Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2364 (Cy.203)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

4 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Medi 2008

Yn dod i rym

1 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203 (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).

Diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau

2.  Yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (p) mewnosoder—

  • , or

    (q)

    who the competent authorities of the United Kingdom for the purposes of the Council of Europe Convention on Action Against Trafficking in Human Beings(3) (in this regulation “the Convention”),

    (i)

    consider that there are reasonable grounds to believe is a victim within the meaning of Article 4 of the Convention, and the recovery and reflection period in relation to him under Article 13 of the Convention has not yet expired; or

    (ii)

    have identified as a victim within the meaning of Article 4 of the Convention..

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y prif Reoliadau”). Mae'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau penodol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i bersonau penodol nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig (ymwelwyr tramor).

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4(1) o'r prif Reoliadau i fodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o ran triniaeth feddygol o dan Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl.

Effaith hyn yw estyn yr esemptiad rhag ffioedd i ymwelwyr tramor a nodir yn rheoliad 4 o'r prif Reoliadau i ddau ddosbarth o bobl. Yn gyntaf, i ymwelwyr tramor y mae gan y Deyrnas Unedig sail resymol i gredu eu bod yn ddioddefwyr o fewn ystyr Erthygl 4 o'r Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl (mae'r esemptiad yn gyfyngedig i'r cyfnod gwella ac ystyried a gydnabyddir yn Erthygl 13 o'r Confensiwn). Ac yn ail, y rhai a adnabuwyd fel dioddefwyr.

(2)

1989/306 (fel y'i diwygiwyd).

(3)

Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl 2005 (CETS Rhif 197).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources