- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gwmnïau RTM(1)) mewn perthynas â mangreoedd(2) yng Nghymru.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i femorandwm cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i erthyglau cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn effeithiol ar gyfer cwmni RTM os mabwysiedir hwy gan y Cwmni neu beidio.
(4) Pan fydd cwmni RTM yn dymuno cael naill ai ei femorandwm cymdeithasu neu ei erthyglau cymdeithasu, neu'r ddau, yn Gymraeg, rhaid i'r dogfennau hynny gymryd y ffurf a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys, yn y drefn honno, y darpariaethau sydd ynddynt.
(5) Os digwydd y canlynol—
(a)bod Cwmni RTM wedi mabwysiadu memorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)nad yw'r memorandwm a'r erthyglau, neu'r naill neu'r llall ohonynt, yn cydymffurfio, o ran cynnwys, â gofynion paragraffau (1) a (2) neu, yn achos dogfennau yn yr iaith Gymraeg, baragraff (4),
ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau, wrth ac ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, fel pe baent yn cynnwys y darpariaethau hynny a nodir yn yr Atodlenni sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion hynny (boed yn ychwanegol at y cynnwys gwreiddiol neu yn lle'r cynnwys gwreiddiol yn ôl yr amgylchiadau).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mawrth 2004
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: