Search Legislation

Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Erthyglau 4, 5 ac 7

ATODLEN 1Y GOFYNION YNGLŶ N Å SAFLE LLE MAE CLEFYD WEDI'I AMAU NEU WEDI'I GADARNHAU

Rhan 1Safle lle mae clefyd wedi'i amau.

Cofnod o ddofednod

1.  Rhaid i feddiannydd y safle wneud a chadw cofnod cyfoes o'r dofednod ar y safle sy'n dangos ar gyfer pob categori y nifer o ddofednod sydd wedi marw, y nifer sy'n amlygu arwyddion clinigol o glefyd a'r nifer o ddofednod nad ydynt yn amlygu unrhyw arwyddion. Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid dangos y cofnod i arolygydd milfeddygol.

Ynysu dofednod

2.  Rhaid i feddiannydd y safle sicrhau bod unrhyw ddofednod neu adar sy'n cael eu cadw mewn caethiwed ar y safle yn cael eu cadw yn y man lle maent yn byw neu mewn rhyw fan arall lle gellir eu hynysu. Rhaid ynysu colomennod yn eu colomendy nes bod y cyfyngiadau wedi'u dileu.

Gwahardd symud dofednod i safle neu oddi arno

3.  Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod i safle nac oddi arno.

Gwahardd symudiadau personau, anifeiliaid a cherbydau i'r safle neu oddi arno

4.  Ni chaiff neb symud i'r safle nac oddi arno ac ni chaiff neb symud unrhyw anifail na cherbyd i'r safle nac oddi arno.

Gwahardd gwaredu neu daenu pethau sy'n dueddol o drosglwyddo clefydau

5.  Ni chaiff neb waredu o'r safle na thaenu ar y safle unrhyw laesodr dofednod a ddefnyddiwyd neu faw dofednod neu unrhyw beth sy'n dueddol o drosglwyddo clefydau.

Gwahardd symud wyau

6.  Ni chaiff neb symud unrhyw wyau oddi ar safle ac eithrio yn unol â darpariaethau erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC ac Atodiad I iddi neu ddarpariaethau erthygl 4.2(e) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC ac Atodiad I iddi yn ôl fel y digwydd.

Diheintio mewn mynedfeydd ac allanfeydd

7.  Rhaid i feddiannydd y safle ddarparu a chynnal dull diheintio priodol ym mynedfeydd ac allanfeydd yr adeiladau sy'n lletya'r dofednod a mynedfeydd ac allanfeydd y safle.

Rhan 2Safle lle mae clefyd dynodedig wedi'i gadarnhau

Cigydda a dinistrio

8.  Rhaid i feddiannydd y safle roi pob cymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol er mwyn sicrhau bod dofednod ac unrhyw adar arall a fynnir gan yr arolygydd milfeddygol ar y safle yn cael eu lladd yno yn ddi-oed a bod eu carcasau a'u hwyau yn cael eu dinistrio mewn modd sy'n cadw'r risg o ledaenu clefyd i'r lleiaf posibl, yn unol â chyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol.

Dinistrio neu drin

9.  Rhaid i feddiannydd y safle sicrhau bod pob deunydd arall a all fod wedi'i halogi yn cael ei ddinistrio neu ei drin mewn modd sy'n dinistrio'r clefyd, yn unol â'r cyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd milfeddygol.

Olrhain

10.  Rhaid i feddiannydd y safle roi pob cymorth rhesymol i arolygydd milfeddygol er mwyn sicrhau bod —

(a)cig yr holl ddofednod a gafodd eu cigydda yn ystod y cyfnod deor tybiedig,

(b)wyau a ddodwyd yn ystod y cyfnod deor tybiedig,

(c)y cig a'r wyau sy'n debyg o gael eu halogi fel arall â firws y clefyd,

yn cael eu holrhain a'u dinistrio, ac eithrio nad oes angen dinistrio wyau bwrdd os ydynt wedi'u diheintio o'r blaen.

Diheintio ac ailstocio

11.  Rhaid i'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio i letya dofednod, y mannau o'u cwmpas, y cerbydau sy'n cael eu defnyddio i'w cludo a phob offer sy'n debygol o gael eu halogi, fod yn destun gwaith glanhau a diheintio rhagarweiniol a therfynol, o dan oruchwyliaeth arolygydd, yn unol ag Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/40/EEC neu Atodiad II y Gyfarwyddeb y Cyngor 92/66/EEC yn ôl fel y digwydd ac er boddhad arolygydd milfeddygol. Rhaid i feddiannydd y safle beidio ag ailstocio'r safle tan o leiaf 21 diwrnod ar ôl cwblhau'r glanhau a'r diheintio.

Erthygl 9

ATODLEN 2ARDALOEDD HEINTIEDIG: PARTHAU DIOGELU A GORUCHWYLIO

Parthau diogelu

1.  Bydd y canlynol yn gymwys yn y parth diogelu a bydd yn parhau i fod yn gymwys am gyfnod o 21 diwrnod o leiaf ar ôl y gwaith rhagarweiniol o lanhau a diheintio'r safle heintiedig sy'n ofynnol o dan baragraff 11 o Atodlen I i'r Gorchymyn hwn ac ar ôl hynny nes bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn datgan bod y parth diogelu wedi dod yn rhan o'r parth goruchwylio.

2.  Rhaid i feddiannydd y safle sy'n cynnwys dofednod sicrhau —

(a)bod unrhyw arolygydd y mae arno angen gwybodaeth am bresenoldeb dofednod ar safle o'r fath yn cael yr wybodaeth honno cyn gynted ag y bo'n ymarferol;

(b)bod unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n ymweld â'r daliad i archwilio'r dofednod ac i gymryd samplau yn cael yr holl gymorth a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol;

(c)bod y dofednod yn cael eu cadw yn eu man byw neu mewn unrhyw fan arall lle gellir eu hynysu;

(ch)bod dull diheintio priodol wrth fynedfeydd ac allanfeydd y safle;

(e)nad yw'r dofednod a'r wyau sy'n deor yn cael eu symud o'r daliad ac eithrio o dan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol —

(i)at ddibenion eu cludo i'w cigydda ar unwaith i ladd-dy dynodedig, neu

(ii)yn achos cywion dydd oed neu gywennod sy'n barod i ddodwy, i ddaliad yn y parth goruchwylio lle nad oes unrhyw ddofednod eraill, neu

(iii)yn achos wyau sy'n deor i ddeorfa ddynodedig, ar yr amod bod yr wyau a'u deunydd pacio yn cael eu diheintio cyn eu hanfon;

(f)nad yw llaesodr a ddefnyddiwyd a baw dofednod yn cael eu symud na'u taenu.

3.  Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod, wyau na charcasau o fewn y parth, ac eithrio bod caniatâd i gludo dofednod heb stopio drwy'r parth ar brif ffordd neu reilffordd.

4.  Ni chaiff neb gynnal unrhyw ffair, marchnad, sioe nac unrhyw grynhoad dofednod neu adar eraill.

Y parth goruchwylio

5.  Bydd yn canlynol yn gymwys o fewn y parth goruchwylio a bydd yn parhau i fod yn gymwys am gyfnod o 30 diwrnod o leiaf ar ôl y gwaith rhagarweiniol o lanhau a diheintio'r safle heintiedig sy'n ofynnol o dan baragraff 11 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac ar ôl hynny nes bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn datgan bod y cyfyngiadau wedi'u codi.

6.  Rhaid i feddiannydd y safle sicrhau —

(a)bod unrhyw arolygydd y mae arno angen gwybodaeth am bresenoldeb dofednod ar y safle hwnnw yn cael yr wybodaeth honno cyn gynted ag y bo'n ymarferol;

(b)na chaiff dofednod eu symud o'r daliad allan o'r parth ac eithrio o dan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol at ddibenion eu cludo'n uniongyrchol i ladd-dy dynodedig y tu allan i'r parth goruchwylio;

(c)nad yw wyau sy'n deor yn cael eu symud o'r daliad allan o'r parth ac eithrio o dan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol at ddibenion eu cludo'n uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig ac ar yr amod bod yr wyau a'u deunydd pacio yn cael eu diheintio cyn eu hanfon; ac

(ch)nad yw llaesodr a ddefnyddiwyd a baw dofednod yn cael eu symud o'r parth.

7.  Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod na wyau sy'n deor i mewn i'r parth nac o fewn y parth hwnnw ac eithrio bod caniatâd i gludo dofednod heb stopio drwy'r parth ar brif ffordd neu reilffordd.

8.   Ni chaiff neb gynnal unrhyw ffair, marchnad, sioe nac unrhyw grynhoad dofednod neu adar eraill.

Glanhau a diheintio cerbydau sy'n cael eu defnyddio i gludo dofednod

9.—(1Rhaid i berchennog unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i gludo dofednod, carcasau dofednod, offal dofednod, plu neu wyau dofednod sy'n tarddu o ardal heintiedig, cyn iddo gael ei ddefnyddio felly, ei lanhau a'i ddiheintio yn effeithiol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pob tro y mae'n cael ei ddefnyddio felly a beth bynnag cyn iddo gael ei ddefnyddio felly eto.

(2Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn, caiff swyddog i'r awdurdod lleol, heb ragfarn i unrhyw achos sy'n deillio o fethiant o'r fath, wneud y gwaith glanhau a diheintio neu beri iddo gael ei wneud a bydd y person sy'n methu â gwneud y gweithrediadau yn atebol am unrhyw gostau a dynnir.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources