Search Legislation

Gorchymyn Fferm Wynt ar y Môr Cefnenni Tywod Scarweather 2004

 Help about what version

What Version

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 31

ATODLEN 5ER MWYN DIOGELU ASIANTAETH YR AMGYLCHEDD

1.—(1Er mwyn diogelu Asiantaeth yr Amgylchedd (y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon fel “yr Asiantaeth”), bydd y darpariaethau a ganlyn mewn effaith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig rhwng yr ymgymerwr a'r Asiantaeth.

(2Cyn cyflawni unrhyw waith o dan bwerau'r Gorchymyn hwn sy'n ymwneud ag adeiladu neu godi unrhyw rhwystr i lif unrhyw gwrs dŵr nad yw'n rhan o brif afon o fewn ystyr adran 113 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1) neu adeiladu, addasu neu ailosod unrhyw gylfat neu unrhyw strwythur a ddyluniwyd i gadw neu i ddargyfeirio llif unrhyw gwrs dŵr felly mewn, o dan neu drwy unrhyw dir a ddelir at ddibenion neu mewn cysylltiad â'r gweithfeydd awdurdodedig, rhaid i'r ymgymerwr roi planiau priodol a digonol ohono i'r Asiantaeth er mwyn iddi eu cymeradwyo, ac ni ddylid mynd ati i wneud y gwaith arfaethedig hyd nes i'r planiau hynny gael eu cymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Asiantaeth.

(3Ni ddylid gwrthod, yn afresymol, gymeradwyo'r planiau a roddwyd ac, os nad yw'r Asiantaeth wedi cyfleu yn ysgrifenedig nad yw'n bwriadu eu cymeradwyo gan roi ei rhesymau dros hynny o fewn deufis o gyflwyno'r planiau i'r Asiantaeth, bernir i'r Asiantaeth gymeradwyo'r planiau fel y'u cyflwynwyd hwy.

(4At ddibenion y paragraff hwn, mae “planiau” (“plans”) yn cynnwys trawsluniau, darluniau, manylebau, cyfrifiadau a disgrifiadau.

(5Rhaid i unrhyw gylfat neu unrhyw strwythur sydd wedi'i dylunio i gadw neu i ddargyfeirio llif unrhyw gwrs dŵr, sef cylfat neu strwythur a leolir o fewn unrhyw dir a ddelir gan yr ymgymerwr at ddibenion neu mewn cysylltiad â'r gweithfeydd awdurdodedig, boed wedi'i hadeiladu o dan bwerau'r Gorchymyn hwn neu wedi'i hadeiladu cyn i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud, gael ei chynnal a'i chadw gan yr ymgymerwr mewn cyflwr da ac yn rhydd o unrhyw rhwystr.

(6Ni fydd effaith unrhyw beth ym mharagraff (5) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgymerwr gyflawni gwaith cynnal a chadw mewn perthynas ag unrhyw gylfat neu strwythur y mae'r Asiantaeth neu unrhyw berson arall yn atebol i'w chynnal.

(7Os adeiladir neu godir unrhyw rwystr, neu os adeiladir, addasir neu ailosodir unrhyw gylfat yn groes i'r erthygl hon, rhaid i'r ymgymerwr, pan dderbynia hysbysiad yr Asiantaeth, gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol i wella effaith mynd yn groes i'r erthygl hon hyd nes bod yr Asiantaeth wedi'i bodloni'n rhesymol, ac, fel arall, caiff yr Asiantaeth ei hunan gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol gan adennill y costau a dynnwyd yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth yr ymgymerwr fel dyled rhyngddo ef a'r Asiantaeth.

(8Rhaid i unrhyw wahaniaethau rhwng yr ymgymerwr a'r Asiantaeth o dan yr Atodlen hon (ac eithrio gwahaniaeth ynglyn â'i hystyr neu ei dehongliad) gael eu penderfynu drwy gymrodeddu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources