- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Yr unig fwyd y caiff trwyddedai ei arbelydru yw bwyd—
(a)y mae'r drwydded yn gymwys iddo; a
(b)yn y cyfleuster trwyddedig.
(2) Rhaid i drwyddedai beidio ag arbelydru unrhyw fwyd a geir oddi wrth berson arall onid yw'r manylion canlynol ynghlwm wrth y bwyd neu'n dod gydag ef pan ddaw i law—
(a)disgrifiad o'r bwyd ac enw a chyfeiriad traddodwr y bwyd;
(b)cyfeirnod y mae modd adnabod drwyddo y bwyd, neu unrhyw swp, eitem neu lwyth o fwyd o'r un disgrifiad y mae'r bwyd yn dod odano;
(c)os yw'r bwyd wedi dod i law'r trwyddedai fel beilî—
(i)enw a chyfeiriad ei berchennog; a
(ii)y rheswm pam y mae ei berchennog am iddo gael ei arbelydru; ac
(ch)datganiad ynghylch a yw'r bwyd neu unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru.
2. Rhaid i bob trwyddedai gadw—
(a)bwyd sy'n aros i gael ei arbelydru yn y cyfleuster trwyddedig mewn rhan o'r cyfleuster sydd wedi'i gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd sydd wedi'i arbelydru yn cael ei gadw ynddi; a
(b)pob bwyd sydd naill ai'n aros i gael ei arbelydru neu sydd wedi'i arbelydru mewn rhannau o'r cyfleuster sydd wedi'u gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd arall yn cael ei gadw wrth gynnal busnes.
3.—(1) Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd mewn cyfuniad ag unrhyw driniaeth gemegol sydd â'r un pwrpas â'i arbelydru.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd sydd wedi'i arbelydru, neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru, o'r blaen.
(3) Nid yw symud y bwyd ymaith o'r cyfleuster lle mae arbelydru yn digwydd, a'i ddychwelyd yno, yn golygu torri is-baragraff (2) lle maent yn rhan o broses barhaus sy'n ofynnol oherwydd dyluniad ac adeiladwaith y cyfleuster hwnnw.
4. Rhaid i bob trwyddedai rifo pob swp bwyd y mae wedi'i arbelydru a phan fo unrhyw faint o'r bwyd wedi dod i law oddi wrth berson arall, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu bod modd cysylltu'r Rhif â'r cyfeirnod a bennwyd ym mharagraff 1(2)(b) o'r Rhan hon.
5. Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio gyda'r canlynol—
(a)pelydrau gama o'r radioniwclid 60Co;
(b)pelydrau gama o'r radioniwclid 137Cs;
(c)pelydrau-X a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 5 MeV; neu
(ch)electronau a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 10 MeV.
6. Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio drwy ddefnyddio dulliau arbelydru priodol.
7. Rhaid i bob trwyddedai gadw'r cyfryw rheolaethau a fydd bob amser yn sicrhau bod yr arbelydru'n gyson â'r dull mesur a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o Ran 1.
8. Rhaid i bob trwyddedai gofnodi, mewn perthynas â phob swp bwyd a arbelydrir ganddo, yr wybodaeth ganlynol—
(a)yn achos cyfleuster radioniwclid—
(i)o ran ffurfweddiad pob ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio sydd ar gael i'w ddefnyddio yn y cyfleuster, unrhyw wybodaeth am ei sefyllfa sy'n dangos a oedd y swp bwyd yn agored iddo ac os felly pryd y digwyddodd hynny;
(ii)naill ai ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster ac ar hyd pa lwybr y mae'r swp yn teithio tra bo'n mynd drwyddo neu'r amser y mae'r swp yn ei dreulio yn y parth arbelydru;
(b)yn achos ffynhonnell sy'n beiriant—
(i)lefel ei hynni;
(ii)ei cherrynt electron;
(iii)lled ei sganiwr;
(iv)nodweddion ei phelydr;
(v)onid oes ganddi ddyfais wasgaru, pa mor aml y mae ei phelydr yn sganio'r swp; a
(vi)ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster.
9.—(1) Rhaid i bob trwyddedai gofnodi ar gyfer pob swp bwyd a arbelydrir ganddo—
(a)natur y bwyd sydd yn y swp a faint ohono sydd ynddo;
(b)y Rhif a roddwyd iddo o dan baragraff 4;
(c)enw a chyfeiriad pob traddodwr a thraddodai bwyd sydd yn y swp;
(ch)y dyddiad y cafodd y swp ei arbelydru;
(d)unrhyw wybodaeth ficrobiolegol sy'n ymwneud â bwyd yn y swp;
(dd)y math o becyn a oedd mewn cyffyrddiad â'r bwyd yn y swp yn ystod yr arbelydru;
(e)pan fo'r trwyddedai wedi defnyddio dull rheoli'r tymheredd wrth arbelydru'r bwyd, tymheredd y bwyd yn y swp yn union cyn iddo gael ei arbelydru;
(f)y dogn uchaf, y dogn isaf a'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd i'r swp;
(ff)y math o ymbelydredd ïoneiddio a ddefnyddiwyd;
(g)y data a ddefnyddiwyd i reoli'r arbelydru gan gynnwys—
(i)y modd y lleolwyd mesuryddion dognau yn y swp a'r dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gofnodwyd ganddynt;
(ii)unrhyw brofion blaenorol a ddefnyddiwyd at ddibenion dilysu'r lleoli hwnnw; a
(iii)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) a ddefnyddiwyd i fesur y dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd yn ystod yr arbelydru, ac yn y profion blaenorol, a'r safon dosimetreg a ddefnyddiwyd i galibradu'r mesuryddion a ddefnyddiwyd i'w mesur.
(2) Rhaid i drwyddedai beidio â thraddodi bwyd a arbelydrwyd gan y trwyddedai i berson arall onid yw'r canlynol yn mynd gyda'r bwyd hwnnw—
(a)enw'r trwyddedai;
(b)Rhif trwydded y trwyddedai;
(c)yr wybodaeth a bennwyd yn is-baragraff (1)(a) i (ch); ac
(ch)y dogn cyfartalog cyffredinol sy'n ofynnol ei gofnodi gan is-baragraff (1)(f).
10. Rhaid i bob trwyddedai gadw'r wybodaeth y mae'n ofynnol o dan baragraffau 8 a 9(1) ei chofnodi am 5 mlynedd, hyd yn oed os yw'r trwyddedai'n peidio â bod yn drwyddedig yn y cyfamser.
11. Rhaid i bob trwyddedai anfon at yr Asiantaeth erbyn diwrnod olaf Chwefror bob blwyddyn ddatganiad ysgrifenedig ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf sy'n cynnwys—
(a)enw'r trwyddedai;
(b)Rhif trwydded y trwyddedai;
(c)y flwyddyn y mae'r datganiad yn ymwneud â hi;
(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r trwyddedai wedi'i arbelydru yn ystod y flwyddyn; a
(d)maint pob bwyd o'r fath, yn ôl cyfaint neu bwysau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: