- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2006
Yn dod i rym
1 Ebrill 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12(2), 15(3), 16(3), 22(7) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac adrannau 79F, 87D ,104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 9A iddi(2) ac adran 94(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000; ac
ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir drwy hyn y canlynol—
(a)Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(4);
(b)rheoliad 35 o Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(5);
(c)rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(6);
(ch)rheoliad 28 o Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(7);
(dd)rheoliad 51 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(8);
(e)rheoliad 33 o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(9);
(f)rheoliad 6 o Reoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002(10);
(ff)rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002(11).
(g)rheoliad 14(a) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(12).
3.—(1) At ddibenion adran 12(2), 16(3), 22(7)(i) o Ddeddf 2000 (ceisiadau am gofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
(2) At ddibenion adran 15(3) o Ddeddf 2000 (ceisiadau gan bersonau cofrestredig), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
4.—(1) At ddibenion adran 79F(1) a (2) o Ddeddf 1989 (caniatáu neu wrthod cofrestru), dim yw'r ffi ragnodedig ym mhob achos.
(2) At ddibenion paragraff 7 o Atodlen 9A i Ddeddf 1989 (ffioedd blynyddol), dim yw'r ffi ragnodedig.
5. At ddibenion adran 94(7) o Ddeddf 2003 (adolygiadau ac ymchwiliadau), dim yw'r ffi benodedig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r holl ofynion o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 i ffioedd gael eu talu am gofrestru gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”). Maent yn dileu hefyd y gofyniad i ffioedd blynyddol gael eu talu am arolygiadau gan y Cynulliad o wasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymdeithasol a Safonau) 2003, ac arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio o dan Ddeddf Plant 1989. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu methiant gan ddarparwyr o ran talu ffioedd fel sail dros ddileu cofrestru.
2000 p.14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r “appropriate Minister”: gweler y diffiniad o “regulations” yn adran 121(1) o Ddeddf 2000. Ystyr “appropriate Minister”, o ran Cymru, yw “the Assembly”; ystyr “the Assembly” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000. Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 i gael y diffiniad o “prescribed”. Yn rhinwedd O.S. 2004/1756 (Cy. 188), mae'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan II o Ddeddf 2000 yn arferadwy mewn perthynas â chynlluniau lleoli oedolion.
1989 p.41. Gweler adran 79B o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o “regulations” ac adran 105 i gael y diffiniad o “prescribed”. Mae'r pŵer o dan adran 87D wedi'i roi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd Erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cofnod ynglŷn â Deddf 1989 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw ac adran 120(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 87D o Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.
Diddymwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adran 51 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 gan Ran 2 o Atodlen 14 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ac a ddisodlwyd gan adran 94 o Ddeddf 2003.
O.S. 2002/921 (Cy.109). Mae'r offerynnau diwygio perthnasol wedi'u rhestru yn nhroednodiadau (2) i (9) isod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: