- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gwnaed
13 Mai 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Mai 2009
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1) ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(2), fel y'u cymhwysir gan adran 16(3) o'r Ddeddf honno(3), ac a freinir yn awr ynddynt hwy(4), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1947 p.41, diddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau mewn grym, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ac a welir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), gan Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257)). Newidiwyd enw'r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4(1) o'r Gorchymyn hwnnw. Diwygiwyd y Cynllun ymhellach gan Orchymyn Pensiwn Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1672 (Cy.160)) a Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/1074 (Cy.112)). Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf 1947 gan adran 1 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1951 (p.27), adran 42 o Ddeddf Lluoedd Arfog Wrth Gefn ac Atodol (Amddiffyn Buddiannau Sifil) 1951 (p.65), adran 33 o Ddeddf Lladrad 1968 (p.60) ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11) ac Atodlen 8 i'r Ddeddf honno, adran 100 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1973 (p.38), ac Atodlen 27 i'r Ddeddf honno, adran 1 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 (p.18) ac Atodlen 1 i'r Ddeddf honno, adran 32 o Ddeddf y Llysoedd Ynadon 1980 (p.43), adran 1 o Ddeddf Pensiynau'r Heddlu a'r Dynion Tân 1997 (p.52) ac Atodlen 25 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33), ac erthygl 2 o Orchymyn Nawdd Cymdeithasol (Addasu Deddf y Gwasanaethau Tân 1947) 1976 (O.S. 1976/551).
1972 p.11; diwygiwyd adran 12 gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).
Mae adran 16 yn parhau mewn grym at ddibenion Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (a ailenwyd yn Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy.257))).
Diddymwyd Deddf y Gwasanaethau Tân 1947 (“Deddf 1947”) gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) (“Deddf 2004”) ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno. Parhawyd i gadw mewn grym swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan is-adrannau (1) i (5) o adran 26 o Ddeddf 1947, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ac a welir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), gan adran 36 o Ddeddf 2004 ac O.S. 2004/2918 (Cy.257) a wnaed o dan y Ddeddf honno. Yr oedd pwerau yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 36 o Ddeddf 2004 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: