Search Legislation

Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enw, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Ebrill 2003.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr y “Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trwyddedu Sŵau 1981(1);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2002(2)).

Cymhwyso'r Ddeddf: Cymru

2.—(1Mae adran 22A o'r Ddeddf (a fewnosodir gan Reoliadau 2002) yn peidio â bod yn effeithiol fel bod y diwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan reoliadau 3 i 26 o Reoliadau 2002 ac sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys i Gymru.

(2Mae'r cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(3) at y Ddeddf i'w drin fel pe bai'n cyfeirio at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn.

Trwyddedau Cyfredol

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob sw yng Nghymru y mae trwydded mewn grym ar ei gyfer o dan y Ddeddf ar 22 Ebrill 2003 heblaw sŵau sy'n cau cyn 1 Hydref 2003.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau, cyn 1 Hydref 2003, fod pob trwydded a roddir ganddo o dan y Ddeddf yn cynnwys y fath amodau sydd, yn nhyb yr awdurdod, yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau bod y mesurau cadwraeth y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith yn y sw, a gall newid y drwydded at y diben hwnnw.

(3Mae adran 16(2), (3) a (4) i (6) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2) fel petai'r cyfeiriadau yn adran 16(2) a (6) at “subsection (1)” yn gyfeiriadau at y paragraff hwnnw.

(4Mae adran 18(1)(b) ac (c), (2), (3), (5) a (7) o'r Ddeddf yn gymwys ynghylch newid trwydded o dan baragraff (2).

(5Wrth benderfynu ynghylch pa amodau i'w gosod ar drwydded o dan baragraff (2) rhaid i awdurdod ystyried unrhyw safonau a bennir i Gymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9 o'r Ddeddf.

(6Ni chaiff newid trwydded o dan baragraff (2) ei drin fel newid sylweddol at ddibenion adran 16 o'r Ddeddf.

Darpariaeth drosiannol i sŵau heb drwyddedau

4.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i sw yng Nghymru y mae'n ofynnol iddo, oherwydd y diwygiadau a wneir i'r Ddeddf gan Reoliadau 2002 a chan y Rheoliadau hyn, gael ei drwyddedu o dan y Ddeddf ond nad oedd hi'n ofynnol iddo gael ei drwyddedu felly yn union cyn 22 Ebrill 2003.

(2Er gwaethaf unrhyw ddiwygiad o'r fath, caiff person a oedd, yn union cyn 22 Ebrill 2003, yn rhedeg sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar unrhyw dir neu mewn unrhyw adeiladau barhau i redeg y sw hwnnw ar y tir neu yn yr adeiladau hynny heb drwydded o dan y Ddeddf—

(a)yn ystod y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a

(b)os yn ystod y cyfnod hwnnw gwneir cais am drwydded, nes bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynglŷn â'r cais hwnnw, neu fod y cais yn cael ei dynnu yn ôl.

(3Nid yw adran 16C o'r Ddeddf yn gymwys i sw y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo tra caniateir i berson barhau i redeg y sw heb drwydded yn rhinwedd paragraff (2).

(4Os caiff y drwydded ei rhoi, caiff ei rhoi am gyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddir y drwydded arno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources