Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 423 (Cy.41) (C.19)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

1 Mawrth 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) (1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2005.

(2Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf a'r Atodlenni iddi.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Diwrnod penodedig

2.  28 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym—

(a)adran 2 (hawl mynediad i dir mynediad);

(b)adran 12 (effaith hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion);

(c)adran 13 (rhwymedigaeth meddianwyr);

(ch)adran 14 (tramgwydd arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir);

(d)adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (e) o'r erthygl hon;

(dd)adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt ym mharagraff (ff) o'r erthygl hon;

(e)Atodlen 2 (y cyfyngiadau i sydd i'w cadw gan bobl sy'n arfer hawl mynediad);

(f)paragraffau 2 (diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 (2)) a 3 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1967 (3)) o Atodlen 4; ac

(ff)i'r graddau nad yw eisoes wedi dod i rym, Rhan I o Atodlen 16 (dirymu).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mawrth 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddarpariaethau penodol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) mewn perthynas â Chymru.

Ar wahân i fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, mae'n rhoi grym i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ar 28 Mai 2005—

(a)adran 2 sy'n cyflwyno hawl mynediad cyhoeddus newydd i “dir mynediad”;

(b)adrannau 12 a 13, sy'n ymwneud ag effaith yr hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion a meddianwyr;

(c)adran 14, sy'n creu tramgwydd newydd, sef arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir hwnnw; a

(ch)Atodlen 2, sy'n cynnwys cyfyngiadau cyffredinol i'w cadw gan bobl sy'n arfer eu hawliau mynediad ar dir mynediad.

O ran Cymru, gan amlaf ystyr “tir mynediad” (diffinir “access land” yn adran 1(1) o'r Ddeddf) yw tir—

(a)a ddangosir fel gwlad agored neu dir comin cofrestredig ar fap a gyhoeddwyd ar ffurf derfynol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”) at ddibenion Rhan I o'r Ddeddf; neu

(b)a gafodd ei gyflwyno gan berson â hawl i wneud hynny o dan adran 16 o'r Ddeddf.

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi llunio mapiau ar gyfer pob ardal yng Nghymru sy'n dangos yr ardaloedd lle bydd hawliau mynediad yn gymwys. Gellir edrych ar y fersiwn electronig o'r mapiau hynny yn eu ffurf derfynol yn swyddfa leol berthnasol CCGC y mae ei chyfeiriad i'w chael ar wefan CCGC yn www.ccw.gov.uk. Hefyd, gellir edrych ar y mapiau ar raddfa lai ar y wefan honno.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Rhoddwyd grym i ddarpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yng Nghymru drwy orchymynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—

Adran(nau) neu Atodlen(ni)Y Dyddiad CychwynRhif O.S.
18, 20 a 46(1)(a)21 Mehefin 20042004/1489 (Cy.154) (C.59)
46(1)(b)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
60 a 611 Tachwedd 20022002/2615 (Cy.253) (C.82)
631 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
681 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(1)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(3)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
70(4)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
721 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
961 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
9930 Ionawr 20012001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 61 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) a 19 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol)21 Mehefin 20042004/1489 (Cy.154) (C.59)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan III i VI1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 mewn perthynas â Lloegr—

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources