Search Legislation

Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 4

ATODLEN 1YR HYN A GYNHWYSIR MEWN CYNIGION AGB, CYNIGION ADNEWYDDU NEU GYNIGION DIWYGIO

1.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), y materion sydd i'w cynnwys yng nghynigion yr AGB yw —

(a)datganiad ynghylch pa waith neu wasanaethau sydd i'w darparu, enw'r sawl fydd yn eu darparu (enw'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol) a sut fath o gorff yw'r darparwr (boed yn awdurdod lleol, yn gwmni o dan reolaeth yr awdurdod, yn gwmni cyfyngedig, yn bartneriaeth neu'n gorff arall);

(b)datganiad ynghylch y gwasanaethau sylfaenol presennol (os oes rhai) a ddarperir gan yr awdurdod bilio perthnasol neu awdurdod cyhoeddus arall;

(c)disgrifiad o'r ardal ddaearyddol (gan gynnwys map yn dangos yr ardal honno) lle bydd trefniadau'r AGB arfaethedig yn cael effaith;

(ch)datganiad ynghylch a fydd yr holl drethdalwyr annomestig yn yr ardal ddaearyddol, neu grŵp penodol ohonynt, yn atebol i dalu lefi'r AGB; eglurhad ynghylch sut y cyfrifir lefi'r AGB sydd i'w godi ac eglurhad ynghylch a fydd unrhyw gostau a achosir wrth ddatblygu cynigion yr AGB, yng nghyswllt cynnal pleidlais neu wrth weithredu'r AGB yn cael eu hadennill drwy lefi'r AGB;

(d)datganiad ynghylch y grŵp penodol o drethdalwyr annomestig (os oes un) y bydd unrhyw ryddhad rhag talu lefi'r AGB yn berthnasol iddo, ac ar ba lefel;

(dd)datganiad ynghylch a ganiateir diwygio trefniadau'r AGB heb bleidlais ddiwygio ac, os ie, pa agweddau ar drefniadau'r AGB y caniateir eu diwygio fel hyn;

(e)datganiad ynghylch parhad trefniadau'r AGB; a

(f)datganiad ynghylch dyddiad cychwyn trefniadau'r AGB.

(2O ran is-baragraff (1)(c), ni chaiff yr ardal ddaearyddol lle bydd trefniadau'r AGB yn cael effaith gynnwys rhan yn unig o hereditament cyfan.

(3O ran is-baragraff (1)(f), rhaid i gynigydd yr AGB nodi faint o ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2 y bydd yn bwriadu i drefniadau'r AGB gychwyn, ac ni chaiff y dyddiad cychwyn hwn fod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.

2.  Y materion sydd i'w cynnwys mewn cynigion adnewyddu yw —

(a)datganiad ynghylch cyfnod arfaethedig (heb fod yn fwy na 5 mlynedd) y trefniadau AGB adnewyddedig; a

(b)crynodeb o drefniadau'r AGB (gan gynnwys ardal ddaearyddol yr AGB, y gwaith neu'r gwasanaeth a ddarperir, esboniad ynghylch pwy sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, lefel lefi'r AGB a sut y caiff ei gyfrifo).

3.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y materion sydd i'w cynnwys yn y cynigion diwygio yw disgrifiad o sut y bwriedir diwygio trefniadau'r AGB o ran y canlynol —

(a)y gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir neu'r person a fydd yn gyfrifol am weithredu trefniadau yr AGB;

(b)crynodeb o'r gwasanaethau sylfaenol presennol (os oes rhai) a ddarperir gan yr awdurdod bilio perthnasol;

(c)yr ardal ddaearyddol (gan gynnwys map yn dangos yr ardal honno) lle bydd trefniadau'r AGB arfaethedig yn cael effaith;

(ch)pa drethdalwyr annomestig yn yr ardal ddaearyddol fydd yn atebol i dalu lefi'r AGB; esboniad o sut y cyfrifir lefi'r AGB ac esboniad ynghylch a fydd unrhyw gostau a achosir wrth ddatblygu cynigion yr AGB, wrth gynnal pleidlais neu weithredu'r AGB yn cael eu hadennill drwy lefi'r AGB;

(d)y categori o drethdalwyr annomestig (os oes un) y bydd unrhyw ryddhad rhag talu lefi'r AGB yn berthnasol iddo, ac ar ba lefel;

(dd)a fydd trefniadau'r AGB yn cael eu diwygio heb bleidlais ddiwygio ac, os byddant, pa agweddau ar drefniadau'r AGB fydd yn cael eu diwygio yn y modd hwn; a

(e)datganiad ynghylch dyddiad cychwyn y diwygiadau i drefniadau'r AGB.

(2O ran is-baragraff (1)(c), ni chaiff yr ardal ddaearyddol lle bydd trefniadau'r AGB yn cael effaith gynnwys rhan yn unig o hereditament cyfan.

(3O ran is-baragraff (1)(e), rhaid i'r corff AGB neu'r corff AGB awdurdod lleol, yn ôl y digwydd, bennu faint o ddyddiau ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch y canlyniad o dan baragraff 17 o Atodlen 2 y bydd yn bwriadu i drefniadau'r AGB ddod i rym, ac ni chaiff y dyddiad cychwyn hwn fod ddim hwyrach na blwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.

Rheoliad 7

ATODLEN 2RHEOLAU AR GYFER PLEIDLEISIAU AGB, PLEIDLEISIAU ADNEWYDDU A PHLEIDLEISIAU DIWYGIO

DARPARIAETHAU YNGHYLCH AMSER

Amserlen

1.  Rhaid gweithredu'r bleidlais yn unol â'r Amserlen ganlynol.

Amserlen
GweithredAmser
Yr awdurdod bilio yn cyfarwyddo trefnydd y bleidlaisYn unol â rheoliad 5
Cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bleidlaisO leiaf 42 diwrnod cyn diwrnod y bleidlais (paragraff 3)
Diwrnod y bleidlaisY diwrnod a bennir yn unol â pharagraff 2
Cyhoeddi'r canlyniadYn unol â pharagraff 17

RHEOLAU AR GYFER PLEIDLEISIAU

Diwrnod y bleidlais

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i drefnydd y bleidlais sicrhau bod diwrnod y bleidlais —

(a)yn ddiwrnod gwaith;

(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y papurau pleidleisio at y pleidleiswyr (neu, lle anfonwyd y papurau pleidleisio ar fwy nag un dyddiad, ar ôl y dyddiad diwethaf); a

(c)dim hwyrach na 90 diwrnod yn cychwyn ar y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad fel sy'n ofynnol o dan baragraff 3(a).

(2Ddim hwyrach na 42 o ddiwrnodau cyn diwrnod y bleidlais, gall trefnydd y bleidlais ohirio diwrnod y bleidlais o hyd at 15 o ddiwrnodau gwaith.

(3Pan fydd trefnydd y bleidlais yn gohirio'r bleidlais o dan is-baragraff (2), rhaid iddo hysbysu'r awdurdod bilio perthnasol a chynigydd yr AGB neu'r corff AGB, yn ôl y digwydd, yn ysgrifenedig ynghylch diwrnod newydd y bleidlais a'r rhesymau dros ohirio a rhaid iddo gymeryd camau rhesymol i gyhoeddi dyddiad newydd y bleidlais.

Pleidleisiau — gweithdrefnau rhagarweiniol

3.  Rhaid i drefnydd y bleidlais, o leiaf 42 o ddiwrnodau cyn diwrnod y bleidlais —

(a)cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bleidlais gan nodi —

(i)diwrnod y bleidlais; a

(ii)y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal drwy'r post yn llwyr, gyda'r pleidleisiau i'w dychwelyd erbyn 5p.m. ar ddiwrnod y bleidlais;

(b)paratoi rhestr o'r personau sydd â hawl i bleidleisio ac unrhyw bleidleisiau procsi (os oes rhai);

(c)anfon at bob person sydd â hawl i bleidleisio neu, os yw'n berthnasol, at ei berson procsi, ddatganiad —

(i)yn egluro'r trefniadau ar gyfer y bleidlais;

(ii)yn egluro bod rheoliad 4(3) yn caniatáu i'r person hwnnw ofyn am gopi o gynigion yr AGB gan gynigydd yr AGB; ac yn

(iii)darparu enw a chyfeiriad cynigydd yr AGB; ac

(ch)anfon copi o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Pleidleisiau — cyffredinol

4.—(1Rhaid i bob pleidlais fod yn bleidlais bost.

(2Bydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio mewn pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, un bleidlais am bob hereditament a feddiannir neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn ardal ddaearyddol yr AGB.

(3Wrth gadarnhau gwerth ardrethol hereditament i bwrpas pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, ni ddylid ystyried unrhyw ddiwygiad i'r gwerth ardrethol na ddangosir yn y rhestr a gedwir o dan adran 42(4) o Ddeddf 1988 yn union cyn diwedd diwrnod y bleidlais.

Pleidleisio drwy brocsi

5.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r paragraff hwn, caiff unrhyw berson gael ei benodi yn berson procsi i bleidleisio dros rywun arall mewn pleidlais, a chaiff bleidleisio yn rhinwedd y penodiad hwnnw.

(2Ni chaiff person sydd â hawl i bleidleisio benodi mwy nag un person procsi ar y tro i bleidleisio drosto mewn pleidlais.

(3Pan fydd person sydd â hawl i bleidleisio yn gwneud cais i drefnydd y bleidlais i benodi person procsi i bleidleisio drosto mewn pleidlais arbennig, rhaid i drefnydd y bleidlais wneud y penodiad os bydd y cais yn cwrdd â gofynion y paragraff hwn ac os yw'r person procsi yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.

(4Rhaid i gais i benodi person procsi gynnwys —

(a)enw a chyfeiriad llawn y person y mae'r person sydd â hawl i bleidleisio (yr ymgeisydd) eisiau ei benodi yn brocsi drosto;

(b)cyfeiriad hereditament yr ymgeisydd;

(c)llofnod yr ymgeisydd; a

(ch)datganiad ei fod wedi cysylltu gyda'r person procsi a enwir a bod y person procsi hwnnw yn gallu ac yn fodlon cael ei benodi.

(5Rhaid i gais i benodi procsi gael ei wrthod i bwrpas pleidlais arbennig os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y degfed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais.

(6Os yw trefnydd y bleidlais yn caniatáu cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais —

(a)gadarnhau, drwy anfon rhybudd ysgrifenedig at y person sydd â hawl i bleidleisio, bod y procsi wedi ei benodi, a'i enw a'i gyfeiriad; a

(b)cynnwys manylion y person procsi ar y rhestr y cyfeirir ato ym mharagraff 3(b).

(7Os yw trefnydd y bleidlais yn gwrthod cais i benodi procsi, rhaid i drefnydd y bleidlais hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig ynghylch ei benderfyniad a'r rheswm drosto.

(8Yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), bydd y penodiad yn aros mewn grym ar gyfer y bleidlais honno yn unig.

(9Caiff y person sydd â hawl i bleidleisio ganslo'r penodiad drwy hysbysu trefnydd y bleidlais neu drwy fod y person procsi yn hysbysu trefnydd y bleidlais nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel procsi.

(10Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (9) a gyflwynir gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn canslo penodiad procsi gael ei ddiystyru i bwrpas pleidlais os yw'n cael ei dderbyn gan drefnydd y bleidlais ar ôl 5p.m. ar y pumed diwrnod cyn dyddiad y bleidlais.

(11Os yw penodiad procsi yn cael ei ganslo o dan is-baragraff (9), rhaid i drefnydd y bleidlais —

(a)hysbysu'r person sydd â hawl i bleidleisio yn ysgrifenedig bod y penodiad wedi'i ganslo;

(b)hysbysu'r person y canslwyd ei benodiad fel procsi yn ysgrifenedig, oni bai fod trefnydd y bleidlais eisoes wedi'i hysbysu gan y person hwnnw nad yw mwyach yn dymuno gweithredu fel person procsi; a

(c)tynnu enw'r person procsi oddi ar y rhestr a gedwir o dan baragraff 3(b).

Gofynion cyfrinachedd

6.—(1Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y trefniadau i anfon neu dderbyn papurau pleidleisio gadw at a chynorthwyo i gadw at ofynion cyfrinachedd y bleidlais ac ni chaiff geisio canfod wrth dderbyn y papurau pleidleisio sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio nac ychwaith gyfleu unrhyw wybodaeth amdanynt a gafwyd drwy'r trefniadau hynny.

(2Rhaid i bob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o gyfri'r pleidleisiau gadw at a chynorthwyo i gadw at gyfrinachedd y pleidleisio ac ni chaiff gyfleu unrhyw wybodaeth a gafwyd wrth gyfri'r pleidleisiau ynghylch sut y pleidleisiwyd ar unrhyw bapur pleidleisio penodol.

(3Nid oes unrhyw beth yn y paragraff hwn yn atal trefnydd y bleidlais a'i glercod rhag canfod cyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament y pleidleisiwyd mewn perthynas ag ef.

Hysbysu'r gofynion cyfrinachedd

7.  Rhaid i drefnydd y bleidlais wneud trefniadau fel y gwêl yn briodol i sicrhau bod pob person sy'n cymryd rhan yn y gwaith o anfon neu dderbyn neu gyfri'r papurau pleidleisio wedi derbyn copi ysgrifenedig o'r darpariaethau ym mharagraff 6.

Y papur pleidleisio

8.—(1Nid oes unrhyw beth i'w argraffu ar y papur pleidleisio ac eithrio yn unol â'r paragraff hwn.

(2Caiff pob papur pleidleisio fod â Rhif neu god bar ar ei gefn.

(3Ni chaiff y blwch ar gyfer dodi pleidlais ar y papur pleidleisio fod yn llai na 1.5 centimedr sgwâr.

(4Rhaid i'r holl eiriau ar y papur pleidleisio fod yn deip o'r un maint.

(5Rhaid i'r papur pleidleisio ar gyfer pleidlais AGB, neu ail bleidlais AGB, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg —

(6Rhaid i bob papur pleidleisio ar gyfer pleidlais adnewyddu, neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais adnewyddu, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg —

(7Rhaid i bob papur pleidleisio ar gyfer pleidlais ddiwygio, neu ail bleidlais yng nghyswllt pleidlais ddiwygio, gynnwys y geiriau canlynol yn Gymraeg ac yn Saesneg —

Gwahardd datgelu sut y pleidleisiwyd

9.  Ni fydd yn rhaid i unrhyw berson a bleidleisiodd, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn cwestiynu'r bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu'r ail bleidlais, ddweud sut y pleidleisiodd.

Gweithdrefn ar anfon papurau pleidleisio

10.—(1Rhaid anfon un papur pleidleisio at bob person sydd â hawl i bleidleisio yn y bleidlais AGB, y bleidlais adnewyddu, y bleidlais ddiwygio neu yn yr ail bleidlais, yn ôl y digwydd, am bob hereditament y mae ganddo hawl i bleidleisio mewn perthynas ag ef.

(2Y cyfeiriad yr anfonir y papur pleidleisio iddo yw —

(a)cyfeiriad yr hereditament neu brif leoliad busnes y person sydd â hawl i bleidleisio ar y rhestr a baratowyd o dan baragraff 3(b);

(b)mewn achos procsi, y cyfeiriad a roddir ar gyfer y procsi ar y rhestr a baratowyd o dan baragraff 3(b).

(3Ar yr un pryd, rhaid anfon at bob person sydd â hawl i bleidleisio neu, os yw'n berthnasol, at ei brocsi —

(a)datganiad wedi'i baratoi gan drefnydd y bleidlais yn egluro trefniadau'r AGB a'r trefniadau ar gyfer y bleidlais; a

(b)amlen ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio (“yr amlen ddychwelyd”).

(4At ddiben anfon y papurau pleidleisio, caiff trefnydd y bleidlais ddefnyddio —

(a)darparwr gwasanaeth cyffredinol (fel a ddiffinnir yn Neddf Gwasanaethau Post 2000(1));

(b)unrhyw ddaliwr trwydded arall o dan Ran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000 os yw ei drwydded yn ei ganiatáu i ddanfon papurau o'r fath o un lle i'r llall; neu

(c)unrhyw ddull danfon a dosbarthu arall lle nad oes angen trwydded, o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.

(5Rhaid i gost y postio fod wedi'i thalu'n barod ar yr amlenni yr anfonir y papurau pleidleisio ynddynt a rhaid i gost y postio fod wedi'i thalu'n barod ar yr holl amlenni sydd i'w dychwelyd.

(6Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol wrth anfon y papurau pleidleisio, oni bai fod gweithredwr y bleidlais yn caniatáu i'r person hwnnw fod yn bresennol.

Papurau pleidleisio a ddifethwyd

11.—(1Os yw pleidleisiwr wedi trin ei bapur pleidleisio, drwy amryfusedd, fel na ellir ei ddefnyddio'n hwylus fel papur pleidleisio (cyfeirir ato fel “papur pleidleisio a ddifethwyd”) caiff ddychwelyd y papur pleidleisio a ddifethwyd (naill ai drwy law neu yn y post) at drefnydd y bleidlais.

(2Pan fydd trefnydd y bleidlais yn derbyn y papur pleidleisio a ddifethwyd, rhaid iddo anfon papur pleidleisio arall, ac eithrio os bydd yn ei dderbyn yn ddiweddarach na 3 diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais.

(3Rhaid i drefnydd y bleidlais ganslo'r papur pleidleisio a ddifethwyd ar unwaith.

(4Pan fydd pleidleisiwr yn gwneud cais yn bersonol, caiff trefnydd y bleidlais roi papur pleidleisio arall iddo yn lle ei anfon yn unol â pharagraff 10.

Papurau pleidleisio a gollwyd

12.—(1Os nad yw pleidleisiwr wedi derbyn ei bapur pleidleisio erbyn y pedwerydd diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais, caiff wneud cais (yn bersonol neu beidio) i drefnydd y bleidlais am bapur pleidleisio arall.

(2Rhaid i gais o'r fath gynnwys tystiolaeth o bwy yw'r pleidleisiwr.

(3Os yw gweithredwr y bleidlais —

(a)yn fodlon ynghylch pwy yw'r pleidleisiwr; a

(b)nid oes ganddo unrhyw reswm i amau na dderbyniodd y pleidleisiwr ei bapur pleidleisio gwreiddiol;

rhaid iddo roi papur pleidleisio arall i'r pleidleisiwr.

(4Os yw'r pleidleisiwr yn gwneud cais yn bersonol, caiff trefnydd y bleidlais roi papur pleidleisio arall iddo yn lle ei anfon yn unol â pharagraff 10.

Derbyn papurau pleidleisio a ddychwelir

13.—(1Ni chymerir y bydd papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd yn briodol oni bydd wedi'i dderbyn gan drefnydd y bleidlais (naill ai drwy ei law neu yn y post) neu mewn lle wedi'i ddynodi'n benodol yn yr hysbysiad ynghylch y bleidlais fel man derbyn cyn 5p.m. ar ddiwrnod y bleidlais.

(2Pan fydd papur pleidleisio a ddychwelir yn cael ei dderbyn, rhaid i drefnydd y bleidlais drefnu i'w gadw mewn cynhwysydd diogel hyd nes y bo'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif.

(3Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol i dderbyn y papurau pleidleisio, oni chaniateir iddynt fod yn bresennol gan drefnydd y bleidlais.

Y Cyfrif

14.—(1Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwrnod y bleidlais, rhaid i drefnydd y bleidlais drefnu i gyfri'r papurau pleidleisio sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (yn unol â pharagraff 13(1)) a chofnodi'r nifer a gyfrifwyd.

(2Ni chaiff unrhyw berson ar wahân i drefnydd y bleidlais a'i glercod fod yn bresennol i gyfri'r papurau pleidleisio, oni chaniateir iddynt fod yn bresennol gan drefnydd y bleidlais.

Papurau pleidleisio a wrthodir

15.—(1Os bydd papur pleidleisio yn cael ei dderbyn sydd â'r un cod bar â phapur pleidleisio a dderbyniwyd eisoes, bydd y papur pleidleisio hwnnw a'r papur pleidleisio arall gyda'r un Rhif neu god bar (yn ôl y digwydd) yn annilys ac ni chânt eu cyfrif.

(2Bydd unrhyw bapur pleidleisio sydd heb ei lofnodi, heb ei farcio neu sydd yn annilys oherwydd ansicrwydd yn ei gylch, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), yn annilys ac ni chaiff ei gyfrif.

(3Ni fydd papur pleidleisio lle mae'r bleidlais wedi'i marcio—

(a)mewn man ar wahân i'r lle priodol; neu

(b)ar wahân i gyda chroes; neu

(c)gan fwy nag un marc,

yn cael ei ystyried i fod yn annilys o'r herwydd os yw'r bwriad pleidleisio yn ymddangos yn glir.

Penderfyniadau ar bapurau pleidleisio

16.  Bydd penderfyniad trefnydd y bleidlais ynghylch unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch papur pleidleisio yn derfynol.

Cyhoeddi'r canlyniad

17.—(1Rhaid i drefnydd y bleidlais ardystio —

(a)cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais ar wahân i unrhyw bleidleisiau a wnaed ar bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y rheol ym mharagraff 15;

(b)gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person mewn perthynas ag ef yn y bleidlais;

(c)cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd o blaid y cwestiwn a ofynnwyd yn y bleidlais; a

(ch)gwerth ardrethol cyfunol pob hereditament y pleidleisiodd person mewn perthynas ag ef o blaid y cwestiwn a ofynnwyd yn y bleidlais.

(2Rhaid i drefnydd y bleidlais, ar ôl ardystio o dan is-baragraff (1), —

(a)gwneud datganiad ynghylch y materion a ardystiwyd; a

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r cyhoedd ynghylch y materion a ardystiwyd.

Dilysrwydd

18.—(1Ni chaiff unrhyw bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, gael ei datgan yn annilys oherwydd unrhyw weithred neu hepgoriad gan drefnydd y bleidlais neu unrhyw berson arall o ganlyniad i fynd yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen hon, os ymddengys i lys yn ystyried y cwestiwn bod —

(a)y bleidlais AGB, pleidlais ddiwygio, pleidlais adnewyddu neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, wedi'i chynnal a'i bod i raddau helaeth yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon; a

(b)ni wnaeth y weithred neu'r hepgoriad effeithio ar ei chanlyniad.

(2Yn achos pleidlais AGB, pleidlais adnewyddu, pleidlais ddiwygio neu ail bleidlais, yn ôl y digwydd, oni bai fod achos wedi'i ddwyn yn ei gylch cyn dyddiad cychwyn y trefniadau AGB, y trefniadau AGB adnewyddedig neu'r trefniadau AGB diwygiedig (yn ôl y digwydd), cymerir iddi fod i bob pwrpas yn bleidlais dda a dilys.

Cadw papurau pleidleisio

19.  Rhaid i drefnydd y bleidlais gadw'r papurau pleidleisio am chwe mis ar ôl dyddiad y bleidlais ac yna, oni chyfarwyddir ef yn wahanol gan orchymyn yr Uchel Lys, eu dinistrio.

Rheoliad 14

ATODLEN 3CADW CYFRIF REFENIW YR AGB

RHAN 1Credydau i'r Cyfrif

1.  Am bob blwyddyn, rhaid i awdurdod bilio, y mae'n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw ar gyfer yr AGB (“y cyfrif”), gredydu i'r cyfrif hwnnw symiau sy'n cyfateb i'r eitemau a restrir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon.

Eitem 1: refeniw'r AGB

  • Symiau a dalwyd am y flwyddyn o dan adrannau 43 a 45 y Ddeddf.

Eitem 2: incwm o wasanaethau a chyfleusterau'r AGB

  • Symiau a dderbyniwyd gan yr awdurdod am y flwyddyn o ran gwasanaethau neu gyfleusterau a ddarparwyd ganddo (ac eithrio cyfraniadau a wnaed ganddo i'r AGB o dan adran 43(2)(a) y Ddeddf) o dan drefniadau'r AGB.

Eitem 3: lleihad yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg neu amheus

  • Y canlynol sef —

    (a)

    unrhyw symiau a gafodd eu debydu i'r cyfrif am flwyddyn flaenorol o dan is-baragraff (a) eitem 3 Rhan 2 o'r Atodlen hon sydd wedi eu hadennill gan yr awdurdod yn ystod y flwyddyn; a

    (b)

    unrhyw swm o faint y dylid ym marn yr awdurdod, lleihau unrhyw ddarpariaeth a gafodd ei debydu i'r cyfrif am flwyddyn flaenorol o dan is-baragraff (b) yr eitem honno.

Eitem 4: balans credyd o'r flwyddyn flaenorol

  • Unrhyw falans credyd a ddangosir yn y cyfrif am y flwyddyn flaenorol.

RHAN 2Debydau i'r Cyfrif

2.  Am bob blwyddyn, rhaid i awdurdod bilio, y mae'n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw ar gyfer yr AGB (“y cyfrif”), ddebydu i'r cyfrif hwnnw symiau sy'n cyfateb i'r eitemau a restrir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon.

Eitem 1: cost casglu ar gyfer yr AGB

  • Y gost i'r awdurdod o gasglu lefi'r AGB am y flwyddyn.

Eitem 2: gwariant ar yr AGB

  • Gwariant yr awdurdod am y flwyddyn o ganlyniad i drefniadau'r AGB (gan gynnwys symiau a dalwyd i drydydd parti am gyflawni'r gwaith neu'r gwasanaethau a ddarperir o dan drefniadau'r AGB).

Eitem 3: darpariaeth ar gyfer dyledion drwg neu amheus

Y canlynol sef —

(a)unrhyw symiau a gredydwyd i'r cyfrif am y flwyddyn neu am unrhyw flwyddyn flaenorol o dan eitem 1 neu 2 Rhan 1 o'r Atodlen hon sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddyledion drwg y dylid eu diddymu; ac

(b)unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dyledion amheus y dylid, ym marn yr awdurdod, ei gwneud o ran symiau o'r fath a gredydwyd.

Eitem 4: balans Debyd o'r flwyddyn flaenorol

  • Unrhyw falans debyd a ddangosir yn y cyfrif am y flwyddyn flaenorol.

Rheoliad 15

ATODLEN 4CODI, GWEINYDDU, CASGLU, ADENNILL A GWEITHREDU LEFI'R AGB

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon, y mae “cyfnod perthnasol” yng nghyswllt hysbysiad yn golygu'r cyfnod trethadwy y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.

(2Pan gyfeirir yn yr Atodlen hon at y diwrnod y cyflwynir hysbysiad, cymerir iddynt fod yn gyfeiriadau —

(a)os cyflwynir yr hysbysiad yn y dull a ddisgrifir yn is-baragraff (3) isod neu yn adran 233(2) o Ddeddf 1972 drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post at leoliad busnes person neu ei gyfeiriad priodol, at y diwrnod y gadawyd neu y postiwyd ef; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, at y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad.

(3Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf 1972, lle mae unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei roi neu ei gyflwyno i berson o dan yr Atodlen hon yn berthnasol i hereditament sydd (neu, lle mae hysbysiad o'r fath yn berthnasol i fwy nag un hereditament, lle mae un neu fwy ohonynt) yn lleoliad busnes y person hwnnw, gellir ei roi neu ei gyflwyno drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post ato yn y lleoliad busnes (neu, yn ôl y digwydd, yn un o'r lleoliadau busnes hynny).

(4Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf 1972 ac is-baragraff (3) uchod ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) i (8) isod, o ran unrhyw hysbysiad sy'n rhaid neu yr awdurdodir ei roi neu ei gyflwyno gan awdurdod bilio i unrhyw berson o dan yr Atodlen hon, neu o ran unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff 3(2) yr Atodlen hon (i gael ei darparu) i unrhyw berson pan gyflwynir hysbysiad galw am dalu o fewn ystyr yr Atodlen hon —

(a)gellir eu rhoi, cyflwyno neu ddarparu'r uchod drwy anfon yr hysbysiad neu'r wybodaeth at y person hwnnw ar ffurf electronig i'r cyfeiriad hwnnw a roddir gan y person hwnnw at y diben hwnnw; neu

(b)byddant yn cael eu hystyried i fod wedi eu rhoi, cyflwyno neu eu darparu i'r person hwnnw —

(i)lle bo'r awdurdod bilio a'r person hwnnw wedi cytuno at y diben hwnnw y gall y person hwnnw gael gafael ar unrhyw ddogfennau yn cynnwys yr hysbysiad neu'r wybodaeth ar wefan;

(ii)lle bo'r ddogfen yn ddogfen y mae'r cytundeb hwnnw yn berthnasol iddo;

(iii)lle mae'r awdurdod bilio wedi cyhoeddi'r ddogfen ar wefan; a

(iv)lle bo'r person hwnnw yn cael ei hysbysu, mewn dull y cytunwyd arno at y diben hwnnw am y tro rhyngddo ef a'r awdurdod bilio, ynghylch —

(aa)cyhoeddi'r ddogfen ar wefan;

(bb)cyfeiriad y wefan honno; ac

(cc)ymhle ar y wefan y gall gael gafael ar y ddogfen.

(5At ddiben unrhyw achos cyfreithiol, bydd hysbysiad a gyflwynwyd drwy'r dull a ddisgrifir ym mharagraff (4), oni phrofir yn wahanol, yn cael ei drin i fod wedi'i gyflwyno ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl —

(a)ei anfon yn unol ag is-baragraff (4)(a); neu

(b)cyflwyno hysbysiad ynghylch ei gyhoeddi yn unol ag is-baragraff (4)(b)(iv).

(6Rhaid i berson sydd wedi rhoi cyfeiriad at ddiben is-baragraff (4)(a), drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod bilio, roi gwybod i'r awdurdod bilio am unrhyw newid i'r cyfeiriad hwnnw; a bydd y newid yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.

(7Caiff person sydd wedi rhoi cyfeiriad at ddiben is-baragraff (4)(a) dynnu'r hysbysiad hwnnw yn ôl, drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at yr awdurdod bilio; a bydd y weithred o dynnu'n ôl yn cael effaith ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.

(8Caiff person sydd wedi ffurfio cytundeb gyda'r awdurdod bilio o dan is-baragraff (4)(b)(i) roi gwybod i'r awdurdod, drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig ato, nad yw mwyach yn dymuno bod yn barti yn y cytundeb; a lle cyflwynir hysbysiad o'r fath, bydd y cytundeb yn cael ei ystyried i fod wedi'i ddiddymu ar y trydydd diwrnod busnes ar ôl y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan yr awdurdod bilio.

Y gofyniad ar gyfer hysbysiadau galw am dalu

2.—(1Am bob cyfnod trethadwy, rhaid i awdurdod bilio perthnasol, yn unol â pharagraffau 4 i 6, gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i bob person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran trefniadau'r AGB am y cyfnod hwnnw.

(2Rhaid cyflwyno gwahanol hysbysiadau galw am dalu am wahanol gyfnodau trethadwy.

(3Rhaid cyflwyno hysbysiad galw am dalu o ran y swm sy'n daladwy am bob hereditament y mae person yn atebol i dalu lefi'r AGB mewn perthynas ag ef, er y gall un hysbysiad gyfeirio at y swm sy'n daladwy o ran mwy nag un hereditament o'r fath.

(4Os bydd un hysbysiad galw am dalu yn cyfeirio at y swm sy'n daladwy o ran mwy nag un hereditament, rhaid i'r symiau sy'n daladwy mewn perthynas ag ef, a'r dyddiadau y bydd y rhain yn ddyledus, gael eu penderfynu fel pe bai hysbysiadau ar wahân yn cael eu cyflwyno o ran pob hereditament.

Yr hyn a gynhwysir mewn hysbysiadau galw am dalu

3.—(1Rhaid i hysbysiad galw am dalu gynnwys y materion canlynol —

(a)datganiad yn rhoi cyfeiriad a disgrifiad pob hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;

(b)datganiad yn egluro sut y cyfrifir lefi'r AGB am bob hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo; a

(c)datganiad ynghylch ar ba ddiwrnodau (os o gwbl), at ddiben cyfrifo'r taliadau sy'n rhaid eu gwneud o dan yr hysbysiad, y deallwyd bod y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB mewn perthynas â'r hereditament yn dod o dan y disgrifiad yn nhrefniadau'r AGB o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB am y cyfnod trethadwy dan sylw.

(2Rhaid i awdurdod bilio, pan fydd yn cyflwyno hysbysiad galw am dalu, ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo —

(a)y refeniw o lefi'r AGB y dylai'r awdurdod bilio fod wedi'i dderbyn yn y flwyddyn flaenorol;

(b)faint a arian a wariwyd ar drefniadau'r AGB yn y flwyddyn flaenorol;

(c)disgrifiad o'r materion y gwariwyd yr arian hwn arnynt; a

(ch)disgrifiad o'r materion y bwriedir gwario'r refeniw o lefi'r AGB arnynt yn y flwyddyn ariannol.

Hysbysiadau annilys

4.—(1Os —

(a)yw hysbysiad galw am dalu yn annilys am nad yw'n cydymffurfio â pharagraff 3;

(b)yr oedd methiant i gydymffurfio felly wedi digwydd oherwydd camgymeriad; ac

(c)yr oedd y symiau oedd yn daladwy o dan yr hysbysiad yn galw am gael eu talu o dan baragraff 3(1),

bydd y gofyniad i dalu'r symiau hyn yn gymwys fel pe bai'r hysbysiad yn un dilys.

(2Pan fo'r gofyniad i dalu swm o dan hysbysiad annilys yn bodoli yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i'r awdurdod bilio, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl darganfod y camgymeriad, gyflwyno i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB dan sylw ddatganiad ynghylch pa faterion oedd heb eu cynnwys yn yr hysbysiad ac a ddylai fod wedi eu cynnwys.

Cyflwyno hysbysiadau galw am dalu

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid cyflwyno hysbysiad galw am dalu ar neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, —

(a)ac eithrio mewn achos sy'n dod o dan baragraff (b), diwrnod cyntaf y cyfnod perthnasol; neu

(b)os yw'r person yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament dan sylw, yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod perthnasol, y diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y mae'r person yn dod o dan y disgrifiad hwnnw.

(2Ceir cyflwyno hysbysiad galw am dalu cyn dechrau'r cyfnod perthnasol i berson sy'n ymddangos i'r awdurdod bilio perthnasol, ar y diwrnod y cyflwynir ef, ei fod yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament y mae'n berthnasol iddo; ac, os cyflwynir yr hysbysiad felly, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB, o ran yr hysbysiad hwnnw a chyn belled ag y mae'r cyd-destun yn caniatáu, i fod yn gyfeiriad at y person hwnnw.

Taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu

6.—(1Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu cyn neu yn ystod y cyfnod perthnasol ac ymddengys i'r awdurdod bilio perthnasol bod y person yn dod o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn ôl yr hyn a bennir yn nhrefniadau'r AGB o ran y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o ran yr hereditament y mae'n berthnasol iddo, bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n cyfateb i amcangyfrif yr awdurdod bilio perthnasol o'r swm sy'n daladwy am y cyfnod.

(2Wrth wneud amcangyfrif o dan is-baragraff (1), rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol dybio, o ran y cyfnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad, y bydd y person yn parhau i ddod o dan y disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).

(3Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu yn ystod y cyfnod perthnasol ond nad yw is-baragraff (1) yn berthnasol, bydd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n cyfateb i'r swm sy'n daladwy am y cyfnod yn y cyfnod hyd at y diwrnod pan ddaeth y person ddiwethaf o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB fel a bennir yn nhrefniadau'r AGB o ran yr hereditament dan sylw.

(4Os, ar ôl cyflwyno hysbysiad y mae is-baragraff (3) yn berthnasol iddo, bydd y person yn dod eto o dan y disgrifiad o berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn ôl yr hyn a bennir yn nhrefniadau'r AGB am y cyfnod perthnasol o ran yr hereditament dan sylw, rhaid cyflwyno hysbysiad pellach sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo dalu'r swm sy'n daladwy o ran yr hereditament am y cyfnod o fewn y cyfnod perthnasol gan ddechrau gyda'r diwrnod y daeth y person o dan y disgrifiad hwnnw eto.

(5Pan fydd hysbysiad pellach yn cael ei gyflwyno o dan is-baragraff (4), bydd paragraffau 5 i 8 yn gymwys i'r hysbysiad pellach am y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (4) fel pe bai'n hysbysiad galw am dalu ac na ddaeth y person yn flaenorol o dan y disgrifiad dywededig o fod yn atebol i dalu lefi'r AGB fel a nodir yn nhrefniadau'r AGB.

(6Os cyflwynir hysbysiad galw am dalu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid iddo alw am dalu'r swm sy'n daladwy am y cyfnod.

Taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu: darpariaeth bellach

7.—(1Os na chyrhaeddir cytundeb o dan is-baragraff (3) am y cyfnod perthnasol cyn cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.

(2Os cyrhaeddir cytundeb o dan is-baragraff (3) o ran y cyfnod perthnasol cyn cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy yn unol â'r cytundeb hwnnw.

(3Caiff awdurdod bilio perthnasol a pherson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB gytuno bod amcangyfrif o'r swm sy'n daladwy ac sy'n rhaid ei dalu o dan hysbysiad y mae paragraff 6(1) yn gymwys iddo yn cael ei dalu drwy ddull a ddarperir ar ei gyfer o dan y cytundeb.

(4Er gwaethaf unrhyw beth yn narpariaethau blaenorol y paragraff hwn, caniateir ffurfio cytundeb o'r fath naill ai cyn neu ar ôl cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu dan sylw, a chaniateir darparu ar gyfer rhoi'r gorau i'r taliadau neu eu haddasu, ac ar gyfer gwneud amcangyfrifon o'r newydd, os bydd yr amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff 6(1) yn digwydd â bod yn anghywir; ac os ffurfiwyd y cytundeb ar ôl cyflwyno'r hysbysiad galw am dalu, caiff ddarparu at ddiben y cytundeb ar gyfer delio gydag unrhyw symiau a dalwyd cyn ei ffurfio.

(5Rhaid i hysbysiad y mae paragraff 6(3) neu (5) yn gymwys iddo ei gwneud yn ofynnol i dalu swm sy'n daladwy pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.

(6Nid oes yn rhaid i berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB wneud unrhyw daliad o'r swm sy'n daladwy o ran hereditament am unrhyw gyfnod trethadwy os na chyflwynir hysbysiad o dan yr Atodlen hon yn ei gwneud yn ofynnol.

Hysbysiadau galw am dalu: addasiad terfynol

8.—(1Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol —

(a)os yw hysbysiad wedi'i gyflwyno gan awdurdod bilio perthnasol o dan yr Atodlen hon yn galw am dâl neu daliadau gan berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r hereditament am gyfnod trethadwy neu ran o gyfnod trethadwy;

(b)os cafwyd bod y tâl neu'r taliadau sy'n rhaid eu talu yn fwy neu'n llai na'r swm sy'n daladwy o ran yr hereditament am y cyfnod neu ran o'r cyfnod dan sylw; ac

(c)os na wneir darpariaeth ar gyfer addasu'r symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad ac ar gyfer (lle bo'n briodol) gwneud taliadau ychwanegol, neu ar gyfer ad-dalu neu gredydu unrhyw or-daliad gan unrhyw ddarpariaeth arall o dan yr Atodlen hon neu o dan unrhyw gytundeb a ffurfiwyd o dan baragraff 7(3).

(2Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cyfnod neu ran o'r cyfnod ddod i ben, gyflwyno hysbysiad pellach i'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn nodi'r swm sy'n daladwy am y cyfnod neu ran ohono yng nghyswllt yr hereditament, gan addasu (drwy gyfeirio at y swm hwnnw) y symiau sy'n daladwy o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).

(3Os yw'r swm a nodir yn yr hysbysiad pellach yn fwy na'r swm sy'n ofynnol i'w dalu o dan yr hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), bydd y gwahaniaeth, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, yn daladwy gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB i'r awdurdod bilio perthnasol pan ddaw cyfnod o'r fath i ben (nid llai na 14 diwrnod) ar ôl diwrnod cyflwyno'r hysbysiad fel a bennir ynddo.

(4Os gwnaed gor-daliad o ran unrhyw atebolrwydd gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o dan yr Atodlen hon, rhaid i swm y gor-daliad, na wneir darpariaeth arall fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) ar ei gyfer, —

(a)cael ei ad-dalu os bydd y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn gofyn amdano; neu

(b)mewn unrhyw achos arall (fel a benderfynir gan yr awdurdod bilio perthnasol), naill ai gael ei ad-dalu neu ei gredydu yn erbyn unrhyw atebolrwydd dilynol gan y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB ar ffurf taliad lefi'r AGB neu dreth annomestig.

Gorfodi

9.  Bydd Rhan III o ac Atodlenni 2 i 4 o Reoliadau 1989 yn gymwys o ran gorfodi lefi'r AGB gyda'r diwygiadau canlynol —

(a)rhaid darllen y cyfeiriad yn rheoliadau 10 a 20 at swm sy'n daladwy i awdurdod bilio o dan Ran II o'r Rheoliadau hynny i fod yn cynnwys cyfeiriad at swm sy'n daladwy i awdurdod bilio o dan yr Atodlen hon;

(b)ni fydd rheoliad 11(3) yn gymwys;

(c)rhaid darllen rheoliad 12(1) fel pe bai'r geiriau o “an amount which has fallen due under under regulation 8(2)” hyd at “required under regulation 11)” wedi eu heithrio;

(ch)rhaid darllen y diffiniad o “authorised person” yn rheoliad 21(7) i fod yn cynnwys person a awdurdodir gan awdurdod bilio i arfer unrhyw swyddogaeth yng nghyswllt casglu a gorfodi lefi'r AGB;

(d)rhaid darllen y cyfeiriad yn rheoliad 22 at swm sy'n daladwy o dan Ran II o'r Rheoliadau hynny i berson ar wahân i awdurdod bilio i fod yn cynnwys cyfeiriad at swm sy'n daladwy o dan yr Atodlen hon i berson ar wahân i awdurdod bilio;

(dd)rhaid darllen rheoliad 23(2) fel pe bai'r geiriau “or the contents of any BID arrangements made under Part 4 of the Local Government Act 2003” wedi eu dodi ar ôl y geiriau “such a list” a'r geiriau “or the arrangements” wedi eu dodi ar ôl y geiriau “list or extract”;

(e)rhaid darllen rheoliad 23(3) fel pe bai—

(i)is-baragraffau (a) a (b) wedi eu disodli gan gyfeiriad at hysbysiad a wneir o dan baragraff 8(2) yn yr Atodlen hon; ac fel pe bai

(ii)y geiriau “or the multiplier in substitution is set under paragraph 10 of Schedule 7 to the Act (yn ôl y digwydd)” wedi eu heithrio; a

(f)rhaid darllen rheoliad 23(4) fel pe bai'r geiriau “paragraph (3)(a) in the case in question, or sets a multiplier in substitution so that paragraph 10(4) of Schedule 7 to the Act applies in the case in question” wedi eu disodli gan gyfeiriad at baragraff 8(2) o'r Atodlen hon.

Atebolrwydd heb ei dalu ar adeg marwolaeth

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw person yn marw ac os oedd (neu yr honnwyd ei fod) ar unrhyw adeg cyn ei farwolaeth yn atebol i dalu lefi'r AGB.

(2Os —

(a)cyn marwolaeth yr ymadawedig, yr oedd yn atebol i dalu swm o dan yr Atodlen hon neu ar ffurf costau perthnasol o ran lefi'r AGB, ond sydd heb ei dalu neu eu talu; neu

(b)ar ôl marwolaeth yr ymadawedig, y byddai, oni bai am ei farwolaeth (drwy gyflwyno hysbysiad neu beidio), yn atebol i dalu swm o dan yr Atodlen hon o ran lefi'r AGB,

bydd ei ysgutor neu weinyddwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) ac i'r graddau nad yw'n fwy na'r swm sy'n daladwy gan yr ymadawedig (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB, yn atebol i dalu'r swm a gall dynnu unrhyw daliadau a wnaed (neu sydd i'w gwneud) o asedau ac eiddo personol yr ymadawedig.

(3Pan fo is-baragraff (2)(b) yn berthnasol, ni fydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn codi hyd nes y cyflwynir hysbysiad iddynt yn ei gwneud yn ofynnol iddynt dalu'r swm.

(4Pan fydd swm, cyn marwolaeth yr ymadawedig, sy'n fwy na'i atebolrwydd (gan gynnwys costau perthnasol sy'n daladwy ganddo) o ran lefi'r AGB wedi'i dalu (p'un ai yw'r gor-daliad yn codi oherwydd ei farwolaeth neu beidio) a heb ei ad-dalu neu ei gredydu o dan yr Atodlen hon, bydd gan ei ysgutor neu ei weinyddwr hawl i'r swm hwnnw.

(5Y mae costau yn gostau perthnasol i bwrpas is-baragraffau (2) a (4) os —

(a)gwnaed gorchymyn neu warant (yn ôl y digwydd) gan y llys yn eu cylch o dan reoliad 12(6)(b) neu (7) neu 16(4)(b) o Reoliadau 1989, neu mewn achos o dan reoliad 20 o Reoliadau 1989; neu os

(b)mai taliadau ydynt o ran atafaelu sydd modd eu hadennill o dan reoliad 14(2)(b) o Reoliadau 1989.

(6Bydd swm yn daladwy o dan is-baragraff (2) yn orfodadwy o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig fel dyled gan yr ymadawedig, ac, felly —

(a)nid oes raid gwneud cais am orchymyn atebolrwydd mewn perthynas ag ef ar ôl marwolaeth yr ymadawedig o dan reoliad 12 o Reoliadau 1989; a

(b)bydd atebolrwydd yr ysgutor neu'r gweinyddwr yn atebolrwydd yn rhinwedd eu swyddogaeth.

(7Y mae rheoliad 23(1) a (2) o Reoliadau 1989 yn gymwys i achosion i orfodi atebolrwydd sy'n codi o dan y paragraff hwn fel ag y mae'n berthnasol i achosion eraill o dan yr Atodlen hon.

(8Cyn belled ag y bo'n berthnasol i'w hatebolrwydd o dan y paragraff hwn o ran gweinyddu ystad yr ymadawedig, gall yr ysgutor neu'r gweinyddwr gychwyn, parhau neu dynnu achos yn ôl.

Cymhwyso darpariaethau gweinyddu'r AGB i'r Goron

11.—(1Os bydd y Goron yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o dan yr Atodlen hon, ni fydd y Goron yn droseddol atebol, ond gall yr Uchel Lys, ar gais awdurdod bilio, ddatgan bod unrhyw weithred neu hepgoriad gan y Goron sy'n dramgwydd o'r fath yn anghyfreithlon.

(2Er gwaethaf unrhyw beth yn is-baragraff (1), bydd darpariaethau'r Atodlen hon yn berthnasol i'r Goron fel ag i bersonau eraill.

(3Ni cheir arfer unrhyw hawl mynediad a roddir o dan yr Atodlen hon o ran unrhyw hereditament a feddiannir neu, os na feddiannir, a berchenogir gan Ei Mawrhydi yn breifat, a dehonglir yr is-baragraff hwn fel pe bai adran 38(3) o Ddeddf Achosion yn Erbyn y Goron 1947(2) wedi'i chynnwys yn yr Atodlen hon.

Cyd-ddeiliaid a chyd-berchenogion: bilio

12.—(1Y mae'r paragraff hwn yn berthnasol mewn achos lle byddai (ar wahân i'r paragraff hwn) mwy nag un person, ar unrhyw adeg, yn atebol i dalu lefi'r AGB o ran hereditament neu ran o hereditament o'r fath.

(2Pan fydd y paragraff hwn yn berthnasol —

(a)o ran unrhyw adeg yn ystod cyfnod trethadwy pan fydd dim ond un person o'r fath yn atebol i dalu lefi'r AGB, bydd y person hwnnw yn atebol i dalu'r swm sy'n daladwy ar ffurf lefi'r AGB am y cyfnod hwnnw; ac

(b)o ran unrhyw adeg yn ystod cyfnod trethadwy pan fydd mwy nag un person o'r fath yn atebol i dalu lefi'r AGB, byddant yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy ar ffurf lefi'r AGB am y cyfnod hwnnw pe baent ond yn un person o'r fath.

(3Bydd yr Atodlen hon yn berthnasol yn unol ag is-baragraff (2); ac yn enwedig, gellir cyflwyno hysbysiad sy'n dod o dan yr Atodlen hon ac sydd o ran cyfnod lle mae paragraff (2)(b) yn berthnasol —

(a)yn unigol i bob un neu i unrhyw un o'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB dan sylw yr hawlir taliad ganddynt; neu

(b)pan fydd y personau dan sylw yn atebol ar y cyd ac yn unigol fel partneriaid neu ymddiriedolwyr, ar y cyd i'r bartneriaeth neu'r ymddiriedolaeth (os byddai angen cyflwyno ond un hysbysiad mewn perthynas â hwy a dehonglir cyfeiriadau at “y person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB” yn yr Atodlen hon o ran yr hysbysiad fel cyfeiriadau at y partneriaid neu'r ymddiriedolwyr ar y cyd).

(4Caniateir cyflwyno hysbysiad i bartneriaeth neu ymddiriedolaeth o dan baragraff (3)(b) —

(a)yn achos partneriaeth, fel a ddisgrifir yn adran 233(3)(b) o Ddeddf 1972; neu

(b)yn achos ymddiriedolaeth, drwy ei gyflwyno i un o'r ymddiriedolwyr;

os oes angen cyflwyno hysbysiad o'r fath i bartneriaeth, person sydd â rheolaeth dros neu sy'n gyfrifol am reoli busnes y bartneriaeth neu ymddiriedolaeth o dan y paragraff hwn, bydd cyfeiriad priodol y bartneriaeth, y person neu'r ymddiriedolaeth (yn ôl y digwydd) yn cynnwys (yn ogystal â'r cyfeiriad y cyfeirir ato yn adran 233(4) o Ddeddf 1972) unrhyw leoliad busnes sy'n hereditament y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo.

(5Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (3)(a) i fwy nag un person am yr un swm, rhaid i'r awdurdod bilio hysbysu pob person y cyflwynir hysbysiad iddo ynghylch hynny.

(6Pan fydd hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (3)(a) i berson sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn cyfeirio at amser yn y flwyddyn dan sylw pan fydd paragraff (2)(a) yn berthnasol ac at amser pan fydd paragraff (2)(b) yn berthnasol, bydd unrhyw daliad a wneir gan y person o dan yr hysbysiad yn cael ei drin fel taliad yn erbyn y swm y mae'r person hwnnw yn unigol gyfrifol amdano oni bai a hyd nes y rhyddheir ei atebolrwydd i dalu'r swm hwnnw.

(7At ddiben unrhyw amser y mae paragraff (2)(b) yn gymwys iddo, os yw'r disgrifiad o'r person sy'n atebol i dalu lefi'r AGB yn gofyn bod y trethdalwr yn elusen neu'n ymddiriedolwr ar gyfer elusen, ystyrir y gofyniad hwn i fod wedi'i gyflawni os yw un neu fwy o'r personau sy'n atebol ar y cyd ac yn unigol yn elusen, neu (yn ôl y digwydd) os yw rhai neu bob un ohonynt yn ymddiriedolwyr ar gyfer elusen.

(8Pan fydd yn rhaid i unrhyw swm a dalwyd o ran swm a gyfrifiwyd drwy gyfeirio at baragraff (2)(b) gael ei ad-dalu, gellir ei ad-dalu i unrhyw berson y gwêl yr awdurdod bilio yn briodol.

(9Nid yw paragraffau (2)(b) ac (8) yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl neu ddyletswydd o dan y gyfraith neu o dan gyfraith ecwiti (boed o dan delerau unrhyw ymddiriedolaethau y delir yr hereditament oddi tanynt neu fel arall) os yw'r hawl honno neu'r ddyletswydd honno'n perthyn i berchennog neu i feddiannydd sydd wedi gwneud taliad neu sy'n cael ad-daliad mewn cysylltiad â rhwymedigaeth o dan baragraff 2(b) i adennill y cyfan neu ran o'r taliad oddi wrth y perchenogion neu'r meddianwyr eraill, neu oddi wrth unrhyw fuddiolwyr sydd â buddiant yn yr hereditament, neu mewn cysylltiad â rhwymedigaeth i roi cyfrif i'r rhain am y cyfan neu am ran o'r ad-daliad; ond i'r graddau nad oes hawl neu ddyletswydd o'r fath yn bodoli mewn unrhyw achos penodol (ac nad yw'r perchennog ei hun neu'r meddiannydd ei hun, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o'r fath o dan y gyfraith neu o dan gyfraith ecwiti, yn rhwym o ysgwyddo'r baich o wneud y taliad neu nad oes gan y perchennog neu'r meddiannydd hawl i gael mantais o'r taliad neu'r cyfraniad), bydd taliadau o'r fath, a fydd yn sicrhau y bydd baich y taliad neu fantais yr ad-daliad mewn cysylltiad â rhwymedigaeth o dan baragraff (2)(b) yn dod iddynt mewn cyfrannau cyfartal, yn ddyledus rhwng y perchenogion neu'r meddianwyr (yn ôl y digwydd).

Cyd-ddeiliaid a chyd-berchenogion: gorfodi

13.—(1Bydd Rhan 3 o ac Atodlenni 2 i 4 i Reoliadau 1989 yn cael effaith, gyda'r diwygiadau canlynol, yn achos adennill swm y mae personau yn atebol i'w dalu o dan adran 46 y Ddeddf fel a bennir ym mharagraff 12.

(2Rhaid cyflwyno hysbysiad atgoffa yn unol â rheoliad 11(1) a (2) o Reoliadau 1989 i bob person y gwneir cais am orchymyn atebolrwydd yn ei gylch.

(3Y mae paragraff 12(3) i (6) yn gymwys i hysbysiad atgoffa fel ag y mae'n gymwys i hysbysiad o dan yr Atodlen hon.

(4Caniateir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd a'i weithredu yn erbyn un neu fwy o'r personau sy'n atebol i dalu lefi'r AGB o ran swm y mae paragraff 12(2)(b) yn gymwys iddo, p'un ai y cyflwynwyd hysbysiad iddynt o ran y swm yn unigol neu ar y cyd.

(5Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm, yn ddarostyngedig i is-baragraff (9), caniateir cymryd camau atafaelu yn erbyn un neu fwy ohonynt.

(6Pan fydd camau atafaelu wedi cael eu cymryd yn erbyn mwy nag un person o ran swm, caniateir gwneud cais am warant draddodi ar unrhyw adeg yn erbyn un ohonynt, neu caniateir gwneud cais am wahanol warantau yn erbyn mwy nag un ohonynt.

(7Pan fydd camau atafaelu wedi cael eu cymryd yn erbyn un person yn unig, caniateir gwneud cais am warant draddodi yn ei erbyn.

(8Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person mewn perthynas â swm, a chyflwynir gwarant draddodi yn erbyn (neu os yw cyfnod o garchar wedi'i bennu yn achos) un ohonynt o dan reoliad 16(3) o Reoliadau 1989, ni chaniateir cymryd unrhyw gamau, na chamau pellach ychwaith, yn erbyn unrhyw un ohonynt drwy atafaelu, methdaliad neu ddirwyn i ben o ran y swm y cyfeirir ato yn rheoliad 16(4) o Reoliadau 1989.

(9Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm —

(a)ni chaniateir cymryd camau drwy atafaelu, traddodi, methdaliad neu ddirwyn i ben yn erbyn person mewn perthynas â'r swm tra bod camau drwy ddull arall yn cael eu cymryd yn ei erbyn mewn perthynas â'r swm; a

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), ni chaniateir cymryd camau atafaelu yn erbyn person o ran swm tra bod camau atafaelu yn cael eu cymryd yn erbyn un o'r rhai eraill o ran y swm.

(10Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm ac, wrth gymryd camau atafaelu yn erbyn un ohonynt, darganfyddir nwyddau a berchenogir ar y cyd rhwng y person hwnnw a pherson arall, nid yw is-baragraff (9)(b) yn atal atafaelu'r nwyddau hynny am y swm dan sylw; ond mewn unrhyw achos a gynhelir wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid trin taliadau yn codi o dan Atodiad 3 o Reoliadau 1989 o atafaelu'r nwyddau fel taliadau mewn perthynas â'r person y bwriadwyd codi'r lefi yn erbyn ei nwyddau pan ddarganfuwyd y nwyddau ar y cyd, ac nid fel taliadau mewn perthynas â'r person arall.

(11Pan fydd —

(a)gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn mwy nag un person o ran swm; a

(b)y mae tâl wedi codi yng nghyswllt un ohonynt o dan bennawd B yn y Tabl ym mharagraff 1 Atodlen 3 i Reoliadau 1989 o ran y swm hwnnw,

ni chaniateir ychwanegu tâl pellach i bwrpas rheoliad 14(2) o Reoliadau 1989 o dan y pennawd hwnnw neu bennawd A yn y Tabl hwnnw o ganlyniad i unrhyw lefi a godir wedyn neu yr ymdrechir ei chodi yn erbyn unrhyw un ohonynt o ran y swm hwnnw; a rhaid ystyried tâl o dan bennawd A(i) neu daliadau o dan y pennawd hwnnw a phennawd A(ii) yn erbyn un ohonynt at y diben hwnnw fel tâl neu, yn ôl y digwydd, fel taliadau o dan y pennawd hwnnw yng nghyswllt y rhai eraill yn ogystal â hwnnw.

(12Pan fydd gorchymyn atebolrwydd wedi ei wneud yn erbyn un person o ran swm, a hefyd yn erbyn person arall neu bersonau eraill (p'un ai ar yr un pryd â'r gorchymyn yn erbyn y person cyntaf neu wedyn, a ph'un ai am y swm cyfan neu ran ohono) —

(a)ni chaiff y gorchymyn a wnaed o ran pawb ond y person perthnasol gynnwys, o dan reoliad 12(6)(b) neu (7) o Reoliadau 1989, unrhyw swm ychwanegol o ran costau cyflwyno'r gorchymyn yn erbyn y llall neu'r rhai eraill;

(b)rhaid ystyried y personau hynny (gyda'r person perthnasol) fel pe baent yn atebol yn unigol ac ar y cyd i dalu'r swm o ran costau a gynhwysir yn y gorchymyn yn erbyn y person perthnasol;

(c)rhaid gwneud y gorchymyn yn eu herbyn (o dan reoliadau 12(6)(b) neu (7) o Reoliadau 1989) yng nghyswllt y swm sydd heb ei dalu mewn perthynas ag ef.

(13At ddiben is-baragraff (12), y person perthnasol yw'r person y gwnaed y gorchymyn atebolrwydd mewn perthynas â'r swm yn ei erbyn gyntaf neu, os oes mwy nag un person o'r fath, y rhai y mae'r llys yn ystyried i fod yn briodol.

(14Nid yw is-baragraff (12) i gael ei ddehongli i ganiatáu awdurdod bilio i wneud cais o dan reoliad 12(2) o Reoliadau 1989 am orchymyn atebolrwydd yn erbyn person o ran costau'n unig ar ôl i orchymyn gael ei wneud am y costau hynny yn erbyn person arall.

Gorfodi yng nghyswllt partneriaethau

14.—(1Pan fydd personau yn atebol i dalu swm fel partneriaid o dan baragraff 12(2)(b) o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 12(3)(b), ceir gwneud cais am orchymyn atebolrwydd o ran y swm a'i gyflwyno iddynt yn enw eu busnes, a bydd grym gorchymyn o'r fath yr un fel pe bai gorchmynion wedi eu gwneud yn erbyn pob partner yng nghyswllt eu hatebolrwydd am y swm hwnnw.

(2Os gwneir gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran y swm ac ni wnaed gorchymyn blaenorol yn erbyn person arall o ran y swm, dehonglir cyfeiriadau ym mharagraff 13(12) at y person perthnasol fel cyfeiriadau at y bartneriaeth.

(3Heb ragfarn i reoliad 13(2) o Reoliadau 1989 gellir cyflwyno gwŷs o dan gais am orchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes drwy ei adael yn, neu ei anfon yn y post at y bartneriaeth ym mhrif swyddfa'r bartneriaeth.

(4Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes o ran swm, nid yw paragraff 13(9)(b) yn atal atafaelu eiddo'r bartneriaeth am y swm hwnnw; ac mewn unrhyw achos cyfreithiol wedyn o dan reoliad 16 o Reoliadau 1989, rhaid ystyried y partneriaid i fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu unrhyw gostau o dan Atodlen 3 o'r rheoliadau hynny sy'n codi o'r atafaelu.

(5Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, bydd rheoliad 18(2) o Reoliadau 1989 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriad at gwmni yn cynnwys cyfeiriad at y bartneriaeth ac fel pe bai cyfeiriad at adran 221(5)(b) o Ddeddf Ansolfedd 1986(3)

(a)mewn achos lle'r oedd erthygl 7 o Orchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994(4) yn gymwys, yn gyfeiriad at adran 221(5)(c) o ran yr erthygl honno; neu

(b)mewn achos lle'r oedd erthygl 8 o'r Gorchymyn hwnnw yn berthnasol, yn gyfeiriad at adran 221(5) fel a ddisodlir gan baragraff (1)(c) o'r erthygl honno.

(6Os gwnaed gorchymyn atebolrwydd yn erbyn partneriaid yn enw eu busnes, nid yw paragraff 13(9)(a) yn atal dwyn achos ansolfedd yn erbyn y bartneriaeth yn ogystal ag yn erbyn aelodau o'r bartneriaeth, a'r achos hwnnw yn cael ei drin yn unol â Gorchymyn Partneriaethau Ansolfent 1994.

(4)

O.S. 1994/2421; gwnaed y diwygiadau perthnasol gan O.S. 2002/1308.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources