Search Legislation

Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN IRHAGARWEINIOL

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004 a daw i rym ar 19 Tachwedd 2004.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “awdurdod stryd”, mewn perthynas â stryd, yr un ystyr ag sydd i “street authority” yn Rhan III o'r Ddeddf Gwaith Stryd;

  • ystyr “y ceblau cludo i'r môr” (“the marine feeder cables”) yw'r ceblau a geir yng Ngwaith Rhif 2;

  • ystyr “y ceblau rhyngdyrbinau” (“the inter-turbine cables”) yw'r ceblau a ddisgrifir ym mharagraff 1(b) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;

  • mae i “cerbytffordd”, “llwybr troed”, “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr ag sydd i “carriageway”, “footpath”, “highway” a “highway authority” yn Neddf Priffyrdd 1980(1);

  • ystyr “cwch” (“vessel”) yw llong, cwch, rafft, neu fad o ba ddisgrifiad bynnag, ac mae'n cynnwys unrhyw fad nad yw'n dadleoli, awyrennau môr ac unrhyw beth arall a adeiladir neu a addasir er mwyn arnofio ar ddŵr neu i'w roi dan ddŵr (boed hynny'n barhaol neu dros dro), a hofranfad neu gerbyd amffibiaidd arall;

  • ystyr “cyfeirbwynt” (“reference point”) yw cyfeirbwynt Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans;

  • ystyr “y cyfeirlyfr” (“the book of reference”) yw'r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;

  • mae “cynnal a chadw” (“maintain”, “maintenance”) yn cynnwys archwilio, cynnal a chadw, trwsio, addasu, newid, symud, ailadeiladu ac amnewid;

  • ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(2);

  • ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(3);

  • ystyr “y Ddeddf Gwaith Stryd” (“the Street Works Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(4));

  • mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys unrhyw orchymyn, is-ddeddf, rheol, rheoliad, cynllun neu offeryn arall sydd ag effaith yn rhinwedd deddfiad;

  • ystyr “gwaith llanw'r môr” (“tidal work”) yw rhywfaint o unrhyw waith awdurdodedig sydd ar, o dan neu dros ddyfroedd y llanw;

  • ystyr “y gweithfeydd a restrwyd” (“the scheduled works”) yw'r gweithfeydd a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ran ohonynt;

  • ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” (“authorised works”) yw'r gweithfeydd a restrwyd, y gweithfeydd a'r cyfleusterau a ddisgrifir yn erthygl 3(4), a'r mast presennol ac eithrio yn erthyglau 8 i 17;

  • ystyr “lefel y dŵr uchel” (“the level of high water”) yw lefel y llanwau mawr uchel cymedrig;

  • mae i “llinell drydan” yr un ystyr ag sydd i “electric line” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(5);

  • ystyr “y mast presennol” (“the existing mast”) yw'r mast anemometreg presennol sydd ar wely Bae Abertawe ac sy'n cydffinio â'r arfordir wrth Bort Talbot ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac a leolir wrth gyfeirbwynt 271709Dn, 176723G;

  • ystyr “y peilon trydan presennol” (“the existing electricity pylon”) yw'r peilon trydan wrth gyfeirbwynt 278906Dn, 185778G ac mae'n cynnwys unrhyw gyfarpar sy'n atodol i'r peilon hwnnw;

  • ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â thir, yw person, ac eithrio morgeisai nad yw'n meddu ar dir, sydd am y tro â'r hawl i waredu ffi syml y tir (boed hynny mewn meddiant neu rifersiwn) ac y mae'n cynnwys person sy'n dal y tir, neu sydd â'r hawl i gael y rhenti a'r elw o'r tir, pan fo'r tir hwnnw o dan les neu denantiaeth sydd â mwy na 3 blynedd ar ôl i redeg;

  • ystyr “planiau'r gweithfeydd” (“the works plans”) yw'r planiau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel planiau'r gweithfeydd at ddibenion y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “planiau'r tir” (“the land plans”) yw'r planiau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y planiau tir at ddibenion y Gorchymyn hwn; ac mae cyfeiriadau at dir a ddangosir yn y planiau hynny yn gyfeiriadau at dir a ddangosir felly yn unol â rheol 12(5);

  • ystyr “y Rheolau Ceisiadau” (“the Applications Rules”) yw Rheolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Cyflwyno Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2000(6); ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at reolau â Rhif yn gyfeiriadau at y rheolau sy'n dwyn y Rhif au hynny yn y Rheolau Ceisiadau;

  • ystyr “safle'r fferm wynt” (“the wind farm site”) yw'r ardal a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd o fewn terfynau'r gwyro ar gyfer y ceblau rhyngdyrbinau;

  • mae “stryd” (“street”) yn cynnwys rhan o stryd;

  • ystyr “terfynau'r gwyro” (“the limits of deviation”), mewn perthynas â gweithfeydd, yw'r terfynau gwyro ar gyfer y gweithfeydd hynny a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd;

  • ystyr “y trawsluniau (“the sections”) yw'r trawsluniau a ardystiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel y trawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;

  • ystyr “y Tribiwnlys” (“the Tribunal”) yw'r Tribiwnlys Tiroedd;

  • ystyr “Trinity House” yw “the Corporation of the Trinity House of Deptford Strond”;

  • ystyr “tyrbin gwynt” (“wind turbine”) yw cynhyrchydd tyrbin gwynt fel a ddisgrifir ym mharagraff 1(a) o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn; ac

  • ystyr “yr ymgymerwr” (“the undertaker”) yw Scarweather Sands Limited neu unrhyw berson y trosglwyddwyd y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn iddo drwy gytundeb yn unol ag erthygl 37;

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir neu arno, neu yn y gofod awyr sydd uwchben ei arwynebedd.

(3Dehonglir pob cyfeiriad, pellter, hyd a phwyntiau a geir yn unrhyw ddisgrifiad o weithfeydd, pwerau neu diroedd fel pe bai'r geiriau “fwy neu lai” wedi'u mewnosod ar ôl pob cyfeiriad, pellter, hyd a phwynt o'r fath.

(4Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at waith a nodir gan rif y gwaith fel cyfeiriad at y gwaith sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac a awdurdodwyd gan y Gorchymyn hwn.

(5Dehonglir cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at bwyntiau a nodir gan lythrennau fel cyfeiriadau at y pwyntiau sy'n dwyn y llythrennau hynny ar blaniau'r gweithfeydd.

RHAN IIGWEITHFEYDD

Prif bwerau

Y pŵer i adeiladu a chynnal a chadw gweithfeydd

3.—(1Caiff yr ymgymerwr adeiladu a chynnal a chadw y gweithfeydd a restrwyd.

(2Caiff yr ymgymerwr gadw a chynnal y mast presennol.

(3Yn ddarostyngedig i erthygl 4, rhaid i'r gweithfeydd a restrwyd gael eu hadeiladu a'u cynnal a'u cadw yn y llinellau neu'r safleoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd ac yn unol â'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau.

(4Caiff yr ymgymerwr, o fewn terfynau gwyro'r gweithfeydd a restrwyd, wneud, darparu a chynnal a chadw y cyfryw rai o'r gweithfeydd a'r adnoddau a ganlyn a all fod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adeiladu neu gynnal a chadw'r gweithfeydd a restrwyd, mewn cysylltiad â hwy neu o ganlyniad iddynt, sef—

(a)glanfeydd neu angorfeydd neu unrhyw ddull arall o gadw cychod, boed yn rhai parhaol neu'n rhai dros dro, wrth adeiladu neu wrth gynnal a chadw'r gweithfeydd a restrwyd;

(b)bwiau, goleuadau, clustogau ac unrhyw rybudd mordwyol arall neu weithfeydd i osgoi gwrthdrawiadau â llongau;

(c)gweithfeydd i newid safleoedd cyfarpar, gan gynnwys prif bibellau, carthffosydd, draeniau a cheblau;

(ch)gweithfeydd i newid llwybr neu ymyrryd fel arall ag afonydd, nentydd neu gyrsiau dŵr anfordwyadwy;

(d)tirweddu a gweithfeydd eraill i leddfu unrhyw effeithiau niweidiol gwaith adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu'r gweithfeydd awdurdodedig;

(dd)gweithfeydd er budd neu er mwyn diogelu tir yr effeithir arno gan y gweithfeydd awdurdodedig;

(e)un neu fwy o fastiau anemometreg ychwanegol;

(f)y gweithfeydd, cyfarpar a'r peiriannau eraill hynny o ba natur bynnag a allant fod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

Y pŵer i wyro

4.—(1Wrth adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw weithfeydd a restrwyd, caiff yr ymgymerwr wyro—

(a)yn llorweddol o'r llinellau neu'r safleoedd a ddangosir ar blaniau'r gweithfeydd o fewn terfynau'r gwyro ac, yn benodol, caiff y ceblau rhyngdyrbinau gysylltu, o fewn terfynau'r gwyro, ag unrhyw un o'r tyrbinau gwynt; a

(b)yn fertigol o'r lefelau a ddangosir ar y trawsluniau mewn perthynas â—

(i)uchder tyrrau'r tyrbinau gwynt i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 24 metr tuag i lawr (yn ddarostyngedig i baragraff (2));

(ii)dyfnder seiliau'r tyrbinau gwynt yng ngwely'r môr i unrhyw raddau tuag i fyny ac i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 20 metr tuag i lawr;

(iii)y ceblau a geir yn Ngwaith Rhif 1 a 2 i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 1 metr tuag i fyny nac i lawr (yn ddarostyngedig i baragraff (3));

(iv)Gwaith Rhif 2A, i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 1 metr tuag i fyny nac i lawr;

(v)Gwaith Rhif 3 i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 2 metr tuag i fyny nac i lawr;

(vi)unrhyw linell drydan uwchben a geir yng Ngwaith Rhif 4 i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 10 metr tuag i fyny neu 3 metr tuag i lawr;

(vii)unrhyw linell drydan danddaearol a geir yng Ngwaith Rhif 4 i unrhyw raddau heb fod yn fwy na 5 metr tuag i fyny neu 12 metr tuag i lawr; ac

(viii)Gwaith Rhif 5 i unrhyw raddau heb fod yn fwy nag 1 metr tuag i fyny na thuag i lawr.

(2Rhaid bod pellter o 25 metr o leiaf rhwng pwynt isaf llafnau'r tyrbinau gwynt sy'n cylchdroi a lefel y dŵr uchel.

(3Yn ddarostyngedig i amrywiad felly y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno nad yw'n bwysig, rhaid gosod y ceblau a geir yng Ngweithfeydd Rhif 1 a 2 i ddyfnder heb fod yn llai na 1.5 metr yn is na lefel gwely'r môr.

Strydoedd

Y pŵer i wneud gwaith stryd

5.—(1At ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr fynd ar gymaint o unrhyw stryd a bennir yng ngholofnau (1) a'r (2) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ag sydd o fewn terfynau'r gwyro, a chaiff—

(a)rhoi cyfarpar yn y stryd honno;

(b)cynnal a chadw cyfarpar yn y stryd honno neu newid safle'r cyfarpar hwnnw;

(c)gwella wyneb Heol Caer Bont rhwng pwyntiau A ac F a ddangosir ar blan y gweithfeydd at ddibenion darparu mynedfa er mwyn adeiladu a chynnal a chadw'r gweithfeydd awdurdodedig; ac

(ch)gwneud unrhyw waith sydd ei angen ar y gweithfeydd awdurdodedig neu sy'n gysylltiedig â hwy, neu sydd ei angen ar unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) (yn benodol, gan gynnwys torri neu agor y stryd, neu unrhyw garthffos, draen neu dwnel oddi tani, neu durio neu dyllu o dan y stryd) neu sy'n gysylltiedig â hwy.

(2Yn yr erthygl hon, mae i “cyfarpar” yr un ystyr ag sydd i “apparatus” yn Rhan III o'r Ddeddf Gwaith Stryd.

Cau strydoedd dros dro

6.—(1Yn ystod ac at ddibenion gweithredu'r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr gau dros dro y strydoedd a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau a bennir drwy gyfeirio at y llythrennau yng ngholofn (3) o'r Atodlen honno, a chaiff am unrhyw gyfnod rhesymol—

(a)gwyro'r traffig o'r stryd; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2), gwahardd pob person rhag pasio ar hyd y stryd.

(2Ar bob adeg, rhaid i'r ymgymerwr roi mynediad rhesymol i gerddwyr sy'n mynd i neu'n dod o fangreoedd sy'n ffinio â stryd yr effeithir arni gan arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, os nad oes mynediad i'r mangreoedd hynny fel arall.

(3Rhaid i'r ymgymerwr beidio ag arfer pwerau'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw stryd a bennir fel a grybwyllir ym mharagraff (1) heb ymgynghori â'r awdurdod stryd yn gyntaf.

(4Mae darpariaethau'r Ddeddf Gwaith Stryd a grybwyllir ym mharagraff (5) ynghyd ag unrhyw reoliadau a wneir, neu god ymarfer a gyhoeddir neu a gymeradwyir, o dan y darpariaethau hynny yn gymwys (gyda'r addasiadau angenrheidiol) mewn perthynas â chau, addasu neu wyro stryd gan yr ymgymerwr o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon lle nad oes gwaith stryd yn mynd rhagddo yn y stryd honno fel y byddent yn gymwys pe bai'r cau, yr addasu neu'r gwyro oherwydd gwaith stryd a wneir yn y stryd honno gan yr ymgymerwr.

(5Dyma ddarpariaethau'r Ddeddf Gwaith Stryd y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)—

(a)adran 54 (hysbysiad ymlaen llaw o weithfeydd penodol);

(b)adran 55 (hysbysiad o ddyddiad dechrau'r gweithfeydd);

(c)adran 59 (dyletswydd gyffredinol awdurdod stryd i gydlynu gweithfeydd);

(ch)adran 60 (dyletswydd gyffredinol ymgymerwyr i gydweithredu);

(d)adran 69 (gweithfeydd sy'n debygol o effeithio ar gyfarpar arall yn y stryd);

(dd)adran 76 (atebolrwydd am y gost o reoli'r traffig dros dro);

(e)adran 77 (atebolrwydd am y gost o ddefnyddio llwybr amgen); ac

(f)yr holl ddarpariaethau eraill sy'n gymwys at ddibenion y darpariaethau a grybwyllir uchod.

(6Bydd unrhyw berson sy'n gweld colled oherwydd atal dros dro hawl tramwy breifat o dan yr erthygl hon â'r hawl i gael iawndal a ddyfernir, os cyfyd anghydfod, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

Pwerau atodol

Y pŵer i arolygu ac archwilio tir

7.—(1At ddibenion y Gorchymyn hwn, caiff yr ymgymerwr—

(a)arolygu neu archwilio unrhyw dir sydd o fewn terfynau'r gwyro ac a ddangosir ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;

(b)gwneud tyllau arbrofol yn y safleoedd hynny ar y tir y gwêl yr ymgymerwr yn dda er mwyn archwilio i natur yr haenen arwynebol a'r isbridd a thynnu samplau o'r pridd, a hynny heb ragfarn i natur gyffredinol is-baragraff (a);

(c)rhoi ar dir, gadael ar dir a thynnu oddi ar dir y cyfarpar sydd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac archwilio'r tir a gwneud tyllau arbrofol; ac

(ch)mynd ar y tir at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (c).

(2Ni chaniateir mynediad i unrhyw dir, na rhoi na gadael cyfarpar ar y tir na'i dynnu oddi yno o dan baragraff (1), oni roddwyd o leiaf 7 niwrnod o hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd y tir.

(3O ran unrhyw berson sy'n mynd ar dir ar ran yr ymgymerwr o dan yr erthygl hon—

(a)cyn neu ar ôl iddo fynd ar y tir, rhaid iddo gynhyrchu tystiolaeth ysgrifenedig o'i awdurdod i wneud hynny, os gofynnir am hynny; a

(b)caiff ddefnyddio'r cerbydau a'r cyfarpar hynny sy'n angenrheidiol i gynnal yr arolwg neu'r archwiliad, neu i wneud y tyllau arbrofol.

(4Nid yw'r erthygl hon yn caniatáu gwneud unrhyw dyllau arbrofol mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod stryd, ond ni chaniateir gwrthod rhoi cydsyniad os yw'n afresymol gwneud hynny.

(5Rhaid i'r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir am unrhyw ddifrod a achosir drwy arfer y pwerau a geir yn yr erthygl hon; ac, os cyfyd anghydfod, rhaid dyfarnu ar yr iawndal yn unol â Rhan I o Ddeddf 1961.

Diogelu mordwyo a thraffig awyr, a rheoli sŵn

Gweithfeydd llanw'r môr na ddylid eu gweithredu heb gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol

8.—(1Ni chaniateir adeiladu nac addasu gweithfeydd llanw'r môr, ac eithrio yn unol â chynlluniau a trawsluniau a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, a hynny cyn i'r gweithfeydd ddechrau.

(2Os caiff gweithfeydd llanw'r môr eu hadeiladu neu eu haddasu yn groes i'r erthygl hon neu yn groes i unrhyw amod neu gyfyngiad a osodir gan yr erthygl hon—

(a)caiff yr Ysgrifennydd Gwladol hysbysu'r ymgymerwr yn ysgrifenedig ei fod yn ofynnol iddo dynnu gweithfeydd llanw'r môr neu unrhyw ran ohonynt oddi ar y safle, a hynny ar draul yr ymgymerwr, gan adfer y safle i'w gyflwr gwreiddiol; a

(b)os gwêl yr Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn angenrheidiol iddo wneud hynny ar frys, caiff dynnu gweithfeydd llanw'r môr neu unrhyw ran ohonynt oddi ar y safle, gan adfer y safle i'w gyflwr gwreiddiol;

a chaniateir adennill unrhyw wariant a dynnir gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

Darparu yn erbyn peryglon i fordwyo

9.  Os digwydd niwed, difrod neu ddadfeilio i weithfeydd llanw'r môr, neu unrhyw ran ohonynt, rhaid i'r ymgymerwr hysbysu Trinity House ohono cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a gosod y bwiau hynny, dangos y goleuadau hynny a chymryd y camau eraill hynny er mwyn osgoi perygl i fordwyo y caiff Trinity House eu cyfarwyddo o bryd i'w gilydd.

Diddymu gweithfeydd sydd wedi'u gadael neu sydd wedi dadfeilio

10.—(1Pan fydd gweithfeydd llanw'r môr wedi'u gadael, neu wedi'u gadael i ddadfeilio, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol hysbysu'r ymgymerwr yn ysgrifenedig ei fod yn ofynnol un ai iddo drwsio ac adfer y gweithfeydd neu unrhyw ran ohonynt, neu iddo dynnu'r gweithfeydd oddi yno ac adfer y safle i'w gyflwr blaenorol, a hynny ar ei draul ei hunan ac i'r graddau ac o fewn y terfynau hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu pennu yn yr hysbysiad.

(2Os bydd gweithfeydd sydd yn rhannol yn weithfeydd llanw'r môr ac yn rhannol yn weithfeydd ar dir neu dros dir uwchben lefel y dŵr uchel wedi'u gadael, neu wedi'u gadael i ddadfeilio, a bod rhan honno o'r gweithfeydd sydd ar y tir neu dros dir yn y fath gyflwr fel ei bod yn amharu, neu'n achosi pryder rhesymol y gallai amharu ar yr hawl i fordwyo neu ar unrhyw hawliau cyhoeddus eraill o ran y blaendraeth, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gynnwys y rhan honno o'r gweithfeydd, neu unrhyw ran ohoni, mewn unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl hon.

(3Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddadgomisiynu'r gweithfeydd awdurdodedig yn unol â phlan dadgomisiynu a gytunwyd gyda Chomisiynwyr Ystad y Goron neu a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan unrhyw amod a osodwyd mewn trwydded a roddwyd o dan adran 5 o Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985(7).

Arolygu gweithfeydd llanw'r môr

11.—(1Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, ar unrhyw adeg y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei weld yn hwylus i wneud hynny, orchymyn cynnal arolwg ac archwiliad o weithfeydd llanw'r môr neu o'r safle arfaethedig ar gyfer adeiladu'r gweithfeydd; a chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol adennill unrhyw wariant a dynnir ganddo wrth gynnal yr arolwg a'r archwiliad hwnnw oddi wrth yr ymgymerwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni ddylid gorchymyn cynnal arolygiadau felly yn amlach nag unwaith y flwyddyn; a chyn gorchymyn cynnal arolwg o'r fath, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol—

(a)ymgynghori â'r ymgymerwr er mwyn cadarnhau pa wybodaeth arolygu berthnasol sydd eisoes ar gael; a

(b)rhoi'r cyfle i'r ymgymerwr gynnal yr arolwg ei hunan.

(3Ni fydd paragraff (2) yn gymwys mewn argyfwng.

Goleuadau parhaol, cymhorthion diogelwch wrth fordwyo a lliwiau

12.—(1Ar ôl i weithfeydd llanw'r môr gael eu cwblhau, rhaid i'r ymgymerwr arddangos y goleuadau hynny, os cyfarwyddir felly, bob nos, o'r machlud hyd y wawr, a rhaid iddo gymryd y camau eraill hynny i osgoi perygl i fordwyo y caiff Trinity House eu cyfarwyddo o bryd i'w gilydd.

(2Bob nos, o'r machlud hyd y wawr, rhaid i'r ymgymerwr arddangos goleuadau i osgoi perygl i awyrennau, a'r rheini o'r un siâp, lliw a chymeriad ac a gyfarwyddir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

(3Ac eithrio pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo fel arall, rhaid i'r ymgymerwr sicrhau bod pob nasél a llafn, a faint bynnag o unrhyw dyrbin gwynt sydd uwchlaw'r lefel y mae Trinity House yn cyfarwyddo ei baentio am resymau diogelwch wrth fordwyo, wedi'u paentio'n llwyd golau.

Goleuadau ar weithfeydd llanw'r môr yn ystod gwaith adeiladu

13.  Rhaid i'r ymgymerwr arddangos y goleuadau hynny, os cyfarwyddir felly, a chymryd y camau eraill hynny er mwyn osgoi perygl wrth fordwyo y caiff Trinity House eu cyfarwyddo o bryd i'w gilydd, a gwneud hynny yn agos at neu yng ngweithfeydd llanw'r môr, bob nos o'r machlud hyd y wawr, yn ystod yr holl gyfnod o adeiladu, addasu, ehangu, ailosod, ailddodi, ailadeiladu neu estyn y gweithfeydd.

System rheoli diogelwch weithredol

14.—(1Rhaid gweithredu tyrbinau gwynt yn unol â system rheoli diogelwch sy'n weithredol at y diben o leihau'r perygl o gael cychod yn taro yn erbyn y tyrrau neu lafnau'r tyrbinau gwynt sy'n cylchdroi, ac at y diben o hwyluso gweithgareddau chwilio ac achub.

(2Rhaid i Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau gymeradwyo manylion y system rheoli diogelwch weithredol, ond rhaid i'r system gynnwys—

(a)darpariaeth fel bod pob tyrbin gwynt wedi'i farcio ddydd a nos gan ddefnyddio systemau adnabod gweladwy clir;

(b)darpariaeth o ran gweithdrefnau cyfathrebu rhwng morwyr mewn trafferth, Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau a'r ystafell reoli ganolog ar gyfer gweithredu'r tyrbinau gwynt pan fydd cwch mewn trafferth;

(c)darpariaeth o ran cau un neu fwy o'r tyrbinau gwynt ar unwaith ar gais Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau pan fyddant â'r mwyafrif o le posibl rhwng pwynt isaf y llafnau a lefel y dŵr; ac

(ch)darparu ar gyfer ailbrofi'r gweithdrefnau brys ar yr adegau ac mewn modd y mae'n rhesymol i Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau ofyn amdanynt.

Sŵn wrth adeiladu a gweithredu

15.—(1Ac eithrio pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo fel arall yn ysgrifenedig, rhaid i'r ymgymerwr—

(a)cydymffurfio â Safon Brydeinig 5228 (Rheoli Sŵn a Dirgryniadau ar Safleoedd Adeiladu a Safleoedd Agored) Rhannau 1 a 2: 1997 a Rhan 4: 1992 mewn perthynas â'r holl weithgareddau perthnasol a wneir yn ystod adeiladu, cynnal a chadw neu ddadgomisiynu'r gweithfeydd awdurdodedig; a

(b)sicrhau y bydd y lefelau uchaf o sŵn a gynhyrchir gan y gweithgareddau hynny wrth arwyneb unrhyw dderbynnydd sy'n sensitif i sŵn heb fod yn uwch na—

(i)lefel o 50 dB LAeq, 8 awr na lefel LAFmax o 60 dB rhwng 23.00 o'r gloch a 07.00 o'r gloch; a

(ii)lefel o 75 dB LAeq, 1 awr rhwng 07.00 o'r gloch a 23.00 o'r gloch.

(2Ac eithrio pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymeradwyo fel arall yn ysgrifenedig, rhaid i'r ymgymerwr sicrhau nad yw lefel raddio'r allyriadau sŵn a gynhyrchir wrth weithredu'r tyrbinau gwynt yn uwch na 35 dB LA90, pan gânt eu mesur yn unol â'r canllawiau a geir yn “The Assessment and Rating of Noise from Wind Farms” (ETSU-R-1997), o dan amodau maes rhydd ar bwynt 1.2 metr uwchben lefel y ddaear ger unrhyw dderbynnydd sy'n sensitif i sŵn, mewn gwyntoedd o gyflymderau hyd at 10 metr yr eiliad wedi'u mesur wrth uchder o 10 metr uwchben lefel y dŵr uchel o fewn safle'r fferm wynt.

(3Yn yr erthygl hon—

ystyr “gweithgareddau perthnasol” (“relevant activities”) yw unrhyw weithgareddau a wneir mewn ardal y tu hwnt i awdurdodaeth awdurdod lleol o dan Ran III o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(8);

ystyr “derbynnydd sy'n sensitif i sŵn” (“noise-sensitive receptor”) yw unrhyw annedd gyfanheddol, neu unrhyw ysbyty, ysgol neu gartref gorffwys sy'n bodoli.

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu gweithfeydd sydd mewn diffyg

16.  Ar ôl 30 o ddiwrnodau o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad i'r ymgymerwr o dan erthygl 8(2)(a) neu 10(1), os nad yw wedi cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, a hynny heb esgus rhesymol, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gwblhau'r gweithfeydd a bennir yn yr hysbysiad; a chaniateir adennill unrhyw wariant a dynnir gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr.

Tramgwyddau

17.  Os yw'r ymgymerwr, heb esgus rhesymol, yn methu â—

(a)cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan erthygl 9, 12(1) neu (2) neu 13;

(b)cydymffurfio â gofynion erthygl 12(3) neu 15;

(c)hysbysu fel sy'n ofynnol gan erthygl 9; neu

(ch)gweithredu'r tyrbinau gwynt yn unol ag erthygl 14,

bydd yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

RHAN IIICAFFAEL A MEDDU AR DIR

Pwerau caffael

Y pŵer i gaffael tir

18.  Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o'r tir a ddangosir â'r Rhif 4 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sydd ei angen arno at ddibenion Gwaith Rhif 3, a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelwyd felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddiben arall sy'n gysylltiedig â'i ymgymeriad o ran trydan, neu sy'n atodol iddo.

Cymhwyso Rhan I o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965

19.—(1Mae Rhan I o Ddeddf 1965, i'r graddau nad yw wedi'i haddasu gan ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn nac yn anghyson â hwy, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)fel y mae'n gymwys i brynu gorfodol y mae Deddf Prynu Gorfodol 1981(9) yn gymwys iddo; a

(b)fel pe bai'r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(2Mae gan Ran I o Ddeddf 1965, fel y'i cymhwyswyd, effaith fel pe bai—

(a)adran 4 (sy'n rhoi terfyn amser ar brynu tir yn orfodol) a pharagraff 3(3) o Atodlen 3 (sy'n darparu ar gyfer rhoi bondiau) wedi'u hepgor; a

(b)y cyfeiriad yn adran 11(1) (sy'n rhoi pwerau i fynd ar dir a chymryd meddiant ohono yn ddarostyngedig i hysbysiad i drafod heb roi llai na 14 o ddiwrnodau o hysbysiad) at y 14 o ddiwrnodau o hysbysiad wedi'i amnewid am—

(i)cyfeiriad at hysbysiad o un mis, pan fo'r hysbysiad i drafod yn ymwneud yn unig â chaffael isbridd neu gaffael hawddfraint neu hawl arall dros dir; neu

(ii)cyfeiriad at hysbysiad o 3 mis, mewn unrhyw achos arall.

Y pŵer i gaffael hawliau newydd

20.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol yr hawddfreintiau hynny neu hawliau eraill dros unrhyw dir y cyfeirir ato yn erthygl 18 sydd eu hangen at unrhyw ddiben y caiff y tir hwnnw ei gaffael o'r herwydd o dan y ddarpariaeth honno, a hynny drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bod.

(2Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol yr hawddfreintiau hynny neu unrhyw hawliau eraill dros y tir a ddangosir â Rhif au 1 i 3, 5 i 9 ac 11 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr (“y tir perthnasol”) y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer ac mewn cysylltiad ag adeiladu, defnyddio, gweithredu a chynnal a chadw Gwaith Rhif 2, 2A, 4 a 5.

(3Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol yr hawddfreintiau hynny, neu'r hawliau i ddefnyddio'r strydoedd a ddangosir â Rhif au 12 i 16 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr, y mae'n eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn cael mynediad at y tir at ddibenion adeiladu, defnyddio, gweithredu a chynnal a chadw y gweithfeydd awdurdodedig.

(4Mae'r hawddfreintiau neu'r hawliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yn hawliau i ddefnyddio'r strydoedd y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw sydd ar y cyd ag unrhyw bersonau eraill sydd â'r hawl i ddefnyddio'r strydoedd; ac ni ddylid dehongli dim yn yr erthygl hon fel pe bai'n rhoi'r hawl i ymyrryd â defnydd personau eraill o'r strydoedd.

(5Yn ddarostyngedig i adran 8 o Ddeddf 1965 (fel y'i hamnewidir gan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn), pan fo'r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol i'r ymgymerwr gaffael buddiant mwy ynddo.

(6Mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol at ddibenion addasu'r deddfiadau sy'n ymwneud ag iawndal a darpariaethau Deddf 1965, o ran eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael hawl dros dir yn orfodol o dan yr erthygl hon drwy greu hawl newydd.

Meddu ar dir dros dro

Defnyddio tir dros dro i adeiladu gweithfeydd

21.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni'r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar y tir a ddangosir â Rhif 4 ar blaniau'r tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr a chael meddiant ohono dros dro yn ôl yr angen mewn cysylltiad ag adeiladu'r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)cael gwared ar unrhyw adeiladau a phlanhigion o'r tir hwnnw; ac

(c)adeiladu gweithfeydd (gan gynnwys darparu mynedfa) ac adeiladau dros dro ar y tir.

(2Rhaid i'r ymgymerwr roi hysbysiad o'i fwriad i gael mynediad i'r tir i berchenogion a meddianwyr y tir, a hynny heb fod yn llai na 28 o ddiwrnodau cyn iddo fynd ar y tir a chymryd meddiant ohono dros dro o dan yr erthygl hon.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddu ar unrhyw dir o dan yr erthygl hon ar ddiwedd cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad y cwblhawyd y gweithfeydd awdurdodedig.

(4Cyn rhoi'r gorau i feddu ar dir a feddianwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i'r ymgymerwr symud pob gwaith dros dro oddi yno ac adfer y tir i safon y mae perchenogion y tir yn rhesymol fodlon â hi; ond nid oes gofyn i'r ymgymerwr ailadeiladu adeilad a symudwyd oddi yno o dan yr erthygl hon.

(5Rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal i berchenogion a meddianwyr y tir a feddianwyd ganddo dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod a achoswyd yn sgil arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â'r tir.

(6Penderfynir ar unrhyw anghydfod o ran hawl person i gael iawndal o dan baragraff (5), neu o ran cyfanswm yr iawndal, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

(7Heb ragfarn i erthygl 36, ni fydd dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu iawndal o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall sy'n ymwneud â cholled neu ddifrod a achosir gan weithredu unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer o dan baragraff (5).

(8Nid yw'r pwerau i gaffael tir yn orfodol a roddir gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir sydd wedi'i feddu dros dro o dan baragraff (1), ond nid yw'r ymgymerwr wedi'i eithrio rhag caffael hawliau newydd dros unrhyw ran o'r tir hwnnw o dan erthygl 21.

(9Pan fo ymgymerwr yn meddu ar dir o dan yr erthygl hon, nid yw'n ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant yn y tir.

(10Yn yr erthygl hon, mae “adeilad” (“building”) yn cynnwys strwythur neu unrhyw adeilad arall.

Iawndal

Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol

22.—(1Wrth asesu'r iawndal sy'n daladwy (os oes iawndal yn daladwy o gwbl) i unrhyw berson wrth gaffael unrhyw dir oddi arno o dan y Gorchymyn hwn, nid yw'r Tribiwnlys i ystyried—

(a)unrhyw fuddiant mewn tir; neu

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir oherwydd unrhyw adeilad a godwyd, unrhyw weithfeydd a weithredwyd neu unrhyw welliant neu addasiad a wnaed ar dir perthnasol,

os yw'r Tribiwnlys wedi'i fodloni nad oedd creu'r buddiant, codi'r adeilad, na gwella nac addasu'r gweithfeydd yn rhesymol angenrheidiol, ac y gwnaethpwyd hynny gyda'r bwriad o gael iawndal neu o gynyddu swm yr iawndal.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw'r tir a gaffaelwyd oddi wrth y person o dan sylw neu unrhyw dir arall y mae'r person hwnnw yn gysylltiedig ag ef, neu yr oedd y person hwnnw'n gysylltiedig ag ef adeg codi'r adeilad, adeg gweithredu'r gweithfeydd neu adeg gwneud y gwelliant neu'r addasiad, boed hynny'n gysylltiad uniongyrchol neu'n un anuniongyrchol.

Diddymu neu atal hawliau tramwy preifat dros dro

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy'n ddarostyngedig i gaffaeliad gorfodol o dan erthygl 18—

(a)o'r adeg y caffaelwyd y tir gan yr ymgymerwr, boed hynny'n orfodol neu drwy gytundeb; neu

(b)o'r adeg yr aeth yr ymgymerwr ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965, pa un bynnag sydd gyntaf.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw hawliau tramwy preifat dros Heol Caer Bont.

(3Atelir pob hawl tramwy breifat dros dir y mae'r ymgymerwr yn ei feddu dros dro o dan y Gorchymyn hwn, ac ni fydd modd eu gorfodi am yr amser y bydd yr ymgymerwr yn parhau i feddu ar y tir yn gyfreithlon.

(4Bydd unrhyw berson sy'n gweld colled oherwydd diddymu neu atal dros dro unrhyw hawl tramwy breifat o dan yr erthygl hon â'r hawl i gael iawndal sydd i'w benderfynu, os cyfyd anghydfod, o dan Ran I o Ddeddf 1961.

(5Ni fydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl tramwy y mae adran 271 neu 272 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(10) (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) yn gymwys iddi.

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael

24.—(1Bydd y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn i gaffael tir neu hawliau dros dir yn orfodol, a'r pŵer a roddir gan erthygl 21 i fynd ar dir a'i feddu dros dro, yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd gan ddechrau ar y diwrnod y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gwahardd yr ymgymerwr rhag parhau i feddu ar y tir ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, yn unol ag erthygl 21, os aethpwyd ar y tir ac os meddiannwyd y tir cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

RHAN IVAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Y pŵer i weithredu a defnyddio gweithfeydd

25.  Caiff yr ymgymerwr weithredu a defnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig fel system ar gyfer cynhyrchu a throsglwyddo trydan.

Datgymhwyso adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989

26.  Nid yw darpariaethau adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989(11) yn gymwys mewn perthynas â'r gweithfeydd awdurdodedig.

Rhwystro a chamddefnyddio'r gweithfeydd awdurdodedig

27.  Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro person arall rhag adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw rai o'r gweithfeydd awdurdodedig o dan y pwerau a roddir gan y Gorchymyn hwn;

(b)yn clymu rhywbeth yn sownd i unrhyw ran o unrhyw weithfeydd llanw'r môr; neu

(c)yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw weithfeydd awdurdodedig neu â'u gweithredu,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillio ac angori

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol,—

(a)yn ystod y gwaith o adeiladu, ailddodi, ailosod, tynnu oddi yno neu ddadgomisiynu unrhyw weithfeydd llanw'r môr, yn llywio cwch o fewn ardal sy'n ymestyn 500 metr o unrhyw ran o'r gweithfeydd hynny (neu ardal lai fel y mae modd ei chyhoeddi o dan baragraff (2));

(b)yn sgil gosod unrhyw rai o'r ceblau rhyngdyrbinau, yn treillio neu yn angori cwch o fewn safle'r fferm wynt ac ardal sy'n ymestyn 200 metr y tu hwnt i'r safle hwnnw;

(c)yn sgil gosod unrhyw rai o'r ceblau bwydo i'r môr, yn angori cwch o fewn ardal sy'n ymestyn 200 metr o unrhyw ran o'r cebl hwnnw; neu

(ch)yn sgil cwblhau'r gwaith o adeiladu unrhyw rai o'r strwythurau perthnasol, yn llywio cwch o fewn y parth diogelwch wrth weithredu,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Ni ddaw parth diogelwch yn effeithiol hyd nes—

(a)i 7 niwrnod fynd heibio ar ôl cyhoeddi hysbysiad i forwyr yn pennu lleoliad a maint y parth diogelwch, dyddiad ei gychwyn ac, yn achos parth diogelwch wrth adeiladu, ei gyfnod arfaethedig; a

(b)i'r ymgymerwr gymryd y camau eraill hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn amdanynt er mwyn hysbysu llongau o'r parth diogelwch arfaethedig.

(3Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn rhoi diwedd ar barth diogelwch (ac eithrio oherwydd paragraff (5)), rhaid i'r ymgymerwr—

(a)cyhoeddi hysbysiad o ddiwedd ar barth drwy gyfrwng hysbysiad i forwyr; a

(b)cymryd y camau eraill hynny y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn amdanynt er mwyn hysbysu llongau o ddiwedd ar barth diogelwch.

(4Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i berson sy'n llywio neu'n angori cwch at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu gweithfeydd llanw'r môr, neu mewn cysylltiad â'r dibenion hynny.

(5Bydd paragraff (1)(b), (c) ac (ch) yn peidio â chael effaith os bydd, ac i'r graddau y bydd, y gweithgareddau a bennir yn unrhyw un o'r darpariaethau hynny, o fewn yr ardaloedd hynny a bennir felly, wedi'u gwahardd o dan ddeddfiad perthnasol.

(6Yn yr erthygl hon—

ystyr “y parth diogelwch wrth adeiladu” (“the construction safety zone”) yw ardal y mae mordwyo wedi'i wahardd ynddi o dan baragraff (1)(a);

ystyr “parth diogelwch wrth weithredu” (“operational safety zone”) yw ardal sy'n ymestyn 5 metr o unrhyw ran o strwythur berthnasol (gan gynnwys diogelu rhag sgwrfa'r llanw o amgylch y strwythur honno) neu unrhyw bellter mwy sydd heb fod yn fwy na 50 metr fel y caiff yr ymgymerwr ei benderfynu ar ôl cynnal asesiad risg ac ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Arfordir a Gwylwyr y Glannau a'r Gymdeithas Iotio Frenhinol;

ystyr “deddfiad perthnasol” (“relevant enactment”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf gyffredinol gyhoeddus, neu mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf gyffredinol gyhoeddus, ac a ddaw i rym ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn;

ystyr “strwythur berthnasol” (“relevant structure”) yw tyrbin gwynt neu unrhyw un o'r mastiau anemometreg;

ystyr “parth diogelwch” (“safety zone”) yw unrhyw un o'r ardaloedd y gwaherddir gweithgareddau ynddi o dan baragraff (1);

ystyr “treillio” (“trawl”) yw unrhyw weithgaredd pysgota sy'n cynnwys llusgo rhwyd neu linyn neu gyfarpar arall ar hyd gwely'r môr.

Tir penodol sydd i'w drin fel tir gweithredol

29.  Caiff caniatâd cynllunio, y bernir iddo gael ei ddyfarnu gan gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(12) mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodwyd gan y Gorchymyn hwn, ei drin fel caniatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion y dylid trin tir fel pe bai'n dir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Ymgymerwyr statudol, etc.

30.  Mae darpariaethau Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.

Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd

31.  Mae darpariaethau Atodlen 5 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.

Er mwyn diogelu Network Rail

32.  Mae darpariaethau Atodlen 6 i'r Gorchymyn hwn yn effeithiol.

Iawndal i bysgotwyr

33.—(1Os gall person perthnasol ddangos, fel bod yr ymgymerwr wedi'i fodloni yn rhesymol, ei fod wedi gweld colled, neu y bydd yn gweld colled, o ganlyniad i fethu â physgota o fewn yr ardal berthnasol ar ôl cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1 oherwydd arfer pwerau'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r ymgymerwr dalu iawndal rhesymol i'r person perthnasol i'w ddigolledu am y golled honno.

(2Rhaid gwneud unrhyw gais felly ar ôl i'r gwaith adeiladu ar Waith Rhif 1 ddechrau ond heb fod yn hwyrach na 2 flynedd ar ôl ei gwblhau; a dylid cyfeirio unrhyw anghydfod o ran atebolrwydd am dalu iawndal, neu gyfanswm yr iawndal, i'w gymrodeddu yn unol ag erthygl 39 o'r Gorchymyn hwn.

(3Nid oes gan neb yr hawl i gael iawndal o dan y ddarpariaeth hon os collfarnir hwy yn euog o dramgwydd o dan erthygl 28(1) oherwydd treillio yn yr ardal berthnasol; ac, os caiff unrhyw berson ei gollfarnu o dramgwydd felly ar ôl i iawndal gael ei dalu iddo yn unol â'r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr adennill yr iawndal oddi wrth y person hwnnw.

(4At ddibenion penderfynu pa un a yw person yn berson perthnasol ai peidio, a hyd a lled colled unrhyw berson at ddibenion paragraff (1), ni ddylid cyfrif unrhyw weithgaredd oni bai iddo gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol sy'n gymwys; ac, yn benodol, ni ddylid cyfrif unrhyw bysgodyn a ddaliwyd oni bai iddo gael ei gynnwys yn y derbyniadau a gyflwynwyd i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru o dan is-ddeddfau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(13) a, pan fo'n berthnasol, mewn datganiadau a gyflwynwyd o dan erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93(14).

(5Yn yr erthygl hon—

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw perchennog cwch sydd wedi bod yn pysgota o fewn yr ardal berthnasol yn y cwch hwnnw yn rheolaidd wrth gyflawni ei fusnes ym mhob un o'r pum mlynedd yn union cyn cychwyn adeiladu Gwaith Rhif 1; ac

ystyr “yr ardal berthnasol” (“the relevant area”) yw safle'r fferm wynt a'r ardal ychwanegol y cyfeirir ati yn erthygl 28(1)(b).

Ardystio planiau, etc.

34.  Rhaid i'r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y Gorchymyn hwn, gyflwyno copïau o'r cyfeirlyfr, y trawsluniau a phlaniau'r gweithfeydd a'r tir i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w hardystio yn wir gopïau, yn eu trefn, o'r cyfeirlyfr, y trawsluniau a phlaniau'r gweithfeydd a'r tir y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; a bydd dogfen a ardystiwyd felly yn dderbyniol mewn unrhyw achos fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae'n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

35.—(1Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae angen neu a awdurdodwyd ei chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy'r post.

(2Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, cyflwynir yr hysbysiad neu'r ddogfen yn briodol os cyflwynir hwy i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978???(15) fel y mae'n gymwys at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1) yw, os yw'r person hwnnw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, y cyfeiriad hwnnw ac, fel arall,—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a

(b)yn unrhyw achos arall, y cyfeiriad hysbys diwethaf ar gyfer y person adeg y cyflwyno.

(4Pan fo angen cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall at ddibenion y Gorchymyn hwn, neu yr awdurdodwyd gwneud hynny, i berson sydd ag unrhyw fuddiant yn y tir, neu sy'n meddu ar y tir, ac ni ellir dod o hyd i'w enw na'i gyfeiriad ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—

(a)ei gyfeirio at y person hwnnw gan ddefnyddio ei enw, neu gan ei ddisgrifio fel “y perchennog” neu, yn ôl y digwydd, “meddiannydd” y tir (gan ddisgrifio'r tir); a

(b)un ai ei adael yn nwylo'r person yr ymddengys ei fod yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.

(5Nid yw'r erthygl hon yn gwahardd defnyddio unrhyw ddull arall o gyflwyno nas darparwyd amdano yn benodol ynddi.

Dim adennill dwbl

36.  Ni fydd iawndal yn daladwy mewn perthynas â'r un mater o dan y Gorchymyn hwn ac yn ogystal o dan unrhyw ddeddfiad, unrhyw gontract neu unrhyw rheol gyfreithiol arall.

Trosglwyddo pwerau

37.—(1Caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol, ymrwymo i gytundebau, a'u rhoi ar waith, er mwyn trosglwyddo i berson arall unrhyw un o'r pwerau, neu'r holl bwerau, a roddir i'r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn.

(2Bydd arfer unrhyw bŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn gan unrhyw berson arall yn unol â chytundeb o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i'r un rhwymedigaethau a'r un atebolrwydd o dan y Gorchymyn hwn ac a fyddai'n gymwys ped arferid y pŵer hwnnw gan yr ymgymerwr.

(3Rhaid i'r ymgymerwr hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol a Trinity House yn ysgrifenedig o unrhyw gytundeb i drosglwyddo pwerau sy'n ymwneud â gweithfeydd llanw'r môr i berson arall, gan roi enw a chyfeiriad y person y trosglwyddir y pwerau iddo a'r dyddiad y daw'r trosglwyddo yn effeithiol, a hynny heb fod yn llai na 21 o ddiwrnodau cyn i unrhyw gytundeb o'r fath ddod i rym.

Hawliau'r Goron

38.—(1Ni fydd dim yn y Gorchymyn hwn yn effeithio'n niweidiol ar unrhyw ystad, hawl, pŵer, braint, awdurdod neu esemptiad o eiddo'r Goron ac, yn enwedig, ni fydd dim yn y Gorchymyn hwn yn awdurdodi'r ymgymerwr i gymryd, defnyddio, mynd ar dir nac ymyrryd mewn unrhyw ffordd â thir, hereditamentau, neu hawliau o ba ddisgrifiad bynnag (gan gynnwys unrhyw ran o'r lan neu o wely'r môr neu unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu aber) sy'n perthyn i—

(a)Ei Mawrhydi drwy hawl Ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron, heb gydsyniad ysgrifenedig y Comisiynwyr hynny; neu

(b)adran o'r llywodraeth, neu a ddelir dan ymddiriedolaeth i'w Mawrhydi at ddibenion adran o'r llywodraeth, heb gydsyniad ysgrifenedig yr adran honno o'r llywodraeth.

(2Caniateir rhoi cydsyniad o dan baragraff (1) yn ddi-amod neu yn ddarostyngedig i'r amodau hynny neu'r telerau hynny yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.

Cymrodeddu

39.  Rhaid cyfeirio unrhyw anghytundeb o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn (ac eithrio anghytundeb sydd i'w ddyfarnu gan y Tribiwnlys) i'w gymrodeddu a'i benderfynu gan un cymrodeddwr, y caiff y partïon gytuno ar ei benodi ond, os na allant gytuno, caiff ei benodi gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil ar gais y naill barti neu'r llall (ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r llall).

Llofnodwyd gan y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sue Essex

16 Tachwedd 2004

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources