Search Legislation

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 3143 (Cy.271)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

30 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 113(1) a (2) a 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 2(4) yn Atodlen 2 iddi(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru (2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu a ddyroddwyd gan neu ar ran awdurdodau bilio Cymru.

Dehongli

2.  Yn y rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(3).

Trefniadau trosiannol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn 2005, 2006 a 2007

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), diwygir Rheoliadau 1993 yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn Atodlen 1 (Materion i'w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu):

(a)ar ôl paragraff 5 mewnosoder:

5A(1) In addition to the statement in paragraph 5, in the financial years commencing on 1 April in 2005, 2006 and 2007 respectively a statement of any transitional valuation band applicable to the relevant dwelling.

(2) For the purposes of sub-paragraph (1) “transitional valuation band” means a transitional valuation band for a relevant dwelling, identified in accordance with regulation 4 of the Council Tax (Transitional Arrangements) (Wales) Regulations 2004(4).;

(b)ym mharagraff 7 ar y diwedd mewnosoder:

(d)the Council Tax (Transitional Arrangements) (Wales) Regulations 2004.;

(c)ar ôl paragraff 14 mewnosoder:

15(1) A statement that the amount of council tax payable has been reduced as a result of the application of a transitional valuation band.

(2) A statement of the amount by which it has been reduced.

(3) A statement that the reduction in council tax collected by the billing authority by reason of that reduction will be reimbursed to the billing authority by the National Assembly for Wales..

(3Yn Atodlen 2 (Gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda'r Hysbysiadau Galw am Dalu'r Dreth Gyngor):

(a)ym mharagraff 15:

(i)ar ôl is-baragraff (b)(vi) mewnosoder:

(vii)a dwelling qualifies for the identification of a transitional valuation band in accordance with Regulation 4 of the Council Tax (Transitional Arrangements) (Wales) Regulations 2004.;

(ii)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder:

(e)a statement explaining —

(i)how a transitional valuation band may be identified in accordance with the Council Tax (Transitional Arrangements) (Wales) Regulations 2004; and

(ii)how the reduction in council tax collected by a billing authority as a consequence of identification of a transitional valuation band in accordance with the Council Tax (Transitional Arrangements) (Wales) Regulations 2004 is funded by the National Assembly for Wales (including an explanation that the amount of any reduction shown on the demand notice in respect of a dwelling may be different from the amount reclaimed by the billing authority from the National Assembly for Wales)..

(4Bydd paragraffau (2) a (3) yn effeithiol yn unig mewn perthynas â'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2008.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau fel y gwêl yn dda mewn perthynas â chasglu'r symiau y mae personau yn atebol i'w talu mewn perthynas â threth gyngor ac agweddau arall ar weinyddu o ran y dreth gyngor. Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu ar gyfer manylion y gellir eu cynnwys yn y Rheoliadau hynny mewn perthynas â chasglu'r dreth gyngor. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1992. Maent yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn 2005, 2006 a 2007.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 1 (Materion sydd i'w cynnwys yn yr hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau 1993. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau bilio gynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu faterion penodol sy'n ymwneud â bandiau gwerthuso trosiannol a ddynodir yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Trefniadau Trosiannol) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”).

Mae rheoliad 3 hefyd yn diwygio Atodlen 2 (Gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda'r Hysbysiadau Galw am Dalu'r Dreth Gyngor) i Reoliadau 1993. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau bilio gynnwys gwybodaeth benodol mewn nodiadau esboniadol i fynd gyda'r hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor. Mae'r wybodaeth yn ymwneud â dynodi'r bandiau gwerthuso trosiannol yn unol â Rheoliadau 2004 a materion cysylltiedig.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources