Search Legislation

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3343 (Cy.304)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2006

Yn dod i rym

1 Ionawr 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, os nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y mae cymorth ariannol wedi'i roi iddo;

ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw swm a dalwyd neu sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community assistance”) yw cymorth o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a roddwyd yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw'r offerynnau a restrir yn yr Atodlen;

mae i'r term “gweithrediad” yr ystyr a roddir i “operation” yn Rheoliad y Cyngor 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ynglŷn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD);

ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ar gyfer derbyn cymorth ariannol, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) i'w dehongli'n unol â hynny;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog i'r Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy'n dod gyda'r person awdurdodedig hwnnw.

Cymorth ariannol

3.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth ariannol i fuddiolwr tuag at wariant a dynnwyd mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd.

(2Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn talu cymorth ariannol, caiff dalu—

(a)ar unrhyw adeg, neu drwy unrhyw randaliadau a hynny o dro i dro fel y gwêl yn dda neu ar unrhyw adegau a wêl yn dda, a

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw amodau ynglŷn â thalu y bydd yn penderfynu arnynt.

Cymeradwyo gweithrediadau

4.—(1Rhaid i gais am gymeradwyo gweithrediad—

(a)cael ei wneud ar y ffurf a'r amser a fynnir gan y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)cynnwys yr wybodaeth a fynnir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, cyhyd â'i fod wedi'i fodloni bod gweithrediad y mae'r cais yn berthnasol iddo yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, gymeradwyo'r gweithrediad hwnnw ar gyfer derbyn cymorth ariannol, a chaniateir i unrhyw gymeradwyaeth o'r fath gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu penderfynu .

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio cymeradwyaeth drwy amrywio unrhyw amod y mae'n ddarostyngedig iddo, neu osod amodau.

(4Cyn amrywio cymeradwyaeth o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi i'r buddiolwr hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn bwriadu gwneud hynny ynghyd â datganiad o'r rhesymau;

(b)rhoi i'r buddiolwr gyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn yr amser y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei fod yn rhesymol; ac

(c)ystyried y sylwadau hynny.

Hawliadau

5.  Mae unrhyw hawliad am gael taliad cymorth ariannol i'w wneud ar unrhyw amser ac ar unrhyw ffurf ac i ddod gydag unrhyw wybodaeth a fynno'r Cynulliad Cenedlaethol.

Darparu gwybodaeth

6.—(1Rhaid i fuddiolwr ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd a fynno'r Cynulliad Cenedlaethol.

(2Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn mynnu gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i'r buddiolwr ddarparu'r wybodaeth honno o fewn unrhyw gyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei benderfynu.

Pwerau person awdurdodedig

7.—(1Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ei awdurdod i wneud hynny, fynd ar unrhyw dir ac eithrio tir a ddefnyddir at ddibenion annedd yn unig—

(a)y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi, neu

(b)y mae ganddo sail resymol dros gredu bod dogfennau sy'n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd yn cael eu cadw ynddi,

at unrhyw un o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y dibenion hynny yw—

(a)arolygu'r tir y mae'r gweithgaredd a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef;

(b)gwirio cywirdeb unrhyw wybodaeth a ddarperir gan fuddiolwr sy'n ymwneud â'r gweithrediad;

(c)canfod a oes unrhyw gymorth ariannol yn daladwy neu a ellir ei adennill neu ganfod swm y cymorth ariannol hwnnw sy'n daladwy neu y gellir ei adennill;

(ch)canfod a oes tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni neu'n cael ei gyflawni; a

(d)canfod drwy ddull arall a yw cymorth Cymunedol yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ac yn gywir.

(3Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn wneud y canlynol—

(a)arolygu'r tir ac unrhyw ddogfen, cofnod neu gyfarpar sydd arno ac y mae'n rhesymol i'r person hwnnw gredu ei bod neu ei fod yn ymwneud â'r gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i'r buddiolwr, ddangos unrhyw ddogfen neu gofnod, neu ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r gweithrediad;

(c)pan gedwir unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (b) drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at ac arolygu unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfen neu'r wybodaeth honno neu â'r cofnod hwnnw;

(ch)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddarnau o unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy'n ymwneud â'r gweithrediad, gael eu cynhyrchu;

(d)cymryd unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth ynglŷn â'r gweithrediad oddi yno a'i chadw neu ei gadw am gyfnod rhesymol pan fo gan y person awdurdodedig reswm dros gredu y gallai fod angen defnyddio'r ddogfen neu'r wybodaeth honno, neu'r cofnod hwnnw, fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn a phan fo angen cadw unrhyw ddogfen o'r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chynhyrchu ar ffurf y gellir mynd â hi oddi yno ac sy'n golygu ei bod yn weladwy ac yn ddarllenadwy.

(4Rhaid i fuddiolwr neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r materion a grybwyllwyd yn y rheoliad hwn.

(5Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol ac mae paragraffau (1), (2), (3) a (4) yn gymwys i bersonau o'r fath, pan fônt yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau person awdurdodedig, fel petaent hwythau'n berson awdurdodedig.

(6Nid yw person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos cyfreithiol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd y rheoliad hwn os yw'r llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gweithrediad” yw'r gweithrediad a gymeradwywyd y mae mynediad i dir wedi'i geisio mewn perthynas ag ef yn unol â pharagraff (1).

Cadw cofnodion

8.—(1Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfrif neu ddogfen arall ynglŷn â gweithrediad a gymeradwywyd tan ddiwedd chwe blynedd ar ôl y taliad diwethaf o gymorth ariannol a wnaed iddo yn unol â rheoliad 3 mewn perthynas â'r gweithrediad hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen a gymerwyd oddi yno gan unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi'n gyfreithlon i'w chymryd.

(3Pan fo buddiolwr, yn nhrefn arferol busnes, yn trosglwyddo'r fersiwn wreiddiol o unrhyw ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i'r buddiolwr gadw copi o'r ddogfen honno tan ddiwedd y cyfnod a bennwyd ym mharagraff (1).

Pwerau'r Cynulliad i adennill etc.

9.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (2) pan fo wedi'i fodloni, o ran gweithrediad a gymeradwywyd—

(a)na chydymffurfiwyd yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw amod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 3 neu 4;

(b)nad oedd y cais a gymeradwywyd felly o dan reoliad 4 (neu unrhyw ran ohono) yn gais (neu'n rhan) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud;

(c)bod y buddiolwr neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr wedi—

(i)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan reoliad 6, rheoliad 7(3)(b), rheoliad 7(3)(ch) neu reoliad 7(4);

(ii)rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi cymeradwyaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn ffordd sydd o bwys;

(ch)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i ddechrau cyn y dyddiad y rhoes y Cynulliad Cenedlaethol ganiatâd ysgrifenedig i hynny gael ei wneud;

(d)na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 13;

(dd)bod y buddiolwr wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 8;

(e)bod newid o bwys yn natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad a gymeradwywyd;

(f)nad oedd neu nad yw'r gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni'n briodol;

(ff)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi cael neu wrthi'n cael ei ohirio'n afresymol neu ei fod yn annhebyg o gael ei gwblhau;

(g)bod y cymorth ariannol yn dyblygu neu y byddai'n dyblygu cymorth a roddwyd neu sydd i'w roi o arian a roddwyd ar gael gan—

(i)y Cymunedau Ewropeaidd,

(ii)y Cynulliad Cenedlaethol, neu

(iii)corff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;

(ng)bod y buddiolwr yn torri unrhyw ofyniad y mae'n ddarostynegedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol;

(h)bod y gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy'n gymwys o dan y ddeddfwriaeth Gymunedol.

(2Mae'r pwerau a roddwyd gan baragraff (1) yn bwerau i wneud y canlynol—

(a)dirymu'r gymeradwyaeth o'r gweithrediad yn gyfan gwbl neu'n rhannol;

(b)lleihau neu atal unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd;

(c)adennill ar archiad y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth ariannol a dalwyd eisoes i'r buddiolwr.

(3Pan fo'r Comisiwn wedi penderfynu lleihau neu atal cymorth dros dro, caiff y Cynulliad Cenedlaethol arfer y pwerau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2).

(4At ddibenion paragraff (1)(g), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os yw'n cael ei dalu, neu os byddai'n cael ei dalu at unrhyw un o'r un dibenion.

Adennill llog

10.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn arfer y pwerau a roddwyd gan reoliad 9(2)(c), caiff adennill hefyd, ar archiad, log ar y swm sydd i'w adennill ar gyfradd o 1 pwynt canran uwchlaw LIBOR am y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddwyd y cymorth ariannol tan y diwrnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn adennill y swm.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “LIBOR” yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau ac sydd mewn grym yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y taliad sydd i'w adennill a'r dyddiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn adennill y taliad.

(3Mewn unrhyw achos cyfreithiol ynglŷn â'r rheoliad hwn, bernir bod tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd sy'n gymwys yn y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r gyfradd honno.

Symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ac sydd i'w hadennill fel dyled

11.  Mewn unrhyw achos pan fo swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd camau a gymerir o dan y Rheoliadau hyn), gellir adennill y swm hwnnw fel dyled.

Tramgwyddau a chosbau

12.—(1Bydd unrhyw berson yn euog o dramgwydd—

(a)os bydd neu yn gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys gan wybod hynny, neu'n ei wneud yn ddi-hid, er mwyn sicrhau cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo'i hun neu i unrhyw berson arall;

(b)os, o ran yr arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r pwerau a bennwyd yn rheoliad 9(2), bydd yn gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys gan wybod hynny neu'n ei wneud yn ddi-hid;

(c)os bydd yn methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 7(3)(b), rheoliad 7(3)(ch) neu gan reoliad 8; neu

(ch)os bydd yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig (neu berson sy'n dod gydag ef ac sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau) wrth iddo arfer ei bwerau o dan reoliad 7.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1)(a) a (b) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff 1(c) neu (ch) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4Caniateir i achos cyfreithiol am dramgwydd o dan baragraff (1) gael ei gychwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (5), o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y bydd tystiolaeth, sy'n ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol, yn dod yn hysbys iddo.

(5Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan baragraff (1) fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, pan fo'r achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn gan y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys iddo yn dystiolaeth ddigamsyniol am y ffaith honno;

(b)bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.

(7Os profir bod tramgwydd o dan y rheoliad hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu'n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff corfforaethol hwnnw, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol hwnnw, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(8Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (7) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr y corff corfforaethol hwnnw.

Ymrwymiadau

13.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynnu bod buddiolwr yn rhoi unrhyw ymrwymiadau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol i'r achos.

Darpariaethau dirymu ac arbed

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r rheoliadau canlynol (“y ddeddfwriaeth a ddirymwyd”) wedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Grantiau Datblygu Gwledig (Amaethyddiaeth) (Cymru) 1996(3);

(b)Rheoliadau'r Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999(4);

(c)Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001(5);

(ch)Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(6);

(d)Rheoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001(7);

(dd)Rheoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001(8);

(e)Rheoliadau Grant Menter Ffermydd a Grant Gwella Ffermydd (Cymru) 2001(9); ac

(f)Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006(10).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd y dirymiadau ym mharagraff (1) yn effeithio ar weithrediad parhaol y ddeddfwriaeth a ddirymwyd o ran cymorth ariannol a dalwyd neu y gwnaed cais amdano o dan y ddeddfwriaeth a ddirymwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â'r darpariaethau canlynol—

(a)rheoliad 9 (Symiau cymorth) a rheoliad 11(3) o Reoliadau'r Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999, a Rhan II o Atodlen 1 (Cyfraddau talu am ddilyn yr Amodau Amgylcheddol Cyffredinol) ac Atodlen 2 (Gweithgareddau Rheoli Mandadol) ac Atodlen 3 (Gweithgareddau Rheoli Opsiynol) ac Atodlen 4 (Gweithgareddau Cyfalaf) iddynt;

(b)rheoliad 4 (Penderfynu swm y cymorth a'r cyfnodau y telir cymorth ar eu cyfer) o Reoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001 ac Atodlen 1 (Cyfrifo Cymorth) iddynt; ac

(c)rheoliad 14 (Adolygu penderfyniadau) o Reoliadau Grant Prosesu a Marchnata Amaethyddol (Cymru) 2001; ac

(ch)rheoliad 11 (Symiau cymorth) a rheoliad 13(3) o Reoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006, a Rhan 4 (Taliadau) o'r Atodlen iddynt.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2006

Rheoliad 2

YR ATODLENYSTYR “DEDDFWRIAETH GYMUNEDOL”

1.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006 dyddiedig 11 Gorffennaf 2006 sy'n gosod darpariaethau cyffredinol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a'r Gronfa Gydlyniant ac yn diddymu Rheoliad (EC) 1260/1999.

2.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1689/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1463/2006.

3.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1290/2005 dyddiedig 21 Mehefin 2005 ar gyllido'r polisi amaethyddol cyffredin, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 320/2006.

4.  Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu trawsgydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr, fel y diwygiwyd y Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 659/2006.

5.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 795/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr, fel y diwygiwyd Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 795/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1291/2006.

6.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 dyddiedig 29 Medi 2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) Rhif 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001, fel y diwygiwyd Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor Rhif 1405/2006.

7.  Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac sy'n diwygio a diddymu Rheoliadau penodol, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1689/2005.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Rhaglenni Datblygu Gwledig (“rhaglenni”), a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor y Gymuned Ewropeaidd 1698/2005 a 1257/1999. Yng Nghymru, bydd y Rheoliadau hyn yn rheoleiddio'r rhaglenni presennol sy'n cael eu gweinyddu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaglenni newydd a weinyddir ganddo.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at y ddeddfwriaeth Gymunedol a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau (“y ddeddfwriaeth Gymunedol”). Mae'r darpariaethau yn y ddeddfwriaeth Gymunedol yn uniongyrchol gymwys i Aelod-wladwriaeth ac mae eu heffaith yn uniongyrchol mewn Aelod-wladwriaeth. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu fframwaith cyfreithiol domestig i roi'r ddeddfwriaeth Gymunedol ar waith yng Nghymru.

Mae'r ddeddfwriaeth Gymunedol yn darparu (ymhlith darpariaethau eraill) fod cymorth i'w roi o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig tuag at weithrediadau sy'n hyrwyddo datblygu gwledig yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) gymeradwyo gweithrediadau ar gyfer derbyn cymorth ariannol, i osod amodau ar unrhyw gymeradwyaeth o'r fath (rheoliad 4) ac i dalu cymorth ariannol (rheoliad 3). Mae'r Rheoliadau yn pennu hefyd o dan ba amgylchiadau y caniateir i gymeradwyaeth a roddwyd ar gyfer gweithrediad gael ei dirymu ac i gymorth ariannol a dalwyd i fuddiolwr, mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw, gael ei atal neu ei adennill (rheoliad 9).

Mae'r Rheoliadau yn rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu i bersonau awdurdodedig mewn perthynas â thir lle mae gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i leoli neu lle mae dogfennau sy'n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd yn cael eu cadw (rheoliad 7) (diffinnir “person awdurdodedig” yn rheoliad 2(1)). Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i fuddiolwyr cymorth ariannol gadw cofnodion sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd am gyfnod penodol (rheoliad 8), i ddarparu unrhyw wybodaeth a fynno'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â'r gweithrediadau a gymeradwywyd (rheoliad 6), ac i gynorthwyo person awdurdodedig wrth i'r person hwnnw arfer ei bwerau o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol hawlio llog ar symiau sy'n ddyledus iddo. Mae rheoliad 11 yn darparu y gellir adennill fel dyled symiau sy'n daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn dramgwydd (rheoliad 12) i wneud datganiadau anwir gan wybod hynny neu i'w gwneud yn ddi-hid, i rwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth i'r person hwnnw arfer ei bwerau o dan reoliad 7, ac i fethu (heb esgus rhesymol) â chadw cofnodion perthnasol am y cyfnod gofynnol o dan reoliad 8 neu i fethu â rhoi cymorth i berson awdurdodedig.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr roi ymrwymiad os gofynnir iddo wneud hynny. Mae rheoliad 14 yn ymdrin â darpariaethau dirymu ac arbed.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliad hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources