Search Legislation

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 368 (Cy.34)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

22 Chwefror 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 32, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(2), ac, ar ôl ymghynghori yn unol ag adran 39(2) o'r Ddeddf honno, ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn ymwneud â hyn a'r cyrff hynny o gyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn —

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli a chymhwyso

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo(3);

ystyr “blwyddyn” (“year”) yw'r 12 mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

ystyr “corff llywodraeth leol” (“local government body”) yw corff llywodraeth leol yng Nghymru y mae angen archwilio'i gyfrifon yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2004 heblaw bwrdd prawf lleol a sefydlwyd o dan adran 4 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(4);

ystyr “cyngor cymuned” (“community council”) yw cyngor cymuned neu gyngor tref yn unol ag adran 27 o Ddeddf 1972;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(5);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf y Comisiwn Archwilio 1998(7);

ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003(8);

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(9);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn unrhyw ddiwrnod arall sydd yn ŵ yl y banc yng Nghymru;

ystyr “hysbysiad drwy hysbyseb” (“notice by advertisement”) yw hysbysiad a gyhoeddir yn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy'n cylchredeg yn ardal y corff llywodraeth leol; ac

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996(10);

(2Ystyr unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y “swyddog ariannol cyfrifol” yw —

(a)y person sydd, yn rhinwedd adran 151 o Ddeddf 1972, yn gyfrifol an weinyddu materion ariannol corff llywodraeth leol neu, os nad oes neb yn gyfrifol felly, y person sy'n gyfrifol am gadw cyfrifon corff o'r fath, neu

(b)os nad yw'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn alluog i weithredu oherwydd absenoldeb neu salwch, aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(11) neu, os na wnaed enwebiad o'r fath o dan yr adran honno, y person a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob corff llywodraeth leol.

(4Mae rheoliadau 10(1), 12 i 15 a 17(1), gyda'r holl addasiadau angenrheidiol, yn gymwys i gyfrifon swyddog y mae angen archwilio ei gyfrifon yn rhinwedd adran 38 o Ddeddf 2004.

Dirymu ac arbed offerynnau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir yr offerynnau canlynol —

(a)Rheoliadau 1996; a

(b)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001(12).

(2Arbedir y Rheoliadau ym mharagraff (1) i'r graddau y maent yn gymwys i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2005 ac archwilio'r cyfrifon hynny.

Cyfrifoldebau dros reoli mewnol a rheolaeth ariannol

4.—(1Y corff llywodraeth leol fydd yn gyfrifol am roi system gadarn o reoli mewnol ar waith a sicrhau ei bod yn hwyluso arfer swyddogaethau y corff hwnnw yn effeithiol a bydd yn cynnwys

(a)trefniadau ar gyfer rheoli risg; a

(b)rheoli ariannol digonol ac effeithiol.

(2Rhaid i'r corff llywodraeth leol gynnal adolygiad o leiaf unwaith mewn blwyddyn ar effeithiolrwydd ei system o reoli mewnol, a rhaid cynnwys datganiad ar reoli mewnol, a baratowyd yn ôl arferion priodol, lle bo'n berthnasol (13), ynghyd ag —

(a)unrhyw ddatganiad o gyfrifon y mae'n rhwym arno i'w gyhoeddi yn unol â rheoliad 10, neu

(b)unrhyw ddatganiad o gyfrifon os yw'r cyngor yn penderfynu gwneud hynny, unrhyw gyfrifon incwm a gwariant, datganiad o falansau neu gofnodion o dderbyniadau a thaliadau y mae'n rhwym arno i'w cyhoeddi neu eu harddangos yn unol â rheoliad 11.

Cofnodion cyfrifyddu a systemau rheoli

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) ac i'r graddau nad ydynt yn gwrthdaro â'r paragraff hwn neu ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan gorff llywodraeth leol i'w swyddog ariannol cyfrifol, y swyddog hwnnw fydd yn penderfynu ar ran y corff ar ôl ystyried, lle bo'n briodol, arferion priodol —

(a)cofnodion cyfrifyddu y corff, gan gynnwys ffurf y cyfrifon a'r cofnodion cyfrifyddu atodol; a

(b)ei systemau rheoli cyfrifyddu,

a bydd y swyddog hwnnw yn sicrhau bod y systemau rheoli cyfrifyddu a benderfynir gan y person hwnnw yn cael eu dilyn a bod cofnodion cyfrifyddu'r corff yn cael eu diweddaru a'u cynnal yn unol â gofynion unrhyw ddeddfiad ac arferion priodol.

(2Rhaid i'r cofnodion cyfrifyddu a benderfynir gan y swyddog ariannol cyfrifol ar ran corff llywodraeth leol yn unol â pharagraff (1)(a) fod yn ddigonol i ddangos trafodion ariannol y corff ac i alluogi'r swyddog ariannol cyfrifol i sicrhau bod unrhyw ddatganiad o gyfrifon, cyfrifon incwm a gwariant, datganiad o falansau neu gofnod o dderbyniadau a thaliadau a gwybodaeth ychwanegol sydd i'w darparu ar ffurf nodiadau i'r cyfrifon, yn ôl y digwydd, a gânt eu paratoi o dan y Rheoliadau hyn, yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i'r cofnodion cyfrifyddu a benderfynir gan y swyddog ariannol cyfrifol ar ran corff llywodraeth leol yn unol â pharagraff (1)(a) gynnwys yn benodol —

(a)cofnodion o ddydd i ddydd o'r holl symiau o arian a dderbynnir ac a warir gan y corff a'r materion y mae'r cyfrifon incwm a gwariant neu'r derbyniadau a thaliadau yn ymwneud â hwy;

(b)cofnod o asedau a rhwymedigaethau'r corff; ac

(c)cofnod o incwm a gwariant y y corff mewn perthynas â hawliadau a wnaed ganddo, neu sydd i'w gwneud ganddo, am gyfraniad, grant neu gymhorthdal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, unrhyw Weinidog y Goron neu gorff efallai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Gweinidog hwnnw yn talu symiau o arian iddo.

(4Rhaid i'r systemau rheoli cyfrifyddu a benderfynir gan y swyddog ariannol cyfrifol ar ran corff llywodraeth leol yn unol â pharagraff (1)(b) gynnwys —

(a)mesurau i sicrhau bod trafodion ariannol y corff yn cael eu cofnodi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac mor gywir ag sy'n rhesymol bosibl, mesurau i alluogi rhwystro a chanfod anghywirdebau a thwyll, a'r gallu i ailgyfansoddi unrhyw gofnodion a gollwyd;

(b)dynodi dyletswyddau swyddogion sy'n ymwneud â thrafodion ariannol a rhannu cyfrifoldebau'r swyddogion hynny mewn perthynas â thrafodion arwyddocaol;

(c)gweithdrefnau i sicrhau nad yw symiau anghasgladwy, gan gynnwys dyledion drwg, yn cael ei diddymu ac eithrio gyda chymeradwyaeth y swyddog ariannol cyfrifol, neu aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd at y diben hwn, ac y dangosir y gymeradwyaeth yn y cofnodion cyfrifyddu; a

(ch)mesurau i sicrhau y rheolir risg yn briodol.

Archwilio mewnol

6.  Rhaid i gorff llywodraeth leol gynnal system ddigonol ac effeithiol o archwilio mewnol i gofnodion cyfrifyddu yn fewnol a'i system o reoli mewnol, a hynny yn unol â'r arferion archwilio mewnol priodol, a rhaid i unrhyw swyddog neu aelod o'r corff hwnnw, os yw'r corff yn ei gwneud yn ofynnol —

(a)trefnu bod dogfennau'r corff sy'n ymwneud â'i gofnodion cyfrifyddu a chofnodion eraill ar gael fel y mae'n ymddangos i'r corff hwnnw ei fod yn angenrheidiol at ddibenion yr archwiliad; a

(b)rhoi'r cyfryw wybodaeth ac esboniad y mae'r corff hwnnw'n ystyried eu bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw.

Datganiad o gyfrifon

7.—(1Rhaid i gorff y mae paragraffau (3) a (4) yn gymwys iddynt baratoi yn unol ag arferion priodol ddatganiad o gyfrifon am bob blwyddyn gyda rhagair esboniadol a fydd yn cynnwys —

(a)datganiad o bolisïau cyfrifyddu;

(b)datganiad o gyfrifoldebau am y datganiad o gyfrifon;

(c)y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau corff llywodraeth leol —

(i)cyfrif refeniw cyfunol;

(ii)cyfrif refeniw tai;

(iii)mantolen gyfunol;

(iv)datganiad o holl symud cronfeydd wrth gefn;

(v)datganiad o lif arian;

(vi)cyfrifyddu grŵp a datganiadau ariannol grŵp yn unol ag arferion priodol;

(vii)unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa arall y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrifon ar wahân mewn perthynas â hi;

(ch)nodiadau i'r cyfrifon.

(2Rhaid rhoi gyda'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (1) nodyn o nifer y cyflogeion yn y flwyddyn y mae'r cyfrifon yn berthnasol iddi y disgynnodd eu tâl ym mhob cromfach o raddfa mewn lluosrifau o £10,000 gan ddechrau gyda £60,000; ac, at y dibenion hynny, ystyr “tâl” yw pob swm a dalwyd i gyflogai neu aelod, neu pob swm a all ddod i law cyflogai neu aelod, ac mae'n cynnwys symiau sy'n ddyledus fel lwfansau treuliau (i'r graddau y mae modd codi treth incwm arnynt yn y Deyrnas Unedig), ac amcangyfrif o werth ariannol unrhyw fuddiannau eraill a gafodd cyflogai neu aelod heblaw mewn arian parod.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r cyrff canlynol —

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(b)cyd–awdurdod;

(c)pwyllgor awdurdod lleol yng Nghymru (gan gynnwys cyd–bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu fwy yng Nghymru);

(ch)Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru;

(dd)awdurdod tân ac achub.

(4O ran cyngor cymuned, os yw incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn yn £1,000,000 neu fwy, neu os oedd felly ar gyfer y ddwy flynedd yn union cyn hynny, bydd gofynion paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys i'r cyngor hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.

(5Os yw'n ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gan adran 74 o Ddeddf 1989 i gynnal Cyfrif Refeniw Tai, rhaid i'r datganiad o gyfrifon sy'n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys nodyn a baratowyd yn unol ag arferion priodol mewn perthynas ag unrhyw Lwfans Atgyweiriadau Mawr a dalwyd i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o dan adran 31 o Ddeddf 2003 yn rhoi manylion incwm a gwariant ac unrhyw falans ar unrhyw gyfrif a ddefnyddiwyd i gofnodi'r grant.

(6Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gyfrifon am y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2006, a'r blynyddoedd sy'n dilyn.

Datganiadau cyfrifyddu eraill

8.—(1Rhaid i gorff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo baratoi, yn unol ag arferion priodol gyfrif incwm a gwariant a mantolen y corff ar gyfer pob blwyddyn.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r cyrff canlynol —

(a)awdurdod iechyd porthladd; a

(b)pwyllgor cynllunio trwyddedu; a

(c)bwrdd draenio mewnol.

(3O ran cyngor cymuned, os yw incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn, ac ar gyfer y ddwy flynedd yn union cyn hynny, yn llai na £1,000,000 ac os oedd:

(a)yn £100,000 neu fwy ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny ac os yw'r cyngor yn penderfynu hynny, rhaid i'r cyngor baratoi datganiad o gyfrifon yn unol ag arferion priodol ar y ffurf a bennir yn rheoliadau 7(1) a (2); neu

(b)yn £100,000 neu fwy ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, rhaid i'r cyngor baratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau'r cyngor o ran y cyfnod hwnnw ar y ffurf a bennir mewn unrhyw Ffurflen Flynyddol fel sy'n ofynnol gan arferion priodol; neu

(c)yn llai na £100,000 ar gyfer y flwyddyn neu ar gyfer unrhyw un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, rhaid i'r cyngor baratoi yn unol ag unrhyw Ffurflen Flynyddol ac ar y ffurf a bennir ynddi, fel sy'n ofynnol gan arferion priodol;

(i)cofnod o dderbyniadau a thaliadau'r cyngor mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw; neu

(ii)cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau'r cyngor mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.

(4Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2006, a'r blynyddoedd sy'n dilyn.

Llofnodi a chymeradwyo datganiad o gyfrifon etc

9.—(1Rhaid i gorff llywodraeth leol sicrhau —

(a)bod y datganiad o gyfrifon, neu

(b)os nad oes angen paratoi datganiad o gyfrifon, bod y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu

(c)os nad oes angen paratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, bod cofnod o dderbyniadau a thaliadau'r corff,

yn cael eu paratoi yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Cyn rhoi'r gymeradwyaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau (3) a (4), rhaid i swyddog ariannol cyfrifol corff llywodraeth leol lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu gofnod o dderbyniadau a thaliadau, yn ôl y digwydd, a rhaid iddo ardystio eu bod yn cyflwyno sefyllfa ariannol y corff yn deg ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi a'i incwm a gwariant neu ei fod yn cyflwyno'n briodol y derbyniadau a thaliadau, yn ôl y digwydd, ar gyfer y flwyddyn honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â'r holl gyrff llywodraeth leol cyrff y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(1) —

(a)rhaid i'r datganiad o gyfrifon sy'n ofynnol gan reoliad 7(1) gael ei gymeradwyo gan benderfyniad pwyllgor o'r corff llywodraeth leol neu fel arall, gan benderfyniad cyfarfod llawn o aelodau'r corff, ac mae'r gymeradwyaeth honno i ddigwydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag cyn 30 Mehefin yn union ar ôl diwedd blwyddyn, a

(b)yn dilyn cymeradwyaeth yn unol ag is–baragraff (a), rhaid i'r datganiad o gyfrifon gael ei lofnodi a'i ddyddio gan y person sy'n llywyddu yn y pwyllgor neu'r cyfarfod lle rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.

(4Mewn perthynas â'r holl gyrff llywodraeth leol y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(2) a (3) —

(a)rhaid i'r cyfrif incwm a gwariant a'r fantolen sy'n ofynnol gan reoliad 8(1), y datganiad o gyfrifon, os bydd y cyngor yn penderfynu hynny, fel sy'n ofynnol gan reoliad 8(3)(a) neu'r cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau fel sy'n ofynnol gan reoliad 8(3)(b), neu'r cofnodion o dderbyniadau a thaliadau neu'r cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau fel sy'n ofynnol gan reoliad 8(3)(c), gael eu cymeradwyo gan benderfyniad pwyllgor o'r corff llywodraeth leol neu fel arall gan benderfyniad cyfarfod llawn o aelodau'r corff, ac mae'r gymeradwyaeth honno i ddigwydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag cyn 30 Medi yn union ar ôl diwedd blwyddyn, a

(b)yn dilyn cymeradwyaeth yn unol ag is–baragraff (a), rhaid i'r datganiad o gyfrifon os bydd y cyngor yn penderfynu hynny, y cofnodion o'r derbyniadau a thaliadau neu'r cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, yn ôl y digwydd, gael eu llofnodi a'u dyddio gan y person sy'n llywyddu yn y pwyllgor neu'r cyfarfod lle rhoddwyd y gymeradwyaeth honno.

(5Dylid darllen y cyfeiriad ym mharagraff (3)(a) at “30 Mehefin” mewn perthynas â'r flwyddyn sy'n diweddu gyda 31 Mawrth 2006 fel cyfeiriad at “31 Gorffennaf”.

(6Os nad yw'r corff llywodraeth leol wedi cael cymeradwyaeth yn unol â pharagraffau (3),(4) a (5) mae'n ofynnol iddo:

(a)cyhoeddi datganiad cyn 30 Mehefin os yw'r corff llywodraeth leol yn gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol neu 30 Medi os yw'r corff llywodraeth leol yn gyngor cymuned yn ddarostyngedig i baragraff (5) gan gynnwys rhesymau pam na chafwyd cymeradwyaeth; a

(b)cytuno ar gamau gweithredu i sicrhau y gellir rhoi cymeradwyaeth ac yn ddarostyngedig i is–baragraffau (c) ac (ch) i gytuno ar ddyddiad newydd ar gyfer y gymeradwyaeth am y datganiad o gyfrifon, neu'r cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau yn ôl y digwydd;

(c)at ddibenion is–baragraff (b) dylid gosod dyddiad cymeradwyaeth newydd:

(i)nad yw'n fwy nag ugain o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiadau cymeradwyo ym mharagraffau (3), (4) neu (5) fel bo'n briodol, neu

(ii)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn amgylchiadau eithriadol, er gwaethaf ymdrechion gorau'r corff llywodraeth leol, ni all ddatrys materion perthnasol i ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud yn unol â'r terfyn amser yn is–baragraff (i);

(ch)os na all y corff llywodraeth leol gymeradwyo'r cyfrifon yn unol ag is–baragraff (c)(i) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gynnal cyfarfod a phenderfynu'r rhesymau pam na all gymeradwyo'r cyfrifon a chyhoeddi datganiad yn nodi'r rhesymau hynny.

Cyhoeddi datganiad o gyfrifon etc

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gorffen archwiliad, a beth bynnag cyn 30 Medi yn union ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i gorff llywodraeth leol y mae paragraff (2) isod yn gymwys iddo —

(a)cyhoeddi drwy gyfrwng heblaw drwy gyfeiriadau'n unig yn y dogfennau o gyfarfodydd, pwyllgorau neu is–bwyllgorau'r corff, y datganiad o gyfrifon a baratowyd yn unol â rheoliad 7 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a ddyroddwyd, neu a roddwyd neu a wnaed gan yr archwilydd o dan adrannau 23(2) a 33 o Ddeddf 2004 cyn y dyddiad cyhoeddi, neu os gwneir y cyhoeddi cyn gorffen yr archwiliad ac na roddwyd y cyfryw farn, ynghyd â datganiad ac esboniad o'r ffaith na roddwyd barn gan yr archwilydd erbyn y dyddiad cyhoeddi, a

(b)sicrhau bod copïau ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i —

(a)corff llywodraeth leol y mae rheoliad 7(3) yn gymwys iddo; a

(b)corff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(4) mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw.

(3Dylid darllen y cyfeiriad ym mharagraff (1) at “30 Medi” mewn perthynas â'r flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2006 fel cyfeiriad at “31 Hydref”.

Cyhoeddi cyfrif incwm a gwariant a derbyniadau a thaliadau

11.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr yn union ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i gorff llywodraeth leol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —

(a)cyhoeddi drwy gyfrwng heblaw drwy gyfeiriadau'n unig yn y dogfennau o gyfarfodydd, pwyllgorau neu is–bwyllgorau'r corff, y datganiad o gyfrifon, os yw'r cyngor yn penderfynu hynny, neu'r cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau a baratowyd yn unol â rheoliad 8(3) ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a ddyroddwyd, neu a roddwyd neu a wnaed gan yr archwilydd o dan adrannau 23(2)(a) a 33 o Ddeddf 2004 cyn y dyddiad cyhoeddi, neu, os gwneir y cyhoeddi cyn gorffen yr archwiliad ac na roddwyd y cyfryw farn, ynghyd â datganiad ac esboniad o'r ffaith na roddwyd barn gan yr archwilydd erbyn y dyddiad cyhoeddi; a

(b)cadw copïau fel eu bod ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i —

(a)corff llywodraeth leol y mae rheoliad 8(2) yn gymwys iddo; a

(b)corff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn is–baragraffau (a) neu (b) o reoliad 8(3), mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y mae'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.

(3Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr yn union ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i gorff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn rheoliad 8(3)(c), mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw, arddangos hysbysiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ofynnol mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf a chadw copïau fel eu bod ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff y corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.

(4At ddibenion paragraff (3) ystyr “yr wybodaeth ofynnol” yw cofnod o'r derbyniadau a thaliadau a baratowyd yn unol â rheoliad 8(3)(c) ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a ddyroddwyd, neu a roddwyd neu a wnaed gan yr archwilydd o dan adrannau 23(2)(a) a 33 o Ddeddf 2004 cyn y dyddiad cyhoeddi, neu, os caiff yr hysbysiad ei arddangos cyn gorffen yr archwiliad ac na roddwyd y cyfryw farn, ynghyd â datganiad ac esboniad o'r ffaith na roddwyd barn gan yr archwilydd erbyn y dyddiad y cafodd yr hysbysiad ei arddangos gyntaf.

Pennu dyddiad i etholwyr arfer eu hawliau

12.  Rhaid i'r archwilydd, at ddibenion arfer hawliau o dan adran 30(2) a 31(1) o Ddeddf 2004, bennu dyddiad y ceir arfer yr hawliau hynny ar y dyddiad hwnnw neu wedyn, a rhaid iddo hysbysu'r corff llywodraeth leol o dan sylw o'r dyddiad hwnw.

Archwiliad cyhoeddus o gyfrifon

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraeth leol a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 12, sicrhau bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill a grybwyllir yn adran 30 o Ddeddf 2004 ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus am 20 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd gan yr archwilydd, o dan y rheoliad hwnnw.

(2Rhaid i'r corff llywodraeth leol a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 12 sicrhau bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill mewn perthynas â chyfnod y mae rheoliad 8(3) yn gymwys iddo, ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus ar ôl cael hysbysiad rhesymol.

Newid cyfrifon

14.  Ac eithrio gyda chydsyniad yr archwilydd, ni chaniateir newid cyfrifon a dogfennau eraill ar ôl y dyddiad pan oeddent ar gael i'w harchwilio yn unol â rheoliad 13.

Hysbysiad o hawliau cyhoeddus

15.—(1Heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau cyn cychwyn y cyfnod pan sicrheir bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill ar gael yn unol â rheoliad 13, rhaid i gorff llywodraeth leol y mae rheoliad 10(2) yn gymwys iddo, roi hysbysiad drwy hysbyseb o'r materion a nodir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)y cyfnod y bydd y cyfrifon a'r dogfennau eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael ar gyfer archwiliad yn unol â rheoliad 13;

(b)y lle a'r amser pan fyddant ar gael;

(c)enw a chyfeiriad yr archwilydd;

(ch)y darpariaethau a gynhwysir yn adran 30 a 31 o Ddeddf 2004; a

(d)y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 12.

(3Rhaid i gorff llywodraeth leol y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3) arddangos hysbysiad sy'n cynnwys —

(a)yn ddarostyngedig i is–baragraff (b), yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) uchod mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn y cyfnod pan sicrheir bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill ar gael o dan reoliad 13; neu

(b)yn hytrach na'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 2(b) uchod, manylion am y dull y dylid rhoi hysbysiad o fwriad i archwilio'r cyfrifon a'r dogfennau eraill.

(4Rhaid i gorff llywodraeth leol wrth roi hysbysiad drwy hysbyseb neu arddangos hysbysiad o dan baragraff (1) neu (3) uchod hysbysu'r archwilydd ar unwaith yn ysgrifenedig bod hysbysiad wedi cael ei roi neu ei arddangos.

Hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig

16.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig a roddir yn unol ag adran 31(2) o Ddeddf 2004 ddatgan y ffeithiau y mae'r etholwr llywodraeth leol yn bwriadu dibynnu arnynt, a chynnwys, i'r graddau y mae'n bosibl —

(a)manylion unrhyw eitem o gyfrif yr honnir ei bod yn groes i'r gyfraith, a

(b)manylion unrhyw fater y bwriedir y gall yr archwilydd wneud adroddiad mewn perthynas ag ef o dan adran 22 o'r Ddeddf honno.

(2Ym mharagraff (1) os yw hysbysiad yn ymwneud â blwyddyn ariannol sy'n cychwyn cyn 1 Ebrill 2005 gall gynnwys yn ychwanegol at y materion hynny yn is–baragraffau (a) a (b) fanylion am unrhyw berson yr honnir y dylai'r archwilydd ardystio o dan adran 18 o Ddeddf 1998 bod swm neu gyfanswm o golled neu ddiffyg yn ddyledus oddi wrtho, a maint y swm hwnnw, ar yr amod nad yw'r hysbysiad yn ymwneud ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru(14).

Hysbysiad o orffen yr archwiliad

17.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, rhaid i gorff llywodraeth leol y mae rheoliad 10(2) yn gymwys iddo roi hysbysiad drwy hysbyseb yn datgan bod yr archwiliad wedi'i orffen a bod y datganiad o gyfrifon ar gael i'w weld gan etholwyr llywodraeth leol a chan gynnwys —

(a)datganiad o'r hawliau a roddwyd i etholwyr llywodraeth leol gan adran 29 o Ddeddf 2004; a

(b)y cyfeiriad a'r amser lle ceir arfer yr hawliau hynny.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, rhaid i gorff y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu gorff y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3) arddangos hysbysiad mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn datgan bod yr archwiliad wedi'i gwblhau a bod y datganiad o gyfrifon, os yw'r cyngor yn penderfynu hynny, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau, yn ôl y digwydd, sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn ar gael i'w gweld gan etholwyr llywodraeth leol a chan gynnwys —

(a)datganiad o'r hawliau a roddwyd i etholwyr llywodraeth leol gan adran 29 o Ddeddf 2004; a

(b)y cyfeiriad a'r amser lle ceir arfer yr hawliau hynny.

(3Os rhoddir unrhyw hysbysiad drwy hysbyseb neu os arddangosir unrhyw hysbysiad yn unol â pharagraff (1) neu (2) uchod, rhaid i'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau, yn ôl y digwydd, y trefnwyd eu bod ar gael i'w gweld —

(a)os bydd angen unrhyw ddiwygio o sylwedd iddynt o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd, naill ai gael eu hadolygu o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd, neu gael datganiad gyda hwy o'r diwygiadau sydd eu hangen o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd;

(b)os adolygir hwy fel a ddisgrifir yn is–baragraff (a) uchod, gael esboniad gyda hwy o ran y manylion perthnasol a newidiwyd o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd; ac

(c)os adolygir hwy fel a ddisgrifir yn is–baragraff (a) uchod, gael datganiad gyda hwy eu bod wedi cael eu paratoi ar ddyddiad y ddogfen wreiddiol ac nid ar ddyddiad yr adolygiad ac yn unol â hynny nad ydynt yn ymwneud â digwyddiadau rhwng y dyddiadau hynny.

(4Os oes angen diwygiad o sylwedd o ganlyniad i adroddiad yr archwilydd i'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau (“y cyfrifon”), rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol roi adroddiad am y diwygiad i'r corff llywodraeth leol neu i bwyllgor y corff llywodraeth leol hwnnw a gymeradwyodd y cyfrifon yn unol â rheoliad 9(3) neu (4) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5Rhaid i gorff llywodraeth leol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wrth roi neu arddangos hysbysiad o dan baragraff (1) neu (2) hysbysu'r archwilydd ar unwaith yn ysgrifenedig y cydymffurfiwyd â pharagraff (1) neu (2) fel y bo'n briodol.

Cyhoeddi llythyr archwiliad blynyddol

18.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl ei gael rhaid i gorff llywodraeth leol —

(a)cyhoeddi'r llythyr archwiliad blynyddol a gafwyd oddi wrth yr archwilydd; a

(b)sicrhau bod copïau ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff y corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.

Cyd–bwyllgorau etc

19.—(1Rhaid i unrhyw gyd–bwyllgor, awdurdod tân ac achub, awdurdod heddlu neu Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo adneuo gyda phob awdurdod cyfansoddol —

(a)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau a bennwyd gan reoliad 17(2), gopi o adroddiad yr archwilydd, a

(b)os yw'r pwyllgor, y bwrdd neu'r awdurdod yn gorff y mae rheoliad 7(3) yn gymwys iddo, wrth roi hysbysiad o dan reoliad 17(1), gopi o'r datganiad o gyfrifon.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod cyfansoddol” yw unrhyw sir, bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned sydd â hawl am y tro i benodi aelodau o'r pwyllgor, y bwrdd neu'r awdurdod o dan sylw ac mewn perthynas ag Awdurdod Parc Cenedlaethol mae'n cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Archwiliad eithriadol

20.  Os bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru, o dan adran 37 o Ddeddf 2004, yn cyfarwyddo archwilydd i gynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon corff llywodraeth leol, rhaid i'r corff —

(a)yn achos corff y mae rheoliad 10(2) yn gymwys iddo, roi hysbysiad drwy hysbyseb, a

(b)yn achos corff y mae rheoliad 11(2) yn gymwys iddo neu gorff y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3), arddangos hysbysiad mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff,

ynghylch hawl unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi i ymddangos gerbron yr archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o'r cyfrifon hynny.

Tramgwyddau

21.—(1Datgenir drwy hyn fod mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraffau (2) a (3) yn dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y darpariaethau y cyfeirir atynt ym maharagraff (1) yw rheoliadau 4, 7, 8, 10, 11, 13, 14, 15, 17, 18 ac 20.

(3Mae'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn cynnwys rheoliad 4 ond dim ond i'r graddau bod rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad o reolaeth mewnol gael ei gynnwys gydag unrhyw ddatganiadau o gyfrifon, unrhyw gyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau neu dderbyniadau a thaliadau.

Diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

22.—(1Diwygir Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2001(15) ac Atodlen 1 (Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(16) fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn 2 o baragraff 8 o Ran I (Swyddogaethau Amrywiol) amnewidier y canlynol “Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“Deddf 2004”). Maent yn gwneud darpariaeth o ran cyfrifon ac archwilio cyrff llywodraeth leol yng Nghymru y mae'n ofynnol archwilio eu cyfrifon yn unol â Rhan 2 o Ddeddf 2004 (heblaw byrddau prawf lleol).

Mae'r Rheoliadau'n disodli Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1996”) a dirymir hwy, ynghyd hefyd â Rheoliadau diwygio, o 1 Ebrill 2005 ymlaen (yn ddarostyngedig i arbedion penodol mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2005).

Mae'r Rheoliadau hyn yn wahanol ar lawer cyfrif i Reoliadau 1996. Ymhlith y newidiadau sy'n werth sylwi arnynt y mae'r canlynol: gofyniad newydd penodol i gyrff llywodraeth leol fod yn gyfrifol am eu rheolaeth ariannol a'u system reoli mewnol (rheoliad 4); gofyniad i ddilyn arferion archwilio mewnol priodol (rheoliad 6); cynyddu'r trothwy ariannol pan fydd yn ofynnol i gynghorau cymuned ddarparu datganiad o gyfrifon o £500,000 i £1 filiwn; cynyddu'r trothwy ariannol pan fydd angen i gynghorau cymuned baratoi cyfrifon incwm a gwariant o £50,000 i £100,000 (rheoliad 8) a gwneud y dyddiadau cau yn gynharach yn raddol dros gyfnod ar gyfer cymeradwyo a chyhoeddi datganiadau o gyfrifon i brif awdurdodau (rheoliadau 9 a 10).

Mae rheoliad 1 yn darparu y daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2005 a'u bod yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Mae rheoliad 2 yn ymwneud â dehongli'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau a'u cymhwysiad.

Mae rheoliad 3 yn ymwneud â dirymu Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (a'r Rheoliadau diwygio), sy'n rheoli'r cyfrifon a'r archwilio yn y cyrff y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt. Mae'r rheoliad hwn hefyd yn cynnwys darpariaeth arbed mewn perthynas â Rheoliadau 1996 i'r graddau y maent yn berthnasol i'r flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005.

Mae rheoliad 4 yn gosod gofyniad newydd ar gyrff llywodraeth leol, yn ei gwneud yn benodol am y tro cyntaf eu bod yn gyfrifol am sicrhau bod eu rheolaeth ariannol yn ddigonol ac yn effeithiol a bod ganddynt system gadarn o reoli mewnol y maent yn eu hadolygu'n rheolaidd. Mae rheoliad 4 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol dyroddi datganiad ar reoli mewnol gyda'r datganiadau ariannol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cofnodion cyfrifyddu a'r systemau rheoli sydd i'w cadw gan y cyrff y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt. Mae'r rheoliad hefyd yn pennu pan fydd y swyddog ariannol cyfrifol yn gwneud penderfyniadau ynghylch y cofnodion cyfrifyddu a'r systemau rheoli cyfrifyddu bod y person hwnnw yn gwneud hynny ar ran y corff llywodraeth leol.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r system archwilio fewnol y dylid ei chynnal yn unol ag arferion priodol gan y cyrff y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth o ran cyrff penodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt mewn cysylltiad â pharatoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn. Nid yw'r rhwymedigaeth hon yn gymwys i gynghorau cymuned y mae eu hincwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn berthnasol, ac a oedd am y ddwy flynedd flaenorol, yn llai na £1 filiwn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth o ran y datganiadau cyfrifyddu y mae'n rhaid eu paratoi gan gyrff penodol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, sef cyrff nad yw'r gofynion a nodir yn rheoliad 7 yn ymwneud â hwy. Cynyddir y trothwy ariannol pan fydd angen i gynghorau cymuned baratoi cyfrifon incwm a gwariant a datganiadau o falansau o £50,000 i £100,000.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â llofnodi a chymeradwyo'r amrywiol ffurfiau o gyfrifon y mae'n ofynnol eu paratoi o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r rheoliad hefyd yn cyflwyno gofyniad newydd ar gyfer person sy'n llywyddu pwyllgor neu gyfarfod i lofnodi'r datganiadau cyfrifyddu ar ôl iddynt gael cymeradwyaeth gan y pwyllgor neu'r cyfarfod a gymeradwyodd y datganiadau hynny.

Yn achos cyrff sy'n ddarostyngedig i rwymedigaeth i baratoi datganiad o gyfrifon o dan reoliad 7(1) o'r Rheoliadau hyn y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cymeradwyo'r cyfrifon yw 30 Mehefin yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Mae hyn yn newid y dyddiad o 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraeth leol i addasu i'r amserlen newydd, mae'r amserlen i'w chyflwyno'n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi datganiadau o gyfrifon a baratowyd o dan reoliad 7. Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi yw 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Mae hyn yn newid y dyddiad o 31 Rhagfyr yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol. Er mwyn cynorthwyo cyrff llywodraeth leol i addasu i'r amserlen newydd, mae'r amserlen i'w chyflwyno'n raddol dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi cyfrifon y mae'n ofynnol eu paratoi o dan reoliad 8. Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid eu cyhoeddi yw 31 Rhagfyr yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag arfer hawliau etholwyr llywodraeth leol. O dan ddarpariaethau adran 30(2) o Ddeddf 2004, mae gan etholwr llywodraeth leol neu gynrychiolydd y person hwnnw hawl i holi'r archwilydd am y cyfrifon ac, o dan ddarpariaethau adran 31(1), caiff etholwr llywodraeth leol fynd gerbron yr archwilydd a gwneud gwrthwynebiadau o ran materion penodol mewn perthynas â'r cyfrifon. Mae'r rheoliad hwn yn darparu y bydd yn rhaid i'r archwilydd bennu dyddiad y ceir arfer yr hawliau hyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a bydd yn rhaid i'r archwilydd hysbysu'r corff llywodraeth leol o'r dyddiad hwnnw.

Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â threfniadau sydd i'w gwneud ar gyfer caniatáu i'r cyhoedd archwilio'r cyfrifon a dogfennau eraill. Rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer eu harchwilio gan y cyhoedd am 20 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd gan yr archwilydd o dan ddarpariaethau rheoliad 12.

Mae rheoliad 14 yn darparu na chaiff y cyfrifon a'r dogfennau eraill y trefnwyd eu bod ar gael i'w harchwilio'n gyhoeddus eu newid ar ôl trefnu eu bod ar gael, ac eithrio gyda chydsyniad yr archwilydd.

Mae rheoliad 15 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â hawl y cyhoedd I archwilio'r cyfrifon a dogfennau eraill. Rhaid bod yr wybodaeth ar gael i'r cyhoedd o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn dechrau'r cyfnod pan drefnir bod y cyfrifon a dogfennau eraill ar gael yn unol â rheoliad 13.

Mae rheoliad 16 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynnwys unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig a roddir gan etholwr llywodraeth leol i'r archwilydd.

Mae rheoliad 17 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rhoi hysbysiad bod archwiliad wedi'i gwblhau a bod y cyfrifon ar gael i'w harchwilio gan etholwyr llywodraeth leol.

Mae rheoliad 18 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyhoeddi'r llythyr archwiliad blynyddol a gaiff cyrff llywodraeth leol oddi wrth eu harchwilydd.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyd-bwyllgorau, byrddau ar y cyd, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol o ran adneuo dogfennau penodol ynghylch eu cyfrifon a'u harchwiliadau gyda phob awdurdod cyfansoddol.

Mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr hysbysiad y mae'n rhaid ei roi gan gorff llywodraeth leol os bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyfarwyddo archwilydd i gynnal archwiliad eithriadol o gyfrifon y corff hwnnw.

Mae rheoliad 21 yn datgan bod mynd yn groes i reoliadau penodol yn dramgwydd, fel a ddarperir gan adran 39(3) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 22 yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001, drwy ddibynnu ar bwerau yn Neddf Llywodraeth Leol 2000 i ychwanegu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn at y rhestr o swyddogaethau o dan y Rheoliadau hynny nad ydynt efallai yn gyfrifoldeb gweithrediaeth na chyfrifoldeb Bwrdd yn ôl eu trefn.

(4)

2000 p.43. Gweler adrannau 12 a 59 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

(11)

1988 p.41.

(13)

Gweler adran 21(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22), a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3239 (Cy. 319) fel y'i diwygiwyd gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/1010 (Cy.107)).

(14)

Gweler O.S. 2000/3335 mewn perthynas ag awdurdodau heddlu yng Nghymru.

(17)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources