- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 8, 9, 10, 11, 13 a 17
1.—(1) Rhaid i'r meddiannydd gofnodi—
(a)y categorïau o foch yn y fangre;
(b)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny;
(c)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny sydd eisoes wedi marw; a
(ch)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny sydd—
(i)yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch; neu
(ii)yn debyg o gael eu heintio neu eu halogi ag ef.
(2) Rhaid i'r meddiannydd—
(a)diweddaru'r cofnod hwn yn ddyddiol, a
(b)cofnodi manylion pob mochyn a anwyd ar y fangre.
(3) Rhaid i'r meddiannydd gadw'r cofnodion am chwe mis o leiaf.
2. Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod yr holl foch sydd ar y fangre —
(a)yn cael eu cadw yn eu hadeiladau neu, os ydynt yn cael eu cadw mewn cae, eu bod yn cael eu cadw wedi'u hynysu, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, oddi wrth foch gwyllt, neu
(b)yn cael eu cyfyngu neu eu hynysu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
3. Rhaid i'r meddiannydd—
(a)darparu a chynnal modd diheintio wrth y mynedfeydd i'r fangre a'r holl adeiladau ar y fangre sy'n lletya moch ac wrth yr allanfeydd o'r fangre a'r holl adeiladau hynny, a
(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan arolygydd milfeddygol ynghylch y modd diheintio hwnnw.
4. Ni chaiff neb symud unrhyw fochyn neu anifail arall i'r fangre nac ohoni ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
5. Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd i'r fangre nac ohoni, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
6. Ni chaiff neb symud o'r fangre unrhyw beth (gan gynnwys cig, carcasau, a bwyd anifeiliaid) sy'n dueddol o drosglwyddo feirws clefyd pothellog y moch, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
7. Ni chaiff neb fynd i mewn i'r fangre na'i gadael —
(a)onid yw'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn darparu gwasanaethau brys, neu
(b)onid yw wedi'i awdurdodi i wneud hynny drwy drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
Rheoliad 24
1. Ni chaiff neb symud moch drwy'r parth onid yw'n gwneud hynny heb stopio.
2. Ni chaiff neb symud moch i fangre yn y parth onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
3.—(1) Ni chaiff neb symud moch oddi ar fangre yn y parth onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(2) Caniateir i drwydded gael ei rhoi ar unrhyw bryd—
(a)os yw problemau (p'un ai problemau lles neu fel arall) wedi codi wrth gadw'r anifeiliaid;
(b)os oes o leiaf 30 o ddiwrnodau wedi mynd heibio er dyddiad datgan y parth gwarchod;
(c)os yw'r symud yn uniongyrchol i fangre arall sydd wedi'i lleoli yn y parth gwarchod; ac
(ch)os yw milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre, ac wedi archwilio'r holl foch sydd i'w symud, gyda chanlyniadau negyddol yn y 48 awr cyn y symud.
(3) Caniateir i drwydded gael ei rhoi hefyd ar unrhyw adeg yn achos dwy set o fangreoedd sydd wedi'u rhannu gan briffordd ar yr amod y byddai'r ddwy set o fangreoedd yn cyffinio â'i gilydd oni bai am y briffordd.
(4) Fel arall, ni chaniateir i drwydded gael ei rhoi ac eithrio os yw 21 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r fangre ddiwethaf yn y parth a heintiwyd â chlefyd pothellog y moch gael ei glanhau a'i diheintio gan Weinidogion Cymru a bod y symud—
(a)yn uniongyrchol i ladd-dy sydd wedi'i ddynodi at y diben gan Weinidogion Cymru a hwnnw'n fan lle byddant yn cael eu cadw a'u cigydda ar wahân i foch eraill, ar yr amod—
(i)bod milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre, ac wedi archwilio'r moch sydd i'w symud i'w cigydda (gyda chanlyniadau negyddol) yn y 48 awr cyn y symud; a
(ii)bod y moch yn cael eu cludo mewn cerbyd seliedig; neu
(b)yn uniongyrchol i fangre arall sydd wedi'i lleoli yn y parth diogelu, ar yr amod bod milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre y mae'r moch i'w symud ohoni, ac wedi archwilio'r moch sydd i'w symud, (gyda chanlyniadau negyddol) o fewn y 48 awr cyn y symud.
4.—(1) Ni chaniateir i gerbydau a chyfarpar a ddefnyddir yn y parth gwarchod i gludo—
(a)moch, neu
(b)da byw eraill neu ddeunyddiau eraill a all fod wedi'u halogi â feirws clefyd pothellog y moch,
adael y fangre yn y gyrchfan heb iddynt fod wedi'u glanhau a'u diheintio yn y fath fodd ag i leiafu'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch.
(2) Ym mhob achos, rhaid i'r person y mae'r cerbyd o dan ei ofal wneud y canlynol o leiaf—
(a)glanhau a diheintio ei olwynion, ei fwâu olwynion a'i labedi llaid; a
(b)sicrhau nad oes ar du allan y cerbyd arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi â llaid, carthion nac unrhyw ddeunyddiau eraill a all gario feirws clefyd pothellog y moch.
(3) Yn achos cerbyd da byw rhaid i'r glanhau a'r diheintio gydymffurfio â'r protocol yn Atodlen 2 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(1) ac eithrio, os yw'r cerbyd ar fangre nad oes ganddi gyfleusterau ar gyfer hyn, bod rhaid i'r person y mae'r cerbyd o dan ei ofal, ar ôl iddo gyflawni'r gweithdrefnau gofynnol ym mharagraff (2), fynd ag ef yn uniongyrchol i fangre yn y parth (nad yw'n fangre sy'n cynnwys moch) a chanddi gyfleusterau priodol ar gyfer llwyr lanhau a diheintio, a glanhau a diheintio'r cerbyd yno yn unol â'r protocol hwnnw.
5.—(1) Ni chaiff neb symud moch oddi ar fangre mewn parth gwyliadwriaeth onid yw wedi'i drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(2) Caniateir i drwydded gael ei rhoi—
(a)os yw milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre, ac wedi archwilio'r moch sydd i'w symud i'w cigydda (gyda chanlyniadau negyddol) yn y 48 awr cyn y symud;
(b)os yw prawf serolegol o sampl ystadegol o'r moch sydd i'w symud wedi'i gynnal ar draul y perchennog heb ganfod gwrthgyrff i feirws clefyd pothellog y moch o fewn y 14 o ddiwrnodau cyn y symud; ac
(c)os yw'r cerbydau a'r cyfarpar a ddefnyddiwyd i gludo'r moch wedi'u glanhau a'u diheintio ar ôl pob gweithred gludo.
(3) Yn ychwanegol, caniateir i drwydded gael ei rhoi ar gyfer symud—
(a)i ladd-dy yn y parth gwyliadwriaeth sydd wedi'i ddynodi at y diben gan Weinidogion Cymru a hwnnw'n fan lle byddant yn cael eu cadw a'u cigydda ar wahân i foch eraill;
(b)i fangre arall yn y parth gwyliadwriaeth ar yr amod nad oes unrhyw foch wedi'u symud i'r fangre yn y tarddle yn ystod yr 21 niwrnod blaenorol; neu
(c)rhwng dwy set o fangreoedd sydd wedi'u rhannu gan briffordd ar yr amod y byddai'r ddwy set o fangreoedd yn cyffinio â'i gilydd oni bai am y briffordd.
6.—(1) Ni chaniateir i gerbydau a chyfarpar a ddefnyddir yn y parth gwyliadwriaeth i gludo—
(a)moch, neu
(b)da byw eraill neu ddeunyddiau eraill a all fod wedi'u halogi â feirws clefyd pothellog y moch,
adael y parth gwyliadwriaeth heb iddynt fod wedi'u glanhau a'u diheintio yn y fath fodd ag i leiafu'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch.
(2) Yn achos cerbyd da byw, rhaid i'r glanhau a'r diheintio gydymffurfio â'r protocol yn Atodlen 2 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(2).
(3) Ym mhob achos arall, rhaid i'r person y mae'r cerbyd o dan ei ofal wneud y canlynol o leiaf—
(a)glanhau a diheintio ei olwynion, ei fwâu olwynion a'i labedi llaid; a
(b)sicrhau nad oes ar du allan y cerbyd arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi â llaid, carthion neu unrhyw ddeunyddiau eraill a allai gario feirws clefyd pothellog y moch.
Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â cherbydau sy'n teithio drwy'r parth gwyliadwriaeth heb stopio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: