Search Legislation

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 702 (Cy.59)

CŵN, CYMRU

RHEOLI CŵN

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

6 Mawrth 2007

Yn dod i rym

15 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y person priodol o ran Cymru fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(4) a (5), 56(1), (3), (4) a (5) a 67(1) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Awdurdod” (“Authority”) yw naill ai prif awdurdod (“primary authority”) neu awdurdod eilaidd (“secondary authority”) fel y'i diffinnir yn adran 58 (“primary and secondary authorities”) o'r Ddeddf;

mae i “awdurdod mynediad” a “tir mynediad” yr ystyr a roddir i “access authority” ac “access land” yn Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;

ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

ystyr “tir yr effeithir arno” (“affected land”) yw tir sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli cŵn neu i fwriad i wneud gorchymyn rheoli cŵn.

Ymgynghori cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn.

3.  Cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—

(a)ymgynghori ar ei fwriad i wneud gorchymyn drwy beri cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad—

(i)sy'n dynodi'r tir yr effeithir arno—

(aa)drwy ei ddisgrifio, a

(bb)pan fo cyfeiriad yn y gorchymyn y bwriedir ei wneud at fap, drwy gyhoeddi'r map hwnnw;

(ii)sy'n dynodi unrhyw dir mynediad a gynhwysir o fewn y tir yr effeithir arno;

(iii)sy'n gosod i lawr effaith cyffredinol gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud;

(iv)sy'n datgan y cyfnod a roddir i wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (sy'n gyfnod nad yw'n llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);

(v)sy'n datgan y cyfeiriad a'r cyfeiriad e-bost lle dylid anfon y sylwadau;

(b)pan fo hynny'n ymarferol, peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at effaith gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud.

4.  Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—

(a)i unrhyw Awdurdod arall sydd â phwer o dan adran 55 o'r Ddeddf i wneud gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno;

(b)pan fo unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno yn dir mynediad,—

(i)i'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir mynediad hwnnw;

(ii)i'r fforwm mynediad lleol ar gyfer y tir mynediad hwnnw; a

(iii)i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir mynediad hwnnw nad yw o fewn Parc Cenedlaethol.

Gweithdrefnau ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn

5.  Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—

(a)peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at y ffaith fod gorchymyn wedi'i wneud ac at effaith gwneud y gorchymyn hwnnw;

(b)cyhoeddi ar ei wefan—

(i)hysbysiad sy'n datgan—

(aa)fod y gorchymyn wedi'i wneud,

(bb)yn lle y gellir cael copïau ohono;

(ii)copi o'r gorchymyn,

(iii)copi o unrhyw fap y cyfeirir ato yn y gorchymyn;

(c)anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) o is-baragraff (b) at y personau a bennir yn rheoliad 4.

Diwygio a dirymu gorchmynion rheoli cŵn: gofynion gweithdrefnol

6.  Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cŵn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).

Tramgwyddau a chosbau a ragnodir

7.—(1At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.

(2Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cŵn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3Caiff gorchymyn rheoli cŵn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.

Geiriad penodedig i'w ddefnyddio mewn gorchymyn rheoli cŵn, a ffurf y gorchymyn

8.  Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cŵn—

(a)wrth ddarparu ar gyfer unrhyw dramgwydd, defnyddio'r geiriad a bennir yn yr Atodlen sy'n gymwys i'r tramgwydd hwnnw (dan y pennawd “tramgwydd”); a

(b)ym mhob peth arall, wneud y gorchymyn yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn

9.  Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.

Dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn i rym

10.  Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cŵn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 1Y TRAMGWYDD O FETHU Å SYMUD YMAITH FAW CI A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â symud ymaith faw a ollyngwyd gan y ci ar unrhyw adeg, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnodau penodol a ragnodir yn y gorchymyn.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â symud ymaith y baw, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(3Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948(4), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](8).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](9).

Y Tramgwydd

3—(1Os bydd ci yn bawa ar unrhyw adeg [yn ystod y cyfnodau a bennir yn Atodlen 2](10) ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a bod person sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar y pryd yn methu â symud y baw ci oddi ar y tir ar unwaith, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu

(b)sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario, neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

(3At ddibenion yr erthygl hon —

(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

(b)bydd gosod y baw ci mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn symud ymaith digonol oddi ar y tir;

(c)ni fydd bod yn anymwybodol o'r bawa (p'un ai oherwydd peidio â bod yn y cyffiniau ai peidio), na bod heb declyn i symud y baw ci ymaith neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â symud y baw ci ymaith;

(ch)mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—

(i)Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);

(ii)Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);

(iii)Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).

Y Gosb

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](11)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](12)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](13)

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 2Y TRAMGWYDD O BEIDIO Å CHADW CI AR DENNYN A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â chadw'r ci ar dennyn neu ar dennyn â'i hyd ar y mwyaf wedi'i ragnodi yn y gorchymyn, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu rhagnodi.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â chadw'r ci ar dennyn, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn rhaid gosod y tramgwydd o beidio â chadw ci ar dennyn i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

  • Ffurf y Gorchymyn

  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

  • Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

  • Gorchymyn Cŵn ar Dennyn ([X](14)) [X](15)

  • Mae [X] (16), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](17).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](18).

Y Tramgwydd

3—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg][yn ystod yr [amserau] [cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](19), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cadw'r ci ar dennyn [heb fod yn hwy na [X o centimetrau / o fetrau](20),oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

Y Gosb

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](21)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](22)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](23)

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 3Y TRAMGWYDD O BEIDIO Å RHOI CI AR DENNYN A'I GADW ARNO, DRWY GYFARWYDDYD A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd” yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

  • Ffurf y Gorchymyn

  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

  • Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

  • Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd ([X](24)) [X](25)

  • Mae [X](26) a elwir yn y Gorchymyn hwn “yr awdurdod”) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](27).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](28).

Y Tramgwydd

3—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](29), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno (30), oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2At ddibenion yr erthygl hon —

(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

(b)ni chaiff swyddog awdurdodedig o Awdurdod roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a'i gadw arno oni fo'r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o beri aflonyddwch i unrhyw berson arall neu o darfu arno [ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo] neu o beri trafferth i unrhyw anifail neu unrhyw aderyn neu o aflonyddu arnynt.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “swyddog awdurdodedig o Awdurdod” yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.

Y Gosb

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](31)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](32)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](33)

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 4Y TRAMGWYDD O GANIATÁU I GI FYND AR DIR Y MAE WEDI'I WAHARDD ODDI ARNO A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Gwahardd Cŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i fynd â'r ci ar y cyfryw dir, neu i ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â'r ci ar y tir, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(3Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948, i berson byddar mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Gwahardd Cŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fynd â chi ar dir y mae wedi'i wahardd oddi arno, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Gwahardd Cŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

  • Ffurf y Gorchymyn

  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

  • Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

  • Gorchymyn Gwahardd Cŵn [X](34) [X](35)

  • Mae [X](36), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](37).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](38).

Y Tramgwydd

3—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](39) os bydd y person hwnnw yn mynd â'r ci ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu yn caniatáu iddo fynd arno neu aros arno oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.

(2Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu

(b)sydd yn fyddar, mewn perthynas â chi wedi'i hyfforddi gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu

(c)sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

(3At ddibenion yr erthygl hon —

(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno; a

(b)mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—

(i)Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);

(ii)Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);

(iii)Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).

Y Gosb

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](40)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](41)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](42)

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 5Y TRAMGWYDD O FYND Å MWY NA NIFER PENODEDIG O GŵN AR DIR A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig)” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn y gorchymyn ar y tir hwnnw yn ystod yr amserau neu'r cyfnodau a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â mwy na'r nifer penodedig o gŵn ar y tir, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) iddo wneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) , rhaid gosod y tramgwydd o fynd â mwy na nifer penodedig o gŵn ar dir i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

  • Ffurf y Gorchymyn

  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

  • Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

  • Gorchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) [X](43) [X](44)

  • Mae [X] (45), drwy hyn yn gŵneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](46).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](47).

3  Ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, yr uchafswm o gŵn y caiff person fynd â hwy arno yw [X](48).

Y Tramgwydd

4—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci yn euog o dramgwydd [ar unrhyw amser][yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](49), os bydd y person hwnnw yn mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.

(2At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno.

Y Gosb

5  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

  • [ATODLEN] [ATODLEN 1](50)

  • [Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](51)

  • [ATODLEN 2

  • [Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](52)

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 6FFURF GORCHYMYN SY'N DIWYGIO GORCHYMYN RHEOLI CŵN

1  Bydd gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

2  Pan fo'r disgrifiad o'r tramgwydd yn cael ei ddiwygio, rhaid gwneud y diwygiad drwy dynnu allan yr erthygl gyfan sy'n gosod y tramgwydd, a bydd yr erthygl a roddir i mewn yn ei lle yn gosod i lawr y tramgwydd fel y byddai'n ofynnol ei ddatgan petai yn cael ei gynnwys mewn gorchymyn rheoli cŵn sy'n cael ei wneud o'r newydd.

  • Ffurf y Gorchymyn

  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

  • Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

  • Gorchymyn 702 (W.59)(53) (Diwygio) [X](54)

  • Mae [X](55), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](56).

2  Diwygir [XXXX](57) fel a ganlyn:

  • [mewnosoder y diwygiadau](58).

  • [Dyddiad]

  • [Cymal ardystio]

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) (“Deddf 2005”) yn sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli cŵn gan gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (“awdurdodau”). Mae'r Bennod honno yn galluogi awdurdodau i wneud gorchmynion rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw dir yn eu hardal sydd yn agored i'r awyr, yn ddarostyngedig i fod unrhyw dir wedi'i eithrio drwy orchymyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 (O.S. 2007 Rhif 702 (W.59) yn dynodi, at ddibenion penodedig, y disgrifiadau a ganlyn o dir fel tir nad yw Pennod 1 o Rhan 6 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddo—

(a)tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10); a

(b)tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â gorchmynion rheoli cŵn a wneir o dan adran 55 o Ddeddf 2005—

(a)y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdodau pan maent yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion rheoli cŵn (rheoliadau 3 i 6);

(b)y tramgwyddau y gellir darparu ar eu cyfer mewn gorchymyn rheoli cŵn (rheoliad 7(1) a pharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5);

(c)y cosbau uchaf y gellir eu darparu mewn gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas â'r tramgwyddau a ragnodir (rheoliad 7(2));

(ch)cynnwys a ffurf gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchmynion sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) (rheoliadau 8(a) a 9 a pharagraff 2 o bob un o Atodlenni 1 i 5 ac Atodlen 6); a

(d)y dyddiad cynharaf y bydd gorchymyn (gan gynnwys gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) yn dod i rym arno (rheoliad 10).

Mae mwy o wybodaeth ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 i'w chael yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2005 sydd ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/en2005/ukpgaen_20050016_en.pdf

(2)

2000 p. 37; am “access authority” gweler adran 1(2) ac am “access land” gweler adran 1(1).

(4)
(5)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(6)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(7)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(8)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(9)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(10)

Penner cyfnodau os mai dim ond yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn y mae'r Gorchymyn yn gymwys.

(11)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(12)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(13)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

(14)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(15)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(16)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilyddol sy'n gwneud y Gorchymyn.

(17)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(18)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(19)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(20)

Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.

(21)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(22)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(23)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

(24)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(25)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(26)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(27)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(28)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(29)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(30)

Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.

(31)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(32)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(33)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

(34)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(35)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(36)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(37)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(38)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(39)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(40)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(41)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(42)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

(43)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(44)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(45)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(46)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(47)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(48)

Mewnosoder yr uchafswm.

(49)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(50)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(51)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(52)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.

(53)

Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio.

(54)

Mewnosoder flwyddyn gwneud y Gorchymyn diwygio.

(55)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(56)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(57)

Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio.

(58)

Er enghraifft: “Yn lle [Paragraff X o] Erthygl [X] rhodder [y paragraff / yr Erthygl] a ganlyn:…”, “ar ôl y geiriau [X] mewnosoder y geiriau a ganlyn: “ yn lle “[X]”, rhodder y geiriau “[X]””, etc.].

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources