Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 872 (Cy.87)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

23 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2004

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2(1) —

(a)mewnosoder ar ôl y diffiniad o “cyflogwr” y diffiniadau canlynol—

ystyr “cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin” (“ordinary adoption leave period”) yw cyfnod o absenoldeb mabwysiadu cyffredin o dan Ran 3 o Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 (4);

ystyr “cyfnod absenoldeb mamolaeth” (“maternity leave period”) yw'r cyfnod absenoldeb mamolaeth a nodir yn rheoliad 7(1) o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999(5);

ystyr “cyfnod absenoldeb rhieiniol” (“parental leave period”) yw cyfnod o absenoldeb rhieiniol o dan Ran III o Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999;

ystyr “cyfnod absenoldeb tadolaeth” (“paternity leave period”) yw cyfnod o absenoldeb tadolaeth o dan Ran 2 o Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002;.

(b)yn y diffiniad o “cyfnod allweddol” yn lle'r geiriau “adran 355(1) o Ddeddf 1996” rhodder y geiriau “adran 103(1) o Ddeddf 2002”;

(c)mewnosoder ar ôl y diffiniad o “Deddf 1998” y diffiniad canlynol—

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(6);;

(ch)hepgorer y diffiniad o “pwnc craidd”;

(d) hepgorer y diffiniad o “pwnc sylfaen”.

4.—(1Caiff Rheoliad 6 ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)(a) yn lle'r geiriau “adran 15(6)(a) i (c)” rhodder y geiriau “adran 15(6) (a) a (b)”.

(3Ym mharagraff (3)(a) yn lle'r geiriau “adran 354(3) o Ddeddf 1996” rhodder y geiriau “adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002”.

(4Ym mharagraff (3)(b) yn lle'r geiriau “adran 353” i'r diwedd rhodder y geiriau “adran 105(1) o Ddeddf 2002 (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) heblaw mewn perthynas â threfniadau asesu; ac”.

5.—(1Caiff rheoliad 8 ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1) mewnosoder ar ôl y geiriau “o hyd” y geiriau “, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1A), dau hanner tymor ysgol,”.

(3Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (1) —

(1A) Os yw cyfnod o gyflogaeth o dan baragraff (1) yn ddau hanner tymor ysgol yna mae'n rhaid i'r ddau hanner tymor ysgol hynny ddilyn ei gilydd (gan anwybyddu gwyliau ysgol)..

(4Ym mharagraff (2) mewnosoder ar ôl y geiriau “o hyd” y geiriau “, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (2A), dau hanner tymor,”.

(5Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (2) —

(2A) Os yw cyfnod o gyflogaeth o dan baragraff (2) yn ddau hanner tymor yna mae'n rhaid i'r ddau hanner tymor hynny ddilyn ei gilydd (gan anwybyddu gwyliau)..

(6Ar ddiwedd paragraff (3) ychwaneger y canlynol —

neu o fewn 2 wythnos o gychwyn y cyfnod.

6.  Caiff rheoliad 9 ei ddiwygio trwy roi yn lle paragraff (2) y canlynol —

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i absenoldeb o'r gwaith oherwydd cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth oni bai bod y person yn dewis hynny..

7.—(1Caiff Rheoliad 18 ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Caiff y geiriad presennol ei ailrifo'n baragraff (1).

(3Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (1) a ailrifwyd —

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff y corff priodol awdurdodi bod person na ellir ei gyflogi mwyach fel athro neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 yn cael ei gyflogi am gyfnod neu gyfnodau o lai nag un tymor fel athro neu athrawes gyflenwi.

(3) Dim ond yn ystod cyfnod o ddeuddeg mis yn cychwyn ar y dyddiad y cyflogir y person gyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi (gan unrhyw gyflogwr) y caiff person ei gyflogi felly yn unol â pharagraff (2).

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) anwybyddir cyfnod y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o ddeuddeg mis y cyfeirir ato ym mharagraff (3).

(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd.

(6) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan baragraff (4) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio..

8.—(1Diwygir Atodlen 1 fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 4 rhodder y canlynol —

4.(1) Person a gyflogir fel athro neu athrawes gyflenwi pan fo'r cyfnod neu'r cyfnodau cyflogaeth, ym mhob achos, yn llai nag un tymor, ac nad yw'r cyfnod er pan gyflogwyd y person gyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi mewn ysgol berthnasol (gan unrhyw gyflogwr) yn fwy nag un flwyddyn ac un tymor.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anwybyddir cyfnod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o un flwyddyn ac un tymor y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).

(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd.

(4) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan is-baragraff (2) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio..

(3Ar ôl paragraff 4, mewnosoder y paragraffau canlynol —

4A.  Person a gyflogir fel athro neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2).

4B.  Person na ellir ei gyflogi mwyach o dan baragraff 4 ond a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor fel athro neu athrawes gyflenwi tra bo'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu wrth weithio'n rhan-amser..

(4Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff 5 —

5.  Person sy'n athro ysgol o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 122(5) o Ddeddf 2002..

(5Ar ddiwedd paragraff 9 ychwaneger y geiriau “, ac fel y'i diwygiwyd gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, ar y naill law, a Chyd-ffederasiwn y Swistir, ar y llaw arall, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(7) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.”.

(6Ar ôl paragraff 19 ychwaneger y paragraff canlynol —

20.  Person —

(a)sydd wedi cwblhau yn llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a bod yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei gydnabod felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;

(b)nad oes ganddo lai na dwy flynedd o brofiad dysgu llawnamser, neu yr hyn sy'n cyfateb i hynny yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;

(c)sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(8); a

(ch)y cafwyd, pan gafodd ei asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei fod yn bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 (Rheoliadau 2003).

Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 ac yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2003 er mwyn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf Addysg 2002 (Deddf 2002).

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu y gall cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu gynnwys dau hanner tymor sy'n dilyn ei gilydd yn ogystal â thymhorau llawn. Mae hefyd yn galluogi penaethiaid, naill ai cyn i'r cyfnod gychwyn neu o fewn pythefnos ar ôl iddo gychwyn, i gytuno y caiff cyfnodau o gyflogaeth fel athrawon cyflenwi gyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 2003 er mwyn galluogi personau sy'n absennol o achos absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth (yn ogystal ag absenoldeb mamolaeth) i ddewis estyn cyfnod ymsefydlu.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu bod y corff priodol yn gallu awdurdodi personau sydd eisoes wedi gweithio yn ystod cyfnod o flwyddyn a thymor fel athrawon cyflenwi i gael eu cyflogi felly am ddeuddeg mis arall. Anwybyddir absenoldebau o achos absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth wrth gyfrifo'r deuddeg mis hynny.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2003 er mwyn —

  • darparu bod y cyfnod o un flwyddyn ac un tymor, pan ellir cyflogi personau fel athrawon cyflenwi heb iddi fod yn ofynnol iddynt wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn cychwyn o'r adeg pan gyflogir y personau hynny gyntaf fel athrawon cyflenwi mewn ysgol berthnasol ac y caiff unrhyw absenoldeb am resymau absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth ei anwybyddu wrth gyfrifo'r cyfnod hwnnw;

  • galluogi personau a awdurdodir o dan reoliad 18(2) newydd o Reoliadau 2003 i gael eu cyflogi heb iddi fod yn ofynnol iddynt wasanaethu cyfnod ymsefydlu;

  • galluogi personau sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu, a hwythau'n athrawon rhan-amser, i wneud gwaith cyflenwi hefyd er eu bod eisoes wedi gweithio fel athrawon cyflenwi am un flwyddyn ac un tymor;

  • yn lle'r cyfeiriad at athrawon anghymwysedig rhoi cyfeiriad at athrawon ysgol o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 122(5) o Ddeddf 2002;

  • ychwanegu cyfeiriad at y Cytundeb gyda'r Swistir sy'n galluogi athrawon sydd wedi ymgymhwyso yn y Swistir i gael eu heithrio o'r gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu, fel yn achos dinasyddion yr AEE;

  • ychwanegu, fel categori newydd o bersonau a eithrir o'r gofyniad i wasanaethu cyfnod ymsefydlu, athrawon sydd wedi ymgymhwyso dramor, y mae ganddynt ddwy flynedd o brofiad dysgu, sy'n athrawon cymwysedig yng Nghymru o dan y rhaglen athrawon graddedig, ac y cafwyd yn sgil eu hasesu eu bod yn bodloni'r safonau ymsefydlu.

(1)

1998 p.30; i gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

O.S. 2002/2788, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/921.

(5)

O.S. 1999/3312, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/4010.

(7)

Cm 4904.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources