Search Legislation

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 485 (Cy.55)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

28 Chwefror 2006

Yn dod I rym

1 Mawrth 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), 31(1) a (2)(b), (c) ac (f), a 48(1)(c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd ynddo bellach(2), ac ar ôl iddo roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006, deuant i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(4), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n good y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y lefelau o halogion penodol mewn bwydydd(5) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC(6), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/121/EC(7) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/43/EC(8);

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/22/EC” (“Directive 2001/22/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a'r 3-MCPD sydd mewn bwydydd(9) fel y'i cywirwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC(10) ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/4/EC(11);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/26/EC” (“Directive 2002/26/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r ocratocsin A sydd mewn bwydydd (12) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/43/EC a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2005/5/EC(13));

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/69/EC” (“Directive 2002/69/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y deuocsinau a phenderfynu ar lefelau'r biffenylau polyclorinedig (PCBs) sy'n debyg i ddeuocsinau sydd mewn bwydydd(14) fel y'i cywirwyd drwy gorigendwm a gyhoeddwyd ar 20 Medi 2002(15) ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/44/EC(16);

ystyr “Cyfarwyddeb 2003/78/EC” (“Directive 2003/78/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/78/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r patwlin sydd mewn bwydydd(17);

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/16/EC” (“Directive 2004/16/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun(18);

“ystyr “Cyfarwyddeb 2005/10/EC” (“Directive 2005/10/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/10/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyren sydd mewn bwydydd(19);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “letus awdurdodedig” (“authorised lettuce”) yw letus o'r math a nodir ym mhwynt 1.3 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, sy'n cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 3b.2 o'r Rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001, sy'n gosod uchafswm y lefelau ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd(20) fel y'i cywirwyd drwy gorigendwm a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2001(21), ac fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2375/2001(22), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 221/2002(23), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002(24), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002(25) fel y'i cywirwyd drwy gorigendwm a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002(26), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002(27) fel y'i cywirwyd drwy gorigendwm a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002(28), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1425/2003(29)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2174/2003(30)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 242/2004(31)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004(32)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004(33)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004(34)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 684/2004(35)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 78/2005(36)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005(37), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005(38) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1822/2005(39);

ystyr “sbigoglys awdurdodedig” (“authorised spinach”) yw sbigoglys o'r math a bennir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, sy'n cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 3b.1 o'r Rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson a awdurdodir mewn ysgrifen, un ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd, neu, yn ôl y digwydd, awdurdod porthladd, i weithredu ynglŷn â materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn; ac

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau cadarnhau cydymffurfio â deddfwriaeth ynghylch bwyd anifeiliaid a bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid(40).

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

Troseddau a chosbau

3.—(1Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a gynhwysir yn narpariaethau'r Gymuned a nodir ym mharagraff (2), bydd person yn euog o drosedd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw—

(a)y person hwnnw yn gosod unrhyw fwyd ar y farchnad (heblaw am letus awdurdodedig neu sbigoglys awdurdodedig) sy'n dod o fewn cwmpas Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, wedi'u darllen ar y cyd ag Erthyglau 1.2 a 4.3 o'r Rheoliad hwnnw, ond heb gydymffurfio â gofynion yr Erthyglau hynny; neu

(b)y person hwnnw yn tramgwyddo Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn;

(2Y rhai o ddarpariaethau'r Gymuned a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

(a)Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn;

(b)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 mewn perthynas â nitradau mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant bach;

(c)Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 mewn perthynas ag afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant bach;

(ch)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 mewn perthynas ag ocratocsin A;

(d)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 mewn perthynas â hydrocarbonau aromatig polysyclig.

Gorfodi

4.  Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod iechyd porthladd i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Caffael a dadansoddi samplau

5.—(1Pan fo sampl i'w gymryd o dan adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf o fwyd a bennir yn Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, rhaid cymryd y sampl hwnnw yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt—

(a) Nitradau

(a)(yn ddarostyngedig i'r gofyniad a bennir yng ngholofn 3 o Adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn(41)), yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/63/EC sy'n gosod dulliau samplu'r Gymuned ar gyfer rheoli'n swyddogol weddillion plaleiddiaid mewn cynhyrchion sy'n dod o blanhigion ac anifeiliaid ac arnynt, ac sy'n diddymu Cyfarwyddeb 79/700/EC(42), pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(b) Afflatocsinau

(b)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 98/53/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(c) Ocratocsin A

(c)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/26/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(ch) Patwlin

(ch)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2003/78/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 2 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(d) Plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD

(d)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 3 neu 4 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(dd) Deuocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) sy'n debyg i ddeuocsinau

(dd)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 5 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw;

(e) Tun

(e)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2004/16/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 6 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw; a

(f) Benso(a)pyren

(f)yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2005/10/EC, pan fo'r bwyd dan sylw yn cyfateb i ddisgrifiad a bennir yn Adran 7 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, a'r Gyfarwyddeb honno yn gymwys i samplu'r bwyd hwnnw yn unol ag Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwnnw.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer afflatocsinau

(2Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â—

(i)paragraffau 1.1, 2 a 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

(ii)yn achos cnau cyfan, yn unol â pharagraff 1.2 o'r Atodiad hwnnw;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn cydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, wedi'i ddarllen ar y cyd â'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy a ddynodwyd yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004;

(ch)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno—

(i)yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/53/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD

(3Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (e) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC wedi'i ddarllen, yn achos paragraff 2, ar y cyd â'r nodyn i'r paragraff hwnnw;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd—

(i)yn achos dadansoddi ar gyfer plwm (ac eithrio mewn gwin), mercwri neu gadmiwm, yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 3.3.1 (wedi'i ddarllen ar y cyd â pharagraff 3.3.3) o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC,

(ii)yn achos dadansoddi ar gyfer plwm mewn gwin, yn cydymffurfio â'r ail is-baragraff o baragraff 3.2 o'r Atodiad hwnnw, a

(iii)yn achos dadansoddi ar gyfer 3-MCPD, yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 3.3.2 (wedi'i ddarllen ar y cyd â pharagraff 3.3.3) o'r Atodiad hwnnw ac wedi'i ddarllen ar y cyd â'r nodyn i'r paragraff hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy a ddynodwyd yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004;

(ch)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r is-baragraff cyntaf a'r trydydd is-baragraff o baragraff 3.4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC, wedi'i ddarllen, yn achos y trydydd is-baragraff, ar y cyd â'r nodyn i'r is-baragraff hwnnw; a

(d)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno—

(i)yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2001/22/EC wedi'u darllen ar y cyd â'r nodyn i'r is-baragraff hwnnw, a

(ii)yn unol â'r ail a'r pedwerydd is-baragraff o baragraff 3.4 ac â pharagraff 3.6 o'r Atodiad hwnnw.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer ocratocsin A

(4Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i darllennir ar y cyd â pharagraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy a ddynodwyd yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004; a

(ch)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno—

(i)yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/26/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer deuocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) sy'n debyg i ddeuocsinau

(5Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (f) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraff 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, wedi'i ddarllen ar y cyd â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad hwnnw;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraffau 5, 6 a 7 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, wedi'u darllen ar y cyd â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy sydd—

(i)yn cydymffurfio â'r pedwar is-baragraff cyntaf o baragraff 4 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC, a

(ii)wedi'i ddynodi yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004; ac

(ch)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno yn unol â pharagraff 8 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/69/EC.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer patwlin

(6Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf wedi'u darllen ar y cyd â pharagraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2003/78/EC;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraff 4.3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2003/78/EC, wedi'i ddarllen ar y cyd â'r nodiadau i'r paragraff hwnnw;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy a ddynodwyd yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004; ac

(ch)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno—

(i)yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2003/78/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer tun

(7Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf wedi'u darllen ar y cyd â pharagraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (g) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1, 2 a 3, a'r rhan honno o baragraff 4.6 o dan y pennawd “Sample preparation”, o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraffau 4.3 a 4.3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy a ddynodwyd yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004 ac sy'n cydymffurfio â'r adran honno o baragraff 4.6 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC o dan y pennawd “Internal quality control”; ac

(ch)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno—

(i)yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2004/16/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

Paratoi a dadansoddi samplau ar gyfer benso(a)pyren

(8Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i'r disgrifiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (h) o'r paragraff hwnnw, ac wedi cyflwyno'r sampl i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, rhaid i'r person sy'n dadansoddi'r sampl sicrhau—

(a)y caiff y sampl ei pharatoi yn unol â pharagraffau 1 i 3 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2005/10/EC;

(b)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud yn unol â dulliau dadansoddi sydd yn bodloni'r meini prawf a bennir ym mharagraffau 4.3 a 4.3.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2005/10/EC;

(c)bod unrhyw ddadansoddiad o'r sampl yn cael ei wneud gan labordy a ddynodwyd yn unol â gofynion Erthygl 12.2 o Reoliad 882/2004 ac sy'n cydymffurfio â'r adran honno o baragraff 4.6 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2005/10/EC o dan y pennawd “Internal quality control”; ac

(ch)bod yr adrodd ynghylch canlyniadau dadansoddi'r sampl honno—

(i)yn defnyddio'r diffiniadau a geir ym mharagraff 4.1 o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2005/10/EC, a

(ii)yn unol â pharagraff 4.4 o'r Atodiad hwnnw.

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

6.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (troseddau o ganlyniad i fai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi troseddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (dd);

(ff)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); ac

(g)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—

9.(1) An authorised officer of a food authority or a port health authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market

and subsections (2) to (7) below apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food contravenes regulation 3(1)(a) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2006.

(2) The authorised officer may either—

(a)give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it—

(i)is not to be used for human consumption, and

(ii)either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out the sampling required by Directive 98/53/EC, Directive 2001/22/EC, Directive 2002/26/EC, Directive 2002/69/EC, Directive 2003/78/EC, Directive 2004/16/EC or Directive 2005/10/EC, as appropriate; or

(b)seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, the authorised officer is as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, to determine whether or not the authorised officer is satisfied that the food complies with the requirements of regulation 3(1)(a) of the above Regulations, as appropriate and—

(a)if the authorised officer is so satisfied, forthwith withdraw the notice;

(b)if the authorised officer is not so satisfied, must seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, the authorised officer is to inform the person in charge of the food of the intention to have it dealt with by a justice of the peace and—

(a)any person who under regulation 3(1)(a) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food is, if that person attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, entitled to be heard and to call witnesses; and

(b)that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence consisting of a contravention of regulation 3(1)(a) of the above Regulations in relation to that food.

(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him or her under this section fails to comply with the requirements of regulation 3(1)(a) of the above Regulations he or she must condemn the food and order—

(a)the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and

(b)any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.

(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority or, as the case may be, port health authority, is to compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.

(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above must be determined by arbitration.

(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) of subsection (2) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale..

(3Bydd yr ymadroddion “authorised officer”, “food authority”, “human consumption”, “placing on the market”, “Directive 98/53/EC”, “Directive 2001/22/EC”, “Directive 2002/26/EC”, “Directive 2002/69/EC”, “Directive 2003/78/EC”, “Directive 2004/16/EC” a “Directive 2005/10/EC” a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Ddeddf a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol

7.  Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(43) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt), yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003, rhodder y cofnod a ganlyn—

The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2006 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with regulation 5 of those Regulations)S.I. 2006/485 (Cy.55) .

Dirymiadau

8.  Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005(44) a Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2005(45).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(46)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru ac sy'n dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/364) fel y'u diwygiwyd—

(a)yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod y lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i cywirwyd a'i ddiwygio) (“Rheoliad y Comisiwn”); a

(b)yn gweithredu—

(i)Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y lefelau ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L201, 17.7.98, t.93, fel y'i diwygiwyd),

(ii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14, fel y'i cywirwyd a'i diwygiwyd),

(iii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r ocratocsin A sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38, fel y'i diwygiwyd),

(iv)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y deuocsinau a phenderfynu ar lefelau'r biffenylau polyclorinedig (PCBs) sy'n debyg i ddeuocsinau sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5, fel y'i cywirwyd a'i diwygiwyd),

(v)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/78/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r patwlin sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.40),

(vi)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun (OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16), a

(vii)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/10/EC yn pennu'r dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyren sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn darparu ei bod yn drosedd, (heblaw mewn achosion penodol yn ymwneud â bwyd a roddwyd ar y farchnad cyn dyddiad a bennir mewn deddfwriaeth benodedig gan y Gymuned)—

(i)rhoi mathau penodol o fwydydd ar y farchnad os ydynt yn cynnwys unrhyw fath o halogion a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn, a hynny ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a bennwyd (yn ddarostyngedig i randdirymiad sy'n gymwys i fathau penodol o letys a sbigoglys ffres),

(ii)defnyddio bwyd sy'n cynnwys halogion o'r fath mewn lefelau o'r fath fel cynhwysion wrth gynhyrchu bwydydd penodol,

(iii)cymysgu bwydydd sy'n cydymffurfio â'r uchafsymiau y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd nad ydynt,

(iv)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi'u bwriadu i'w bwyta'n uniongyrchol gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi'u bwriadu i'w didoli neu eu trin mewn ffordd arall cyn iddynt gael eu bwyta, neu

(v)dadwenwyno bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn gan ddefnyddio triniaeth cemegol (rheoliad 3);

(b)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn rhagnodi gofynion o ran dulliau samplu a dadansoddi bwydydd yn ddarostyngedig i Reoliad y Comisiwn (rheoliad 5);

(ch)yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 6);

(d)yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, gyda'r effaith o ddatgymhwyso darpariaethau samplu a dadansoddi'r Rheoliadau hynny yn unig i'r graddau y rheoleiddir y materion hynny gan y rhai hynny o ddarpariaethau'r Gymuned a weithredir yn y Rheoliadau hyn (rheoliad 7).

3.  Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae wedi'i gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi yn nodi sut y trosir prif elfennau Rheoliadau'r Comisiwn, y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod, i gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 o Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.).

(5)

OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 93/1999 (OJ Rhif L296, 23.11.2000, t.58).

(6)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44 fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002.

(7)

OJ Rhif L332, 19.12.2003, t.38.

(8)

OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.14.

(9)

OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14.

(10)

OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34.

(11)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.50.

(12)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38.

(13)

OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.38.

(14)

OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5.

(15)

OJ Rhif L252, 20.9.2002, t.40.

(16)

OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.17.

(17)

OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.40.

(18)

OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16.

(19)

OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15.

(20)

OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 81/2002 (OJ Rhif L266, 3.10.2002, t.30, ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 49, 3.10.2002).

(21)

OJ Rhif L313, 30.11.2001, t.60, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 81/2002.

(22)

OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 81/2002.

(23)

OJ Rhif L37, 7.2.2002, t.4, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 139/2002 (OJ Rhif L19, 23.1.2003, t.3 ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 5, 23.1.2003).

(24)

OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.12, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 100/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.13 ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 54, 31.10.2002, t.11).

(25)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002 (OJ Rhif L38, 13.2.2003, t.16 ac atodiad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 9, 13.2.2003, t.13).

(26)

OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.

(27)

OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002.

(28)

OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr Ardal Economaidd Ewropeaidd Rhif 161/2002.

(29)

OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.1.

(30)

OJ Rhif L326, 13.12.2003, t.12.

(31)

OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.3.

(32)

OJ Rhif L74, 12.3.2004, t.11.

(33)

OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.

(34)

OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.

(35)

OJ Rhif L106, 15.4.2004, t. 6.

(36)

OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.43.

(37)

OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.3.

(38)

OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.3.

(39)

OJ Rhif L293, 9.11.2005, t.11.

(40)

OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1.

(41)

Y gofyniad yw mai'r isafswm o unedau sy'n ofynnol ar gyfer sampl labordy yn y fath amgylchiadau yw 10.

(42)

OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30.

(43)

O.S. 1990/2463; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603, O.S. 2002/1886 (C.195) ac O.S. 2003/1721 (C.188).

(46)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources