- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw —
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.
(2) Dyma'r seiliau trosglwyddo—
(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi'r gorau i un cwrs ac yn dechrau—
(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;
(ii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig arall yn y sefydliad; neu
(iii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig yn y sefydliad;
(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—
(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(ii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;
(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;
(ch)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu
(d)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yr hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru ynghylch y flwyddyn academaidd o'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu'r cymorth a roddir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: