Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

Trosglwyddo statws

8.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw —

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Dyma'r seiliau trosglwyddo—

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi'r gorau i un cwrs ac yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;

(ii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig arall yn y sefydliad; neu

(iii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau—

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(ii)yn ymgymryd a chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yr hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru ynghylch y flwyddyn academaidd o'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu'r cymorth a roddir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.