Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1489 (Cy.154) (C.59)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

8 Mehefin 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”)(1):

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—

(a)adran 18 o'r Ddeddf (Wardeniaid);

(b)adran 20 o'r Ddeddf (Codau ymddygiad a gwybodaeth arall); ac

(c)adran 46(1)(a) o'r Ddeddf, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â hi, Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf (diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”)(2))

yw 21 Mehefin 2004.

Arbed

3.  Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr adran honno o Ddeddf 1925 sydd mewn grym yn union o flaen dyddiad dod i rym y Gorchymyn hwn i barhau i fod yn effeithiol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mehefin 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 21 Mehefin 2004, adrannau 18, 20 a 46(1)(a) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, Ran I o Atodlen 16 iddi.

Mae adran 18 o'r Ddeddf yn galluogi awdurdodau mynediad i benodi wardeniaid mewn perthynas â thir mynediad er mwyn rhoi cyngor i ddefnyddwyr hawl mynediad a pherchnogion tir ac er mwyn sicrhau cydymffurfedd ag is-ddeddfau, â'r cyfyngiadau a nodir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf ac ag unrhyw gyfyngiad neu waharddiad a osodir o dan Bennod II o'r Ddeddf.

Mae adran 20 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”) i gyhoeddi cod ymddygiad i roi arweiniad i ddefnyddwyr yr hawl mynediad a phersonau sydd â buddiant yn y tir mynediad (megis ffermwyr, perchenogion y tir a chominwyr). Mae'r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i CCGC gymryd y camau hynny y mae o'r farn eu bod yn hwylus er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybod am rychwant, a modd, y mynediad i'r tir mynediad a bod y cyhoedd a'r personau â buddiant yn y tir mynediad yn cael gwybod am eu hawliau a'u rhwymedigaethau o dan yr hawl mynediad statudol.

Mae adran 46 o'r Ddeddf a Rhan I o Atodlen 16 iddi yn gweithredu diddymiadau yn dilyn darpariaethau Rhan I o'r Ddeddf. Mae adran 46(1)(a) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer diddymu adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (sy'n caniatáu i berchenogion tir comin i wneud gweithred gyflwyno fel y daw'r comin yn ddarostyngedig i hawl mynediad ar gyfer awyr iach ac ar gyfer ymarfer y darperir ar ei gyfer yn adran 193(1) o Ddeddf 1925). Nid oes angen y pŵer hwn bellach am fod y pŵ er i gyflwyno mynediad dros dir sydd yn adran 16 o'r Ddeddf yn weithredol. Cychwynnwyd adran 16 o'r Ddeddf ar 30 Ionawr 2001 gan adran 103(2) o'r Ddeddf ac mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/135) (Cy.9) yn darparu'r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno tir.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaeth arbed i alluogi gweithredoedd sydd eisoes yn bodoli ac a wnaed o dan Ddeddf 1925 i barhau mewn grym.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran(nau) neu Atodlen(ni)Dyddiad cychwynRhif O.S.
46(1)(b)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
60 a 611 Tachwedd 2002O.S. 2002/2615 (Cy.253) (C.82)
631 Ebrill 2004O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)
681 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(1) a (3)1 Ebrill 2004O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2) a (4)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
721 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac yn unol â hynny, Atodlenni 13, 14 a 15)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
961 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
9930 Ionawr 2001O.S. 2001/203 (Cy.9)(C.10)
102 (yn rhannol)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 61 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5)1 Ebrill 2004O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraffau 18(a) a 19 (yn rhannol)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I a II (yn rhannol)1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan V a VI .1 Mai 2001O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources