- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 3(c)
1. Y teuluoedd a'r grwpiau o sylweddau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(i) yw'r canlynol—
(a)cyfansoddion organohalogen a sylweddau a all ffurfio cyfansoddion o'r fath yn yr amgylchedd dyfrol;
(b)cyfansoddion organoffosfforws;
(c)cyfansoddion organotin;
(ch)sylweddau â phriodweddau carsinogenig, mwtagenig neu teratogenig yn yr amgylchedd dyfrol neu drwyddo;
(d)mercwri a'i gyfansoddion;
(dd)cadmiwm a'i gyfansoddion;
(e)olew mwynol a hydrocarbonau eraill;
(f)syanidau.
2. Y ffurfiadau creigiau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) yw'r canlynol—
(a)Crag Norwich Pleistosenaidd;
(b)Sialc Cretasaidd Uchaf;
(c)Tywodfeini Cretasaidd Isaf;
(ch)Calchfeini Cwrelaidd Jurasig Uchaf;
(d)Calchfeini Jurasig Canol;
(dd)Tywodydd Cotteswold Jurasig Isaf;
(e)Grwp Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig;
(f)Calchfaen Magnesaidd Permaidd Uchaf;
(ff)Tywodfaen Penrith Permaidd Isaf;
(g)Tywodfaen Collyhurst Permaidd Isaf;
(ng)Brecias, Clymfeini a Thywodfeini Gwaelodol Permaidd Isaf;
(h)Calchfeini Carbonifferaidd Isaf.
Rheoliad 6
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(1);
ystyr “grantwr” (“grantor”) yw person sydd wedi rhoi, neu wedi ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2); ac
ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y rhoddwyd hawliau allan ohono yn unol ag adran 78G(2).
2. Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—
(a)deuddeng mis ar ôl dyddiad rhoi'r hawliau hynny;
(b)pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 12, deuddeng mis ar ôl dyddiad y penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau i'r apêl; neu
(c)chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.
3.—(1) Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno, neu ei anfon drwy bost ragdaledig, i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.
(2) Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais,—
(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal ar ei gyfer, ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;
(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; a
(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4, a chan ddangos sut y cyfrifwyd pob swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a (5)(b), mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G(5) am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—
(a)dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o'r grant hawliau;
(b)dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau;
(c)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac —
(i)y gellir ei briodoli i'r grant hawliau neu i arfer yr hawliau hynny,
(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw, a
(iii)sy'n golled neu'n ddifrod o fath y mae iawndal am aflonyddu, neu am unrhyw fater arall nad yw wedi'i seilio'n uniongyrchol ar werth y buddiant hwnnw, yn daladwy mewn cysylltiad â hwy ar gaffael gorfodol;
(ch)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a
(d)colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.
5.—(1) Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G(5).
(2) Bydd y rheolau a nodir yn adran 5(2) o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.
(3) Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.
(4) Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d), cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.
(5) Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais —
(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais; ac
(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).
(6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G(5) gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
6.—(1) Rhaid i iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G(5) mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.
(2) Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy —
(a)pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad unigol i'w wneud ar ddyddiad penodedig, ar y dyddiad hwnnw;
(b)pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac
(c)ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.
(3) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
(4) Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2(3) a 4 o Ddeddf 1961 (sy'n darparu ar gyfer y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys —
(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2(1) o'r Ddeddf honno at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn; a
(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.
Rheoliad 13(1)
1.—(1) Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi —
(a)enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;
(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
(c)y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd;
(ch)y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;
(d)defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw;
(dd)yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; a
(e)dyddiad yr hysbysiad.
2. Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi.
3. Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
4. Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).
5. Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath —
(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a
(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.
6. Unrhyw fynegiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).
7. Mewn perthynas ag unrhyw fynegiad adfer o'r fath —
(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a
(b)materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.
8. Unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi.
9. Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.
10.—(1) Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal—
(a)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan awdurdod lleol o dan adran 78C(1)(b) neu (5)(a), neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78D(4)(b), sy'n cael effaith o ran dynodi unrhyw dir yn safle arbennig, yn rhinwedd adran 78C(7) neu adran 78D(6);
(b)y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd;
(c)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac
(ch)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.
11. Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod gorfodi at ddibenion adran 78R(1)(h) neu (j).
12. Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod gorfodi, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.
13. Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan adran 78V(1) ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.
14. Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) neu 78YB(2B)(4) rhag cyflwyno hysbysiad adfer —
(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac
(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27(5) neu trwy gamau gorfodi (o fewn ystyr adran 78YB(2C)(6)), tuag at adfer unrhyw niwed sylweddol, niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.
15.—(1) Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw —
(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac
(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod gorfodi yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59(7), mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, ac mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)(8)) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.
16. Pan fydd yr awdurdod gorfodi, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod 2 o Ran 3 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (troseddau llygru), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—
(a)y cydsyniad;
(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac
(c)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.
Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.43), adrannau 70 ac 84, Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 19, Rhan 3.
Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65), adran 193 ac Atodlen 33, paragraff 5.
Mewosodwyd is-adran (2B) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.
Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.
Mewnosodwyd is-adran (2C) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.
Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).
Diwygiwyd is-adran (3) o adran 30 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adrannau 22(3) a 66(8) ac Atodlen 9, paragraff 17(3) ac Atodlen 18.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: