- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, LLOEGR A CHYMRU
Wedi'i wneud
26 Tachwedd 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8(2) a 10(2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 2) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) 1 Rhagfyr 2003 yw'r dydd a bennwyd i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym at bob diben —
(i)adran 1 ac Atodlen 1;
(ii)paragraffau 3, 4, 5, 7, a 14 o Atodlen 3 ac adran 7(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy; a
(iii)adran 7(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 ac eithrio'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
(2) Dim ond ynglŷn â Lloegr y mae'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn cael eu dwyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D.Elis- Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn o dan Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (“y Ddeddf”).
Mae Erthygl 2 yn dwyn i rym, wrth gael ei chymhwyso i Lloegr, adran 1 o'r Ddeddf ac Atodlen 1 iddi. Mae adran 1 yn hepgor adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac Atodlen 7 iddi ac effaith hynny yw datgymhwyso dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned ar gyfer dosbarthau yn Lloegr.
Mae'r Gorchymyn yn cychwyn diwygiadau a diddymiadau canlyniadol hefyd.
NODYN AM ORCHYMYN CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hyn yn rhan o'r Gorchymyn)
Darparwyd ar gyfer y darpariaethau a bennit isod mewn perthynas â Chymru (gan gynwys darpariaethau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr) yng Ngorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 O.S. 2003/2660 (Cy.256) (C. 102)
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 1 (yn gymwys i Gymru yn unig) | 20 Hydref 2003 |
Adran 7(1) (yn rhannol) (yn gymwys i Gymru yn unig) | 20 Hydref 2003 |
Adran 7(2) (yn rhanol) (yn gymwys i Gymru yn unig) | 20 Hydref 2003 |
Adran 2 (ar gyfer gwneud rheoliadau yn unig) | 20 Hydref 2003 |
Adran 3 (ar gyfer gwneud rheoliadau yn unig) | 20 Hydref 2003 |
Adrannau 4, 5 and 6 | 20 Hydref 2003 |
Atodlen 1 (yn gymwys i gymru yn unig) | 20 Hydref 2003 |
Paragraffau 3, 4, 5, 7 a 14 o Atodlen 3 | 20 Hydref 2003 |
Atodlen 4, heblaw'r cyfeiriad at adran 22(4) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 | 20 Hydref 2003 |
Paragraff 10 o Atodlen 2 | 20 Hydref 2003 |
Adrannau 2, 3 and 7(1) (ar gyfer phob pwrpas arall) | 1 Ebrill 2005 |
Atodlenni 2 and 3 heblaw'r gyfeiriad at paragraff 16 o Atodlen 3 |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: