Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008

Ceisiadau am gymorth

9.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.