bodoli ar unrhyw safle (p'un a yw hysbysiad wedi'i roi o dan erthygl 4 neu beidio), neu
(b)bod dofednod ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg clefyd dynodedig,
(c)rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (3), gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros amau bod adar ar unrhyw safle wedi bod yn agored i risg unrhyw glefyd, caiff gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y safle neu i geidwad unrhyw adar ar y safle yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(3) Yn achos unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan baragraffau (1)(b) neu (2) caiff arolygydd milfeddygol—
(a)datgymhwyso un neu fwy o'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn,
(b)cyfyngu ar y gofynion sy'n gymwys i ran o'r safle ac i'r adar sydd wedi'u cynnwys yno, ar yr amod bod yr adar wedi'u lletya, eu cadw a'u bwydo yno ar wahân i adar sydd wedi'u cadw mewn rhannau eraill o'r safle ac wedi'u cadw a'u bwydo gan staff gwahanol.
(4) At ddibenion paragraff (1)(a) mae “arolygydd milfeddygol” yn cynnwys arolygydd.
(5) Yn yr erthygl hon, mae bod yn agored i risg clefyd yn cynnwys bod yn agored, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i symudiad personau, anifeiliaid neu gerbydau, neu mewn unrhyw ffordd arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: