Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1429 (Cy.148) (C.64)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2008

Gwnaed

4 Mehefin 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2006.

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3); ac

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2006 ac at Atodlenni iddi.

Y Diwrnodau penodedig

3.—(1Daw darpariaethau Deddf 2006 a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru.

(2Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008.

(3Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru.

Arbed y Codau Ymarfer cyfredol

4.—(1Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion(4) ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.

(2Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Apelau Derbyniadau i Ysgolion (5) ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym —

(a)tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw, a

(b)o ran unrhyw apêl a wnaed o dan adran 94 o Ddeddf 1998 lle y mae hysbysiad o apêl wedi cael ei roi cyn y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Mehefin 2008

Erthygl 3

YR ATODLEN

RHAN 1Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru

Y DdarpariaethY Pwnc
Adran 1Dyletswyddau o ran safonau uchel a chyflawni potensial
Adran 37(1) a (2)(1)(a)Staff mewn ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol gyda chymeriad crefyddol
Adran 39Cyfyngiad cyffredinol ar ddethol ar sail gallu
Adran 43Dyletswydd corff llywodraethu i weithredu penderfyniadau ynghylch derbyniadau
Adran 44Gwahardd cyfweliadau
Adran 45Trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion gyda chymeriad crefyddol; ymgynghori a gwrthwynebiadau
Adran 47Gwrthwynebiadau i drefniadau derbyn
Adran 53Ysgolion gyda threfniadau cyn 1998 ar gyfer dethol ar sail gallu neu ddawn
Adran 166

Trefniadau cydweithredu:—

  • ysgolion a gynhelir a chyrff addysg bellach

Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isodDiddymu

Yn Atodlen 18, yn Rhan 6 diddymu—

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 5, adran 58(4) yn adran 89, yn is-adran (2), y gair “ and” ar ddiwedd paragraff (c), adran 90(6), (7) a (10) adran 99(1)

Diddymu

RHAN 2Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008

Y DdarpariaethY Pwnc
Adran 156Tynnu ymaith ddyletswydd Arolygiaeth Gweinyddu Llysoedd Ei Mawrhydi i arolygu perfformiad o swyddogaethau Gweinidogion Cymru ynghylch achosion teulu
Adran 175Diwygiadau amrywiol yn ymwneud â Chymru
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isodDiddymu
Atodlen 17Diwygiadau amrywiol yn ymwneud â Chymru

Yn Atodlen 18, yn Rhan 5 diddymu—

  • Deddf Plant 2004, adran 38.

Diddymu

RHAN 3Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru

Y DdarpariaethY Pwnc
Adran 38Dyletswyddau cyffredinol cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
Adran 40Cod ar gyfer derbyniadau i ysgol
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isodDiddymu

Yn Atodlen 18, yn Rhan 6 diddymu—

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn adran 84(5), y geiriau “of practice”, ym mhob man lle y maent yn digwydd,yn adran 85(1), y geiriau “of practice”.

Diddymu

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r Gorchymyn cychwyn cyntaf i Weinidogion Cymru ei wneud o dan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Deddf 2006).

Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym y darpariaethau a ddisgrifir yn fyr isod ar 30 Mehefin 2008 a 1 Medi 2008. Yn yr hyn a ganlyn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2006 ac at Atodlenni iddi.

Bydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru fel a ganlyn—

  • Mae adran 1 yn ailddeddfu adran 13A o Ddeddf Addysg 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol hybu safonau uchel, ac mae'n ychwanegu gofyniad eu bod yn arfer eu swyddogaethau gyda'r bwriad o hybu cyflawni potensial addysgol pob plentyn.

  • Mae adran 37 yn diwygio adran 58 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er mwyn tynnu ymaith y gwaharddiad bod pennaeth ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir yn athro neu'n athrawes neilltuedig. Mae athro neu athrawes neilltuedig yn un a benodwyd, yn benodol i addysgu addysg grefyddol yn unol ag ethos crefyddol yr ysgol.

  • Mae adran 39 yn ailddeddfu'r gwaharddiad ar ddethol disgybl i gael ei dderbyn i ysgol a gynhelir ar sail gallu disgybl, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol.

  • Mae adran 43 yn diwygio adran 88 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir i weithredu penderfyniad a gymerir gan awdurdod addysg sy'n awdurdod derbyn yr ysgol i dderbyn plentyn. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl corff llywodraethu i apelio os yw'r penderfyniad yn ymwneud â phlentyn a waharddwyd yn barhaol ddwywaith.

  • Mae adran 44 yn mewnosod adran 88A newydd yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n gwahardd cyf-weld fel rhan o drefniadau derbyn ysgol, ac eithrio mewn cysylltiad â lleoedd byrddio a lle y bo gan ysgol ffurf a ganiateir mewn trefniadau ar gyfer dethol, at ddibenion canfod doniau disgybl.

  • Mae adran 45 yn diwygio adran 89 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 lle y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir gyda chymeriad crefyddol, cyn iddo benderfynu ar ei drefniadau derbyn, ymgynghori ag unrhyw gorff neu berson sy'n cynrychioli'r grefydd neu'r enwad o dan sylw fel a osodir mewn rheoliadau.

  • Mae adran 47 yn diwygio adran 90 o Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, sy'n ymwneud â gwrthwynebiadau i drefniadau derbyn. Os cyfeirir gwrthwynebiad at Weinidogion Cymru, cânt ystyried unrhyw agwedd ar drefniadau derbyn yr ysgol. Mae gofynion newydd ynghylch cyhoeddi adroddiad ar benderfyniad, ac mae penderfyniadau Gweinidogion Cymru yn rhwymol a rhaid eu gweithredu.

  • Mae adran 53 yn diwygio adran 100 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel na all ysgol sydd eisoes â threfniadau derbyn ar gyfer dethol yn rhannol os bydd hi'n lleihau cyfradd y derbyniadau dethol, ddim wedyn gynyddu'r gyfradd honno.

  • Mae adran 166 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a fydd yn caniatáu i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a chyrff addysg bellach wneud trefniadau cydweithredu i gyflawni eu swyddogaethau ar y cyd.

  • Mae adran 184 ac Atodlen 18 (sy'n cael eu cychwyn yn rhannol) yn cynnwys diddymiadau canlyniadol.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 fel a ganlyn —

  • Mae adrannau 156, 184 (yn rhannol) ac Atodlen 18 (yn rhannol) yn diddymu adran 38 o Ddeddf Plant 2004. Nid oes gofyniad bellach i Arolygiaeth Gweinyddu Llysoedd Ei Mawrhydi, pan fydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddynt i wneud hynny, i arolygu a chyflwyno adroddiad ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 4 o Ddeddf Plant 2004 (gwasanaethau cynghori a chefnogi ar gyfer achosion teulu).

  • Mae adran 175 ac Atodlen 17 yn cynnwys diwygiadau amrywiol ynghylch ysgolion yng Nghymru.

Mae effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru fel a ganlyn—

  • Mae adran 38 yn diwygio adran 21 o Ddeddf Addysg 2002 fel ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, pan fyddant yn cyflawni eu swyddogaethau ynghylch cynnal yr ysgol, i hybu lles disgyblion yn yr ysgol ac i roi sylw i unrhyw gynllun plant a phobl ifanc perthnasol. Mae hefyd yn diwygio adran 28 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, pan fyddant yn arfer eu pwerau i ddarparu cyfleusterau cymunedol, i roi sylw i unrhyw gynllun plant a phobl ifanc perthnasol.

  • Mae adran 40 yn diwygio adrannau 84 ac 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel na fydd y cod ar gyfer derbyniadau i ysgolion bellach yn god ymarfer sy'n cynnwys canllawiau ymarferol y mae'n rhaid i gyrff roi sylw iddynt, ond mae'n god a all gynnwys gofynion neu ganllawiau ac y mae'n rhaid i gyrff weithredu'n unol â hwy. Mae fforymau derbyn yn cael eu cynnwys fel cyrff y mae swyddogaethau'r cod yn gymwys iddynt.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau arbed ynglyn â'r cod ar gyfer derbyniadau i ysgolion a'r cod ar gyfer apelau derbyniadau.

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801 ac O.S. 2007/3074.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (deufis yn ddiweddarach).

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Daeth y Cod Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion i rym ar 1 Ebrill 1999, isbn – 07504 23331.

(5)

Daeth y Cod Ymarfer Apelau Derbyniadau i Ysgolion i rym ar 1 Medi 1999, isbn – 07504 23528.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources