Search Legislation

Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2314 (Cy.185)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2007

Wedi'u gwneud

4 Awst 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Awst 2007

Yn dod i rym

31 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sydd bellach wedi'u breinio(1) ynddynt gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a welir yn Atodlen 6 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3) ;

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn dibynnu a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu ar ôl 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau rheoliadau 8 i 13, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys i incwm y person hwnnw;

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sydd yn union o flaen y flwyddyn berthnasol;

ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd felly gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, sy'n cynnwys addysg (ac eithrio addysg uwch) neu hyfforddiant sy'n cynnwys cwrs neu raglen astudio —

(a)

ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr fynychu sefydliad addysg bellach neu fangre darparydd arall ym maes addysg neu hyfforddiant, a

(b)

ac sy'n cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, neu sy'n cael ei ariannu gan awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “cyfnod astudio llawnamser” (“period of full time study”) yw cyfnod astudio ar un neu fwy o gyrsiau dynodedig sy'n gyrsiau 500 neu fwy o oriau cyswllt yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2007 ac sy'n dod i ben ar 31 Awst 2008;

ystyr “cyfnod astudio rhan-amser” (“period of part-time study”) yw cyfnod astudio ar un neu fwy o gyrsiau dynodedig sy'n gyrsiau o ddim llai na 275 o oriau cyswllt na mwy na 499 o oriau cyswllt yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2007 ac sy'n dod i ben ar 31 Awst 2008;

ystyr “cymhelliant hyfforddi” (“training incentive”) yw cymorth ariannol o gronfeydd cyhoeddus a roddir yn unswydd i annog unigolyn i ddilyn proffesiwn penodol.

mae i “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 8;

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso rheoliad 9 (yn achos myfyriwr cymwys), rheoliad 10 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), rheoliad 11 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu reoliad 12 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys);

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran rheoliad 9, ac mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 6 ac, o ran rheoliad 10, (a hynny'n ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5) o reoliad 10) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell a gyfrifiannwyd at ddibenion—

(i)

y Deddfau Treth Incwm;

(ii)

deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)

os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 10);

mae i'r ymadrodd “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;

mae i'r ymadrodd “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13;

ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

ystyr “oriau cyswllt” (“contact hours”) yw'r cyfnod o amser a fynegir mewn oriau ac y mae myfyriwr cymwys yn cael ei ddysgu neu ei oruchwylio mewn perthynas ag ef yn ystod cyfnodau o addysg neu o ymarfer;

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol —

(i)

priod myfyriwr cymwys;

(ii)

partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo pan fo myfyriwr cymwys yn dod o dan reoliad 13(a) a'i fod yn dechrau'r cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—

(i)

priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)

partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;

(iv)

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(4);

ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny;

ystyr “SLC” (“SLC”) yw'r Student Loans Company Limited.

Cymhwystra

3.—(1Mae myfyriwr cymwys yn gymhwysol i gael Grant Dysgu'r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfnod o astudiaeth lawnamser neu gyfnod o astudiaeth ran-amser yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth iddynt asesu ei gais am gymorth, yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a geir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007;

(b)os nad yw'r person hwnnw wedi'i wahardd gan baragraff (3); ac

(c)os yw'r person wedi cyrraedd 19 oed ar ddechrau neu cyn dechrau'r flwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2007.

(3Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys:

(a)os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007 y mae'n dod oddi tano;

(b)os yw'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos ei fod yn anffit oherwydd ei ymddygiad i gael Grant Dysgu'r Cynulliad;

(c)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs -

(i)bwrsari gofal iechyd

(ii)bwrsari gan Goleg Harlech neu fwrsari cwrs-hir cyfatebol a ddarparwyd gan y Pwyllgor Colegau Preswyl neu gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach yr Alban, neu

(iii)cyllid ar wahân gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith;

(iv)y cyfryw gymorth ariannol arall o gronfeydd cyhoeddus yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Cynnydd academaidd

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd neu ran o flwyddyn academaidd sy'n dechrau yn 2007 oni chânt eu bodloni ar sail resymol bod y cyfnod o astudio o dan sylw yn golygu cynnydd academaidd i'r myfyriwr o'i gymharu â'r astudiaethau a ddilynodd y myfyriwr mewn blynyddoedd academaidd blaenorol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru dalu Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyriwr am flwyddyn academaidd sy'n cael ei hailadrodd os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn ailadrodd blwyddyn academaidd flaenorol nad oedd y myfyriwr yn gallu ei chwblhau am resymau personol cadarn.

Trosglwyddo

5.  Pan fo myfyriwr sydd â hawl i gael Grant Dysgu'r Cynulliad yn unol â'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall sy'n gyfnod o astudiaeth lawnamser neu'n gyfnod o astudiaeth ran-amser yn ystod blwyddyn academaidd sy'n dechrau yn 2007, caiff Gweinidogion Cymru dalu Grant Dysgu'r Cynulliad i'r myfyriwr hwnnw am weddill y flwyddyn academaidd, ac eithrio —

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ar sail resymol nad yw'r cwrs newydd yn golygu cynnydd academaidd i'r myfyriwr o'i gymharu â'r cwrs y mae wedi trosglwyddo ohono; a

(b)os yw'r myfyriwr yn ymrestru ar y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo fwy nag 20 wythnos ar ôl dechrau'r cwrs blaenorol,

ni fydd Grant Dysgu'r Cynulliad yn daladwy.

Ceisiadau

6.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn drwy gwblhau a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf ac ynghyd â'r cyfryw ddogfennau ac erbyn y cyfryw amser ag y byddo Gweinidogion Cymru yn eu gwneud yn ofynnol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y cyfryw gamau a gwneud y cyfryw ymholiadau ag y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a yw'r ceisydd yn gymhwysol i gael cymorth, a faint o gymorth sy'n daladwy, os o gwbl.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd ynghylch a yw'r ceisydd yn gymhwysol i gael cymorth ai peidio ac os yw'n gymhwysol, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.

Hawlogaeth grant

7.—(1Bydd myfyriwr cymwys sy'n gymhwysol i gael cymorth mewn cysylltiad â chyfnod o astudiaeth lawnamser yn unol â'r Rheoliadau hyn yn cael swm fel a ganlyn—

(a)pan fo incwm yr aelwyd yn £5,605 neu lai, caiff £1,500;

(b)pan fo incwm yr aelwyd dros £5,605 ond heb fod yn fwy na £11,210, caiff £750; ac

(c)pan fo incwm yr aelwyd dros £11,210 ond heb fod yn fwy na £16,830, caiff £450.

(2Bydd myfyriwr cymwys sy'n gymhwysol i gael cymorth mewn cysylltiad â chyfnod o astudiaeth ran-amser yn unol â'r Rheoliadau hyn yn cael swm fel a ganlyn —

(a)pan fo incwm yr aelwyd yn £5,605 neu lai, caiff £750;

(b)pan fo incwm yr aelwyd dros £5,605 ond heb fod yn fwy na £11,210, caiff £450; ac

(c)pan fo incwm yr aelwyd dros £11,210 ond heb fod yn fwy na £16,830, caiff £300.

Incwm yr aelwyd

8.—(1Cyfrifir incwm yr aelwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn yn unol â'r rheoliad hwn ac â rheoliadau 9 i 12.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol,

(i)yw incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys, neu

(i)yw incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i reoliad 10(9)) a'r incwm hwnnw wedi'i agregu ag incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi dethol y rhiant hwnnw o dan baragraff 10(9),

p'un bynnag o'r ddau incwm yw'r uchaf;

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys neu incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys, p'un bynnag o'r ddau incwm yw'r uchaf; neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

9.—(1Ac eithrio pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs dynodedig, sy'n gyfnod o astudiaeth ran-amser, er mwyn penderfynu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth benderfynu incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw un neu rai o'r is-baragraffau canlynol -

(a)unrhyw gydnabyddiaeth ariannol am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r cyfryw gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn iddo fynychu'r cwrs hwnnw;

(b)cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(5), neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(6), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 o Reoliadau 2007 y mae myfyriwr cymwys yn dod oddi tano a bod ei incwm yn deillio o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i ffynonellau neu ddeddfwriaeth sy'n berthnasol fel arfer i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2007, ni ddiystyrir ei incwm yn unol â pharagraff (1) ond, yn hytrach, fe'i diystyrir i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw ef yn cael ei drin mewn modd llai ffafriol na'r modd y byddai person y cyfeirir ato yn unrhyw baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 o Reoliadau 2007 yn cael ei drin pe byddai mewn amgylchiadau cyffelyb a bod ganddo incwm cyffelyb.

(3Pan fo'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw —

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, y swm mewn sterling y bydd y myfyriwr yn ei gael felly;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd am y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(7).

Cyfrifo incwm gweddilliol rhiant

10.—(1At ddibenion canfod incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir-

(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhadau personol tebyg;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol na chaiff taliadau a fyddai fel arall yn rhan o incwm person o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, eu trin oddi tano neu oddi tani fel taliadau o'r fath; neu

(c) o dan baragraff (2),

yn cael eu gwneud na'u caniatáu.

(2Er mwyn canfod incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un neu rai o'r is-baragraffau canlynol—

(a)cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth a oedd yn gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle y caiff incwm ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd paragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (6)(a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o fod yn llai na gwerth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol i'r fath raddau y byddai'n effeithio ar hawlogaeth y myfyriwr pe bai'r hawlogaeth yn cael ei seilio ar y flwyddyn ariannol gyfredol, caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fynychu'r cwrs heb galedi, gadarnhau incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debygol o fod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno yn llai na gwerth ei incwm mewn sterling yn y flwyddyn ariannol flaenorol i'r fath raddau y byddai'n effeithio ar hawlogaeth y myfyriwr pe bai hawlogaeth yn cael ei seilio ar y flwyddyn ariannol gyfredol, caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fynychu'r cwrs heb galedi, gadarnhau incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n digwydd ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei redeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraff hwn at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon ynglyn â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw yn cael eu cadw mewn perthynas â hi.

(6Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn cael unrhyw incwm nad yw'n rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall a hynny'n unig—

(a)am nad yw'n preswylio, am nad yw'n preswylio fel arfer neu am nad yw wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am nad yw'n preswylio, am nad yw'n preswylio fel arfer neu am nad yw wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)am nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, am nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)am fod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu o gyflogaeth y mae'r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan y paragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i ganfod yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth neu y byddai'n cael ei gymryd i ystyriaeth er mwyn canfod incwm yr aelwyd, mae incwm yr aelwyd—

(a)os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei ganfod drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn agregiad y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn canfod nad yw'r rhieni yn byw fel arfer gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei ganfod drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu yw'r rhiant mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw Gweinidogion Cymru yn canfod nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei ganfod drwy gyfeirio at agregiad y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni yn byw gyda'i gilydd fel hyn; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4) o'r rheoliad hwn a chan eithrio paragraffau (8), (9) a (10) o reoliad 10, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei ganfod yn unol â rheoliad 10, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn canfod nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ganfod incwm yr aelwyd.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn canfod nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw fel arfer gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei ganfod drwy gyfeirio at ei incwm o dan baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'i luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn canfod bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw gyda'i gilydd fel arfer.

(4Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un ohonynt.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

12.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd rheoliad 8(2)(a) yn cael ei ganfod yn unol â rheoliad 11, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys.

Myfyriwr cymwys annibynnol

13.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn mae myfyriwr cymwys annibynnol yn fyfyriwr cymwys ym mhob achos—

(a)lle y mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)lle y mae wedi bod yn briod neu y mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal mewn bodolaeth ai peidio;

(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;

(ch)lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am y cyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ac nad oes modd cymodi;

(dd)lle y mae wedi bod o dan warchodaeth awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(8) drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daeth yn 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd o dan ofal neu reolaeth ei rieni ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol;

(e)lle y mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan reoliad 8;

(f)lle y mae rheoliad 10(9) yn gymwys a lle y mae'r rhiant mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw ym marn Gweinidogion Cymru wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner ai peidio);

(ff)lle y mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g)lle y mae—

(i)yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ii)wedi gofalu am berson o dan 18 oed ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs presennol cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(ng)lle y mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod agregiad y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant i'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglyn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu ar gyfer cael budd-dal;

(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;

(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd gwelyfod, anaf neu salwch.

Mynychu

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ailgyfrifo hawlogaeth ceisydd i gael Grant Dysgu'r Cynulliad yn unol â pharagraff (2) os bydd mynychiad y ceisydd ar y cwrs dynodedig y gwnaeth gais am Grant Dysgu'r Cynulliad ar ei gyfer yn anfoddhaol.

(2Dyma'r fformiwla ar gyfer ailgyfrifo —

No math image to display

(3Yn y paragraff hwn —

ystyr “GDC” (“ALG”) yw'r hawlogaeth i gael Grant Dysgu'r Cynulliad a gyfrifir yn unol â rheoliad 7;

ystyr “mynychiad gwir” (“actual attendance”) yw nifer dyddiau mynychiad y ceisydd yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru ohonynt gan y sefydliad sy'n cyflwyno'r cwrs, ac eithrio unrhyw nifer o ddyddiau heb fod yn uwch na 60 pan fu'r ceisydd yn absennol oherwydd salwch;

ystyr “mynychiad posibl” (“possible attendance”) yw nifer y dyddiau o ddiwrnod cyntaf i ddiwrnod olaf y mynychiad gofynnol ar y cwrs.

Talu Grant Dysgu'r Cynulliad

15.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant y mae myfyriwr cymwys yn gymhwysol i'w gael o dan y Rheoliadau hyn a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent o'r farn eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y rheoliad hwn cânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol o swm y grant y mae'r myfyriwr yn gymhwysol i'w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud yn y cyfryw fodd ag sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

16.  Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud hynny'n ofynnol, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rheoliadau hyn sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm Grant Dysgu'r Cynulliad y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Jane E Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n derbyn addysg ôl-orfodol, sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 drwy ddarparu grant ar sail prawf moddion i'w helpu i dalu costau astudio. Bydd y grant ar gael i fyfyrwyr cymwys lle bynnag y byddant yn dewis astudio, boed yng Nghymru neu rywle arall yn y DU.

Daw'r Rheoliadau i rym ar 31 Awst 2007 ac maent yn gymwys mewn perthynas â grantiau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2007/8.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi paratoi canllawiau manwl ar weithredu'r Rheoliadau. Gellir cael copïau maes o law oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir dod o hyd i gopïau ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd. www.cymru.gov.uk.

(1)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) Gorchymyn 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.

(5)

1988 p.1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p.39), Atodlen 3, paragraff 10; Deddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005, Atodlen 1 a Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281 ac Atodlen 35. Diddymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004 , adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.

(7)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources