Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2CYFLWYNO BWYDYDD ANIFEILIAID A'U CYFANSODDDIAD

Materion y mae'n ofynnol eu cynnwys, ac y caniateir eu cynnwys, mewn datganiad statudol neu eu datgan fel arall

8.  Ac eithrio o ran ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chynhwysir mohonynt mewn bwydydd anifeiliaid, bydd y manylion, yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol, neu y caniateir, eu cynnwys mewn datganiad statudol neu eu datgan fel arall, fel y'u pennir yn narpariaethau Atodlen 3, a rhaid iddynt gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

Ffurfiau o ddatganiadau statudol

9.—(1Ac eithrio pan fo'r amgylchiadau'n ymwneud â symiau bach o fwydydd anifeiliaid yn Erthygl 5(2) o'r Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'n rhaid i'r datganiad statudol—

(a)yn achos unrhyw ddeunydd rhagnodedig a draddodir mewn pecyn neu gynhwysydd arall

(i)fod ar ffurf label wedi ei gysylltu â'r pecyn neu'r cynhwysydd hwnnw; neu

(ii)fod wedi ei farcio'n eglur yn uniongyrchol arno, a

(b)yn achos y deunydd rhagnodedig hwnnw a draddodir mewn swmp, fod ar ffurf dogfen sy'n ymwneud â phob llwyth ac a anfonir ynghyd â phob llwyth.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid a werthir mewn swm sydd heb fod yn fwy na 10 cilogram, ac a gyflenwir yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol, gall y datganiad statudol gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig.

(3Rhaid i'r manylion, y wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol eu cynnwys neu y caniateir eu cynnwys yn y datganiad statudol—

(a)fod wedi eu gosod yn eglur ar wahân i unrhyw wybodaeth arall;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), fod yn Saesneg; a

(c)fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy.

(4At ddibenion adran 69 (marcio deunydd sydd wedi ei baratoi ar gyfer i'w werthu), rhaid i ddeunydd rhagnodedig a gynhwysir mewn pecyn neu gynhwysydd arall gael ei labelu neu ei farcio yn y dull sydd wedi ei ragnodi o ran deunydd o'r fath ym mharagraff (1) neu, os yw'n gymwys, (2), a rhaid i'r deunydd hwnnw mewn swmp gael ei farcio drwy arddangos dogfen sy'n ymwneud ag ef mor agos at y deunydd ag y bo'n ymarferol.

(5Yn achos unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd neu ddeunydd bwyd anifeiliaid y bwriedir ei hallforio i Aelod-Wladwriaeth, rhaid i'r datganiad statudol fod mewn un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Gymuned, yn ôl penderfyniad yr Aelod-Wladwriaeth honno.

(6Yn achos unrhyw fwyd anifeiliaid, ac eithrio bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys ychwanegyn yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o'r Rheoliad Ychwanegion heblaw'r rhai yn y grwpiau swyddogaeth a restrir ym mharagraff 4(a), (b) neu (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw, y bwriedir ei allforio i Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw'n Aelod-wladwriaeth, rhaid i'r datganiad statudol fod mewn un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Wladwriaeth yr allforir iddi.

Cyfyngu ar amrywio

10.—(1Mae adran 74(2) yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “or the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2006,” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “this Part of this Act”.

(2At ddibenion adran 74, fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), bydd y cyfyngiadau ar amrywiad o ran unrhyw gam-ddatgan mewn datganiad statudol, dogfen neu farc, ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd bwyd anifeiliaid, pan fo'r cam-ddatgan yn ymwneud—

(a)ag unrhyw gyfansoddyn dadansoddiadol a bennir yng ngholofn gyntaf—

(i)Rhan A o Atodlen 4 (os yw'r bwyd anifeiliaid yn fwyd anifeiliaid cyfansawdd na fwriedir ar gyfer anifeiliaid anwes),

(ii)Rhan B o Atodlen 4 (os yw'r bwyd anifeiliaid yn bwyd anifeiliaid cyfansawdd i anifeiliaid anwes), neu

(iii)Rhan C o Atodlen 4 (yn achos deunydd bwyd anifeiliaid);

(b)ag unrhyw fitamin neu elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan CH o'r Atodlen honno; neu

(c)â gwerth egni unrhyw fwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan D o'r Atodlen honno,

fel y'u nodwyd o ran y cyfansoddyn hwnnw neu y fitamin hwnnw, yr elfen hybrin honno neu'r bwyd anifeiliaid hwnnw, yn y cofnod cyfatebol yn yr ail Golofn o'r Rhan berthnasol o'r Atodlen honno.

(3At ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf neu ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â thrin manylion o ran unrhyw ddeunydd a gynhwysir mewn datganiad statudol, neu mewn unrhyw ddogfen, neu sydd wedi eu marcio ar y deunydd, neu a ddynodir gan farc ar y deunydd, fel pe baent yn anwir oherwydd unrhyw gamddatganiad ynddynt ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd y deunydd—

(a)os cafodd y deunydd ei werthu gyntaf, neu ei roi mewn cylchrediad fel arall, mewn Gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;

(b)os nad oedd y camddatganiad, ar adeg rhoi'r deunydd mewn cylchrediad, y tu hwnt i unrhyw gyfyngiadau ar amrywiadau a ragnodwyd mewn perthynas ag ef yn y Wladwriaeth dan sylw; ac

(c)os oedd unrhyw gyfyngiadau o'r fath yn cyd-fynd ag unrhyw Ddeddfwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd a oedd yn gymwys.

Priodoli ystyron ar gyfer datganiadau statudol neu farciau

11.  At ddibenion adran 70, rhoddir i'r ymadroddion “bwyd anifeiliaid cydategol” (“complementary feeding stuff”), “bwyd anifeiliaid cyflawn”, (“complete feeding stuff”) “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”) “bwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth” (“milk replacer feed”), “bwyd anifeiliaid mwynol” (“mineral feeding stuff”) a “bwyd anifeiliaid triagl” (“molassed feeding stuff”) ym mhob achos yr ystyr a roddir i'r ymadrodd o dan sylw gan reoliad 2(1).

Dull pecynnu a selio bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad fwyd anifeiliaid cyfansawdd, oni bai ei fod mewn bag neu gynhwysydd, a'r bag neu'r cynhwysydd wedi ei selio yn y fath fodd fel bod y sêl, wrth i'r bag neu'r cynhwysydd gael ei agor, yn cael ei difrodi ac na ellir ei hailddefnyddio.

(2Gall bwydydd anifeiliaid cyfansawdd gael eu rhoi mewn cylchrediad mewn swmp, mewn bagiau heb eu selio neu mewn cynwysyddion heb eu selio, yn achos —

(a)danfoniadau rhwng cynhyrchwyr bwydydd anifeiliaid cyfansawdd neu'r sawl sy'n eu rhoi mewn cylchrediad;

(b)danfoniadau oddi wrth gynhyrchwyr bwydydd anifeiliaid cyfansawdd i fentrau pecynnu;

(c)bwydydd anifeiliaid cyfansawdd a geir drwy gymysgu grawnfwydydd neu ffrwythau cyfan;

(ch)blociau neu lyfeini;

(d)symiau bach heb fod yn fwy na 50 cilogram o ran pwysau, a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol ac sy'n cael eu cymryd yn uniongyrchol o fag neu gynhwysydd a oedd, yn union cyn ei agor, yn cydymffurfio â'r ddarpariaeth ynghylch selio ym mharagraff (1).

(3Gall bwydydd anifeiliaid cyfansawdd gael eu rhoi mewn cylchrediad mewn swmp, neu mewn cynwysyddion sydd heb eu selio, ond nid mewn bagiau sydd heb eu selio, yn achos—

(a)danfoniadau uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol;

(b)bwydydd anifeiliaid triagl sy'n cynnwys llai na thri deunydd bwyd anifeiliaid;

(c)bwydydd anifeiliaid ar ffurf pelenni.

Rheoli deunyddiau bwyd anifeiliaid

13.—(1Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at Ran gyda Rhif yn golygu Rhan o Atodlen 2.

(2Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II, o dan enw heblaw'r enw a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Rhan honno.

(3Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid nas rhestrir yn Rhan II o dan enw a bennir yng ngholofn (2) o'r Rhan honno neu dan enw neu derm a allai mewn unrhyw ffordd arall gamarwain prynwr ynglŷn â beth yw'r deunydd mewn gwirionedd.

(4Pan fydd enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yng ngholofn (2) o Ran II yn cynnwys enw neu derm cyffredin a restrir yng ngholofn (4) o Ran I, ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o'r fath nac unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd yn cynnwys deunydd bwyd anifeiliaid o'r fath oni bai fod y deunydd bwyd anifeiliaid wedi cael ei baratoi drwy'r broses a bennir yng ngholofnau (2) a (3) o Ran I sy'n cyfateb i'r enw neu derm cyffredin hwnnw.

(5Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid nac unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid, oni bai—

(a)yn achos unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II, nad yw purdeb botanegol y deunydd bwyd anifeiliaid yn ôl ei bwysau yn llai na'r ganran (os oes un) a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (3) o Ran II neu, os nad oes canran wedi ei phennu, nad yw'n llai na 95%; neu

(b)yn achos unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (1) o Ran III nad yw purdeb botanegol y deunydd bwyd anifeiliaid yn ôl ei bwysau yn llai na 95%; a

bod y deunydd bwyd anifeiliaid hefyd yn cydymffurfio â'r darpariaethau ynghylch purdeb botanegol a chemegol a nodir ym mharagraff 1 o Adran II o Ran A o'r Atodiad i'r Gyfarwyddeb Bwyd Anifeiliaid.

(6Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid i lynu deunydd bwyd anifeiliaid arall, os yw swm y deunydd bwyd anifeiliaid a ddefnyddir felly yn fwy na 3% o gyfanswm pwysau'r deunydd bwyd anifeiliaid a lynir.

(7Heb ragfarnu adrannau 73 a 73A, ni chaiff unrhyw berson fewnforio i Gymru o wladwriaeth nad yw'n Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, gyflenwi (heblaw drwy werthu), meddiannu gyda golwg ar ei gyflenwi, na defnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid sy'n andwyol neu'n beryglus i anifeiliaid fferm, i anifeiliaid anwes neu, drwy yfed neu fwyta cynhyrchion unrhyw anifail a fwydwyd ar y deunydd bwyd anifeiliaid, i fodau dynol.

(8Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad na defnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid sy'n andwyol i'r amgylchedd.

(9Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad na defnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid mewn ffordd sy'n debygol o gamarwain ynghylch ei briodweddau.

(10Ym mharagraff 5(a) cymerir nad yw “disgrifiad” (“description”) yn cynnwys unrhyw ofyniad ynghylch purdeb botanegol, ac at ddibenion y rheoliad hwn ac Atodlen 2 rhaid diffinio “purdeb botanegol” (“botanical purity”) yn unol â pharagraff 2 o Adran II o Ran A o'r Atodiad i'r Gyfarwyddeb Deunyddiau Bwydydd Anifeiliaid.

Rheoli cynhyrchion a fwriedir fel bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau annymunol

14.—(1Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at golofn gyda Rhif yn golygu colofn o Atodlen 5.

(2Ni chaiff unrhyw berson—

(a)rhoi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2; na

(b)defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath fel bwyd anifeiliaid,

os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3.

(3Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol—

(a)os ydyw, gyda golwg ar y swm ohono yr argymhellir ei ddefnyddio mewn dogn dyddiol, yn cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 mewn perthynas â bwydydd anifeiliaid cyflawn; ac

(b)os nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(4Ni chaiff unrhyw berson gymysgu unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 at ddiben gwanedu gydag unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid.

(5Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath fel bwyd anifeiliaid, oni bai ei fod—

(a)mewn cyflwr da ac yn ddilys; a

(b)o ansawdd masnachol.

(6At ddibenion paragraff (5), nid yw cynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 mewn cyflwr da, yn ddilys ac o ansawdd gwerthadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng Ngholofn 1 ar lefel uwch na'r lefel a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yng ngholofn.

(7At ddibenion paragraff (3) mae “bwyd anifeiliaid” (“feeding stuff”) yn cynnwys bwyd anifeiliaid i'w fwydo drwy'r geg i anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt, a dehonglir “bwyd anifeiliaid cydategol” (“complementary feeding stuff”) a “bwyd anifeiliaid cyflawn” (“complete feeding stuff”) yn unol â hynny.

(8Mae paragraff (9) yn gymwys ar gyfer unrhyw berson sydd ag unrhyw un o'r cynhyrchion canlynol a fwriedir fel bwyd anifeiliaid yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth at ddibenion masnach neu fusnes—

(a)soeg cnewyll palmwydd;

(b)bwydydd anifeiliaid a gafwyd drwy brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill;

(c)blawd gwymon a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy'n deillio o wymon; neu

(ch)bwydydd anifeiliaid cyflawn ar gyfer pysgod neu anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.

(9Os gofynnir iddynt gan arolygydd, rhaid i unrhyw berson y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) drefnu a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad i arddangos fod yr arsenig anorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a restrir ym mharagraff (8) oddi mewn i'r cyfyngiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.

(10Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â chais a wneir dan baragraff (9) yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Rheoli bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys deunyddiau gwaharddededig

15.—(1Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys—

(a)ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul wedi eu gwahanu yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a oes unrhyw fath o drin neu gymysgu wedi ei ddefnyddio;

(b)croen wedi ei drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;

(c)hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi eu trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gan fwriadu eu lluosogi, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;

(ch)pren, blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren a driniwyd â chynhyrchion i gadw pren fel y'u diffinir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion biwleiddiadol ar y farchnad(1);

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a gafodd ei drin ymhellach, neu y bydd yn cael ei drin ymhellach neu beidio) a gafwyd drwy drin “dŵr gwastraff trefol” (“urban waste water”), “dŵr gwastraff domestig” (“domestic waste water”) neu “ddŵr gwastraff diwydiannol” (“industrial waste water”) (fel y diffinir y termau hynny yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC yn ymwneud â thrin dŵr gwastraff trefol), beth bynnag fo ffynhonell y dŵr gwastraff dan sylw(2);

(dd)gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond ac eithrio gwastraff arlwyo (“catering waste”) fel y'i diffinir gan Reoliad (EC) 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(3)

(e)pecynnau a rhannau o becynnau a ddefnyddiwyd mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.

(2At ddibenion paragraff (1) mae i “gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(4).

(3At ddibenion paragraff 1(d), diffinir y term “dŵr gwastraff” fel y diffinir “waste water” yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC yn sefydlu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio ar gyfer maethiad anifeiliaid(5).

Rheoli ffynonellau protein penodol

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), ni chaiff unrhyw berson werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid neu fel ffynhonnell protein mewn bwyd anifeiliaid, unrhyw ddeunydd sy'n perthyn i grŵp cynhyrchion a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 6, oni bai bod y deunydd hwnnw—

(a)wedi ei enwi yn gynnyrch a ganiateir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno; a

(b)yn cydymffurfio â'r holl fanylebau a gofynion a gynhwysir yng ngholofnau 3 i 6 o'r Atodlen honno a'u gorfodi ganddynt mewn perthynas ag ef.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff unrhyw berson werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw gynnyrch a geir o furumau o'r math “Candida” a dyfir ar n-alcanau.

(3Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd neu gynnyrch sydd wedi ei hepgor o gymhwysiad y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol gan Erthygl 16 ohoni yn ymwneud ag allforion i drydydd gwledydd.

(4Ni fydd paragraff (1) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a awdurdodwyd ar gyfer rhanddirymiad gan Erthygl 3.2 (yn ymwneud â dibenion gwyddonol neu arbrofol) o'r Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol.

Rheoli'r haearn a gynhwysir mewn bwydydd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth

17.  Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw fwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth a fwriedir ar gyfer lloi hyd at 70 cilogram o bwysau byw, os yw'r bwyd anifeiliaid hwnnw yn cynnwys llai na 30 miligram o haearn ym mhob cilogram o'r bwyd anifeiliaid cyflawn yn ôl cynnwys lleithedd o 12%.

Rheoli lludw sy'n annhoddadwy mewn asid hydroclorig mewn bwydydd anifeiliaid cyfansawdd

18.—(1Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad—

(a)unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd a gyfansoddwyd yn bennaf o sgil-gynhyrchion reis y mae lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig ynddo yn uwch na 3.3% o'i fater sych; na

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd arall y mae lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig ynddo yn uwch na 2.2% o'i fater sych.

(2Ni fydd paragraff (1)(b) yn gymwys ar gyfer rhoi mewn cylchrediad unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd—

(a)sydd yn cynnwys glynwyr mwynol a ganiateir sy'n cael eu henwi neu eu disgrifio yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC(6);

(b)sydd yn fwyd anifeiliaid mwynol;

(c)sydd yn cynnwys mwy na 50% o sglodion betys siwgr neu fwydion betys siwgr; neu

(ch)a fwriedir ar gyfer pysgod a ffermir ac sy'n cynnwys mwy na 15% o flawd pysgod,

os datgenir yn y datganiad statudol lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig fel canran o'r bwyd anifeiliaid fel y cyfryw.

Rheoli bwydydd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol, a darpariaethau atodol o ran datganiadau statudol

19.—(1Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw fwyd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol, oni bai—

(a)bod y diben maethiadol penodol o dan sylw wedi ei bennu yng ngholofn 1 o Bennod A o Atodlen 7;

(b)bod gan y bwyd anifeiliaid y nodweddion maethiadol hanfodol a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 2 o'r Bennod honno;

(c)bod y bwyd anifeiliaid wedi ei fwriadu ar gyfer anifeiliaid a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o'r Bennod honno;

(ch)yr argymhellir defnyddio'r bwyd anifeiliaid am gyfnod o amser sydd o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o'r Bennod honno;

(d)y cydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraffau 1, 2 ac 8 o Bennod B o Atodlen 7 o ran y bwyd anifeiliaid; ac

(dd)fod cyfansoddiad y bwyd anifeiliaid yn gyfryw fel bod modd iddo ateb y diben maethiadol penodol y bwriedir ef ar ei gyfer.

(2Bydd Atodlen 7 yn effeithiol fel a bennir yn Atodlen 3.

Rheoli ychwanegion a rhag-gymysgeddau

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson dramgwyddo neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad Ychwanegion a bennir ym mharagraff (2).

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)Erthygl 3 (rhoi ar y farchnad, prosesu a defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid), paragraffau (1) i (4), wedi eu darllen gydag Erthygl 10;

(b)Erthygl 12 (goruchwylio);

(c)Erthygl 16, paragraffau (1) i (5), (labelu a phecynnu ychwanegion a rhag-gymysgeddau).

(3Mewn unrhyw achosion ar gyfer trosedd dan baragraff (2)(a), mae'n amddiffyniad i brofi fod y weithred a achosodd y drosedd—

(a)yn un y mae Erthygl 10 o'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei chyfer; a

(b)yn un na fyddai wedi bod yn drosedd petai Rheoliadau 2001 wedi bod yn gweithredu ar yr adeg y digwyddodd y weithred.

(4Mewn unrhyw achosion ar gyfer trosedd dan baragraff (2)(c), mae'n amddiffyniad i brofi fod y weithred a achosodd y drosedd—

(a)yn un y mae Erthygl 25.2 o'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei chyfer; a

(b)yn un na fyddai wedi bod yn drosedd petai Rheoliadau 2001 wedi bod yn gweithredu ar yr adeg y digwyddodd y weithred.

(5Er gwaethaf y diddymiad y cyfeirir ato yn rheoliad 7, os anfonwyd sylwadau cychwynnol cyn 18 Hydref 2004 i'r Comisiwn yn unol â rheoliad 11(2) o'r Rheoliadau Porthiant 2000(7), ymdrinir â'r cais hwnnw yn unol â rheoliad 11 y Rheoliadau hynny.

Darpariaethau gwybodaeth

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson gyhoeddi neu ddatgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol a gafodd y person hwnnw, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 11 o Reoliadau Porthiant 2000 (“Feeding Stuffs Regulations 2000”) heb gydsyniad blaenorol ysgrifenedig—

(a)y person a wnaeth gais, yn unol â'r rheoliad hwnnw, am awdurdodiad gan y Gymuned, neu yn ôl y digwydd, am ddefnydd newydd, o'r ychwanegyn o dan sylw, neu

(b)aseinai neu olynydd perchenogaeth y person hwnnw i'r wybodaeth gyfrinachol.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn cyfyngu ar gyhoeddi neu ddatgelu'r wybodaeth honno at ddibenion arfer swyddogaethau o dan y rheoliad hwnnw.

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol o fath a bennir yn Erthygl 7(2) o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw gwybodaeth o'r fath a bennir yn Erthygl 7(1) o'r Cyfarwyddeb Ychwanegion ac mae i “ychwanegyn” (“additive”) yr ystyr a roddir yn Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.

(5Mae cyhoeddi neu ddatgelu yn groes i baragraff (1) yn dwyn cosb fel pe bai'n ddatgelu a waherddir gan adran 83 o'r Ddeddf.

(1)

OJ Rhif L123, 24.4.98, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(2)

OJ Rhif L135, 30.5.1991, t.40, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(3)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 808/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1).

(4)

OJ Rhif L194, 25.7.95, t.39, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(5)

OJ Rhif L67, 5.3.2004, t.31.

(6)

OJ Rhif L151, 19.6.2003, t.38, sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources