- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd—
(a)symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.
(2) Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff (1) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn—
(a)na chydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'r drwydded gyffredinol mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle dan sylw neu oddi yno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a
(b)bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.
(3) Bydd hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) yn cael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ddull arall y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn tybio ei bod yn briodol dwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.
(4) Caiff hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(b) ei gyflwyno i'r person a gaiff ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac ar feddiannydd unrhyw safle a enwir wrth ei enw yn yr hysbysiad.
(5) Bydd hysbysiad yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: