Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  O ran y Rheoliadau hyn —

(a)eu henw yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004;

(b)deuant i rym ar 1 Tachwedd 2004;

(c)maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

dehonglir “awdurdod cyfrifol” yn unol â “responsible authority” yn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu (yn ôl y digwydd) adran 17A(2) o Ddeddf 1989(1);

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(2);

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban)1984(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(4));

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(5);

ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;

mae i “gwasanaeth perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant service” gan reoliad 5(2);

ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu (yn ôl y digwydd) reoliad 4;

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Lloegr) 2003(6)); a

dehonglir “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yn unol â rheoliad 5.

(2Yn y rheoliadau hyn—

(a)mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu'r Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n;

(c)mae cyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau — gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr

3.—(1At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person sy'n dod fewn adran 57(2) o'r Ddeddf honno(7) o ddisgrifiad rhagnodedig—

(a)os yw'n berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hun, neu gyda'r cymorth hwnnw a all fod ar gael iddo; a

(b)os daw o fewn disgrifiad ym mharagraff (2); oni bai

(c)ei fod yn berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

(2Dyma'r disgrifiadau —

(a)person y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (8) yn gymwys iddo;

(b)person (nad yw'n berson sy'n dod o fewn is-baragraff (a)) y cyfeirir ato yn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001(personau y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu mewn perthynas â hwy bod eu anghenion yn galw am ddarparu gwasanaeth gofal cymunedol penodol) sydd dros 65 oed;

(c)person y mae'r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu mewn perthynas ag ef o dan adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau i ofalwyr) i ddarparu gwasanaeth penodol o dan y Ddeddf honno ar ei gyfer.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau — gwasanaethau plant

4.  At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person sy'n dod fewn adran 17A(2) o'r Ddeddf honno(9) o ddisgrifiad rhagnodedig —

(a)os yw'n berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hun, neu gyda'r cymorth hwnnw a all fod ar gael iddo; oni bai

(b)ei fod yn berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Dyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol

5.—(1Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol wneud y taliadau hynny (“taliadau uniongyrchol”) y penderfynir arnynt yn unol â rheoliad 6 mewn perthynas â'r canlynol —

(a)person rhagnodedig o dan reoliad 3 sy'n dod o fewn paragraff (2)(a) neu (c) o'r rheoliad hwnnw;

(b)ar 1 Mawrth 2005 ac ymlaen, person rhagnodedig o dan reoliad 3 sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) o'r rheoliad hwnnw; a

(c)person rhagnodedig o dan reoliad 4;

o ran sicrhau darparu gwasanaeth perthnasol.

(2Yn y rheoliadau hyn ystyr gwasanaeth perthnasol yw —

(a)gwasanaeth gofal cymunedol yn ystyr adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(10); neu

(b)gwasanaeth o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(11); neu

(c)gwasanaeth y ceir ei ddarparu wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 1989 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill).

(3Dyma'r amodau —

(a)bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni y gellir bodloni anghenion y person am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau ei ddarparu drwy daliad uniongyrchol; a

(b)yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (2)(c), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni y bydd lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth mewn perthynas ag ef yn cael ei ddiogelu neu ei hybu drwy sicrhau ei ddarpariaeth drwy daliad uniongyrchol.

Swm a thaliad taliadau uniongyrchol

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), gwneir taliad uniongyrchol yn daliad gros(12) oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y dylid ei wneud yn daliad net(13).

(2At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu, ar ôl ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os o gwbl) y mae'n rhesymol ymarferol iddo'u talu tuag at sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol (boed drwy ad-daliad fel y crybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu drwy gyfraniad fel y crybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno)(14).

(3Os yw'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, heblaw am y rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal) —

(a)rhaid gwneud y taliad ar y raddfa a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

(b)ni fydd is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

(4Os gwneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989(15)) —

(a)rhaid gwneud y taliad ar y raddfa a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001(16); a

(b)ni fydd is-adran (4)(b) o'r adran honno(17)) yn gymwys.

(5Ceir talu taliad uniongyrchol —

(a)i'r person rhagnodedig; neu

(b)i berson a enwebwyd ganddo i dderbyn y taliad ar ei ran.

Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol

7.—(1Bydd taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i amod na sicrheir y gwasanaeth a wneir mewn perthynas ag ef gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni bai —

(a)yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(a) neu (b), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni bod sicrhau'r gwasanaeth oddi wrth berson o'r fath yn angenrheidiol i ddiwallu angen y person rhagnodedig am y gwasanaeth yn foddhaol;

(b)yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(c), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni bod sicrhau gwasanaeth oddi wrth berson o'r fath yn angenrheidiol i hybu lles y plentyn mewn angen.

(2Dyma'r personau —

(a)priod y person rhagnodedig;

(b)person sy'n byw gyda'r person rhagnodedig fel ei briod;

(c)person sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig sy'n sy'n dwyn y berthynas ganlynol iddo —

(i)rhiant neu riant-yng nghyfraith;

(ii)mab neu ferch;

(iii)mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith;

(iv)llysfab neu lysferch;

(v)brawd neu chwaer;

(vi)modryb neu ewythr; neu

(vii)tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

(ch)priod unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod i'r person hwnnw.

(3Nid yw paragraff (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran 17A(2)(c) o Ddeddf 1989(18).

(4Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau eraill (os oes rhai) fel y gwêl orau.

(5Gall yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), yn benodol, ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r talai —

(a)beidio â sicrhau'r gwasanaeth perthnasol oddi wrth berson penodol;

(b)roi'r wybodaeth honno i'r awdurdod cyfrifol y maent o'r farn ei bod yn angenrheidiol mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol.

Mwyafswm cyfnodau llety preswyl y gellir eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ar gyfer darparu llety preswyl iddo am gyfnod sy'n fwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

(2Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), mewn unrhyw gyfnod o 12 mis—

(a)ychwanegir cyfnod dechreuol mewn llety preswyl am lai na 4 wythnos (cyfnod A) at gyfnod dilynol (cyfnod B) yn unig os bydd cyfnod B yn dechrau o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd cyfnod A; a

(b)cynhwysir unrhyw gyfnod mewn llety preswyl ar ôl cyfnod B wrth gyfrifo.

(3Ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 4 ar gyfer darparu llety preswyl —

(a)am unrhyw gyfnod sengl sy'n fwy na 4 wythnos; a

(b)am unrhyw gyfnod sy'n fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Disodli swyddogaethau a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol

9.—(1Ac eithrio'r hyn a ddarperir gan baragraff (2), ni fydd y ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau o ran darparu'r gwasanaeth, o dan y deddfiad perthnasol, y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.

(2Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth o ran y darparu'r gwasanaeth o dan y deddfiad perthnasol y mae'r taliad yn ymwneud ag ef cyhyd â'i fod yn fodlon fod yr angen sy'n galw am ddarparu'r gwasanaeth yn dod o drefniadau'r talai ei hun.

(3Ym mharagraff (1) a (2), mae cyfeiriadau at ddeddfiad perthnasol, mewn perthynas â darparu gwasanaeth, yn gyfeiriad at ddeddfiad y byddai'r gwasanaeth yn cael ei darparu odano heblaw am y Rheoliadau hyn.

Ad-dalu taliad uniongyrchol

10.—(1Os bydd awdurdod cyfrifol sydd wedi gwneud taliad uniongyrchol wedi'i fodloni, mewn perthynas â'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad —

(a)na ddefnyddiwyd ef i sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol y mae'n ymwneud ag ef; neu

(b)na chydymffurfiwyd ag amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7;

gall ei gwneud yn ofynnol i'r taliad neu, yn ôl y digwydd, ran o'r taliad gael ei ad-dalu.

(2Gellir adennill unrhyw swm sydd i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod.

Terfynu taliadau uniongyrchol

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson —

(a)os yw'n peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu

(b)os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 5(3) yn peidio â chael ei fodloni.

(2Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson rhagnodedig os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001(19).

(3Os bydd y person y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn perthynas ag ef yn peidio â bod yn alluog i reoli taliadau o'r fath, caiff awdurdod cyfrifol serch hynny barhau i wneud taliadau o'r fath —

(a)os yw'n rhesymol fodlon y bydd analluedd y person yn un dros dro;

(b)os oes person arall yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person analluog; a

(c)os yw'r person y gwnaed trefniadau gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cytuno i dderbyn tâl am y gwasanaethau oddi wrth y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).

Diwygiadau canlyniadol

12.  Bydd y diwygiadau a wnaed gan reoliad 11 o Reoliadau 2003 ac a gynhywsir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys yng Nghymru.

Dirymu

13.—(1Dirymir drwy hyn Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997(20), i'r graddau nas dirymwyd hwy gan Reoliadau 2003, a Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) Diwygio (Cymru) 2000(21).

(2Dirymir drwy hyn reoliadau 3 a 4 o Reoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001(22).

(3Dirymir drwy hyn Reoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001(23).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(24).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Gorffennaf 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources