Search Legislation

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2528 (Cy.243) (C.95)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

1 Hydref 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig

2.  2 Hydref 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)Adrannau 8, 9(1) a (2), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 i'r graddau y mae eu darpariaethau'n ymwneud ag asiantaethau nyrsys ac nad ydynt eisoes mewn grym;

(b)is-adran (1) o adran 111, ac is-adran (2) o'r adran honno i'r graddau y mae'n hepgor, yn adran 13 o Ddeddf Cyflogaeth Asiantaethau 1973, baragraffau (b) ac (c) o is-adran (7) a'r amod sydd ynddi;

(c)adran 117(2) o, ac Atodlen 6 i'r Ddeddf, i'r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957 a Deddf Cyflogaeth Asiantaethau 1973.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Hydref 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 sy'n ymwneud â rheoleiddio Asiantaethau Nyrsio. Effaith hyn fydd dwyn yr asiantaethau hyn o fewn fframwaith reoliadol Deddf Safonau Gofal 2000. Bydd hefyd yn dwyn i rym ddiddymiad Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957 y trwyddedwyd yr asiantaethau hyn odani gan yr Awdurdod Lleol perthnasol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan "(b)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan "(c)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan "(d)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan "(e)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan "(f)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan "(g)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan "(h)" eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24); cafodd y rhai a ddilynir gan "(i)" eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31), cafodd y rhai a ddilynir gan (j) eu dwyn i rym gan O.S. 2003/152 (Cy.22) (C.8) a chafodd y rhai a ddilynir gan "(k)" eu dwyn i rym gan O.S. 2003/ 501.

Y DdarpariaethY Dyddiad Cychwyn
Adrannau 1 i 5 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 77 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 8 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 8 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 8 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 9(1) a (2) (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 9(3) i (5) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 9 (gweddill) (h)1 Ebrill 2002
Adran 10(2) i (7) (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 10(2) i (7) (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 13 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 13 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2002
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 16 (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 17 i 21 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adrannau 17 i 21 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adrannau 22 i 23 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 24 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 24 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 25 (c)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adrannau 33 i 35 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 36 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 36 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 36 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 37 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 37 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 38 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 39 (yn rhannol) (e)31 Gorffennaf 2001
Adran 39 (gweddill) (e)31 Awst 2001
Adran 40 (yn rhannol) (b)1 Chwefror 2001
Adran 40 (gweddill) (b)28 Chwefror 2001
Adran 41 (b)28 Chwefror 2001
Adrannau 42 i 43 (c)18Mehefin 2001
Adrannau 45 a 46 (j)30 Ionawr 2003
Adrannau 48 i 52 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 53 (yn rhannol) (j)30 Ionawr 2003
Adran 54(1), (3) i (7) (a)1 Ebrill 2001
Adran 55 ac Atodlen 1 (a)1 Ebrill 2001
Adrannau 56 i 62 (yn rhannol) (i)30 Ebrill 2002
Adran 56 a 58 i 60 a 62 (gweddill) (k)1 Mehefin 2003
Adran 63 (f)31 Gorffennaf 2001
Adran 64(2) i (4) (yn rhannol) (i)30 Ebrill 2002
Adran 64(2) i (5) gweddill (k)1 Mehefin 2003
Adran 65 (yn rhannol) (i)30 Ebrill 2002
Adran 65 (gweddill) (k)1 Mehefin 2003
Adran 66 (f)31 Gorffennaf 2001
Adran 67 (f)1 Hydref 2001
Adran 68 a 69 (k)1 Mehefin 2003
Adran 70(1) (f)1 Hydref 2001
Adran 71 (yn rhannol) (f)31 Gorffennaf 2001
Adran 71 (gweddill) (i)30 Ebrill 2002
Adran 72 ac Atodlen 2 (a)13 Tachwedd 2000
Adran 72A (g)26 Awst 2001
Adran 72B & Atodlen 2A (g)26 Awst 2001
Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) ac Atodlen 2B (g)26 Awst 2001
Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (g)26 Awst 2001
Adran 75A (g)26 Awst 2001
Adrannau 76 i 78 (fel y'u diwygiwyd) (g)26 Awst 2001
Adran 79(1) (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 79(1) (gweddill) (h)1 Ebrill 2002
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 79(2) & Atodlen 3 (gweddill) (h)1 Ebrill 2002
Adran 79(3),(4) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 79(5) (h)1 Ebrill 2002
Adran 95 (h)1 Ebrill 2002
Adran 98 (d)1 Gorffennaf 2001
Adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4 (j)1 Chwefror 2003
Adrannau 107 i 108 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 110 (h)1 Ebrill 2002
Adran 112 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 113 (2) i (4) (a)1 Ebrill 2001
Adran 114 (yn rhannol) (a)1 Ebrill 2001
Adran 114 (gweddill) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 115 (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (b)28 Chwefror 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (j)29 Ionawr 2003
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c)1 Gorffennaf 2001
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (g)26 Awst 2001
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) (h)1 Ebrill 2002
Adran 117 ac Atodlen 5 (yn rhannol) (j)29 Ionawr 2003
Adran 117 ac Atodlen 6 (yn rhannol) (j)29 Ionawr 2003
Adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 41 Chwefror 2003

Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, ac mewn perthynas â Lloegr hefyd, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan "(b)" eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).

Y DdarpariaethY Dyddiad Cychwyn
Adran 80(8) (a)2 Hydref 2000
Adran 94 (a)2 Hydref 2000
Adran 96 (yn rhannol) (a)15 Medi 2000
Adran 96 (gweddill) (a)2 Hydref 2000
Adran 99 (a)15 Medi 2000
Adran 100 (a)2 Hydref 2000
Adran 101 (a)2 Hydref 2000
Adran 102 (b)18 Mawrth 2002
Adran 103 (a)2 Hydref 2000
Adran 104 (yn rhannol) (b)18 Mawrth 2002
Adran 104 (yn rhannol) (b)1 Ebrill 2002
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (a)2 Hydref 2000
Adran 117(2) & Atodlen 6 (yn rhannol) (a)2 Hydref 2000

Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill Deddf Safonau Gofal 2000 eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70).

(1)

2000 p.14. Rhoddwyd y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr “Gweindiog priodol” (“appropriate Minister”) yw'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a.121(1) o'r Ddeddf). Ystyr “Cynulliad” (“Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a.5(b) o'r Ddeddf).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources