- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Diwygir Atodlen 1 fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 4 rhodder y canlynol —
“4.—(1) Person a gyflogir fel athro neu athrawes gyflenwi pan fo'r cyfnod neu'r cyfnodau cyflogaeth, ym mhob achos, yn llai nag un tymor, ac nad yw'r cyfnod er pan gyflogwyd y person gyntaf fel athro neu athrawes gyflenwi mewn ysgol berthnasol (gan unrhyw gyflogwr) yn fwy nag un flwyddyn ac un tymor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) anwybyddir cyfnod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo wrth gyfrifo'r cyfnod o un flwyddyn ac un tymor y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).
(3) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i gyfnod pan nad yw person yn gweithio oherwydd amgylchiadau a fyddai'n rhoi hawl i gyflogai y mae Rheoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhieiniol etc 1999 neu Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn gymwys iddo, i gael cyfnod absenoldeb mamolaeth, cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, cyfnod absenoldeb rhieiniol neu gyfnod absenoldeb tadolaeth, yn ôl y digwydd.
(4) Mae'r cyfnod sydd i'w anwybyddu o dan is-baragraff (2) yn gyfnod o'r un hyd â'r cyfnod absenoldeb mamolaeth, y cyfnod absenoldeb mabwysiadu cyffredin, y cyfnod absenoldeb rhieiniol neu'r cyfnod absenoldeb tadolaeth perthnasol, neu os yw'n fyrrach, y cyfnod pan nad yw'r person yn gweithio.”.
(3) Ar ôl paragraff 4, mewnosoder y paragraffau canlynol —
“4A. Person a gyflogir fel athro neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2).
4B. Person na ellir ei gyflogi mwyach o dan baragraff 4 ond a gyflogir am gyfnod o lai nag un tymor fel athro neu athrawes gyflenwi tra bo'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu wrth weithio'n rhan-amser.”.
(4) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff 5 —
“5. Person sy'n athro ysgol o fewn yr ystyr sydd i hynny yn adran 122(5) o Ddeddf 2002.”.
(5) Ar ddiwedd paragraff 9 ychwaneger y geiriau “, ac fel y'i diwygiwyd gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, ar y naill law, a Chyd-ffederasiwn y Swistir, ar y llaw arall, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(1) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.”.
(6) Ar ôl paragraff 19 ychwaneger y paragraff canlynol —
“20. Person —
(a)sydd wedi cwblhau yn llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a bod yr hyfforddiant hwnnw'n cael ei gydnabod felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;
(b)nad oes ganddo lai na dwy flynedd o brofiad dysgu llawnamser, neu yr hyn sy'n cyfateb i hynny yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall;
(c)sy'n athro neu'n athrawes gymwysedig yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(2); a
(ch)y cafwyd, pan gafodd ei asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei fod yn bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.”.
Cm 4904.
O.S. 1999/2817 (Cy.18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12) a 2003/2458 (Cy.240).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: