- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2004.
(3) Daw rheoliadau 2, 3, 7 a 8 i rym ar 6 Ebrill 2004.
(4) Yn y Rheoliadau onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(1);
ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2).
(5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir rheoliad 1 o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—
““Local Health Board” has the meaning assigned to it by section 16BA(3) of the Act;
“pension credit guarantee credit” is to be construed in accordance with sections 1 and 2 of the State Pension Credit Act 2002(4));
“severe disability element” means the severe disability element of working tax credit specified in section 11(6)(d) of the Tax Credits Act 2002(5);”.
(3) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder y paragraff canlynol—
“(2A) In the application of these Regulations in relation to Wales—
“Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “Local Health Board”.”.
3. Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol)—
(a)ym mharagraff (3)(1)(i)(bb), ar ôl “disability element”, mewnosoder “or severe disability element”.
(b)ym mharagraff (3)(1)(ii) yn lle “£14,200” rhodder “£14,600”.
4. Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£45.70” rhodder “£46.80”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “£11.80” rhodder “£12.10”.
5.—(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb — cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.
(1) | (2) |
---|---|
Swm blaenorol | Swm newydd |
£ 31.30 | £ 32.10 |
£ 47.60 | £ 48.80 |
£ 64.80 | £ 71.30 |
£ 146.30 | £ 161.00 |
£ 54.00 | £ 55.40 |
£ 68.70 | £ 70.40 |
£ 83.00 | £ 91.30 |
£ 160.90 | £ 177.00 |
£ 160.90 | £ 164.90 |
£ 45.70 | £ 46.80 |
(2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg unigol), yn lle “£10.10” rhodder “£10.40”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£12.20” rhodder “£12.50”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens arlliw golwg unigol), yn lle “£3.40” rhodder “£3.50”;
(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arlliw arall), yn lle “£3.90” rhodder “£4.00”;
(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectol fach)—
(i)yn lle “£51.50” rhodder “£52.80”,
(ii)yn lle “£45.70” rhodder “£46.80”, a
(iii)yn lle “£24.80” rhodder “£25.40”;
(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau a weithgynhyrchwyd yn arbennig) yn lle “£51.50” rhodder “£52.80”;
(e)ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lensys golwg unigol), yn lle “£11.00” rhodder “£12.10”;
(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad am declyn cymhleth — lensys eraill), yn lle “£27.70” rhodder “£30.50”.
(3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
6. Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
7.—(1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)yn y diffiniad o “notice of entitlement”, ar ôl “under regulation 7” mewnosoder “or 7A”;
(b)yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—
““Local Health Board” has the meaning assigned to it by section 16BA(6) of the Act;
“pension credit guarantee credit” is to be construed in accordance with sections 1 and 2 of the State Pension Credit Act 2002(7);
“severe disability element” means the severe disability element of working tax credit specified in section 11(6)(d) of the Tax Credits Act 2002(8);”.
(3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol—
“(1A) In the application of these Regulations in relation to Wales—
“Health Authority” shall, in each place where these words occur, have effect as if there were substituted the words “Local Health Board”.”.
8.—(1) Diwygir Rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion llygaid — cymhwyster) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (2) —
(a)yn lle is-baragraff (l) rhodder yr is-baragraff canlynol—
“(l)he is a member of a family—
(i)one member of which is receiving —
(aa)working tax credit and child tax credit,
(bb)working tax credit which includes a disability element or a severe disability element, or
(cc)child tax credit, but is not eligible to receive working tax credit, and
(ii)where the gross annual income of the person or persons to whom an award of a tax credit is made under section 14 of the Tax Credits Act 2002 is determined at the time of the award not to exceed £14,600; or”;
(b)ar ôl is-baragraff (l), mewnosoder yr is-baragraffau canlynol—
“(m)he is a person in respect of whom there is a current notice of entitlement;
(n)he is a member of a family one member of which is receiving pension credit guarantee credit.”.
(3) Ym mharagraff (3), yn is-baragraff (a), yn lle “sub-paragraphs (b) and (f)” rhodder “sub-paragraphs (b), (f) and (n)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Mawrth 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: