Search Legislation

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 239 (Cy.36)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

28 Ionawr 2003

Yn dod i rym

29 Ionawr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 160(4) a 160(3) a (5) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 29 Ionawr 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Ardal Deithio Gyffredin” (“the Common Travel Area”) yw'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda'i gilydd;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 1996; ac

ystyr “y rheolau mewnfudo” (“the immigration rules”) yw'r rheolau a osodir fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(2) (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheolaeth).

Achosion pan na fydd darpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf yn gymwys

3.  Nid yw darpariaethau Rhan VI o'r Ddeddf am ddyrannu llety tai yn gymwys yn yr achosion a ganlyn—

(a)pan fydd awdurdod tai lleol yn sicrhau darpariaeth llety amgen addas o dan adran 39 o Ddeddf Iawndal Tir 1973(3) (dyletswydd i ailgartrefu meddianwyr preswyl);

(b)mewn perthynas â rhoi tenantiaeth ddiogel o dan adran 554 a 555 o Ddeddf Tai 1985(4) (rhoi tenantiaeth i gyn berchen-feddiannydd neu denant statudol tŷ annedd diffygiol).

Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys

4.  Dyma'r dosbarthiadau o bobl sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(3) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd fel rhai cymwys i ddyraniad o lety tai gan awdurdod tai lleol)—

(a)Dosbarth A-person a gofnodwyd fel ffoadur gan yr Ysgrifennydd Gwladol o fewn diffiniad erthygl 1 o'r Confensiwn sy'n ymwneud â statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yng Ngenefa 28 Gorffennaf 1951(5) fel yr estynnwyd gan Erthygl 1(2) o'r Protocol sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid ac a wnaethpwyd yn Efrog Newydd 31 Ionawr 1967(6));

(b)Dosbarth B-person—

(i)a gafodd ganiatâd arbennig gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i ddarpariaethau'r rheolau mewnfudo; a

(ii)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei wneud yn ofynnol iddo ei gynnal a'i letya ei hun, ac unrhyw berson sy'n ddibynnol arno, heb fynd ar ofyn cronfeydd cyhoeddus;

(c)Dosbarth C-person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ac nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw person—

(i)a gafodd ganiatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar sail ymgymeriad ysgrifenedig a roddwyd gan berson arall (“noddwr” y person hwnnw) yn unol â'r rheolau mewnfudo i fod yn gyfrifol am gynhaliaeth a llety'r person hwnnw;

(ii)a fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan ddaeth i mewn i'r wlad neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymgymeriad a grybwyllir uchod mewn perthynas â'r person hwnnw, p'un bynnag yw'r diweddaraf; a

(iii)y mae ei noddwr neu, os bydd rhagor nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn fyw o hyd;

(d)Dosbarth Ch-person sydd fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac sy'n—

(i)wladolyn gwladwriaeth a gadarnhaodd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953(7) neu wladwriaeth a gadarnhaodd Siarter Gymdeithasol Ewrop a wnaethpwyd yn Nhorino (Turin) ar 18 Hydref 1961(8) ac sy'n gyfreithiol bresennol yn y Deyrnas Unedig; neu

(ii)cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 1985(9) (cartrefu'r digartref) neu Ran VII o'r Ddeddf (digartrefedd) sy'n bodoli, ac sy'n wladolyn gwladwriaeth a lofnododd Gonfensiwn Ewrop ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaethpwyd ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth a lofnododd Siarter Gymdeithasol Ewrop ar 18 Hydref 1961.

Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(5) nad ydynt yn bersonau cymwys

5.  Dosbarth o bersonau, nad ydynt yn bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ac a ragnodwyd at ddibenion adran 160A(5) o'r Ddeddf (personau a ragnodwyd yn anghymwys i gael dyraniad llety tai) yw'r canlynol—

Dosbarth D-person nad yw fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin heblaw—

(a)gweithiwr at ddibenion Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 1612/68(10) neu (CEE) Rhif 1251/70(11);

(b)person a chanddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn unol â Gorchymyn Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2000(12) ac sy'n deillio o Cyfarwyddeb y Cyngor Rhif 68/360/CEE(13)) neu Rif 73/148/CEE(14);

(c)person sydd wedi ymadael â thriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydrad folcanig ar y diriogaeth honno.

Dirymu

6.  Dirymwyd Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000(15)).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Ionawr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau i Ran VI o Ddeddf Tai 1996 (“Rhan VI”) a wnaethpwyd gan Ddeddf Digartrefedd 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer achosion pan na fydd darpariaethau Rhan VI ynghylch dyrannu llety tai gan awdurodau tai lleol yn gymwys.

Yn rhinwedd Adran 160A(1) a (3) o Ddeddf Tai 1996, rhaid i awdurdod tai lleol beidio â dyrannu llety tai i'r rhan fwyaf o ddosbarthiadau o bobl o dramor sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p.49)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru bennu eithriadau. Mae'n gwneud felly, yn rheoliad 4, drwy ragnodi dosbarthiadau o bobl sy'n gymwys i ddyraniad o lety tai, er gwaethaf iddynt fod yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo.

Mae pobl o dramor nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i ddyraniad o lety tai o dan Ran VI o Ddeddf 1996, oni bai i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ragnodi fel arall. (Adran 160A(5) o Ddeddf 1996). Drwy ragnodi dosbarth o bobl sy'n anghymwys o dan Ran VI mae'r Cynulliad yn gwneud hyn yn rheoliad 5. Mae'r dosbarth hwn yn cynnwys (gyda rhai eithriadau) pobl nad ydynt fel arfer yn preswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin. Ystyr ('Ardal Deithio Gyffredin' yw'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon).

Mae rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn, gyda mân newidiadau drafftio, yn cynnwys darpariaethau tebyg i'r rheini sydd yn Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2000. Mae'r Rheoliadau nas ailddeddfwyd yn ymwneud â'r cyfyngiadau ar y dyrannu i bobl sydd eisoes yn denantiaid ac â'r gofynion i sefydlu, cynnal a gweithredu cofrestr dai, ac a ddiddymwyd bellach.

Mae Papurau Gorchymyn 2643, 3906, 9171 a 9512, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, allan o brint, ond gall y Llyfrfa gael llungopïau o'r dogfennau hyn o Is-adran Llyfrgell Fenthyca Prydain (BLLD). Oni bai fod cwsmeriaid eisoes wedi cofrestru â'r BLLD, dylent archebu llungopïau oddi wrth The Photocopying Unit, The Stationery Office, Nine Elms Lane, Llundain SW8 5DR, gan amgáu'r taliad priodol am y copïau y gofynnir amdanynt. Cost gyfredol pob copi cyflawn o Bapur Gorchymyn 2643, 3906 neu 9512 yw £6.00 a chost gyfredol pob copi cyflawn o Bapur Gorchymyn 9171 yw £12.00. Dylid gwneud sieciau yn daladwy i “Y Llyfrfa”.

(1)

1996 p.52; ychwanegwyd adran 160 gan adran 14(2) o Ddeddf Digartrefedd (2002) (p.7); gweler adran 215(1) am y diffiniad o “prescribed”. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 160, 160A, 172(4) a 215(2), i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672, (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn)) ac adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002.;

(3)

1973 p.26; diwygiwyd adran 39 gan Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Iawndal Tir (Yr Alban) 1973 (p.56), paragraff 40 o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 1974 (p.44), paragraff 10 o Atodlen 7 i Ddeddf Datblygu Cymru Wledig 1976 (p.75), Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p.71) a pharagraff 24 o Atodlen 2 iddi, Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), a pharagraff 29 of Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 1990 (p.11).

(4)

1985 p.68; diwygiwyd adran 554(61) gan baragraff 61 o Atodlen 17 i Ddeddf Tai 1988 (p.50) ac O.S.1996/2325.

(5)

Gorch.9171.

(6)

Gorch.3906.

(7)

Gorch.9512.

(8)

Gorch.2643.

(9)

1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Orchymyn Deddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) (O.S. 1996/2959 (C.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i ymgeiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno ac a wnaeth geisiadau cyn 20 Ionawr 1997.

(10)

OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 2, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.475, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

OJ Rhif L 142 30.6.70, t.24 Argraffiad Arbennig 1970 (II) t.402.

(13)

OJ Rhif L 257 19.10.68, t. 13, Argraffiad Arbennig 1968 (II) t.485, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(14)

OJ Rhif L 172 28.6.73, t.14.

(16)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources