- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PROFFESIYNAU GOFAL IECHYD A PHROFFESIYNAU CYSYLLTIEDIG, CYMRU
Wedi'i wneud
2 Mawrth 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2) ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2004.
(2) Yn Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
ystyr “cofnodion” (“records”) yw unrhyw ddeunyddiau mewn pa bynnag ffurf neu gyfrwng sy'n cyfleu neu'n gallu cyfleu gwybodaeth ac y mae iddi strwythur wrth gyfeirio —
at unigolion neu at feini prawf sy'n ymwneud ag unigolion, yn y fath fodd fel bod gwybodaeth benodol sy'n ymwneud ag unigolyn penodol ar gael yn hwylus; neu
at unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau gan y Cynulliad, yn y fath fodd fel bod gwybodaeth benodol sy'n ymwneud ag eiddo, hawliau neu rwymedigaethau ar gael yn hwylus;
ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw person —
na therfynodd ei gontract cyflogaeth â'r Cynulliad cyn y dyddiad trosglwyddo (boed drwy i hysbysiad ddod i ben, amser wedi dirwyn i ben neu fel arall): a
a gafodd gynnig cyflogaeth gyda PIC ac sydd wedi derbyn y gyflogaeth cyn y dyddiad trosglwyddo;
ystyr “cynnwys” (“contents”) yw unrhyw item neu eiddo o ba ddisgrifiad bynnag —
sy'n eiddo'r Cynulliad yn union o flaen y dyddiad trosglwyddo; a
sy'n bresennol yn neu ar y tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i hyn ar y dyddiad trosglwyddo;
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
“ ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“operational date”) yw 1 Ebrill 2004;
ystyr “PIC” (“HPW”) yw Proffesiynau Iechyd Cymru(2);
dehonglir “tir” (“land”) yn unol ag Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978(3), ac eithrio y dehonglir bod unrhyw gyfeiriad at drosglwyddo tir yn rhinwedd y gorchymyn hwn yn cynnwys trosglwyddo unrhyw drwydded o dan gontract i ddefnyddio'r tir.
(3) Dehonglir bod unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys cyfeiriad at drosglwyddo unrhyw hawliau a rhwymedigaethau gan y Cynulliad sy'n bodoli mewn perthynas ag eiddo o'r fath yn union o flaen y dyddiad trosglwyddo.
(4) Pan drosglwyddir eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Cynulliad i PIC yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinnir ag unrhyw beth a wnaed gan neu mewn perthynas â'r Cynulliad mewn cysylltiad ag eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o'r fath fel pe bai wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â PIC.
2. Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen trosglwyddir y tir a ddisgrifir yn yr Atodlen i hyn o'r Cynulliad i PIC.
3. Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen trosglwyddir y cynnwys a bennir yn yr Atodlen i hyn, a phob eiddo, hawliau a rhwymedigaethau eraill a'r cofnodion sy'n berthnasol iddynt y mae gan y Cynulliad hawl iddynt neu y mae'n ddarostyngedig iddynt, wrth i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, o ran arfer swyddogaethau cyn y dyddiad hwnnw a freiniwyd yn PIC yn rhinwedd Gorchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004(4) o'r Cynulliad i PIC.
4.—(1) Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, ymdrinnir â chontract cyflogaeth rhwng cyflogai perthnasol a'r Cynulliad fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a PIC.
(2) Gydag effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, rhaid trosglwyddo cofnodion sy'n ymwneud â chyflogeion perthnasol o'r Cynulliad i PIC.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2004
Erthyglau 2 a 3
Tir ac adeiladau ar ail lawr Golate House Heol Eglwys Fair Caerdydd a gynhywsir mewn prydles ddyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd (1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (2).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Sefydlir Proffesiynau Iechyd Cymru (“PIC”) gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/551 (Cy.55)) at ddibenion ymgymryd â swyddogaethau ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r proffesiynau gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
O dan adran 5 (2) o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion galluogi neu gynorthwyo PIC i gyflawni swyddogaethau ar ran y Cynulliad, drwy orchymyn, drosglwyddo i PIC eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a phersonau a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r swyddogaethau hynny.
Mae'r gorchymyn hwn yn trosglwyddo'r tir a'r cynnwys sydd gan y Cynulliad ac a bennir yn yr Atodlen i PIC (erthyglau 2 a 3) a hefyd yn trosglwyddo staff penodol a gyflogir gan y Cynulliad i PIC (erthygl 4).
Sefydlwyd Proffesiynau Iechyd Cymru gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd Cymru (Sefydlu, Aelodaeth, Cyfansoddiad a Swyddogaethau) 2004 O.S. 2004/551 (Cy.55).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: