- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2007.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;
ystyr “ffordd” (“road”) yw unrhyw ddarn o briffordd y caiff y cyhoedd fynd arno, ac mae'n cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt;
ystyr “tir” (“land”) yw unrhyw dir sydd yn agored i'r awyr ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i fynd arno (gyda thâl neu heb dâl), ac mae unrhyw dir â tho drosto i'w drin fel tir “agored i'r awyr” os yw ar agor ar un ochr o leiaf.
3. Dynodir unrhyw dir sy'n dod o fewn disgrifiad yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen yn dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, at y dibenion a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad penodol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: