Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

YR ATODLENNI

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(1) fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2);

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(3);

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(4) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio(5); ac

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol sy'n ymwneud â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad 95/408/EC(6) y Cyngor.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw —

(a)Rhan IV o Ddeddf Amaeth 1970(7) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

(b)Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(8);

(c)Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chyfryngwyr) 1999(9);

(d)Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999(10) ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwirio cydymffurfedd cynhyrchion ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol y mae'r indent cyntaf yn Erthygl 2.1(a) o Gyfarwyddeb 95/53/EC sy'n cadarnhau'r egwyddorion sy'n rheoli trefnu arolygiadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid(11) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2001/46/EC(12), i'r graddau y mae'r ddarpariaeth Gymunedol honno yn cael ei gweithredu yn Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Sootechnegol) 1999(13);

(e)Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(14);

(f)Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(15);

(g)Rheoliadau Porthiant (Gofynion Diogelwch ar gyfer Bwyd Anifeiliaid ar gyfer Anifeiliaid sy'n Cynhyrchu Bwyd) 2000(16)); a

(h)Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw —

(a)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â —

(i)rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(17),

(ii)rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Phorthiant) (Cymru a Lloegr) 1999(18),

(iii)cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a chynnyrch bwyd yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2081/92 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a chynnyrch bwyd(19) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt(20),

(iv)cymhwyso'r rheolau a osodir ar gyfer tystysgrifau Cymunedol o natur benodol y gellir eu cael ar gyfer cynhyrchion a chynnyrch bwyd penodol yn Rheoliad (EEC) Rhif 2082/92 y Cyngor ar dystysgrifau o natur benodol ar gyfer cynhychion amaethyddol a chynnyrch bwyd(21) fel y'i diwygir ddiwethaf gan y Ddeddf sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seilir yr Undeb Ewropeaidd arnynt,

(v)rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(22) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(23),

(vi)rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(24), a

(vii)rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid —

(aa)o dan Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(25), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a

(bb)o dan Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(26), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;

(b)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cyffyrddiad â bwyd ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli deunyddiau sy'n dod i gyffyrddiad â bwyd o dan Reoliadau Offer Crochenwaith (Diogelwch) 1988(27); ac

(c)cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysDarpariaethau Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1)a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52 a 54
2.Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysDarpariaethau Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12,14, 19(1),(2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2.Yr awdurdod bwydErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 48

ATODLEN 6DIRYMIADAU

RHAN 1 —DIRYMU OFFERYNNAU SY'N GYMWYS O RAN CYMRU A RHANNAU ERAILL O BRYDAIN FAWR

Colofn 1Colofn 2Column 3
Yr OfferynnauY CyfeirnodGraddau'r Dirymu
Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd 1959O.S. 1959/831Rheoliad 6(a)
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966O.S. 1966/1073Rheoliad 10(a)
Rheoliadau Asid Erwsig mewn Bwyd 1977O.S. 1977/691Rheoliad 6(a)
Rheoliadau Clorofform mewn Bwyd 1980O.S. 1980/36Rheoliad 7(a)
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1984O.S. 1984/1918Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985O.S. 1985/2026Rheoliad 11(a)
Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990O.S. 1990/2490Rheoliad 8
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991O.S. 1991/1476Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992O.S. 1992/1971Rheoliad 8
Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992O.S. 1992/1978Rheoliad 6
Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993O.S. 1993/1658Rheoliad 6
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995O.S. 1995/77Rheoliadau 5(2) a 6(2)
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995O.S. 1995/3123Rheoliad 8
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995O.S. 1995/3124Rheoliad 10
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995O.S. 1995/3187Rheoliad 8
Rheoliadau Labelu Bwyd 1996O.S. 1996/1499Rheoliad 47
Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997O.S. 1997/1729Rheoliad 29
Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997O.S. 1997/2182Rheoliad 8
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997O.S. 1997/2537Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Bara a Blawd 1998O.S. 1998/141Rheoliad 9
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998O.S. 1998/1376Rheoliad 3(2)
Rheoliadau Llaeth Yfed 1998O.S. 1998/2424Rheoliad 7
Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999O.S. 1999/1540Rheoliad 18(1) a (3)

RHAN 2 —DIRYMU OFFERYNNAU SY'N GYMWYS O RAN CYMRU

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Yr OfferynnauY CyfeirnodGraddau'r Dirymu
Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000O.S. 2000/1866 (Cy.125)Rheoliad 6
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001O.S. 2001/1361 (Cy.89)Rheoliad 7
Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001O.S. 2001/1440 (Cy.102)Rheoliad 9
Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002O.S. 2002/2939 (Cy.280)Rheoliad 8
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003O.S. 2003/1719 (Cy.186)Rheoliad 10
Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003O.S. 2003/3037 (Cy.285)Rheoliad 9
Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003O.S. 2003/3041 (Cy.286)Rheoliad 8
Rheoliadau Mêl (Cymru) 2003O.S. 2003/3044 (Cy.288)Rheoliad 8
Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003O.S. 2003/3047 (Cy.290)Rheoliad 8
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003O.S. 2003/3053 (Cy.291)Rheoliad 8
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004O.S. 2004/314 (Cy.32)Rheoliad 11
Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004O.S. 2004/553 (Cy.56)Rheoliad 8
Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004O.S. 2004/1396 (Cy.141)Rheoliad 10(b)
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005O.S. 2005/364 (Cy.31)Rheoliad 6
Rheoliadau Bwyd â Ffytosterolau neu Ffytostanolau Ychwanegol (Labelu) (Cymru) 2005O.S. 2005/1224 (Cy.82)Rheoliad 9
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005O.S. 2005/1647 (Cy.128)Rheoliad 10(3)
(1)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.

(3)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22).

(5)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

(6)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(11)

OJ No. L265, 8.11.95, t.17.

(12)

OJ No. L234, 1.9.2001, t.55.

(19)

OJ No. L208, 24.7.92, t.1.

(20)

OJ No. L236, 23.9.2003, t.346.

(21)

OJ No. L208, 24.7.92, t.9.

(23)

O.S. 2004/1604, diwygiwyd gan O.S. 2005/2003.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources