Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3227 (Cy.308)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

9 Ionawr 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3) a (4), 210(7) a 214 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “y person perthnasol” (“the relevant person”) —

(a)

o ran disgybl a oedd yn 10 oed neu'n iau ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw un o'i rieni;

(b)

o ran disgybl o oedran ysgol gorfodol a oedd yn 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd, yw'r disgybl hwnnw ac un o'i rieni;

(c)

o ran disgybl sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol, yw'r disgybl ei hun;

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999(3).

(2Mae unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod y cyfnod rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn mewn ysgol at ddibenion y Rheoliadau hyn i'w cymryd yn gyfystyr â chwarter diwrnod ysgol.

Pŵer pennaeth i wahardd disgyblion

3.  Ni chaiff pennaeth arfer ei bŵer o dan adran 52(1) o Ddeddf 2002 er mwyn gwahardd disgybl o'r ysgol am gyfnod neu gyfnodau penodedig, os bydd hynny'n golygu y byddai'r plentyn yn cael ei wahardd am fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol unigol.

Gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu'r person perthnasol, y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol

4.—(1Os bydd pennaeth ysgol a gynhelir yn gwahardd unrhyw ddisgybl, rhaid i'r pennaeth gymryd camau rhesymol yn ddi-oed i hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol —

(a)cyfnod y gwaharddiad neu, os gwaherddir y disgybl yn barhaol, ei fod yn cael ei wahardd yn y modd hwnnw;

(b)y rhesymau dros y gwaharddiad;

(c)y caiff roi sylwadau am y gwaharddiad i'r corff llywodraethu a chaiff y disgybl sydd wedi'i wahardd roi sylwadau hefyd am y gwaharddiad i'r corff llywodraethu os nad y person perthnasol yw'r disgybl; ac

(ch)y dull o roi'r sylwadau hynny.

(2Os yw'r pennaeth yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig gael ei wneud yn waharddiad parhaol, rhaid iddo yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu'r person perthnasol —

(a)am ei benderfyniad, a

(b)am y materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).

(3Mae paragraff (4) yn gymwys os bydd y pennaeth —

(a)yn gwahardd unrhyw ddisgybl mewn amgylchiadau lle y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —

(i)yn cael ei wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

(ii)yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,

(b)yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu

(c)yn penderfynu y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol.

(4Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu yn ddi-oed o'r materion canlynol —

(a)cyfnod y gwaharddiad neu, os gwaherddir y disgybl yn barhaol, ei fod yn cael ei wahardd yn y modd hwnnw, neu

(b)ei benderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,

ac (yn y naill achos a'r llall) y rhesymau drosto.

(5Ym mhob tymor rhaid i'r pennaeth hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu o unrhyw waharddiadau na ddônt o fewn paragraff (3) ac yn achos pob gwaharddiad o'r fath rhaid iddo ddarparu manylion am gyfnod y gwaharddiad a'r rheswm drosto.

Gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i'r awdurdod addysg lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

5.—(1Yn ystod pob tymor rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu'r wybodaeth ganlynol am bob gwaharddiad i'r awdurdod addysg lleol —

(a)enw, oedran, rhyw a grŵp ethnig y disgybl sydd wedi'i wahardd;

(b)a oes gan y disgybl sydd wedi'i wahardd ddatganiad o anghenion addysgol arbennig sy'n cael ei gadw gan awdurdod addysg lleol o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(4), a yw'n cael ei asesu ar gyfer datganiad o'r fath neu a yw'n cael cymorth ar ffurf Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn unol â Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru(5) a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf Addysg 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002;

(c)a yw'r disgybl sydd wedi'i wahardd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(ch)cyfnod y gwaharddiad; a

(d)y rheswm dros y gwaharddiad.

(2Rhaid i awdurdod addysg lleol ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os bydd yn gofyn amdani, unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod hwnnw wedi'i chael oddi wrth bennaeth o dan reoliad 4(4) neu (5) neu oddi wrth gorff llywodraethu o dan reoliad 5(1).

Swyddogaethau'r corff llywodraethu mewn perthynas â disgyblion sydd wedi'u gwahardd

6.—(1Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys os hysbysir corff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan reoliad 4(4) —

(a)o waharddiad parhaol disgybl,

(b)o benderfyniad y dylai unrhyw waharddiad ar ddisgybl gael ei wneud yn barhaol,

(c)o wahardd unrhyw ddisgybl, a bod yr amgylchiadau yn golygu y byddai'r disgybl, yn sgil y gwaharddiad —

(i)yn cael ei wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 15 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

(ii)yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, neu

(ch)o wahardd unrhyw ddisgybl os byddai'r disgybl yn sgil y gwaharddiad wedi'i wahardd o'r ysgol am gyfanswm o fwy na 5 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol a bod y person perthnasol yn mynegi dymuniad i roi sylwadau yn unol â rheoliad 4(1)(c).

(2Ym mhob achos o'r fath rhaid i'r corff llywodraethu —

(a)ystyried o dan ba amgylchiadau y cafodd y disgybl ei wahardd;

(b)ystyried unrhyw sylwadau am y gwaharddiad sy'n cael eu rhoi i'r corff llywodraethu —

(i)gan y person perthnasol yn unol â rheoliad 4(1)(c),

(ii)gan y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw yn unol â rheoliad 4(1)(c),

(iii)gan y pennaeth, a

(iv)gan yr awdurdod addysg lleol;

(c)cynnull cyfarfod a chaniatáu i'r canlynol, sef —

(i)y person perthnasol,

(ii)y disgybl sydd wedi'i wahardd os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw,

(iii)y pennaeth, a

(iv)swyddog o'r awdurdod addysg lleol a enwebwyd gan yr awdurdod addysg lleol,

i fynd i'r cyfarfod hwnnw a rhoi sylwadau llafar am y gwaharddiad; ac

(ch)ystyried unrhyw sylwadau llafar sy'n cael eu rhoi felly.

(3Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio, ac os yw'n ystyried y dylid derbyn y disgybl yn ôl, rhaid iddo'n ychwanegol ystyried a ddylid ei dderbyn yn ôl ar unwaith, neu a ddylid ei dderbyn yn ôl erbyn ddyddiad penodol.

(4Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu na ddylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —

(a)rhoi'r cyfarwyddyd priodol i'r pennaeth, a

(b)hysbysu'r person perthnasol a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad.

(5Rhaid i'r pennaeth gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y corff llywodraethu i dderbyn disgybl a gafodd ei wahardd yn ôl i'r ysgol.

(6Os bydd y corff llywodraethu'n penderfynu y dylid derbyn disgybl yn ôl, rhaid iddo yn ddi-oed —

(a)hysbysu'r person perthnasol, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol o'i benderfyniad, a

(b)yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person perthnasol sy'n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy'n datgan y materion canlynol —

(i)y rhesymau dros y penderfyniad,

(ii)ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad,

(iii)y person y dylai roi unrhyw hysbysiad apêl iddo,

(iv)bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad apêl gynnwys seiliau'r apêl, a

(v)y dyddiad olaf y caniateir gwneud yr apêl.

(7Os digwydd y canlynol—

(a)bod pennaeth ysgol a gynhelir yn gwahardd disgybl mewn achos nad yw paragraffau (2) i (6) yn gymwys, a

(b)bod y corff llywodraethu yn cael unrhyw sylwadau sydd wedi'u rhoi yn unol â rheoliad 4(1)(c) gan y person perthnasol ynghylch y gwaharddiad,

rhaid iddynt ystyried y sylwadau hynny.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) —

(a)dim cynharach na chwe diwrnod ysgol; a

(b)dim hwyrach na 15 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad parhaol neu waharddiad am gyfnod penodedig o fwy na 15 diwrnod ysgol; neu

(c)dim hwyrach na 50 diwrnod ysgol, yn achos gwaharddiad am gyfnod penodedig o 15 diwrnod ysgol neu lai;

ar ôl y dyddiad yr hysbyswyd ef o'r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4(4).

(9Os yw disgybl wedi'i wahardd mewn amgylchiadau lle byddai, yn sgil y gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, rhaid i'r corff llywodraethu (i'r graddau y mae'n ymarferol iddo wneud hynny) gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y mae'r disgybl i sefyll yr arholiad a beth bynnag dim hwyrach na'r hyn sy'n ofynnol gan baragraff (8).

(10Nid yw'r corff llywodraethu i gael ei ryddhau o'r ddyletswydd i gymryd unrhyw gam y cyfeirir ato ym mharagraff (2) am na chafodd ei gymryd o fewn y cyfnodau a bennir ym mharagraffau (8) a (9).

(11Ceir rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai —

(a)drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu

(b)drwy ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf mewn amlen sydd wedi'i chyfeirio'n briodol ac y mae wedi talu ymlaen llaw amdani i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.

Apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol

7.—(1Rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i alluogi'r person perthnasol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan y corff llywodraethu o dan reoliad 5 i beidio â derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol yn ôl i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod.

(2Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â gwneud a gwrando ar apelau yn unol â'r trefniadau a wnaed o dan baragraff (1); ac ym mharagraffau (3) i (5) ystyr “panel apêl” yw panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen.

(3Nid yw panel apêl i benderfynu bod disgybl i'w dderbyn yn ôl i'r ysgol ddim ond oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofynion gweithdrefnol a osodwyd gan neu o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r canlynol —

(a)penderfyniad o dan reoliad 6 y mae'r apêl yn cael ei dwyn odano, neu

(b)y gwaharddiad neu benderfyniad gan y pennaeth y mae'r penderfyniad hwnnw'n berthnasol iddo.

(4Bydd penderfyniad panel apêl ar apêl yn unol â threfniadau a wnaed o dan baragraff (1) yn rhwymol ar y person perthnasol, y corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod addysg lleol.

(5Ar apêl o'r fath caiff y panel apêl —

(a)cadarnhau'r gwaharddiad;

(b)cyfarwyddo bod y disgybl i gael ei dderbyn yn ôl (naill ai ar unwaith neu erbyn dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd), neu

(c)penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol neu am resymau eraill nad yw'n ymarferol i roi cyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol i'w dderbyn yn ôl, ond y byddai fel arall wedi bod yn briodol i roi cyfarwyddyd o'r fath.

Gwahardd disgyblion: canllawiau

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw rai o swyddogaethau —

(a)y pennaeth neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir,

(b)awdurdod addysg lleol, neu

(c)panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen,

o dan adran 52(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn.

(2Wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o'r fath, rhaid i'r cyfryw berson neu gorff roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygiadau Canlyniadol

9.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999(6) fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 42(3), yn lle “sections 65 to 68 of the 1998 Act” rhodder “regulations 4 to 8 of the Education (Pupil Exclusions and Appeals) (Maintained Schools) (Wales) Regulations 2003”, a

(b)yn rheoliad 48(3), yn lle “subsections (2) to (4) of section 66 of the 1998 Act” rhodder “paragraphs (2) to (4) and (6)(a) of regulation 6 of the Education (Pupil Exclusions and Appeals) (Maintained Schools) (Wales) Regulations 2003”.

(2Diwygir Rheoliad 9(4)(d) o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion)1995(7) fel a ganlyn —

(a)yn lle'r geiriau “section 66 of the 1998 Act” rhoddir “regulations made under section 52 of the Education Act 2002”;

(b)yn is-baragraff (i), yn lle'r geiriau “section 67 of the 1998 Act” rhoddir “those regulations”.

Diwygio Rheoliadau 1999

10.—(1Diwygir Rheoliad 1(2) o Reoliadau 1999 drwy —

(a)mewnosod ar ôl y diffiniad o “the 1998 Act” —

“the 2002 Act” means the Education Act 2002;; a

(b)ychwanegu'r diffiniad canlynol ar ôl y diffiniad o “individual schools budget” a “local schools budget”—

“schools budget” has the meaning attributed to it by section 45A of the 1998 Act in relation to any financial year for which that section is in force..

(2Ar ôl y geiriau “local schools budget” yn y diffiniad o B yn rheoliad 2 o Reoliadau 1999 mewnosodir —

or schools budget (in Wales).

(3Ar ôl rheoliad 4(b) o Reoliadau 1999 mewnosodir —

(c)in relation to Wales only (and in place of sub-paragraph (b) above) in relation to the period commencing on 1st September 1999 and ending immediately before 9th January 2004, on the date that the governing body decide under section 66 of the 1998 Act or under regulations made under section 52 of the 2002 Act that the pupil should not be reinstated.

(d)in relation to Wales only and subject to sub-paragraph (e), on or after 9th January 2004, on the date that an independent appeal panel constituted under regulations made under section 52 of the 2002 Act decides not to direct reinstatement; or if there is no appeal, on the day after the last date on which an appeal may be made, or on the day (if earlier) that the relevant person notifies the local education authority that he does not intend to appeal.

(e)where the relevant person is both a pupil of compulsory school age who is aged 11 or above on the day before the beginning of the school year in which that pupil is excluded and a parent of his, a notice in writing given by the parent to the local education authority which states that he does not intend to appeal will be treated as final whether or not the pupil has given such notice in writing..

Dirymu

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae Rheoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 1994(8) (i'r graddau na ddirymwyd hwy eisoes), Rheoliadau Addysg (Gwaharddiadau o'r Ysgol) (Cyfnodau a Ragnodwyd) 1999(9) a Rheoliadau Addysg (Gwaharddiadau o'r Ysgol) (Cyfnodau a Ragnodwyd) (Diwygio) (Cymru) 2000(10) drwy hyn yn cael eu dirymu.

(2Mae'r rheoliadau a ddirymir gan baragraff (1) i barhau'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw waharddiad y mae adrannau 64 i 68 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 18 iddi(11)) yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 7 o Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Rhif 2) (Cymru) 2003(12) (disgyblion sydd wedi'u gwahardd cyn 9 Ionawr 2004).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Rheoliad 7

YR ATODLENCYFANSODDIAD Y PANELAU APÊL A'R GWEITHDREFNAU AR EU CYFER

Terfynau amser a hysbysiadau'n hepgor yr hawl i apelio

1.—(1Ni cheir gwneud apêl o dan reoliad 6(1) yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn disgybl yn ôl ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod y rhoddwyd i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 6(6)(b).

(2At ddibenion cyfrifo'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), cymerir bod yr hysbysiad wedi'i roi —

(a)pan ddefnyddir post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, neu

(b)pan draddodir yr hysbysiad â llaw, ar ddyddiad ei draddodi,

oni ddangosir i'r gwrthwyneb yn y naill achos neu'r llall.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y person perthnasol i'r awdurdod addysg lleol, sy'n datgan nad yw'n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â derbyn y disgybl yn ôl, yn derfynol.

(4Os yw'r person perthnasol yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac yntau'n 11 oed neu'n hŷn ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cafodd y disgybl hwnnw ei wahardd ac yn un o'i rieni, bydd hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan is-baragraff (3) gan riant yn cael ei drin fel hysbysiad terfynol p'un a yw'r disgybl wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r fath neu beidio.

Cyfansoddiad y panelau apêl

2.—(1Mae panel apêl yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleol o dan reoliad 7(1) i fod yn banel apêl a ffurfiwyd yn unol â'r paragraff hwn.

(2Mae panel apêl i fod yn banel a ffurfiwyd o dri neu bum aelod a benodwyd gan yr awdurdod addysg lleol o blith y canlynol —

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg;

(b)personau sy'n gweithio ar hyn o bryd ym myd addysg neu reolaeth addysg; ac

(c)personau sydd neu a fu yn llywodraethwyr ysgolion a gynhelir, ar yr amod eu bod wedi gwasanaethu fel llywodraethwyr am o leiaf ddeuddeng mis yn olynol yn y chwe blynedd ddiwethaf, ac nad ydynt wedi bod yn athrawon neu'n benaethiaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

(3Allan o aelodau panel apêl —

(a)os ffurfir ef gan dri aelod rhaid penodi un o bob un o'r tri chategori yn is-baragraff (2);

(b)os ffurfir ef gan bum aelod —

(i)rhaid bod un yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg a'i fod wedi ei benodi felly;

(ii)rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(b); a

(iii)rhaid i ddau fod yn bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (2)(c).

(4At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4 mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw'n berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swyddogaeth wirfoddol arall).

(5Caiff yr awdurdod addysg lleol benodi digon o bobl o dan y paragraff hwn i alluogi dau banel apêl neu fwy i eistedd ar yr un pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os cafodd ei ddatgymhwyso yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Datgymhwysir y bobl a ganlyn rhag bod yn aelodau panel apêl —

(a)unrhyw aelod o awdurdod addysg lleol neu o gorff llywodraethu'r ysgol o dan sylw;

(b)pennaeth yr ysgol o dan sylw, neu unrhyw athro neu athrawes yn yr ysgol honno, neu unrhyw berson a ddaliodd y swydd honno yn y pum mlynedd flaenorol;

(c)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol heblaw fel pennaeth neu athro neu athrawes;

(ch)unrhyw berson y mae ganddo, neu y bu ganddo ar unrhyw adeg, gysylltiad â'r canlynol —

(i)yr awdurdod addysg lleol neu'r ysgol, neu gysylltiad ag unrhyw berson o fewn paragraff (b) neu (c), neu

(ii)y disgybl o dan sylw neu â'r digwyddiad a arweiniodd at ei wahardd,

o fath y gellid yn rhesymol gymryd y byddai'n codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd.

(8Nid yw person a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol fel pennaeth neu athro neu athrawes i'w gymryd, o achos y gyflogaeth honno yn unig, fel un a chanddo gysylltiad o'r fath â'r awdurdod a grybwyllir yn is-baragraff (7)(ch).

(9Os bydd unrhyw aelod, ar unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sy'n cynnwys pum aelod ddechrau ystyried apêl, —

(a)yn marw, neu

(b)yn analluog drwy salwch i barhau fel aelod,

caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl ar yr amod nad yw nifer gweddill yr aelodau yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (3)(a) yn cael eu bodloni.

(10Rhaid i banel apêl gael ei gadeirio gan y person a benodwyd yn aelod lleyg.

Lwfansau i aelodau

3.—(1At ddibenion talu lwfansau colled ariannol o dan adran 173(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(14) mae'r ddarpariaeth honno i fod yn gymwys i unrhyw aelod o'r panel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2; ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at bresenoldeb mewn cyfarfod o'r panel apêl.

(2Mae adran 174(1) o'r Ddeddf honno i fod yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 2 ac yn yr adran honno, fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan y corff o dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau yn ôl y graddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod addysg lleol.

Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleyg

4.—(1Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1), yn ôl y cyfnodau a bennir yn is-baragraff (2), sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o'r panel apêl a ffurfiwyd gan yr awdurdod hwnnw.

(2Rhaid cyhoeddi hysbyseb cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau pan ddyroddwyd yr hysbyseb ddiwethaf o dan Reoliadau Addysg (Aelodau Lleyg Pwyllgorau Apêl) 1994(15) ac wedyn bob tair blynedd yn dilyn y dyddiad pan gyhoeddwyd hysbyseb ddiwethaf (neu pan gyhoeddwyd hysbyseb olaf cyfres o hysbysebion) yn unol â'r paragraff hwn.

(3Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) —

(a)ddynodi'r ysgolion a wasanaethir gan y panel apêl y mae'r hysbyseb yn berthnasol iddo wrth eu henw, eu dosbarth, neu eu disgrifiad cyffredinol;

(b)gael ei gosod mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir yr ysgolion a enwir yn yr hysbyseb ynddi;

(c)caniatáu cyfnod o 21 diwrnod o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.

(4Cyn penodi unrhyw aelod lleyg rhaid i'r awdurdod addysg lleol ystyried unrhyw bobl sy'n gymwys i gael eu penodi sydd wedi cyflwyno cais i'r awdurdod wrth ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu i gyfres o hysbysebion a osodwyd yn unol â'r paragraff hwn yn nodi eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer penodiad o'r fath.

Indemniad

5.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg lleol y mae'n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan reoliad 7(1) indemnio aelodau unrhyw banel apêl y mae'n ofynnol ei ffurfio at ddibenion y trefniadau hynny yn erbyn unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol a threuliau a wariwyd yn rhesymol gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gamau a wnaethant yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.

Y weithdrefn ar apêl

6.  Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon, ystyr “apêl” yw apêl o dan reoliad 7(1) ac ystyr “y dyddiad cau ar gyfer apelau” yw'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan adneuir yr apêl.

7.  Rhaid i apêl fod ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r seiliau dros ei gwneud.

8.—(1Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar ddyddiad y caiff yr awdurdod addysg lleol ei benderfynu.

(2Rhaid i'r dyddiad a bennir beidio â bod yn hwyrach na'r dyddiad cau ar gyfer apelau.

9.—(1At ddibenion pennu'r amser (yn unol â pharagraff 8) y mae gwrandawiad apêl i ddigwydd, rhaid i'r awdurdod addysg lleol gymryd camau rhesymol i ganfod unrhyw amserau sy'n digwydd ar neu cyn y dyddiad cau ar gyfer apelau pan na fyddai —

(a)y person perthnasol, neu

(b)unrhyw berson arall sy'n dymuno ymddangos, ac y mae ganddo hawl i ymddangos, a rhoi sylwadau llafar yn unol â pharagraff 10,

yn gallu bod yn bresennol.

(2Pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn unol ag is-baragraff (1) wedi canfod unrhyw amserau o'r fath yn achos unrhyw berson o'r fath, rhaid iddo, wrth bennu amser y gwrandawiad, ystyried yr amserau hynny er mwyn sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, fod y person hwnnw'n gallu ymddangos a rhoi ei sylwadau yn y gwrandawiad.

10.—(1Rhaid i'r panel apêl ganiatáu i'r person perthnasol a'r disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, roi sylwadau ysgrifenedig, ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad neu gael cwmni ffrind.

(2Rhaid i'r panel hefyd ganiatáu —

(a)i'r pennaeth roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar,

(b)i'r awdurdod addysg lleol roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar, ac

(c)i'r corff llywodraethu roi sylwadau ysgrifenedig, cael ei gynrychioli ac ymddangos a rhoi sylwadau llafar.

(3Caiff y panel apêl o dro i dro ohirio'r gwrandawiad.

11.  Rhaid gwrando ar yr apelau mewn preifatrwydd; ond —

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan y panel apêl; a

(b)caiff un aelod o Gyngor y Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod panel apêl pan ystyrir apêl.

12.  Ceir cyfuno dwy apêl neu fwy ac ymdrin â hwy yn yr un gweithrediadau os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwyluso'r gwaith oherwydd yr un yw'r materion a godir yn yr apelau neu eu bod yn gysylltiedig.

13.  Os bydd anghytundeb rhwng aelodau panel apêl, mae'r apêl o dan ystyriaeth i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwrir, ac yn achos nifer cyfartal o bleidleisiau, mae cadeirydd y panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

14.  Rhaid rhoi gwybod am benderfyniad panel apêl a'r seiliau dros ei wneud —

(a)gan y panel yn ysgrifenedig i'r person perthnasol, yr awdurdod addysg lleol, y corff llywodraethu a'r pennaeth, a

(b)fel a nodwyd erbyn diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 7 i 14, rhaid i bob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio gael eu penderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.

(2Rhaid i'r awdurdod addysg lleol wrth osod unrhyw derfynau amser mewn cysylltiad ag apelau, roi sylw i ba mor ddymunol yw sicrhau bod apelau yn cael eu cwblhau yn ddi-oed.

16.  Ym mharagraff 1(2) a 14 ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(16).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi terfynau ar bwerau penaethiaid i wahardd disgyblion o ysgolion a gynhelir o dan adran 52(1) o Ddeddf Addysg 2002, a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth, corff llywodraethu'r ysgol a'r awdurdod addysg lleol yn dilyn gwaharddiad o ysgol a gynhelir.

Mae Rheoliad 2 yn cyflwyno diffiniad newydd o “berson perthnasol” at ddibenion y Rheoliadau hyn ac yn darparu hefyd fod unrhyw waharddiad am gyfnod penodedig yn ystod yr amser cinio i'w gyfrif yn waharddiad am chwarter o ddiwrnod ysgol.

Mae Rheoliad 3 yn darparu na chaiff pennaeth wahardd disgybl am un neu ragor o gyfnodau penodedig sydd gyda'i gilydd yn dod i gyfanswm o fwy na 45 diwrnod ysgol mewn unrhyw flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r pennaeth hysbysu'r person perthnasol o fanylion gwaharddiad. Rhaid i'r pennaeth hefyd hysbysu'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu a yw'r gwaharddiad yn un parhaol, a fydd yn golygu bod disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu a fydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau i'r disgybl hwnnw dros bum diwrnod mewn unrhyw dymor.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ynglŷn ag ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r corff llywodraethu ei darparu i'r awdurdod addysg lleol ac ystod yr wybodaeth y mae rhaid i'r awdurdod addysg lleol ei darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru os bydd yn gofyn amdani.

Os bydd y gwaharddiad yn barhaol, yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus, neu'n mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw dros 15 diwrnod mewn tymor, neu fod y person perthnasol yn dymuno rhoi sylwadau ac y byddid yn gwahardd y disgybl am fwy na phum diwrnod mewn tymor,

mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu ystyried yr amgylchiadau, gwrando ar unrhyw sylwadau gan y person perthnasol, y disgybl sydd wedi'i wahardd, os nad y person perthnasol yw'r disgybl hwnnw, neu'r awdurdod addysg lleol, a phenderfynu a ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu beidio.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol wneud trefniadau i'r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol yn ôl i'r ysgol. Nid yw methiant i ddilyn gofynion gweithdrefnol ynddo'i hun i arwain at benderfyniad i dderbyn yn ôl. Mae penderfyniad y panel apêl yn rhwymol. Os yw'r panel apêl yn derbyn bod amgylchiadau eithriadol neu resymau eraill sy'n ei gwneud yn anymarferol i gyfarwyddo derbyn yn ôl, cânt benderfynu peidio â gwneud cyfarwyddyd i dderbyn y disgybl yn ôl ond cânt ddynodi y byddai cyfarwyddyd fel arall wedi bod yn briodol.

Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid, cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol a phanelau apêl roi sylw i ganllawiau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rheoliadau 9 a 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol amrywiol, gan gynnwys diwygiadau i Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2242), er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i'w dehongli fel cyfeiriadau at eu pwyllgorau disgyblu disgyblion, ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Addysg (Swm i Ddilyn Disgybl sydd wedi'i Wahardd yn Barhaol) 1999 (O.S. 1999/495).

Mae'r Atodlen yn pennu cyfansoddiad y panelau apêl a'r gweithdrefnau ar eu cyfer.

(1)

2002 p.32; gweler adran 212(1) i gael ystyr “regulations” a “prescribed”.

(2)

1992 p.53, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(5)

ISBN 0 7504 2757 4.

(7)

O.S. 1995/2089; offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2802.

(11)

1998 p.31.

(13)

1998 p.38.

(14)

1972 p.70.

(16)

1971 p.80.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources