Search Legislation

Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1795 (Cy.162)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009

Gwnaed

6 Gorffennaf 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

7 Gorffennaf 2009

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) a (3), 17(1), 18(1)(c), 19(1)(b), 6 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009, a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cwmpas

2.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r canlynol—

(a)arbelydru drwy ddyfeisiau mesur neu arolygu ar lefel uchaf o—

(i)10MeV yn achos pelydrau-X;

(ii)14MeV yn achos niwtronau; neu

(iii)5MeV mewn achosion eraill,

pan na fo'r dogn ymbelydredd ïoneiddio sy'n cael ei amsugno yn fwy na 0.01Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy'n defnyddio niwtronau a 0.5Gy mewn achosion eraill; neu

(b)arbelydru bwyd a baratoir o dan oruchwyliaeth feddygol i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “a arbelydrir”, “a arbelydrwyd”, “arbelydrwyd”, “cael ei arbelydru” ac “wedi'i arbelydru” (“irradiated”) yw cael ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a rhaid dehongli ymadroddion tebyg yn unol â hynny;

  • mae “a gymeradwywyd”, “wedi'i gymeradwyo” ac “wedi'u cymeradwyo” (“approved”) yn cynnwys “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”);

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

  • mae “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys trwydded;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu, cynnig, arddangos a hysbysebu i werthu, a rhaid dehongli “gwerthu” (“sale”) yn unol â hynny;

  • ystyr “mewnforio” (“import”) yw cyflwyno o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd;

  • ystyr “Rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) mewn perthynas â chyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth yw'r Rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y Rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3);

  • ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio yn rheoliad 7(a)(ii)(bb), yw trwydded a roddir gan yr Asiantaeth yn unol ag Atodlen 2 i berson ac i gyfleuster i arbelydru bwyd a rhaid dehongli “ei drwyddedu”, “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”) a “trwyddedai” (“licensee”) yn unol â hynny;

  • ystyr “ymbelydredd ïoneiddio” (“ionising radiation”) yw unrhyw belydrau gama, pelydrau-X neu ymbelydriadau corffilaidd sy'n gallu cynhyrchu ïonau naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (“properly irradiated food”) yw bwyd—

(i)a oedd naill ai wedi'i arbelydru ar ei ben ei hun neu fel rhan o swp bwyd yr oedd pob eitem ynddo yn fwyd a oedd yn dod o fewn yr un categori bwyd a ganiatawyd; a

(ii)na chafodd ei arbelydru'n ormodol,

ac mae'n rhaid dehongli “arbelydru priodol” (“proper irradiation”) yn unol â hynny;

(b)bwyd sy'n dod o fewn categori a ganiateir o ran bwyd, pan fo dim llai na 98 y cant ohono yn ôl pwysau (gan hepgor pwysau unrhyw ddŵr a ychwanegwyd) yn dod o fewn y categori hwnnw, ac ystyr “eitem” (“item”), mewn perthynas â swp bwyd, yw pob eitem yn y swp hwnnw sydd wedi'i bwriadu i fod yn eitem y gellir ei gwerthu bob yn un;

(c)y categorïau bwyd a ganiateir yw—

(i)ffrwythau;

(ii)llysiau;

(iii)grawnfwydydd;

(iv)bylbiau a chloron;

(v)perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu;

(vi)pysgod a physgod cregyn; a

(vii)dofednod;

(ch)yn y categorïau bwyd a ganiateir—

(i)mae “ffrwythau” (“fruit”) yn cynnwys ffyngau, tomatos a rhiwbob ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(ii)nid yw'r term “llysiau” (“vegetables”) yn cynnwys ffrwythau, grawnfwydydd, bylbiau a chloron, na pherlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu ond mae'n cynnwys corbys;

(iii)ystyr “bylbiau a chloron” (“bulbs and tubers”) yw tatws, iamau, winwns, sialóts a garlleg;

(iv)mae “pysgod a physgod cregyn” (“fish and shellfish”) yn cynnwys llyswennod, cramenogion a molysgiaid ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; a

(v)ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, gwyddau, hwyaid, ieir gini, colomennod, soflieir a thyrcwn;

(d)mae bwyd wedi'i arbelydru'n ormodol naill ai pan fo'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd ganddo, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1, yn fwy na, yn achos—

(i)ffrwythau, 2 kGy;

(ii)llysiau, 1 kGy;

(iii)grawnfwydydd, 1 kGy;

(iv)bylbiau a chloron, 0.2 kGy;

(v)perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu, 10 kGy;

(vi)pysgod a physgod cregyn, 3 kGy; neu

(vii)dofednod, 7 kGy,

neu pan fo un o'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) yn gymwys.

(3Yr amgylchiadau yw bod y dogn uchaf o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd gan y bwyd, neu gan unrhyw fwyd yn yr un swp, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1—

(a)yn fwy na theirgwaith y dogn isaf a amsugnwyd ganddo; neu

(b)yn fwy nag 1.5 gwaith y dogn cyfartalog cyffredinol a bennir ar gyfer y bwyd ym mharagraff (2)(d).

Gwahardd trin heb drwydded

4.—(1Wrth baratoi bwyd, ni chaiff neb ei arbelydru nac arbelydru unrhyw ran ohono oni bai—

(a)bod y person hwnnw wedi'i drwyddedu;

(b)ei fod mewn cyflwr iachusol addas; ac

(c)ei fod wedi'i arbelydru'n unol â'r Rheoliadau hyn ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded.

(2Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â thrwyddedau.

Cyfyngiadau ar fewnforio

5.—(1Ni chaiff neb fewnforio unrhyw fwyd a arbelydrwyd i Gymru er mwyn ei werthu oni bai—

(a)ei fod yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;

(b)ei fod wedi'i arbelydru yn un o'r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn—

(i)Atodlen 3, a bod hwnnw ym mhob achos yn gyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer arbelydru bwydydd a chynhwysion bwydydd gan yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw; neu

(ii)Atodlen 4, a bod hwnnw ym mhob achos yn gyfleuster mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd ac yn un sydd wedi'i gymeradwyo gan y Gymuned;

(c)ei fod yn fwyd sydd wedi'i arbelydru'n briodol; ac

(ch)pan fo wedi'i arbelydru mewn Aelod-wladwriaeth arall, bod gydag ef ddogfennau sy'n cynnwys—

(i)naill ai enw a chyfeiriad y cyfleuster a wnaeth yr arbelydru, neu ei rif cyfeirnod swyddogol; a

(ii)yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1)(a) i (ch) a (2)(ch) o Ran 3 o Atodlen 2; neu

(d)pan fo wedi'i arbelydru y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd—

(i)bod gydag ef ddogfennau—

(aa)sy'n dangos enw a chyfeiriad y cyfleuster lle arbelydrwyd y bwyd; a

(bb)sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1) o Ran 3 o Atodlen 2;

(ii)yn achos bwyd heblaw perlysiau, sbeisys neu sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu—

(aa)ei fod wedi'i arbelydru gan berson a gymeradwywyd, o dan gyfeirnod y gellir adnabod y gymeradwyaeth drwyddo, gan awdurdod cymwys yn y wlad yr oedd wedi'i arbelydru ynddi;

(bb)bod y gymeradwyaeth yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio'r dull mesur a bennir yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r bwyd y mae'r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef; ac

(cc)bod gweithredu'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y wlad honno ynglŷn ag arbelydru bwyd yn diogelu iechyd dynol i raddau nad ydynt yn llai nag i ba raddau y mae iechyd dynol yn cael ei ddiogelu drwy weithredu'r Rheoliadau hyn, a

(iii)ei fod yn cydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i'r bwyd.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sydd wedi dod (yn ogystal â bwyd nad yw wedi dod) yn gynhwysyn bwyd arall.

(3Ym mharagraff (1)(d)(iii) mae'r ymadrodd “amodau sy'n gymwys i'r bwyd” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “the conditions which apply to the foodstuffs” yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio(4).

Cyfyngu ar storio neu gludo

6.—(1Ni chaiff neb storio na chludo unrhyw fwyd a arbelydrwyd er mwyn ei werthu—

(a)onid yw'r person hwnnw wedi'i drwyddedu mewn perthynas â'r bwyd; neu

(b)onid yw'r person hwnnw heb ei drwyddedu mewn perthynas â'r bwyd ac —

(i)pan fo'r bwyd wedi'i fewnforio i Gymru, bod gydag ef ddogfennau, neu gopïau o'r dogfennau, sy'n ofynnol mewn perthynas ag ef o dan reoliad 5(1)(ch) neu (d)(i); neu

(ii)pan fo'r arbelydru wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig, bod gydag ef ddogfennau sy'n cynnwys datganiad bod y bwyd wedi'i arbelydru a dogfen neu gopi sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1)(a) i (ch) a (2) o Ran 3 o Atodlen 2.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sydd wedi dod (yn ogystal â bwyd nad yw wedi dod) yn gynhwysyn bwyd arall.

Cyfyngu ar werthu

7.  Ni chaiff neb werthu bwyd sydd wedi'i arbelydru neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru—

(a)oni bai bod—

(i)yr arbelydru wedi digwydd yng Nghymru ac y cydymffurfiwyd â rheoliad 4 ac Atodlen 2 ac unrhyw amodau a oedd ynghlwm wrth y drwydded; neu

(ii)yr arbelydru wedi digwydd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, neu'r Alban a chydymffurfiwyd

(aa)â'r darpariaethau a oedd yn cael effaith yno, ac a oedd yn cyfateb i reoliad 4 ac Atodlen 2; a

(bb)ag unrhyw amodau trwydded i arbelydru bwyd a ddyroddwyd yno; neu

(iii)y bwyd wedi'i fewnforio i Gymru ac y cydymffurfiwyd â rheoliad 5; a

(b)oni chydymffurfiwyd, pan fo wedi'i storio neu wedi'i gludo, â rheoliad 6.

Dogfennaeth ar gyfer bwyd nad yw'n barod i gael ei werthu am y tro olaf

8.—(1Ni chaiff neb fewnforio i Gymru, na storio na chludo at ddibenion gwerthu na gwerthu bwyd sydd wedi'i arbelydru, na bwyd sy'n cynnwys cynhwysyn wedi'i arbelydru, nad yw'n barod i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau arlwyo oni bai bod y dogfennau sy'n mynd gyda'r bwyd—

(a)yn priodoli'r gair “irradiated” neu'r geiriau “treated with ionising radiation” i'r bwyd neu'r cynhwysyn, yn ôl y digwydd; a

(b)yn cynnwys naill ai enw a chyfeiriad y cyfleuster lle gwnaed yr arbelydru, neu ei rif cyfeirnod swyddogol.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, caffi, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu un symudol) lle mae bwyd wedi'i baratoi, wrth gynnal busnes, i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;

(b)ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio—

(i)at ddibenion ailwerthu;

(ii)at ddibenion sefydliad arlwyo; neu

(iii)at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.

Gorfodi

9.—(1Rhaid i'r Asiantaeth orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn dod i ran trwyddedai i ufuddhau iddynt.

(2Rhaid i'r Asiantaeth a phob awdurdod bwyd yn ei ardal orfodi bob un ddarpariaethau rheoliad 4 i'r graddau y deuant i ran unrhyw berson heblaw trwyddedai i ufuddhau iddynt.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi yn ei ardal ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac eithrio i'r graddau y maent i'w gorfodi o dan baragraff (1) neu (2).

(4Rhaid i bob awdurdod sy'n ymwneud â gweinyddu'r Rheoliadau hyn roi i bob awdurdod arall sy'n ymwneud felly unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod arall hwnnw at ddibenion ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau a chosbau

10.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, neu sydd, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn gwneud unrhyw ddatganiad anwir neu'n defnyddio unrhyw ddogfen sy'n cynnwys datganiad anwir naill ai'n ddi-hid neu gan wybod ei fod yn anwir, yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; a

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

(2Bydd unrhyw drwyddedai sy'n mynd yn groes i unrhyw un o amodau'r drwydded, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd ac yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; a

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

11.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiad bod bwyd wedi'i fwriadu ibobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiad y bydd is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o fynd yn groes i reoliad 4, 5, 6, 7, neu 8 o'r Rheoliadau hyn fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15;

(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(dd)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(5);

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);

(ng)adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).

(2Mae adran 9 (arolygu bwyd dan amheuaeth ac ymafael ynddo) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd yr oedd yn dramgwydd i'w werthu oddi tanynt yn fwyd a fethodd â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

(3Mae adran 34 (sy'n ymwneud â therfynau amser ar gyfer dechrau erlyniadau) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Dirymu'r heoliadau presennol

12.—(1I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990(6) wedi'u dirymu.

(2Mae rheoliadau 2 i 16 o Reoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001(7) wedi'u dirymu.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Gorffennaf 2009

Rheoliad 3(2)(d) a (3) ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1(e) a 2(1)

ATODLEN 1DULL MESUR ARBELYDREDD

(Mae'r Atodlen hon yn gosod (gyda chywiriad(8) ym mharagraff 1(5)) ddarpariaethau Atodiad III i Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio(9))

Dosimetreg: y dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd

1.—(1Gellir rhagdybio at ddibenion penderfynu iachusrwydd bwydydd sydd wedi'u trin â dogn cyfartalog cyffredinol o 10kGy neu lai fod pob effaith gemegol ymbelydredd yn amrediad y dogn penodol hwnnw yn gymesur â'r dogn hwnnw.

(2Mae 146 r dogn cyfartalog cyffredinol,

, wedi'i ddiffinio gan yr integryn canlynol dros gyfaint cyfan y nwyddau:

  • ac

    M

    =

    mâs cyfan y sampl a driniwyd

    p

    =

    y dwysedd lleol yn y pwynt (x,y,z)

    d

    =

    y dogn a amsugnwyd yn lleol yn y pwynt (x,y,z)

    dV

    =

    = dx dy dz, yr elfen gyfaint orfychan a gynrychiolir mewn achosion real gan y ffracsiynau cyfaint.

(3Gellir penderfynu'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd yn uniongyrchol ar gyfer cynhyrchion cydryw neu ar gyfer swmp-nwyddau o ddwysedd ymddangosol cydryw drwy ddosbarthu nifer digonol o ddosimetrau yn strategol ac ar hap ledled cyfaint y nwyddau. O ddosbarthiad y dogn a benderfynir yn y modd hwn gellir cyfrifo cyfartaledd a hwnnw yw'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd.

(4Os bydd siâp cromlin dosraniad y dogn drwy'r cynnyrch cyfan yn dra phendant, bydd safleoedd y dogn isaf ac uchaf yn hysbys. Gellir defnyddio mesuriadau o ddosraniad y dogn yn y ddau safle hwn mewn cyfres o samplau o'r cynnyrch i roi amcangyfrif o'r dogn cyfartalog cyffredinol.

(5Mewn rhai achosion, bydd gwerth cymedrig gwerthoedd cyfartalog y dogn isaf (

min) a'r dogn uchaf (

max) yn amcangyfrif da o'r dogn cyfartalog cyffredinol: h.y., yn yr achosion hyn:

Gweithdrefnau

2.—(1Cyn bod gwaith arbelydru arferol ar gategori penodol o fwydydd yn dechrau mewn cyfleuster ymbelydru, mae lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf i'w penderfynu drwy wneud mesuriadau o'r dognau ledled cyfaint y cynnyrch. Rhaid i'r mesuriadau dilysu hyn gael eu gwneud nifer addas o weithiau (e.e. 3-5) er mwyn lwfio ar gyfer amrywiadau yn nwysedd neu geometreg y cynnyrch.

(2Rhaid ail-wneud mesuriadau pryd bynnag y newidir y cynnyrch, ei geometreg neu'r amodau arbelydru.

(3Yn ystod y broses, bydd mesuriadau rheolaidd o'r dogn yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau nad eir dros derfynau'r dogn. Dylai'r mesuriadau gael eu gwneud drwy osod dosimetrau yn safleoedd y dogn uchaf neu'r dogn isaf, neu ar safle cyfeirio. Rhaid i'r dogn ar y safle cyfeirio fod yn gysylltiedig o ran maint â'r dogn uchaf a'r dogn isaf. Dylid lleoli'r safle cyfeirio ym mhwynt cyfleus yn y cynnyrch neu arno,lle mae'r amrywiadau mewn dogn yn isel.

(4Rhaid gwneud mesuriadau rheolaidd o'r dognau ar bob swp a phob hyn a hyn yn rheolaidd yn ystod y broses gynhyrchu.

(5Mewn achosion lle y mae nwyddau sy'n llifo ac sydd heb eu pecynnu yn cael eu harbelydru, ni ellir penderfynu lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf. Mewn achos o'r fath, mae'n well defnyddio dull hapsamplu â dosimetr i ganfod gwerthoedd eithafion y dognau hynny.

(6Dylid gwneud y mesuriadau o'r dognau drwy ddefnyddio systemau dosimetreg cydnabyddedig, a dylai fod modd olrhain y mesuriadau yn ôl safonau sylfaenol.

(7Yn ystod y broses arbelydru, rhaid i barametrau penodol y cyfleuster gael eu rheoli a'u cofnodi'n barhaus. Ar gyfer cyfleusterau radioniwclid, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo'r cynnyrch neu'r amser sy'n cael ei dreulio yn y parth ymbelydredd ac arwydd cadarnhaol bod safle'r ffynhonnell yn gywir. Ar gyfer cyfleusterau cyflymu, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo cynnyrch a lefel ynni, cerrynt electronau a lled sganiwr y cyfleuster.

Rheoliadau 4(2), (5)(1)(ch)(ii) a (d)(i)(bb), 6(1)(b)(ii) a 7(a)(i) a (ii)(aa)

ATODLEN 2TRWYDDEDAU

RHAN 1Rhoi Trwyddedau

Cais am drwydded

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael trwydded i arbelydru bwyd (“y ceisydd”) wneud cais drwy anfon at yr Asiantaeth gais ysgrifenedig sy'n cynnwys—

(a)enw'r ceisydd;

(b)cyfeiriad y ceisydd;

(c)cyfeiriad y cyfleuster lle mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd;

(ch)manylion unrhyw drwydded neu gofrestriad o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n galluogi'r ceisydd i ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn y cyfleuster o dan amgylchiadau lle byddai ei ddefnyddio felly, oni bai am y drwydded honno neu'r cofrestriad hwnnw, yn anghyfreithlon;

(d)disgrifiad o bob bwyd y mae'r ceisydd yn bwriadu ei arbelydru a hwnnw'n ddisgrifiad sy'n ddigon i ddangos bod y bwyd yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;

(dd)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir yn unol ag is-baragraff (d) —

(i)at ba ddiben y mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru'r bwyd a sut y byddai hynny o fudd i ddefnyddwyr;

(ii)y dull y mae'r ceisydd i'w ddefnyddio i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;

(iii)y dogn cyfartalog cyffredinol, y dogn uchaf a'r dogn isaf o ymbelydredd ïoneiddio y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso i'r bwyd;

(iv)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) y mae'r ceisydd yn bwriadu ei ddefnyddio i fesur unrhyw ddogn o ymbelydredd ïoneiddio a'r safon ddosimetreg y mae'n bwriadu ei defnyddio i galibradu'r mesuryddion dognau a ddefnyddir i'w fesur;

(v)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd o'r disgrifiad hwnnw sydd mewn pecynnau sy'n cyffwrdd â'r bwyd ai peidio ac, os felly, y pecynnau y mae'r ceisydd yn bwriadu eu defnyddio; a

(vi)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu defnyddio dull rheoli tymheredd y bwyd wrth ei arbelydru ai peidio ac, os ydyw, ar ba dymheredd y mae'r ceisydd yn bwriadu cadw'r bwyd tra bo'r tymheredd yn cael ei reoli;

(e)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir o dan is-baragraff (d), fanylion sy'n dangos bod yr arbelydru i gydymffurfio ag Atodlen 1 a'r Cod Ymarfer Rhyngwladol a Argymhellwyd gan Gyd-gomisiwn Codex Alimentarius yr FAO a WHO ar gyfer gweithredu cyfleusterau arbelydru a ddefnyddir i drin bwydydd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon o'r Atodlen hon fel “y Cod Ymarfer”), cyfeirnod FAO/WHO/CAC, cyf. XV,argraffiad 1(10);

(f)plan o gynllun y cyfleuster, manylion ei ddyluniad a'i adeiladwaith a datganiad o'r arferion y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso, gan gynnwys—

(i)y dull arfaethedig o arbelydru bwyd;

(ii)y math o ymbelydredd sydd i'w ddefnyddio;

(iii)y dulliau arfaethedig o reoli a threfnu'r busnes, gan gynnwys y cymwysterau gofynnol (p'un a ydynt yn rhai ffurfiol neu'n deillio o sgiliau, hyfforddiant neu brofiad) personau a fydd yn ymwneud â chymhwyso'r arferion;

(ff)gwybodaeth ynghylch pwy yw'r person sydd wedi'i ddynodi i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso'r arferion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (f), beth yw cymwysterau'r person hwnnw, a beth yw ei safle yn strwythur rheoli'r ceisydd;

(g)o ba ddyddiad y mae'r ceisydd yn dymuno i'r drwydded redeg; ac

(ng)unrhyw fanylion eraill y mae'r ceisydd yn dymuno bod yr Asiantaeth yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded.

Ystyried y cais

2.  Caiff yr Asiantaeth roi trwydded pan fo wedi'i bodloni—

(a)bod y cyfleuster a bennir yn y cais yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer;

(b)bod pob bwyd a ddisgrifir yn y cais yn dod o fewn categori a ganiateir;

(c)bod angen technolegol rhesymol;

(ch)na fyddai'r arbelydru'n peri unrhyw berygl i iechyd ac y byddai'n cael ei gyflawni o dan yr amodau sy'n cael eu disgrifio yn y cais;

(d)y byddai'r arbelydru o fudd i'r defnyddiwr;

(dd)na fyddai'r arbelydru'n cael ei ddefnyddio yn lle arferion hylendid ac arferion iechyd nac yn lle arferion da ym maes gweithgynhyrchu neu amaethyddiaeth;

(e)mai unig ddibenion arbelydru yw —

(i)lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario mewn bwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig;

(ii)lleihau nifer yr achosion o ddifetha bwydydd drwy arafu neu stopio prosesau pydru a dinistrio'r organeddau sy'n difetha'r bwydydd;

(iii)lleihau nifer y bwydydd sy'n cael eu colli drwy aeddfedu, egino neu flaguro'n rhy gynnar; neu

(iv)gwaredu bwydydd rhag organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion;

(f)pan fo dibenion yr arbelydru'n cynnwys lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario gan fwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig, bod y ceisydd i ddefnyddio meini prawf microbiolegol wrth benderfynu a ddylid arbelydru bwyd;

(ff)nad oes unrhyw risg o bwys y gall y ceisydd arbelydru bwyd nad yw'n gallu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd am resymau microbiolegol, neu nad yw'n gallu cydymffurfio â hwy heb gael ei arbelydru;

(g)bod pob dull a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(ii) o'r Rhan hon yn ddigon i alluogi'r ceisydd i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr sy'n rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;

(ng)bod y dogn cyfartalog cyffredinol a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iii) o'r Rhan hon mewn perthynas â phob disgrifiad o fwyd yn gyson â phob diben a bennwyd ar gyfer y digrifiad hwnnw o fwyd o dan baragraff 1(dd)(i);

(h)bod y dull a'r safon a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o'r Rhan hon—

(i)yn cydymffurfio ag Atodlen 1; a

(ii)yn dileu unrhyw risg o bwys y bydd y dogn cyfartalog cyffredinol, a fesurir â'r dull hwnnw, yn gwyro'n sylweddol o'r dogn cyfartalog cyffredinol fel y'i diffinnir o dan baragraff 1 o Atodlen 1;

(i)bod y ffactorau a bennwyd o dan baragraff 1(dd) yn dileu unrhyw risg sylweddol y bydd y bwyd hwnnw, a arbelydrwyd mewn unrhyw becyn a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(v), ac ar unrhyw dymheredd a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(vi), yn methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd; a

(j)bod yr arferion a'r cymwysterau a bennwyd yn y datganiad o dan baragraff 1(f) yn ddigon i sicrhau na chaiff gofynion y Rheoliadau hyn nac unrhyw un o amodau'r drwydded eu torri.

3.  Pan fo'r Asiantaeth yn credu—

(a)y dylai gymryd i ystyriaeth weithrediad ymarferol y cyfleuster cyn iddo benderfynu'r cais yn derfynol; a

(b)na fyddai'n peryglu diogelwch pe câi bwyd ei arbelydru yn y cyfleuster am y tro,

caiff roi trwydded am gyfnod, neu gyfnod pellach, nad yw ei gyfanswm yn fwy na 6 mis i'w alluogi i gymryd i ystyriaeth y gweithrediad hwnnw.

Gwrthod cais

4.—(1Pan fo'r Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded, rhaid iddi roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros wneud hynny a gwahodd y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddi o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff y datganiad ei anfon.

(2Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath—

(a)caiff yr Asiantaeth, os yw wedi'i bodloni ar y materion a bennwyd ym mharagraff o'r Rhan hon, roi trwydded; neu

(b)rhaid i'r Asiantaeth roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros barhau i wrthod rhoi trwydded.

Parhad

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd trwydded yn parhau i fod yn effeithiol oni chaiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.

(2Bydd trwydded o dan baragraff 3 yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes y bydd y cyfnod y cafodd ei rhoi amdano wedi dod i ben; neu

(b)hyd nes y bydd yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded wrth iddi benderfynu'n derfynol ar y cais,

oni caiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.

RHAN 2Cynnwys Trwydded

1.  Rhaid i bob trwydded gynnwys—

(a)enw'r trwyddedai;

(b)cyfeiriad y cyfleuster trwyddedig;

(c)Rhif trwydded;

(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r drwydded yn gymwys iddo;

(d)y dyddiad o ba bryd y mae'r drwydded i redeg; ac

(dd)yn achos trwydded o dan baragraff 3 o Ran 1, y dyddiad y daw i ben,

a chaiff gynnwys amodau.

RHAN 3Y Gofynion a'r Gwaharddiadau sydd i'w Dilyn gan Drwyddedai

1.—(1Yr unig fwyd y caiff trwyddedai ei arbelydru yw bwyd—

(a)y mae'r drwydded yn gymwys iddo; a

(b)yn y cyfleuster trwyddedig.

(2Rhaid i drwyddedai beidio ag arbelydru unrhyw fwyd a geir oddi wrth berson arall onid yw'r manylion canlynol ynghlwm wrth y bwyd neu'n dod gydag ef pan ddaw i law—

(a)disgrifiad o'r bwyd ac enw a chyfeiriad traddodwr y bwyd;

(b)cyfeirnod y mae modd adnabod drwyddo y bwyd, neu unrhyw swp, eitem neu lwyth o fwyd o'r un disgrifiad y mae'r bwyd yn dod odano;

(c)os yw'r bwyd wedi dod i law'r trwyddedai fel beilî—

(i)enw a chyfeiriad ei berchennog; a

(ii)y rheswm pam y mae ei berchennog am iddo gael ei arbelydru; ac

(ch)datganiad ynghylch a yw'r bwyd neu unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru.

2.  Rhaid i bob trwyddedai gadw—

(a)bwyd sy'n aros i gael ei arbelydru yn y cyfleuster trwyddedig mewn rhan o'r cyfleuster sydd wedi'i gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd sydd wedi'i arbelydru yn cael ei gadw ynddi; a

(b)pob bwyd sydd naill ai'n aros i gael ei arbelydru neu sydd wedi'i arbelydru mewn rhannau o'r cyfleuster sydd wedi'u gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd arall yn cael ei gadw wrth gynnal busnes.

3.—(1Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd mewn cyfuniad ag unrhyw driniaeth gemegol sydd â'r un pwrpas â'i arbelydru.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd sydd wedi'i arbelydru, neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru, o'r blaen.

(3Nid yw symud y bwyd ymaith o'r cyfleuster lle mae arbelydru yn digwydd, a'i ddychwelyd yno, yn golygu torri is-baragraff (2) lle maent yn rhan o broses barhaus sy'n ofynnol oherwydd dyluniad ac adeiladwaith y cyfleuster hwnnw.

4.  Rhaid i bob trwyddedai rifo pob swp bwyd y mae wedi'i arbelydru a phan fo unrhyw faint o'r bwyd wedi dod i law oddi wrth berson arall, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu bod modd cysylltu'r Rhif â'r cyfeirnod a bennwyd ym mharagraff 1(2)(b) o'r Rhan hon.

5.  Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio gyda'r canlynol—

(a)pelydrau gama o'r radioniwclid 60Co;

(b)pelydrau gama o'r radioniwclid 137Cs;

(c)pelydrau-X a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 5 MeV; neu

(ch)electronau a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 10 MeV.

6.  Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio drwy ddefnyddio dulliau arbelydru priodol.

7.  Rhaid i bob trwyddedai gadw'r cyfryw rheolaethau a fydd bob amser yn sicrhau bod yr arbelydru'n gyson â'r dull mesur a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o Ran 1.

8.  Rhaid i bob trwyddedai gofnodi, mewn perthynas â phob swp bwyd a arbelydrir ganddo, yr wybodaeth ganlynol—

(a)yn achos cyfleuster radioniwclid—

(i)o ran ffurfweddiad pob ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio sydd ar gael i'w ddefnyddio yn y cyfleuster, unrhyw wybodaeth am ei sefyllfa sy'n dangos a oedd y swp bwyd yn agored iddo ac os felly pryd y digwyddodd hynny;

(ii)naill ai ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster ac ar hyd pa lwybr y mae'r swp yn teithio tra bo'n mynd drwyddo neu'r amser y mae'r swp yn ei dreulio yn y parth arbelydru;

(b)yn achos ffynhonnell sy'n beiriant—

(i)lefel ei hynni;

(ii)ei cherrynt electron;

(iii)lled ei sganiwr;

(iv)nodweddion ei phelydr;

(v)onid oes ganddi ddyfais wasgaru, pa mor aml y mae ei phelydr yn sganio'r swp; a

(vi)ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster.

9.—(1Rhaid i bob trwyddedai gofnodi ar gyfer pob swp bwyd a arbelydrir ganddo—

(a)natur y bwyd sydd yn y swp a faint ohono sydd ynddo;

(b)y Rhif a roddwyd iddo o dan baragraff 4;

(c)enw a chyfeiriad pob traddodwr a thraddodai bwyd sydd yn y swp;

(ch)y dyddiad y cafodd y swp ei arbelydru;

(d)unrhyw wybodaeth ficrobiolegol sy'n ymwneud â bwyd yn y swp;

(dd)y math o becyn a oedd mewn cyffyrddiad â'r bwyd yn y swp yn ystod yr arbelydru;

(e)pan fo'r trwyddedai wedi defnyddio dull rheoli'r tymheredd wrth arbelydru'r bwyd, tymheredd y bwyd yn y swp yn union cyn iddo gael ei arbelydru;

(f)y dogn uchaf, y dogn isaf a'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd i'r swp;

(ff)y math o ymbelydredd ïoneiddio a ddefnyddiwyd;

(g)y data a ddefnyddiwyd i reoli'r arbelydru gan gynnwys—

(i)y modd y lleolwyd mesuryddion dognau yn y swp a'r dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gofnodwyd ganddynt;

(ii)unrhyw brofion blaenorol a ddefnyddiwyd at ddibenion dilysu'r lleoli hwnnw; a

(iii)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) a ddefnyddiwyd i fesur y dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd yn ystod yr arbelydru, ac yn y profion blaenorol, a'r safon dosimetreg a ddefnyddiwyd i galibradu'r mesuryddion a ddefnyddiwyd i'w mesur.

(2Rhaid i drwyddedai beidio â thraddodi bwyd a arbelydrwyd gan y trwyddedai i berson arall onid yw'r canlynol yn mynd gyda'r bwyd hwnnw—

(a)enw'r trwyddedai;

(b)Rhif trwydded y trwyddedai;

(c)yr wybodaeth a bennwyd yn is-baragraff (1)(a) i (ch); ac

(ch)y dogn cyfartalog cyffredinol sy'n ofynnol ei gofnodi gan is-baragraff (1)(f).

10.  Rhaid i bob trwyddedai gadw'r wybodaeth y mae'n ofynnol o dan baragraffau 8 a 9(1) ei chofnodi am 5 mlynedd, hyd yn oed os yw'r trwyddedai'n peidio â bod yn drwyddedig yn y cyfamser.

11.  Rhaid i bob trwyddedai anfon at yr Asiantaeth erbyn diwrnod olaf Chwefror bob blwyddyn ddatganiad ysgrifenedig ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf sy'n cynnwys—

(a)enw'r trwyddedai;

(b)Rhif trwydded y trwyddedai;

(c)y flwyddyn y mae'r datganiad yn ymwneud â hi;

(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r trwyddedai wedi'i arbelydru yn ystod y flwyddyn; a

(d)maint pob bwyd o'r fath, yn ôl cyfaint neu bwysau.

RHAN 4Amrywio Trwydded

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2, caiff yr Asiantaeth, ar gais y trwyddedai neu gyda'i gydsyniad, amrywio unrhyw un o amodau'r drwydded.

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Asiantaeth beidio â chytuno i amrywiad a fyddai'n caniatáu unrhyw weithred neu anwaith y byddai cynnig amdani neu amdano, petai wedi'i wneud yn y cais am drwydded, wedi peri i'r Asiantaeth wrthod rhoi trwydded o dan baragraff 2 o Ran 1.

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, wrth ystyried a ddylai amrywio trwydded, drin pob gwybodaeth wyddonol a fydd ganddi bryd hynny fel petai wedi'i chael pan roddodd y drwydded.

RHAN 5Canslo ac Atal Trwydded

1.  Os yw'r Asiantaeth yn credu bod amgylchiadau'n bodoli y byddai, petai wedi'u rhag-weld (a phetai wedi meddu ar yr un wybodaeth wyddonol ag sydd ganddi ar hyn o bryd) bryd hynny, wedi gwrthod, o dan baragraff 2 o Ran 1, roi'r drwydded odanynt, caiff rhoi hysbysiad i'r trwyddedai—

(a)yn esbonio pam y byddai wedi gwrthod rhoi'r drwydded; a

(b)yn hysbysu'r trwyddedai, oni fydd y trwyddedai'n wedi'i darbwyllo mewn ysgrifen i beidio â gwneud hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl anfon yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yn ei ganiatáu, y bydd yn canslo'r drwydded.

2.  Os na fydd yr Asiantaeth, erbyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy a ganiatawyd o dan baragraff 1(b) wedi'i darbwyllo i'r gwrthwyneb, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai mewn ysgrifen bod y drwydded wedi'i chanslo o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid iddi ddatgan yn yr hysbysiad pam nad yw wedi'i darbwyllo felly; ond os yw wedi'i darbwyllo felly, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai o hynny.

3.  Os caiff y drwydded ei chanslo, mae ei heffaith i beidio ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

4.—(1Os yw'r Asiantaeth o'r farn bod, neu y gall fod, risg niwed i iechyd oni chaiff y drwydded ei hatal, caiff roi hysbysiad ysgrifenedig i'r trwyddedai yn atal y drwydded o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni fydd unrhyw effaith i'r drwydded at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r dyddiad hwnnw.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), pan roddir hysbysiad yn atal y drwydded—

(a)mae effaith yr ataliad i beidio ar ddiwedd y cyfnod o dri diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o'r ataliad oni bai bod hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1; ond

(b)os yw hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1, mae'r ataliad i barhau hyd nes y bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd—

(i)bod yr Asiantaeth yn cael ei darbwyllo i beidio â chanslo'r drwydded; neu

(ii)bod y drwydded yn dod i ben.

(3Caiff yr Asiantaeth, os yw'n credu mai heb ataliad na fydd risg niwed i iechyd, dynnu'r hysbysiad sy'n atal y drwydded yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach.

RHANDarpariaethau Eraill ynghylch Trwyddedau

1.  Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi yn y London Gazette hysbysiad o'r canlynol—

(a)pob trwydded a roddwyd;

(b)pob achos o atal trwydded;

(c)pob achos o ganslo trwydded; ac

(ch)pob amrywiad i delerau trwydded y cytunwyd arno.

2.  Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyhoeddir felly bennu—

(a)enw'r trwyddedai neu'r cyn-drwyddedai;

(b)y cyfleuster trwyddedig neu'r cyn-gyfleuster trwyddedig; ac

(c)Rhif ei drwydded,

a rhaid iddo ddatgan yn fras beth yw effaith y mater y mae'n ymwneud ag ef.

3.  Ac eithrio fel a ddarperir gan adran 43 o'r Ddeddf (parhad wedi marwolaeth), nid yw trwydded yn drosglwyddadwy.

Rheoliadau 3(1) a 5(1)(b)(i)

ATODLEN 3RHESTR O GYFLEUSTERAUA GYMERADWYWYD MEWN AELOD-WLADWRIAETHAU

Rhif cyfeirnod swyddogolEnw a chyfeiriad
2110/91/0004

IBA Mediris SA

Zoning Industriel

B-6220 Fleurus

Gwlad Belg

IR-01-CZ

Artim spol. S.r.o.

Radiová 1

102 27 Prag

Y Weriniaeth Tsiec

SN 01

Gamma-Service

Produktbestrahlung GmbH

Juri-Gagarin Strasse 15

D-01454 Radeberg

Yr Almaen

BY FS 01/2001

Isotron Deutschland GmbH

Kesselbodenstrasse 7

D-85391 Allershausen

Yr Almaen

NRW-GM 01 a NRW-GM 02

BGS Beta-Gamma-Service GmbH & Co.KG

Fritz-Kotz-Str.16

D-51674 Wiehl

Yr Almaen

D-BW-X-01

Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG

John-Deere-Strasse 3

D-76646 Bruchsal

Yr Almaen

500001/CU

Ionmed Esterilización, SA

Santiago Rusiñol 12. Madrid

Antigua Ctra Madrid-Valencia Km 83.7.

Tarancón

Cuenca

Sbaen

5.00002/B

ARAGOGAMMA S.A.

Salvador Mundi 11, bajo.

08017 Barcelona

Carretera Granollers a Carcadedu km 3,5.

08520 Les Franqueses del Vallés

Barcelona

Sbaen

13055 F

Gammaster Provence SA

Rue Jean Queillau

Marché des Arnavaux

F-13014 Marseille Cedex 14

Ffrainc

01 142 F

Ionisos SA

Zone Industrielle les Chartinières

F-01120 Dagneux

Ffrainc

72 264 F

Ionisos SA

Zone Industrielle de l'Aubrée

F-72300 Sablé-sur-Sarthe

Ffrainc

85 182 F

Ionisos SA

ZI Montifaud

F-85700 Pouzauges

Ffrainc

10 093 F

Ionisos SA

Zone Industrielle

F-10500 Chaumesnil

Ffrainc

91471 F

Ionisos SA

Domaine de Corbeville

F-91400 Orsay

Ffrainc

56 015 F

Radient Ouest

Le Flachec

F-56230 Berric

Ffrainc

EU-AIF-04-2002

AGROSTER Besugárzó Részvénytársaság

Budapest X

Jászberényi út 5

H-1106

Hwngari

RAD 1/04 IT

GAMMARAD ITALIA SPA

Via Marzabotto,4

Minerbio (BO)

Yr Eidal

GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393

Gammaster BV

Morsestraat 3

Ede

Yr Iseldiroedd

GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393

Gammaster BV

Soevereinsestraat 2

Etten-Leur

Yr Iseldiroedd

GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03

Sefydliad Cemeg a Thechnoleg Niwclear

16 Dorodna Str.

03-195 Warsaw

Gwlad Pwyl

GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03

Sefydliad Cemeg Ymbelydredd Gymhwysol

Prifysgol Dechnegol Lodz

15 Wróblewskiego Str.

39-590 Lodz

Gwlad Pwyl

EW/04

Isotron plc

Moray Road

Ystad Ddiwydiannol Elgin

Swindon

Wiltshire SN2 6DU

Y Deyrnas Unedig

Rheoliad 5(1)(b)(ii)

ATODLEN 4RHESTR O GYFLEUSTERAU MEWN GWLAD Y TU ALLAN I'R GYMUNED EWROPEAIDD

Rhif cyfeirnod swyddogolEnw a chyfeiriad
EU-AIF 01-2002

HEPRO Cape (Pty) Ltd

6 Ferrule Avenue

Montague Gardens

Milnerton 7441

Western Cape

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 02-2002

Gammaster South Africa (Pty) Ltd

Blwch Post 3219

5 Waterpas Street

Isando Extension 3

Kempton Park 1620

Johannesburg

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 03-2002

Gamwave (Pty) Ltd

Blwch Post 26406

Isipingo Beach

Durban 4115

Kwazulu-Natal

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 05-2004

Gamma-Pak AS

Yünsa Yolu N: 4 OSB

Cerkezköy/TEKIRDAG

TR-59500

Twrci

EU-AIF 06-2004

Studer Agg Werk Hard

Hogenweidstrasse 2

Däniken

CH-4658

Y Swistir

EU-AIF 07-2006

Y Ganolfan Arbelydru Thai

Sefydliad Technoleg Niwclear Gwlad Thai (Corff Cyhoeddus)

37 Moo 3, TECHNOPOLIS

Klong 5, Klong Luang

Pathumthani 12120

Gwlad Thai

EU-AIF 08-2006

Isotron (Thailand) Ltd

Parc Diwydiannol Bangpakong (Amata Nakorn)

700/465 Moo 7, Tambon Donhuaroh,

Amphur Muang,

Chonburi 20000

Gwlad Thai

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig ac yn cyfyngu ar drin bwyd ag ymbelydredd ïoneiddio (arbelydru) ac ar fewnforio, storio a chludo, at ddibenion gwerthu, fwyd sydd wedi'i arbelydru, a gwerthu'r bwyd hwnnw.

2.  Mae'r Rheoliadau yn dirymu ac yn ailddeddfu'r offerynnau a bennir ym mharagraff 4(ng) isod gydag addasiadau sy'n rhoi eu heffaith gyflawn i'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 3 isod.

3.  Mae'r Rheoliadau yn rhoi eu heffaith i ddarpariaethau—

(a)Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.16);

(b)Cyfarwyddeb 1999/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch sefydlu rhestr Gymunedol o fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.24);

(c)Penderfyniad y Comisiwn 2002/840/EC sy'n mabwysiadu'r rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwyd (OJ Rhif L287, 25.10.2002, t.40);

(ch)Rhestr y Comisiwn dyddiedig 3 Medi 2004 o gyfleusterau sydd wedi'u cymeradwyo i drin bwydydd a chynhwysion bwydydd ag ymbelydredd ïoneiddio yn yr Aelod-wladwriaethau(11);

(d)Penderfyniad y Comisiwn 2004/691/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840/EC yn mabwysiadu'r rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwydydd (OJ Rhif L314, 13.10.2004, p.14); ac

(dd)Penderfyniad y Comisiwn 2007/802/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840 o ran y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwydydd (OJ Rhif L323, 8.12.87, t.40).

4.  Yn ogystal â gwneud mân newidiadau a newidiadau drafftio, mae'r Rheoliadau yn gwneud y canlynol—

(a)diffinio “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (rheoliad 3(2) ac Atodlen 1);

(b)gwahardd arbelydru bwyd onid yw'n iachus ac wedi'i arbelydru'n unol â'r Rheoliadau a chyda thrwydded (rheoliad 4(1));

(c)darparu ar gyfer dyroddi trwyddedau a chynnwys trwyddedau, y gofynion y mae'r trwyddedai i ufuddhau iddynt, ac amrywio, canslo neu atal trwyddedau (rheoliad 4(2) ac Atodlen 2);

(ch)cyfyngu ar fewnforio bwyd sydd wedi'i arbelydru (rheoliad 5);

(d)cyfyngu ar ei storio neu ei gludo (rheoliad 6);

(dd)cyfyngu ar ei werthu (rheoliad 7);

(e)ei gwneud yn ofynnol i'r dogfennau sy'n dod gyda bwyd sydd wedi'i arbelydru gynnwys gwybodaeth benodol (rheoliad 8);

(f)darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 9);

(ff)creu tramgwyddau a rhagnodi cosbau (rheoliad 10);

(g)cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 11); ac

(ng)dirymu Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990/2490 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru a rheoliadau 2 i 16 o Reoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001/1232 (Cy. 66) (rheoliad 12).

5.  Gellir cael asesiad effaith rheoliadol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol gan yr Is-adran Diogelwch Bwyd a Gorfodi, Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16: disodlwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 17 gan baragraff 12, diwygiwyd adran 19 gan baragraff 14 a diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999, p.28 (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994, p.40, Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Cafodd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i WeinidogionCymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17).

(4)

OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.16, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L 84, 31.10.2003, t.1).

(5)

Fe'i mewnosodwyd yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999, yn rhinwedd adran 40(1) ac Atodlen 5, paragraff 16.

(8)

Mae'r Gyfarwyddeb yn hepgor y gair “average” ar ôl “overall”.

(9)

OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.16.

(10)

Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer oddi wrth Gomisiwn y Codex Alimentarius, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Vialle della Terme di Caracalla, 0010, Rhufain.

(11)

Fe'i cyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn yn http://ec.europa.eu/food/food/biosafety/irradiation.comm legisl en.pdf. Gellir cael copi caled oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd, Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Iechyd a Defnyddwyr, B-1049 Brwsel, Gwlad Belg.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources