- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 10 Mai 2008.
2. At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn—
(a)estynnir diffiniad “anifail” (“animal”) i gynnwys unrhyw fath o famal ac eithrio dyn, ac unrhyw greadur pedwartroed nad yw'n famal;
(b)estynnir diffiniad “dofednod” (“poultry”) i gynnwys unrhyw rywogaeth o aderyn; ac
(c)estynnir diffiniad “clefyd” (“disease”) i gynnwys unrhyw glefyd anifeiliaid a dofednod a all gael ei achosi gan un neu ragor o bathogenau anifeiliaid penodedig.
3.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “anifail” (“animal”) yn cynnwys dofednod;
ystyr “cludydd” (“carrier”) yw unrhyw greadur byw ac eithrio dyn a all gludo neu drosglwyddo pathogen anifail penodedig neu feinwe, meithriniad celloedd, hylif corff, ysgarthion, carcas, neu ran o garcas y cyfryw greadur y gellir trosglwyddo neu gludo pathogen anifail penodedig ganddo neu drwy ei gyfrwng;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le arall; ac
ystyr “pathogen anifail penodedig” (“specified animal pathogen”) yw pathogen anifail a restrir yn Atodlen 1, gan gynnwys—
pathogenau cyfan;
pathogenau a wanhawyd neu a addaswyd yn enetig drwy unrhyw gyfrwng; ac
unrhyw asid niwclëig sy'n deillio o bathogen anifail a restrir yn yr Atodlen honno a allai gynhyrchu'r pathogen hwnnw pan gâi ei gyflwyno i system fiolegol y mae'r asid niwclëig yn gallu dyblygu ynddo.
(2) Yn y Gorchymyn hwn nid yw “arolygydd” (“inspector”) yn cynnwys arolygydd a benodwyd gan awdurdod lleol.
(3) Rhaid i drwydded neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
4.—(1) Ni chaiff neb feddu ar—
(a)unrhyw bathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1; neu
(b)unrhyw gludydd y gwyr fod y cyfryw bathogen ynddo,
ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.
(2) Ni chaiff neb gyflwyno unrhyw bathogen anifail a bennir yn naill ai Rhan 1 neu Ran 2 o'r Atodlen honno i unrhyw anifail yn fwriadol, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i berson hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith os yw'r person hwnnw—
(a)yn meddu ar unrhyw beth yn ei gylch y mae ganddo sail resymol dros amau bod pathogen anifail a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn bresennol, a
(b)heb drwydded ar gyfer y pathogen hwnnw.
5.—(1) Nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw berson sy'n cludo pathogen neu gludydd ac nad yw'n berchen ar y pathogen na'r cludydd hwnnw neu nad oes ganddo unrhyw hawliau ynddynt.
(2) Nid yw erthygl 4 yn gymwys o ran unrhyw bathogen na chludydd a geir mewn cynnyrch—
(a)a awdurdodir i'w roi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig fel cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu a awdurdodir i'w roi i anifail yn y Deyrnas Unedig;
(b)a awdurdodir i'w roi ar y farchnad o dan Reoliadau Meddyginiaethau i'w Defnyddio gan Bobl (Awdurdodiadau Marchnata etc.) 1994(1);
(c)a drwyddedwyd yn unol â darpariaethau adran 7(2) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(2).
6. Yn ychwanegol at y pwerau a nodir yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981, mae gan arolygydd sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn y pwerau a nodir yn Atodlen 2.
7.—(1) Os yw arolygydd yn barnu bod person—
(a)yn cyflawni unrhyw weithgaredd sy'n torri un neu ragor o amodau trwydded a ddyroddwyd o dan y Gorchymyn hwn, neu
(b)wedi torri un neu ragor o'r amodau hynny mewn amgylchiadau sy'n ei gwneud yn debygol y bydd y toramod yn parhau neu'n cael ei ailadrodd,
caiff yr arolygydd hwnnw gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella”) i'r person hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella—
(a)pennu amodau'r drwydded a dorrwyd;
(b)esbonio'r rhesymau paham y mae'r arolygydd o'r farn honno; ac
(c)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw unioni'r toramod neu'r materion sydd yn ei achosi, cyn pen y cyfnod a gaiff ei bennu yn yr hysbysiad.
(3) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch y mesurau i'w cymryd i unioni unrhyw doramod neu fater y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef; a chaniateir llunio'r cyfryw gyfarwyddiadau mewn dull sy'n rhoi dewis i'r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo rhwng ffyrdd gwahanol o unioni'r toramod neu'r mater.
8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw weithgareddau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Os yw arolygydd yn barnu bod y gweithgareddau yn cynnwys neu y gallant gynnwys risg o niwed difrifol i anifeiliaid, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwahardd”) i'r person hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad gwahardd—
(a)datgan bod yr arolygydd o'r farn honno;
(b)pennu'r materion sydd ym marn yr arolygydd yn achosi neu y gallant achosi risg o niwed difrifol i anifeiliaid; ac
(c)cyfarwyddo na chaniateir cyflawni'r gweithgareddau y mae a wnelo'r hysbysiad â hwy oni bai bod y materion a bennir yn yr hysbysiad wedi cael eu hunioni.
(4) Mae cyfarwyddyd a geir mewn hysbysiad gwahardd o dan is-baragraff (3)(c) yn effeithiol—
(a)ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b)os yw'r hysbysiad yn datgan hynny, ar unwaith.
9.—(1) Caiff person y mae hysbysiad gwella neu wahardd yn cael ei gyflwyno iddo apelio yn erbyn yr hysbysiad cyn pen 21 o ddiwrnodau i'r person a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i'r person penodedig ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru ac adrodd yn ysgrifenedig, gan argymell camau gweithredu, i Weinidogion Cymru.
(3) Yna caiff Gweinidogion Cymru naill ai ddiddymu'r hysbysiad neu ei gadarnhau, gyda neu heb addasiadau, a rhaid iddynt hysbysu'r apelydd gan roi'r rhesymau dros eu penderfyniad.
10. Ni chaiff unrhyw berson dorri amod trwydded a osodir ar y person hwnnw.
11. Gorfodir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru.
12. Dirymir y gorchmynion canlynol—
(a)Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(3) wrth ei gymhwyso i Gymru; a
(b)Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2006(4).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Mai 2008
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: