Search Legislation

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2753 (Cy.232)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

Gwnaed

18 Medi 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Medi 2007

Yn dod i rym

15 Hydref 2007

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 17(1) a (2), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Hydref 2007.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995

2.—(1Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995(3) yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Yn rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi)—

(a)ym mharagraff (1) mewnosoder ar y dechrau y geiriau “Subject to paragraph (2B),”; a

(b) yn syth ar ôl paragraff (2A) ychwaneger y paragraff canlynol—

(2B) A person shall not be considered to have contravened or failed to comply with the provisions contained in regulation 2 where the sale which would otherwise have constituted a contravention of or a failure to comply with those provisions is the sale of an infant formula falling within the derogation set out in Article 1 of Commission Regulation (EC) No. 1609/2006 authorising the placing on the market of infant formulae based on hydrolysates of whey protein derived from cows' milk protein for a two-year period(4)..

Diwygio Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997

3.—(1Diwygir Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997(5) yn unol â pharagraff (2) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Yn rheoliad 4 (labelu, hysbysebu a chyflwyno) hepgorer y geiriau “or to a reduction in the sense of hunger or an increase in the sense of satiety”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

4.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(6) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig(7) fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodaeth y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia, a chan addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd(8) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania(9);.

Diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002

5.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002(10) yn unol â pharagraff (2).

(2Ym mharagraff (5) o reoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) yn lle'r geiriau “1 Ionawr 2007” rhodder y geiriau “1 Ionawr 2010”.

Diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004

6.—(1Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004(11) yn unol â pharagraff (2).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) rhodder y diffiniad canlynol—

“ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc(12);.

G Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Medi 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r Rheoliadau a enwir yn y paragraffau canlynol yn y modd a ddisgrifir yn y paragraffau hynny.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995(O.S. 1995/77, fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 1995”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1609/2006 sy'n awdurdodi rhoi ar y farchnad fformiwla fabanod a seilir ar hydrolysadau o brotein maidd sy'n dod o brotein llaeth buwch am gyfnod o ddwy flynedd (OJ Rhif L299, 28.10.2006, t.9). Maent yn diwygio Rheoliadau 1995 i ddarparu nad ystyrir bod person wedi mynd yn groes i'r darpariaethau sydd yn rheoliad 2 i Reoliadau 1995 neu wedi methu cydymffurfio â hwy os yw'r gwerthiant, a fyddai fel arall wedi ffurfio toriad yn y darpariaethau hynny neu fethiant i gydymffurfio â hwy ac felly'n dramgwydd, yn werthiant o fformiwla babanod sy'n dod o fewn y rhanddirymiad a osodir yn Rheoliad y Comisiwn(EC) Rhif 1609/2006 (rheoliad 2(2)).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Cyfyngu-ar-ynni er mwyn Colli Pwysau 1997 (O.S. 1997/2182, fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 1997”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/29/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/8/EC ynghylch labelu, hysbysebu neu gyflwyno bwydydd a fwriedir ar gyfer deietau cyfyngu-ar-ynni er mwyn colli pwysau (OJ Rhif L139, 31.5.2007, t.22). Maent yn diwygio Rheoliadau 1997 i ddarparu ar gyfer tynnu'r gwaharddiad ar werthu bwydydd penodol lle y mae'r labelu, yr hysbysebu neu'r cyflwyno yn cyfeirio at leihad yn yr ystyr o newyn neu gynnydd yn yr ystyr o syrffed bwyd (rheoliad 3(2)).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125), fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 2000”) i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwyd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Rwmania (OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.94). Maent yn diwygio Rheoliadau 2000 drwy amnewid diffiniad diwygiedig o “y Gyfarwyddeb” (i gymryd ystyriaeth o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC) yn lle'r diffiniad presennol o “y Gyfarwyddeb” yn rheoliad 2 (dehongli) (rheoliad 4(2)).

5.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2939 (Cy.280), fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 2002”) i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/26/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2004/6/EC i ymestyn ei gyfnod cymhwyso (OJ Rhif L118, 8.5.2007, t.5). Maent yn diwygio Rheoliadau 2002 i ddarparu na fydd cyfyngiadau penodol sydd yn y Rheoliadau hynny yn gymwys ar gyfer sylweddau penodol tan 1 Ionawr 2010 (rheoliad 5(2)).

6.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004 (O.S. 2004/314 (Cy.32), fel y'i diwygiwyd, “Rheoliadau 2004”) i weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc (OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16). Maent yn diwygio Rheoliadau 2004 drwy amnewid diffiniad diwygiedig o “y Gyfarwyddeb” (fel ei fod bellach yn cyfeirio at Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/125/EC) yn lle'r diffiniad presennol o “y Gyfarwyddeb” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 6(2)).

7.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(3)

O.S. 1995/77, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

OJ Rhif L299, 28.10.2006, t.9.

(5)

O.S. 1997/2182, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29, fel y'i darllenir gyda'r Corigendwm yn OJ Rhif L2, 5.1.2000, t.79.

(8)

OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.

(9)

OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.94.

(12)

OJ Rhif L339, 6.12.2006, t.16.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources