Search Legislation

Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2044 (Cy.169)

DATGANOLI, CYMRU

LLWON, CYMRU

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007

Wedi'i wneud

17 Gorfennaf 2007

Wedi'i gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Gorfennaf 2007

Yn dod i rym

18 Gorffennaf 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer sydd yn adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.(1)

Enwi, dehongli a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffurfiau Cymraeg Llwon a Chadarnhadau (Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

  • mae i “Aelod Cynulliad” yr ystyr sydd i “Assembly member” yn adran 1(3) o Ddeddf 2006; ac

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru) 2006.(2)

(3Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Gorffennaf 2007.

Ffurf Gymraeg y llw swyddogol a gymerir, neu'r cadarnhad cyfatebol a wneir, gan berson a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru neu yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru

2.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo person yn cymryd y llw sy'n ofynnol gan adran 55(1) o Ddeddf 2006.

(2Caiff y person hwnnw gymryd y llw swyddogol yn ffurf hon —

  • Yr wyf i, ... ... ... ..., yn tyngu y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail gydag iawnder a didwylledd yn swydd ... ... ... ... Cynorthwyed Duw fi.

3.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo person yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 55 (1) o Ddeddf 2006.

(2Caiff y person hwnnw wneud y cadarnhad cyfatebol yn y ffurf hon —

  • Yr wyf i, ... ... ... ... yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail gydag iawnder a didwylledd yn swydd ... ... ... ...

Ffurf Gymraeg y llw teyrngarwch a gymerir neu 'r cadarnhad cyfatebol a wneir gan berson a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru

4.—(1Pan fo person yn cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 55(2) o Ddeddf 2006(3) caiff y person hwnnw gymryd y llw yn y ffurf a osodir yn erthygl 5(2).

(2Pan fo person yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 55(2) o Ddeddf 2006 caiff wneud y cadarnhad hwnnw yn y ffurf a osodir yn erthygl 6(2).

Ffurf Gymraeg y llw teyrngarwch a gymerir neu'r cadarnhad cyfatebol a wneir gan Aelod Cynulliad

5.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo Aelod Cynulliad yn cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o Ddeddf 2006.

(2Caiff yr Aelod Cynulliad hwnnw gymryd y llw teyrngarwch yn y ffurf hon —

  • Yr wyf i, ... ... ... ..., yn tyngu y byddaf yn ffyddlon ac yn wir deyrngar i'w Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith. Cynorthwyed Duw fi.

6.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo Aelod Cynulliad yn gwneud y cadarnhad cyfatebol sy'n ofynnol gan adran 23(1) o Ddeddf 2006.

(2Caiff yr Aelod Cynulliad hwnnw wneud y cadarnhad cyfatebol yn y ffurf hon —

  • Yr wyf i, ... ... ... ... yn datgan ac yn cadarnhau yn ddifrifol, yn ddiffuant ac yn ddidwyll, y gwasanaethaf Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail, ei hetifeddion a'i holynwyr, yn unol â'r gyfraith.

Enw'r Brenin neu'r Frenhines ar y pryd i'w ddefnyddio mewn llwon a chadarnhadau

7.  Pan fo enw Ei Mawrhydi y Frenhines bresennol yn ymddangos yn ffurfiau y llwon ffurfiol a'r cadarnhadau a ragnodir gan y Gorchymyn hwn, fe'i hamnewidir ag enw Brenin neu Frenhines y Deyrnas hon o bryd i'w gilydd.

Dirymu

8.  Dirymir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg).(4)

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes, un o Weinidogion Cymru

17 Gorfennaf 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi ffurfiau Cymraeg llwon a chadarnhadau y mae'n ofynnol i aelodau penodol o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, eu cymryd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32) (“DLlC 2006”). Mae DLlC yn darparu mai'r rheini a geir yn Neddf Llwon Addewidiol 1868 (p.72) ac yn Neddf Llwon 1978 (p.19) yw ffurfiau Saesneg y llwon a'r cadarnhadau hynny i fod.

Yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38), pan fo Deddf Seneddol yn pennu ffurf ar eiriau sydd i'w defnyddio at ddibenion swyddogol neu at ddibenion cyhoeddus penodol, caiff yr un priodol o Weinidogion y Goron wneud Gorchymyn sy'n rhagnodi ffurf Gymraeg ar eiriau sydd i'w defnyddio mewn amgylchiadau a bennir yn y Gorchymyn.

Rhoddwyd y pŵer i wneud y cyfryw Orchymyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, Erthygl 2, Atodlen 1). Trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd paragraff 30(1) o Atodlen 11 i DLlC 2006.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff person a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru neu'n Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei defnyddio i gymryd y llw swyddogol sy'n ofynnol gan adran 55(1) o DLlC 2006.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff y cyfryw berson ei defnyddio i wneud cadarnhad sy'n cyfateb i'r llw swyddogol sy'n ofynnol gan adran 55(1) o DLlC 2006.

Mae erthygl 4(1) o'r Gorchymyn yn darparu y caiff person a benodwyd yn Brif Weinidog, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru, pan fo'n cymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 55(2) o DLlC, ddefnyddio'r ffurf Gymraeg ar eiriau a osodir yn erthygl 5(2) o'r Gorchymyn hwn. Mae erthygl 4(2) yn darparu y caiff, pan fo'n gwneud cadarnhad sy'n cyfateb i'r llw teyrngarwch, ddefnyddio'r ffurf Gymraeg ar eiriau a osodir yn erthygl 6(2) o'r Gorchymyn hwn. Y ffurfiau hynny ar eiriau yw'r rhai y caiff Aelodau Cynulliad eu defnyddio ar ôl iddynt gael eu hethol. Dim ond os na wnaeth hynny eisoes yn swyddogaeth Aelod Cynulliad y mae adran 55(2) yn ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn Brif Weinidog, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru, gymryd y llw teyrngarwch neu wneud cadarnhad cyfatebol.

Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff Aelod Cynulliad ei defnyddio i gymryd y llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o DLlC 2006.

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn gosod ffurf Gymraeg ar eiriau y caiff Aelod Cynulliad ei defnyddio i wneud cadarnhad sy'n cyfateb i'r llw teyrngarwch sy'n ofynnol gan adran 23(1) o DLlC 2006.

Effaith erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn yw mai enw'r Brenin neu'r Frenhines ar yr adeg y cymerir y llw neu y gwneir y cadarnhad sydd i'w ddefnyddio fel enw'r Brenin neu'r Frenhines yn y ffurfiau Cymraeg a osodir yn y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 8 yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Llw Teyrngarwch yn Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/1101), sy'n gosod ffurfiau Cymraeg y llw teyrngarwch a'r cadarnhad cyfatebol yr oedd adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau Cynulliad eu cymryd.

(1)

1993 p.38. Cyfarwyddodd erthygl 2 o Atodlen I i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (O.S. 1999/672), fod y y pŵer sydd yn adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i fod yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron sydd â'r pw 246 er i'w arfer. Trosglwyddwyd y pwer o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”).

(3)

Mae adran 55(2) o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i berson a benodwyd yn Brif Weinidog Cymru, yn un o Weinidogion Cymru, yn Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru neu'n un o Ddirprwy Weinidogion Cymru gymryd llw teyrngarwch yn y ffurf a osodir yn adran 2 o Ddeddf Llwon Addewidiol 1868 (p.72), neu wneud cadarnhad cyfatebol. Mae adran 55(3) o Ddeddf 2006 yn eithrio'r cyfryw bersonau rhag y gofyniad hwn os ydynt wedi cymryd llw teyrngarwch neu wedi gwneud cadarnhad cyfatebol wrth gydymffurfio â dyletswydd ar gael eu hethol yn Aelod Cynulliad. Gan adran 23(1) o Ddeddf 2006 y gosodir y ddyletswydd ar Aelodau'r Cynulliad i gymryd y llw teyrngarwch neu i wneud cadarnhad cyfatebol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources