- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig ac yn cyfyngu ar drin bwyd ag ymbelydredd ïoneiddio (arbelydru) ac ar fewnforio, storio a chludo, at ddibenion gwerthu, fwyd sydd wedi'i arbelydru, a gwerthu'r bwyd hwnnw.
2. Mae'r Rheoliadau yn dirymu ac yn ailddeddfu'r offerynnau a bennir ym mharagraff 4(ng) isod gydag addasiadau sy'n rhoi eu heffaith gyflawn i'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 3 isod.
3. Mae'r Rheoliadau yn rhoi eu heffaith i ddarpariaethau—
(a)Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.16);
(b)Cyfarwyddeb 1999/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch sefydlu rhestr Gymunedol o fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.24);
(c)Penderfyniad y Comisiwn 2002/840/EC sy'n mabwysiadu'r rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwyd (OJ Rhif L287, 25.10.2002, t.40);
(ch)Rhestr y Comisiwn dyddiedig 3 Medi 2004 o gyfleusterau sydd wedi'u cymeradwyo i drin bwydydd a chynhwysion bwydydd ag ymbelydredd ïoneiddio yn yr Aelod-wladwriaethau(1);
(d)Penderfyniad y Comisiwn 2004/691/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840/EC yn mabwysiadu'r rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwydydd (OJ Rhif L314, 13.10.2004, p.14); ac
(dd)Penderfyniad y Comisiwn 2007/802/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840 o ran y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwydydd (OJ Rhif L323, 8.12.87, t.40).
4. Yn ogystal â gwneud mân newidiadau a newidiadau drafftio, mae'r Rheoliadau yn gwneud y canlynol—
(a)diffinio “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (rheoliad 3(2) ac Atodlen 1);
(b)gwahardd arbelydru bwyd onid yw'n iachus ac wedi'i arbelydru'n unol â'r Rheoliadau a chyda thrwydded (rheoliad 4(1));
(c)darparu ar gyfer dyroddi trwyddedau a chynnwys trwyddedau, y gofynion y mae'r trwyddedai i ufuddhau iddynt, ac amrywio, canslo neu atal trwyddedau (rheoliad 4(2) ac Atodlen 2);
(ch)cyfyngu ar fewnforio bwyd sydd wedi'i arbelydru (rheoliad 5);
(d)cyfyngu ar ei storio neu ei gludo (rheoliad 6);
(dd)cyfyngu ar ei werthu (rheoliad 7);
(e)ei gwneud yn ofynnol i'r dogfennau sy'n dod gyda bwyd sydd wedi'i arbelydru gynnwys gwybodaeth benodol (rheoliad 8);
(f)darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 9);
(ff)creu tramgwyddau a rhagnodi cosbau (rheoliad 10);
(g)cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 11); ac
(ng)dirymu Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990/2490 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru a rheoliadau 2 i 16 o Reoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001/1232 (Cy. 66) (rheoliad 12).
5. Gellir cael asesiad effaith rheoliadol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol gan yr Is-adran Diogelwch Bwyd a Gorfodi, Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Fe'i cyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn yn http://ec.europa.eu/food/food/biosafety/irradiation.comm legisl en.pdf. Gellir cael copi caled oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd, Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Iechyd a Defnyddwyr, B-1049 Brwsel, Gwlad Belg.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: