Search Legislation

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 483 (Cy.69)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

3 Mawrth 2003

Yn dod i rym

4 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8(1) a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben

1.  Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, mae'n dod i rym ar 4 Mawrth a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, moch a defaid;

ystyr “canolfan gasglu” (“collecting centre”) yw safle a ddefnyddir ar gyfer derbyn, yn y tymor byr, anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw'n cynnwys marchnad neu rywle arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid oni fwriedir i'r holl anifeiliaid sydd yno gael eu cigydda yn syth);

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros anifeiliaid, hyd yn oed dros dro ac, at ddibenion erthygl 8(2)(a) mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n cludo'r anifeiliaid;

ystyr “cyfnod segur” (“standstill period”) yw cyfnod pan na cheir symud anifeiliaid oddi ar safle oherwydd darpariaethau erthygl 3(1)(b);

mae i “grŵp meddiannaeth unigol” (“sole occupancy group”) yr ystyr a briodolir iddo gan erthygl 5;

mae i “lladd-dy” yr ystyr a roddir i “slaughterhouse” yn Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995(2);

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw cymrawd neu aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon;

mae “safle” (“premises”) yn cynnwys tir ag adeiladau neu dir hebddynt;

mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir comin neu dir heb ei amgáu; ac

yn achos geifr mae “trinaieth filfeddygol” (“veterinary treatment”) yn cynnwys casglu semen.

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid

3.—(1Mae gwaharddiad ar symud anifail o unrhyw safle—

(a)oni symudir yr anifail o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd; a

(b)ond nid os na symudwyd defaid, geifr neu wartheg i'r safle hwnnw yn ystod y 6 diwrnod blaenorol, ac os na symudwyd moch i'r safle hwnnw yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol (“y cyfnod segur”).

(2Er gwaethaf paragraff (1), ceir symud anifeiliaid o'r safle yn ystod y cyfnod segur—

(a)os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 1, neu

(b)os dyroddwyd trwydded sy'n datgymhwyso'r cyfnod segur gan arolygydd milfeddygol.

(3Ni chaiff y cyfnod segur ei sbarduno gan symud anifail i safle os yw'r symud yn un a bennir yn Atodlen 2.

(4Nid yw'r gofyniad am drwydded ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i unrhyw symud a awdurdodir gan drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif 2) 2002(3) (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).

(5Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i symud—

(a)sydd wedi'i drwyddedu gan drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983(4), neu

(b)i unrhyw sŵ a drwyddedwyd o dan Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 neu oddi yno (5).

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dy ac oddi yno

4.  Gwaherddir i unrhyw berson—

(a)symud unrhyw anifail i ladd-dy ac eithrio at ddibenion ei gigydda o fewn 48 awr iddo gyrraedd yno; neu

(b)derbyn unrhyw anifail o ladd-dy oni wneir hynny, yn achos unrhyw anifail heblaw mochyn, o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

Grwpiau meddiannaeth unigol

5.  Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw'r naill neu'r llall wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.

Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau

6.—(1Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a gellir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd—

(a)gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos trwydded, caniatâd neu awdurdodiad a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd o unrhyw fath;

(b)gan arolygydd milfeddygol, yn achos trwydded neu ganiatâd a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o arolygwyr eraill yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio arolygydd milfeddygol), yn achos trwydded a ddyroddwyd gan unrhyw arolygydd o'r fath; neu

(ch)gan un o arolygwyr awdurdod lleol, yn achos trwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol hwnnw.

(2Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2) mae'n rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr

7.  Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.

Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan y drwydded gyffredinol

8.—(1Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad yn gwahardd—

(a)symud o dan awdurdod y drwydded honno unrhyw anifail o unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad; neu

(b)unrhyw berson a bennir yn yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid o dan awdurdod y drwydded honno naill ai'n gyffredinol neu i unrhyw safle a bennir yn yr hysbysiad neu oddi yno.

(2Ni chaiff hysbysiad ei gyhoeddi o dan baragraff (1) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn—

(a)na chydymffurfiwyd â darpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'r drwydded gyffredinol mewn perthynas ag anifeiliaid a symudwyd i'r safle dan sylw neu oddi yno, neu mewn perthynas â symud unrhyw anifeiliaid eraill, os y person y mae'r hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ceidwad yr anifeiliaid hynny neu os bu'n geidwad yr anifeiliaid hynny ar unrhyw adeg, a

(b)bod angen cyflwyno hysbysiad i atal y posibilrwydd y bydd clefydau yn lledaenu.

(3Bydd hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) yn cael ei gyflwyno i feddiannydd pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ddull arall y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn tybio ei bod yn briodol dwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.

(4Caiff hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(b) ei gyflwyno i'r person a gaiff ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac ar feddiannydd unrhyw safle a enwir wrth ei enw yn yr hysbysiad.

(5Bydd hysbysiad yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedau penodol

9.—(1O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol—

(a)rhaid iddo gael ei symud ar hyd y llwybr mwyaf uniongyrchol sydd ar gael i'r gyrchfan a bennir yn y drwydded, a

(b)rhaid i'r drwydded fynd gydag ef ar hyd y daith.

(2Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded arbennig, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol hynny—

(a)dangos y drwydded;

(b)caniatáu i gopi ohoni neu o ddarn ohoni gael ei wneud; ac

(c)os gofynnir hynny iddo, roi ei enw a'i gyfeiriad.

(3Rhaid i bob anifail a symudir o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nas symudir o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny drwy gydol y symud.

(4Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—

(a)sicrhau y rhoddir y drwydded iddo ef neu i'w gynrychiolydd cyn caniatáu i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho; a

(b)cadw'r drwydded am chwe mis a'i dangos i arolygydd os gofynnir am ei gweld.

Trwyddedau cyffredinol

10.  Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo—

(a)sicrhau y rhoddir iddo ef neu i'w gynrychiolydd y copi uchaf o'r ddogfen symud cyn caniatáu dadlwytho'r anifeiliaid;

(b)llenwi'r copi uchaf i ddangos ei fod ef wedi cael yr anifeiliaid, llofnodi'r copi, a'i anfon i'r awdurdod lleol yn ddi-oed; ac

(c)ar ôl ei llenwi cadw copi o'r ddogfen am chwe mis.

Copïau o drwyddedau

11.  Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.

Cydymffurfio â thrwyddedau, ac yn y blaen.

12.  Os bydd unrhyw berson yn methu cydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn caiff un o swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu cydymffurfio.

Glanhau a diheintio

13.—(1Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2), neu awdurdodiad o dan erthygl 5, bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003(6).

(2Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud anifeiliaid sicrhau, ac eithrio pan fo'r drwydded, yr awdurdodaeth neu'r caniatâd yn darparu fel arall, y cydymffurfir â'r gofynion sy'n berthnasol i'r gwaith o lanhau a diheintio a hynny cyn gynted â phosibl ar ôl dadlwytho'r anifeiliaid a, beth bynnag, cyn symud y cyfrwng cludo o'r safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo.

(3Pan symudir anifeiliaid o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwynt iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.

Newid meddiannaeth safleoedd

14.—(1Os, pan fydd ei hawl meddiannaeth dros unrhyw safle yn dod i ben, bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, mae'n rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw—

(a)rhoi i berchennog yr anifail hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo i'r pwrpas, yr holl gyfleusterau hynny y gallai'r perchennog yn rhesymol ofyn amdanynt ac a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r anifail hwnnw mewn ffordd arall (gan gynnwys ei werthu); neu

(b)pan nad yw perchennog yr anifail hwnnw'n gallu manteisio ar y cyfleusterau hynny, cymryd yr holl gamau o'r fath y gallai fod eu hangen i sicrhau bod yr anifail yn cael ei fwydo, ei dendio a'i gadw'n iawn.

(2Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o 7 diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail o'r safle yn peidio â bod yn gymwys, ac mae perchennog yr anifail yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, y symiau hynny, yn dâl ac yn ad-daliad o dreuliau, ag a allai fod yn gyfiawn ac yn rhesymol yn yr holl amgylchiadau.

Gorfodi

15.  Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Dirymu

16.  Dirymir y canlynol—

(a)Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(7);

(b)Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro)(Cymru)(Rhif 2) (Diwygio) 2002(8);

(c)Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003(9).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Mawrth 2003

Whitty

Is-ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

3 Mawrth 2003

Erthygl 3(2)(a)

ATODLEN 1Symud o safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur

Symud anifeiliaid ar gyfer triniaeth filfeddygol.

1.—(1Symud anifail i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol.

(2Symud anifail o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol iddo ar yr amod nad yw'r anifail wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid eraill tra oedd yn y fan lle y rhoddir triniaeth.

(3Symud anifail i labordy lle y gwneir profion diagnostig arno i gadarnhau a effeithiwyd ar yr anifail gan glefyd neu a ydyw wedi dod i gyffyrddiad â chlefyd.

Symud anifeiliaid i'w cigydda

2.  Symud anifail yn uniongyrchol i ladd-dy.

3.  Symud mochyn i farchnad ar gyfer moch y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth.

4.  Symud anifail i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth, ar yr amod—

(a)na ddefnyddiwyd safle'r ganolfan gasglu ar yr un diwrnod ar gyfer sioe neu arddangosfa neu ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid ac eithrio anifeiliaid i'w cigydda'n syth, a

(b)y symudir yr holl anifeiliaid a symudwyd i'r ganolfan gasglu oddi yno'n syth i ladd-dy.

Symud anifail ar gyfer ffrwythloni artiffisial

5.  Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.

6.  Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod cyn ymadael.

Anifeiliaid i'w hallforio

7.  Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynnyrch Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 cyn ei allforio.

Symud o fewn grŵ p meddiannaeth unigol

8.  Symud anifail rhwng safleoedd mewn grŵp meddiannaeth unigol.

Tir comin

9.—(1Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac —

(a)safle sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef; neu

(b)safle sydd ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, sy'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.

(2Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol honno mewn perthynas â'r tir hwnnw.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “hawl gofrestredig i gomin” (“registered right of common”) yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965(10).

Symud moch ar gyfer magu, ac yn y blaen

10.—(1Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.

(2Symud mochyn a fwriedir ar gyfer magu heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo at y diben hwn gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.

Symud moch i sioeau neu arddangosfeydd

11.  Symud mochyn i sioe neu arddangosfa os yw wedi'i ynysu am 20 niwrnod cyn iddo gael ei symud a hynny ar y safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.

Cyfryngau cludo sy'n dadlwytho anifeiliaid eraill

12.  Symud anifail sydd ar gyfrwng cludo sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.

Ceirw

13.  Symud ceirw oddi ar unrhyw safle.

Erthygl 3(3)

ATODLEN 2Symud i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur

Cyrraedd marchnad ac yn y blaen

1.  Symud anifail i farchnad, canolfan gasglu, canolfan ffrwythloni artiffisial, sioe neu arddangosfa.

Symud mochyn o dan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

2.  Symud mochyn fel y cyfeirir ato yn erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.

Symud mochyn at ddibenion magu

3.—(1Mochyn sy'n cyrraedd y safle a ddarparwyd ar gyfer magu (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002) ar yr amod—

(a)cyn ei symud, naill ai na fuasai cyfnod segur ar y safle tarddiad, neu fel arall y cawsai'r mochyn ei ynysu am 20 diwrnod cyn ei symud a hynny mewn cyfleuster wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol;

(b)y'i hynysir tra bydd ar y safle magu (neu am 20 diwrnod, pa gyfnod bynnag yw'r byrraf) mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol;

(c)bod unrhyw fochyn a osodir yn y cyfleuster ynysu gyda'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle at ddibenion magu, wedi bod ar y safle magu am o leiaf 20 diwrnod cyn cael ei osod yn y cyfleuster hwnnw;

(ch)bod unrhyw fochyn arall a osodir yn y cyfleuster ynysu ar y safle magu gyda'r un y daethpwyd ag ef i'r safle hwnnw yn cael ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl i'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle gyrraedd, neu am 20 diwrnod ar ôl ei ynysu gyda'r mochyn y daethpwyd ag ef i'r safle, pa un bynnag yw'r diweddaraf; a

(d)bod y sawl sy'n derbyn y mochyn magu yn llofnodi datganiad yn dweud y bwriedir defnyddio'r mochyn i fagu ar y safle hwnnw a'i fod yn ei anfon y datganiad at yr awdurdod lleol yn ddi-oed.

(2Symud mochyn (ac eithrio un a symudir o dan erthygl 8(3)(b) Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer magu, ar yr amod—

(a)y'i hynysir oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl y dyddiad y'i dychwelir, a

(b)bod meddiannydd y safle y dychwelodd y mochyn ohono ar ôl ei ddefnyddio at ddibenion magu wedi anfon y datganiad sy'n ofynnol ym mharagraff 3(d) uchod at yr awdurdod lleol.

Mochyn sy'n dychwelyd i sioe neu arddangosfa

4.  Mochyn sy'n dychwelyd o sioe neu addangosfa i'r safle y cludwyd ef ohono i'r sioe neu'r arddangosfa honno ar yr amod y caiff ei ynysu am 20 diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd i'r safle a gymeradwywyd i'r pwrpas hwn gan arolygydd milfeddygol.

Canolfannau ffrwythloni artiffisial

5.  Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.

6.  Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.

7.  Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod—

(a)eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 6 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd; a

(b)iddynt gael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall tra oeddent yn y ganolfan ffrwythloni artiffisial.

Anifeiliaid a fewnforir

8.—(1Anifail a fewnforir yn cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.

(2Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.

Symud o fewn grŵ p meddiannaeth unigol

9.  Symud anifail rhwng safleoedd mewn grŵp meddiannaeth unigol.

Cyfryngau cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill

10.  Symud anifail y deuir ag ef i'r safle mewn cyfrwng cludo sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod na ddadlwythir yr anifail yn y safle hwnnw.

Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol

11.  Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Mae'n darparu na chaiff gwartheg, ceirw, geifr, moch a defaid eu symud heb drwydded, ac yn darparu na chaiff yr anifeiliaid hyn (ac eithrio ceirw) eu symud o safle os symudwyd gwartheg, geifr neu ddefaid i'r safle hwnnw yn ystod y 6 diwrnod blaenorol, neu os symudwyd moch i'r safle yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer eithriadau i'r gofynion hyn (erthygl 3 ac Atodlenni 1 a 2).

Mae'n rheoli symud anifeiliaid i ladd-dy (erthygl 4) ac yn darparu ar gyfer cysylltu setiau o safleoedd â'i gilydd yn grwpiau meddiannaeth unigol (erthygl 5).

Mae'n gwneud darpariaethau ar gyfer trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau, ac yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno hysbysiadau sy'n golygu na all safle neu bobl a enwir weithredu o dan drwydded gyffredinol (erthygl 6 i 12).

Mae'n darparu ar gyfer diheintio cyfryngau cludo (erthygl 13).

Mae'n darparu ar gyfer newid meddiannaeth safle yr effeithir arno gan y Gorchymyn (erthygl 14).

Yr awdurdod lleol sy'n ei orfodi (erthygl 15).

Mae methu cydymffurfio â'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Bydd effaith y Gorchymyn hwn yr dod i ben ar 1 Awst 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Ministers” (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Dddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd “the Ministers” a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).

(2)

O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/129 (Cy.17).

(4)

O.S. 1983/1950 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2001/4029.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources