- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliad 104/2000” (“Regulation 104/2000”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu(1));
ystyr “Rheoliad 2065/2001” (“Regulation 2065/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2065/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 ynghylch hysbysu defnyddwyr ynglyn â chynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaethu(2);
ac mae i unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yn Rheoliad 104/2000 neu Reoliad 2065/2001 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
3.—(1) Bydd unrhyw berson sydd, yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 (gwybodaeth i ddefnyddwyr) o'i darllen ynghyd â rheoliad 2065/2001, yn cynnig ar gyfer eu hadwerthu i'r defnyddiwr terfynol unrhyw un o'r cynhyrchion y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddynt yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd person sydd yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad 2065/2001 (olrhain a rheoli) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
4.—(1) O ran Cymru, y rhestr o ddynodiadau masnachol y mae'n ofynnol i'r Deyrnas Unedig ei llunio a'i chyhoeddi o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 104/2000 yw'r un a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny, y dynodiadau masnachol a nodir yn yr Atodlen honno yw'r enwau a ragnodwyd gan y gyfraith at ddibenion rheoliadau 6(1), 7 ac 8(a) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(3).
(2) Mewn perthynas â rhywogaeth a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac mewn rhestr a gyhoeddwyd yn Saesneg o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 104/2000 yn effeithiol mewn Aelod-wladwriaeth arall neu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig, bydd y dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno yn y rhestr sy'n effeithiol yn yr Aelod-wladwriaeth arall honno neu'r rhan honno o'r Deyrnas Unedig yn un amgen i'r dynodiad masnachol ar gyfer y rhywogaeth honno a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
5. Yn yr achos a ddisgrifir yn erthygl 4.2 o Reoliad 2065/2001 (sefyllfa lle mae'n amlwg oddi wrth y dynodiad masnachol a chylch yr haldiad fod y rhywogaeth yn cael ei dal yn y môr) ni fydd yn groes i Erthygl 4.1 o Reoliad 104/2000 i gynnig ar gyfer ei adwerthu i'r defnyddiwr terfynol gynnyrch pysgodfeydd y mae'r Erthygl honno yn gymwys iddo heb fod y cynnyrch wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r dull cynhyrchu.
6.—(1) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad 104/2000 o'i darllen ynghyd ag Erthygl 7 o Reoliad 2065/2001, rhaid i'r meintiau bach o gynhyrchion y caniateir eu gwerthu'n uniongyrchol i ddefnyddwyr fod yn gynhyrchion na fydd eu gwerth yn uwch nag 20 Ewro am bob pryniant.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, bernir bod y cyfeiriad at 20 Ewro yn gyfeiriad at werth cyfatebol y nifer hwnnw o Ewros mewn sterling, wedi'u trosi drwy gyfeirio at y gyfradd drosi a gyhoeddir yn flynyddol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis Medi blaenorol yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd a gyhoeddir ynddo gyntaf ar ôl hynny.
7. Caiff y mynegiad o gylch yr haldiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 4(1)(c) o Reoliad 104/2000, os yw'r amgylchiadau a ddisgrifir yn Erthygl 5(1)(c) o Reoliad 2065/2001 yn gymwys, fynegi'r amryw Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd y cafodd y cynnyrch ei ffermio ynddynt.
8.—(1) At ddibenion Erthygl 2 o Reoliad 2065/2001 (dynodiadau masnachol dros dro), yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“yr Asiantaeth”) fydd yr awdurdod cymwys.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth lunio a chyhoeddi rhestr o ddynodiadau masnachol dros dro yn unol â'r Erthygl 2 a enwyd.
9. Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
10. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran o'r Ddeddf yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac at y darpariaethau hynny yn Rheoliad 104/2000 a Rheoliad 2065/2001 y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy —
(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d)adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad);
(dd)adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(e)adran 33(2) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1) (b) above” yn gyfeiriad at urhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (dd) uchod;
(f)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (dd) uchod;
(ff)adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan is-baragraff (e) uchod;
(g)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
11. Dirymir paragraff 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (enwau rhagnodedig pysgod a physgod cregyn) i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mehefin 2003
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: